Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
18 erthygl ar y dudalen hon
Rhys Dafydi Sy'n Deyd-
Rhys Dafydi Sy'n Deyd- Ei fod wedi derbyn a ganlyn —Mewn' atebiad i'r gohebydd Hugh Pritchard, Plas Llanligael, mai enw y plwyf hynod hwnw y mae yn son am dano yw Llanllibio, yn Mon. Mae yn terfynu ar y plwyfydd Bodedern a Llanligael, ac y mae yna gareg wedi ei chodi er coffadwriaeth am yr eg- lwys yn nechreuad y ddeunawfed ganrif yn nghanol mynwent yr hen eglwys, yr hon sydd i'w gweled mewn cae perthynol i Ty'n Llan yn y plwyf dan sylw." Ei fod wedi cael dyddordeb mawr yn hanes y ddwy ferch ieuainc hyny heb fod yn mhell o ben- tref B-. Ei fod yn deall eu bod wedi cael gwledd ar- dderchog y prydnawn hwnw. Mai fel y eanlyn y canodd y bardd iddynt: — Chwi, ferched ieuainc tirion, Yn fawrion ac yn fan, Eh of gynghor ichwi'r awrhon Mewn gair neu ddau o gan; Os byth y digwydd eto I chwi gael gwadd "to tea," Dymunwn ichwi actio Er enill parch a bri. Mai gwell yw cymod pawb na'i gas, Serch i'r forwyn garu'r gwas. Fod bugail G- yn ffaelio ihoi llaeth i'r oen heb help y forwyn. Piti! piti! Fod W- yn treio cael hwyl gyda J- trwy hel coed tan iddi hi. Wei done frawd. Fod parotoi garw yn R- gogyfer a'r gystad- leuaeth. JJ1.ai ail i Chicago fydd hon. Hei lwc Fod y ferch ifanc hono o G- yn credu y bydd yn fuddugol ar y "tie" goreu trwy ei bod yn ad- nabod y "chap" sydd yn rhoddi y wobr. Felly'n wir. ? Fod y saint yn y V- wedi cael gwledd y Sul or blaen wrth wrandaw un o gewri y pwlpud Cymreig yn pregethu. Fod rhai o wrageddos y fro yn dweyd J drefn na buasai y cyhoeddiad wedi ci roddi i ryw un yn dechreu pregethu. Fod yn amlwg na wyddent fawr am bregetli na'r pwysigrwydd sydd yn nglyn a'r gwaith o bre- gethu pan yn siarad fel y maent o dy i dy y dydd- iau hyn. Fod cor y V- yn llawn haeddu yr englynion canmoliaetliu.^ yn y rhifyn diweddaf. Fod y cor a'i olwg ar bedair os nad pump o wobrau pwysig o hyn i'r Pasg. Mai. dal i gerdded y tai i hel chwedlau am eu cymydogion y mae rhai o wragedd Ll- Mai dyma y rhybudd olaf yr wyf am roddi iddynt cyn gwneud eu henv. au yn h-vsbys. I Mai tro gwael iawn ydoedd taro yr hen wr parchus a thawel hwnw. Fod pawb a'i hadwaenai yn teimlo yn arw iawn drosto, a gwyr pawb ei fod yn nodedig am ei am- ynedd a'i dymer dda. Ei fod yn resyn gan y rhai oedd gerllaw ei glywed yn dweyd pan gododd mai dyna y tro cyn- taf iddo gael ei daro er pan oedd ef yn hogyn bach yn yr ysgol. Fod yn bur hawdd gan bawb ei goelio a thei- lynga y teitl o "peacemaker" yn hytrach na dim arall. Mai wedi'r cyfan teneu dros ben vdoedd y gyn- j ulleidfa yn y cyfarfod dirwest, Ffei, ffei. "GwelI yw esiampl na gorchymyn." Fod un hen wron ffyddlon a da yn y cyfarfod, er yn ddeg a phedwar ugain oed, a golwg iawn oedd arno hefyd. Mai un o'r hoelion wyth ydyw, ac fod yr hoel- ion llai wedi aros gartref am fod y dywydd dipyn yn afrywiog. Fod yna ddau neu dri o'r dychweledigion at sobrwydd wedi synu gweled cyinaint o seti gweig- ion, ond eu bod yn benderfynol o ddal yn gadarn trwy'r cyfan, gan m;\i llawer iawn gwell ydyw. Nad ydyw Syr John Heidden yn liidio nac yn malio yn y "three R.'s. Do the right thing at the right place and at the right time." Amirliefn yw ei "fotfco." Fod un o brenti-siaid ardal neillduol wedi myn'd xua r orsaf y noson o'r blaen i ddisgwyl y feistrea adref, ac, wedi disgwyl nes oedd wedi blino, aetli 9 i le cyfagos i lettya tan y boreu, ac iddo gysgu nes oedd pob tren wedi myn'd. Piti, piti. Fod yr hen Rhys am vitiv, cled a'r lie yn o fuan. Felly, look out, hoys! Fod carwr o Ll-- dan yr angenrheidrwydd o wneud i ffwrdd a'i fwstas anwyl yn ddiweddar, ;gan fod goruchwyliaeth y cusanu yn myn'd yu mlaen mor ami, a'r fenyw lan yn protestio yn erbyn y fath frwsh ar ei gwyneb tyner Ei fod yn swclyn garw yn myn'd i'w chyfarfod ySul diweddaf i lan y Fenai "with his clean .shave." Fod mwy o gusanu wedi cymeryd lie yn eu lianes y dydd hwnw nag a fu erioed o'r blaen. Fod yr hen ferch hono wrthi hi yn brysur iawn y dyddiau hyn o dy i dy yn hel ys- itraeon am ei chymydogion. gion. Mai ei hoif waith ydyw dweyd pa sut y mae ;gwyr a gwragedd yn byw gyda'u gilydd. Mai gwell fydda i bawb beidio rhoddi derbyniad i'r fath yma os nad ydynt yn hoff o chwedleuon Os na bydd diwygiad caiff ei henw hi, yn xigliyda'r holl rai sydd yn ei chynwys, weled goleu .dydd rai o'r dyddiau nesaf yma. Ei fod am alw heibio yn bur fuan. Look out, yr hen ferch. Fod y "penny reading" yn flodeucg iawn mewn pentref bychan yn Mon. Fod lie cryf i gredu fod y merched ieuainc hyny yn benderfynol o amddiiiyn eu iiunani au lieg- wyddoriun. Well done. Mai peth reit dda fuasai rhoi ffyn ar gefn y •gvveilch hyny o ardal M Mai pleser fydd gan Rhys sypleio ffvil 1 r merched os hvdd arnynt eisiau arfau amddiffynol. Mai nid achos i wneud sport o hono ydoedd y mor yn T- C-, ond achos o ddifrifoldeb anawr. F"d yr amser yn rhy fyr yr wythnos hon i <ldvverd d:m ar yr achos tan yr wythnos nesaf. Roedd y mor yn uchel iawn Yn nglanau y Traeth Coch, Sef Sul cyn y diweddaf, Pan oedd hi'n un o'r gloch R()edd yno bobl hefyd Yn speitio'r ffasiwn beth Ond cofiweh, anwyl Rhys, Cewch 'rhanes yn ddifeth. Peth mawr oedd gweled dwr Yn llenwi yr holl dai, A'r bobl'n aros allan HY(i nes y I)o hin drai A phobl wed'yn, cofiwch, Yn chwerthin am eich pen Ond edifar iddynt fydd Rhof bwys ar "writing pen. Maille poeth iawn sydd yn stryd S y dydd- lau, hyn. Fod pobl barehus y lie yn myn'd round rhag clywed iaith y cannibaliaid. Fod M.P. yn rhoddi desgrifiad gwrthun o'r hen lane: — Er hyny gwell geni yw byw'n hen lane A chrafu bob ceiniog 'rwy'n fachog fel crane, Heb neb i wastraffu a gwario fy mhres Am flodau a rubanau a phethau diles :Mac'r merched'n feilchion, Moes modd tori gwanc, 'Rwy'n diolch i'r Nefoedd fy mod'n hen lane Gochelwch bob gradd. Chwi glywsoch am Mari,merch giwt Brynystwr, Bu bron iddi dynu dau lygad ei gwr, A'i gicio a'i faeddu, wyr neb faint ei gwyn, A'i daro a'r procer rhyw dro ar ei drwyn, A'i alw'n bob henwa, mi glywais 'rhen bits, Ac edliw ei deulu, ond toedd hi'n hen wits 1 Gochelwch, etc. Mae rhai merched diog, maent ddigon o bla, Yn ffeilsion, yn flinion, yn bpbjpeth ond da; A'r tafod yn ysgwyd, 'does dicnon cael twrn, Waeth geiii tae'r lluaws yn nghanol y ffwrn Wrth edrych ar bethau fel maent, coelia fi, Paid rhoddi dy gynghor ddim rhagor, M.P. Gochelwch, etc. Chwi glywsoch sut darfu, pan ofynodd Die Prys I'w wraig roddi botwm ar goler ei grys, Aetli hono'n wallgo, o'i safn rhedodd poer, 'Roedd Mari'n hollol dan ddylanwad y lloer Caraswn o'm calon fflangellu'r hen stwmp A chwip dalcn poethion ar draws ei hen grwmp. Gochelwch bob gradd, Gochelwch bob gradd, O, peidiweh priodi, Rhag ofn cael eich lladd. BARCUD. Fod hwyl reit dda yn ardal 11-- yn nglyn a'r cyfarfod cystadleuol. Fod Gwladys yn anfon am y tro diweddaf yn awr i'w hen ffrynd, R. y P. "Anwyl Mr Rhwng y Pust,-Atebaf chwi eto fel gwrthddrych tosturi. Os gallwch wybod rhywbeth 'gyda haner pen,' fe wyddoch nad oes pall ar dafod merch. Gwaith anhawdd iawn ydyw cael y gair diweddaf ganddi. Felly gwel- weh mai peth greddfol ynom fel rhianod ydyw siarad. Ond nid ydwyf yn bwriadu gwneud ond ychydig iawn o sylwadau brysiog ar eich llythyr. Chwi eich hunan sydd yn tori tir newydd bob tro. Minau fel profwr gwerth yr hyn yr ydych yn ei gynyg i'r farclinad yn eich dilyn, ac mae genyf ddigon o gyffyriau i'ch cyfarfod i ba laid bynag yr eloch. D'wedasoch 'anghofio fy hun.' Da iawn am gyfaddefiad profedig. Dal mewn cof yr oedd- ycli yn wastadol nad oedd neb uwchlaw i chwi mewn dysg, dawn, a gwybodaeth, 'saeth yn llwyddo, myn'd i lawr yn lie myn'd i fyny. A oes cynllun yn eich meddiant i fyned i lawr yn lie myned i fyny ? Os oes, pa sawl gris y mae wedi tynu i lawr ? Taranu twrf, fel gwybedyn ar gorn tarw.' Diffyg synwyr mewn brawddeg. 'Y peth oedd yn y sach ddaeth allan, bobl bach.' 'Llanw swydd uwchraddol.' Y mae fy swydd yn gofyn dim llai na chymeriad dilychwin, gofal ac ymddir- iedaeth drwyadl yn ei chyflawniad. A ydyw swydd uwchraddol y crybwyllasoch am dani yn gofyn rhywbeth yn amgenach ? 08 ydyw, atebed Rhwng y Pust. 'Yn nillad Saul;' yr oedd dillad Saul yn maglu Dafydd; mwy o rwystr nag o gymhorth iddo. Ond am fy nillad i, y maent yn gyfatebol i'm corph. Gallaf eich sicrhau y bydd yn bleser genyf eich cyfarfod i brofi hyny, gan fod amheuaeth ynoch yn y peth hwn fel mewn pobpeth arall. Afreidiol dweyd y gwna dogn o'r hotel broliadol les i chwi; treiwch hi. 'Amddifad o uniform dyma. ni o'r diwedd wedi dyfod at eich hoffus air. Y mae'r bel ydych yn ei lluchio yn taro ar bared heb dwll ynddo. Felly daw yn of at v Iluchiwr. Gan eich bod yn hollol amddifad o addysg, ofer fyddai i mi droi atoch chwi am eglurhad ar y gair 'uniform.' Dyma fel y byddaf fi yn deall y gair: dosbarthiadau o bobl yn gwisgo yr un fath, yr un ffurf, neu yr un wedd. Caniatewch fy mod yn 'policeman:' y wisg am danaf yr un flurf a 'policemen' eraill; neu os 'postman:' yr un ffurf ag eraill. Neu caniatewch fel hyn: os meddwyn wyf, fy ngwisg wedi cochi, ac yn seimlyd, yn garpiog a thlod- aidd yr olwg, ac olion brwydrau caled ar y gwyneb, a'r trwyn wedi cochi a'r dyn yn myn'd i lawr yn lie myn'd i fyny. Hawyr bach, Mr Pyst, gobeithio nad aiff yr un o honom ni i wisgo 'uni- form' fel y diweddaf. Bydd 'uniform' o'r arddull j-l_1 yna yn ddigon i godi gwrid ar wyneoau Leuiu y pwll diw^elod. 'Yr hwn sydd yn sefyll, gwylied j na syrthio.'—Ydwyf yn ddiffuant GWLADYS. | Fod rhyw ferch ieuanc wedi cael ei gyru o'r Band of Hope (A.) gan y blaenor. Fod y teulu doeth hyny wedi dychryn y gwein-1 idog. Nad oes neb mor ddoeth a merched "Mon, mam I Oymru." Ei fod yr wythnos hon am roddi gwaith i'r beirdd ieuainc,a dyna ydyw cyfleu yr enwau can- lynol o'r Hen Destament fel ag i gyfansoddi eng- lyn o g\*nganeddiad cryf —Aaron, Abel, Asa, Asaph, Baalam, Barac, Debora, Gad, Heth, Jere- miah, Ioseph, Miriam, Moses, Ra, a Ruth. I
AMLWCH.
AMLWCH. Dydd Mercher y Lludw, yn Eglwys St. Eleth, dar- llemvyd y gwasanaeth Saesoneg gan y Parch D. J. Lewis, M.A.. Yn yr hwyr, am saith o'r gloch, dar- Ilenodd y Ficnr y gwasanaeth Cymraeg, a gweinydd- odd y Parch D. Davies, B.A., yr ordinhad o fedydd ar Hannt) li, Isabella, geneth bach Mr a Mrs Pritchard, Salem-sticct, a llamvyd y pwlpud gan y Parch D. Davies. „ .mi Marwohictli. ti Cliladdedigaeth Captain Thomas Griffith.-—Dydd Mercher, y boreu, aeth yr ymadaw- edig a11a.n am dro cyn ciniaw fel ei arfer. Ar ol iddo gyrhaedd v ty dywedodd wrth ei briod ei fod wedi cael ei daro yn wael pan yn dod i'r ty, ac yna galwyd ar y meddyg, Lloyd Williams, yr hwn nid oedd yn bell o'r heol ar y pryd. Yna. ehedodd enaid Cadben Griffith at yr hwn a'i rhoes. Dywedir mai afiechyd y rrdon a acliosodd ei farwolaetli. Dydd Mawrtli cvn ci farwolaeth gwelwyd ef yn angladd y diweddar Uadben Lewis, Bull Inn, ac yn yr hwyi- yn y gyfeillach yn Nghapel Carmel (A.), o ba un yr oedd yn un o r ffyddloniaid. Tua 40ain mlynedd yn ol cafodd Cadben Griffith ei achub o'r "wreck" ag sydd yn adnabyddus i'r byd, sef y "Royal Charter," a r olaf a achubwyd oedd yr ymadawedig. Yr oedd pawb yn rhoddi gair da iddo, ae y-n teimlo yn fawr trwy ei farwolaeth. Yr oedd wedi -retino o fod yn gadben er;" tro. Dywedir ei fod wedi mono am t)0 o flynyddoedd. CvdjTndeimlir yn fawr a Mrs Grif- fith (ei briod) a'r Cadben T. Griffith (mab), ar teulu oil yn eu profedigaeth lem. Gwelwyd baneri ar holl longau y porthladd hefyd gan Cadben Morgans. Meistri Thomas's (ship builders), ac, jailors Rest. Ciifodd gladdedigaeth barchus ddydd badwrn, am ddau o'r gloch. Yr oedd yr elor-gerbyd a dwy "close carriages" gyda'r teulu, a. thorf o bobt barchus eraill rhy luosog i'w henwi. Dangoswya paicn mawr gan bawb trwy orchuddio ffenestn y tai a r siopau, etc. Huned mewn hedd. CLYWEDIGION 0 AMLWCH. Clywed mai dymunol fuasai cael gwasanaeth yr lieddweision ar nos iSabbotnau ar hyd y "Lover's- waik." Clywed fod ymddygiad rhai yn warthus mewn llawer ystyi- Clywed fod llawer o dramwyo ar y Sul gan esgeul- uso y moddion. i Clywed fod Mynydd Paiys wedi cael ei fedvddio yn "Mona Parya Mines." WIL JONEb.
BANGOR.
BANGOR. Mae cangen Gogledd Cymru o Gymdeithas Medd- ygon Prydain wedi pendcrfynu cynal eu cyfarfod jiwbili yn Monger yn mis Awst. Mivi yn dda genym ddeall fod y ddinas yn hollol glir yn awr oddiwrth bob afiechyd heintus, a r ys- bytty i glefydau o r fath yn wag. Mae Mr W. H. Thomas wedi myned yn llwydd- ianus di-wy arholiad y Bwrdd Masnach yn Lerpwl fel "first mate. Mab ydyw ef i Mr E. W. Thomas, organydd Eglwys St. Ann's, a brawd Mr 0. E. Thomas, Iferyllydd. Cyfnewidiau Postawi.—Oddiar yr 21ain cyfisol, i ac yn mjaen. bydd i wasanaeth llythyrawl diwygied- ig gael fi sefydlu rhwng Beaumaris, Porthaethwj", a Bangor, drwy yr hyn y trefnir yr hwylusdod o bostio ddwyaAvr yn lrwyrach yn y ddau le. Yn Beaumaris fe gauir llythy-r-flwleh (am bob parth) am 9.50 y boreu, ac yn Mhorthaethwy am 10.25 y boreu. Mae y cwestiwn o wr.eutlmr casgliad hwyrach o fur-flych- am y ddwy dref o dan ystyriaoth. Cjnndeithas Ddirwestol yr Eglwys.-—Mevrn cyfar- fod cyhoeddus a gynhaJiwyd yn yr sgol Genedl- aethol nos Fawrth, dan lywyddiaeth y Pa.rch T. Edwin Jones,, traddododd y Parch Robert Jones, Bodewryd, ysgrifenydd y gj-mdeithas, anerchiad yn egluro ei hamcanion. Cynvgiodd y Proffeswr Ar- nold fod cangen o'r gymdeithas yn cael ei sefydlu mewn cysvlltiad ag Eglwys St. Mair. Eiliwyd hyn gan Mr "Roberts, Oaklands. a phasiwyd yn unfrydol. Ymunodd oddeut.u 60 ar ddiwedd y cyfarfod.
-------------CAERGYBI.
CAERGYBI. Trychineb Penmaenbach.— Mewn cyfarfod arbenig o we'ithwyr y rheilffordd, pa,siwyd gyda'r unfiydedd mwyaf i "flurEo cronfa er budd gweddwon a phlant y gyriedydd, Mr Edward Evans, a'r taniwr, Mr 0. E. Jones, pa rai a gollasant eu bywydau yn y trychineb ucliod. Bwriedir hefyd cordi cof-golofnau I iddynt. Mae pwyllgor wedi ei ffurfio i drefnu y gronfa, a da genym ddeall fod y gweithwyr yn j gyffredinol yn cefnogi y symudiad. Cenadwri lyfedd.—Yn ystod y tywydd ystormus diweddar, pan oedd un o'r agerlongau a.r ei mordaith o Dublin, ac o fewn pedair milldir i Gaergybi, taflodd ton botel ar y dec. a plitin agorwyd hi yr oedd yn cynwys y genadwri a ganlyn, wedi ei ysgrifenu yn iaith y Daniaid :—"Barque Dhjoric,—Mae ein Hong yn gollwng dwfr ac yn suddo. Cawsom dywydd enbyd ers amryw ddyddiau. Rhif yr holl ddwylaw 16, y mae tri wedi eu colli dros y bwrdd heddyw. Ffarwel, Duw a'n cynorthwyo." Nid oedd yn bosibl gwneud allan yr enw. Digwyddai bonedaiges fod yn mysg y teithwyr oedd yi; idluog i gyfiehhu y genadwri bruddaidd. Cyfarfod Amrywiaethol.—Y.i v Town Hall, pryd- nawn ddydd Iau, cynhaliwyd cwrdd te, a chyfarfod nmrywiaethol, i'r amcan o glirio gweddill y ddyled sydd ar adeilad adran y phmt o'r Ysgol Genedlaethol. Gwasanaethwj'd wrth y byrddau gan Miss Adeane, Mrs Binney, Mrs Hassall, Mi's Lewis, Mrs Moreton Prichard. Mrs Tyner, Mrs T. G. Owen, Mrs Scobell- Clapp, Mrs Rendall, Mrs Jeffreys-Smith, Mrs Wil- liams (Rhosygaer), Mrs Hills, Miss Elliott, a Miss D. Walter Thomas. Gofalwyd am yr adran gerdd- orol gan y Misses Scobell-Clapp a Mr Singleton. Yr oedd y neuadd yn orlawn. Ysgrifenyddion y symudiad oeddynt Miss Alice Hughes a Miss Walter Thomas; try.sorydd, Cadben Edwards. Gwnaethpawb eu rhan yn odidog. Y CYNGHOR DINESIG. Cynhaliwyd cyfarfod misol y Cynghor hwn nos Fawrth, Mr Joseph Evans yn y gadair. ARIANOL. Dywedodd Mr John Roberts, cadeirydd y pwyll- gor arianol, mai swm dyled y Cynghor yn y bane ydoedd 731p 8s 3c,ac fod 197p eto o'rdrethddiwedd- af heb ei gasglu. Rhoddodd y cadeirydd rybudd, y bydd iddo yn y cyfarfod nesaf gynyg treth newydd 0 2s yn y bunt. Y SURVEYOR NEWYDD. Yr oedd haner cant wedi ymgeisio am y swydd o "surveyor and inspector of nuisances." Yr oedd y Cynghor wedi ymgyfarfod droion i ystyried cym- hwysderau y gwahanol jTngeiswyr, ac yn y diwedd penderfyirayd gwahodd tri i ymweled a'r Cynghor. Yn awr, dewisodd y Cynghor Mr Arthur Asquith, Rhondda, i'r swydd. Ystyrient ef y person mwyaf cymhwys i'r gwaith. Diolchodd Mr Asquith yn wresog i'r Cynghor am ei apwyntio, ac hyderai na chai y Cynghor achos golidio am y penodiad. YSTAFELLOEDD NEWYDD I'R CYNGHOR. Daeth Mr Salter ag adroddiad yn mlaen, ar ran y pwyllgor. oedd wedi ei benodi i edrych l mewn i'r cwestiwn o bwreasu ystafelloedd priodol at wasan- aeth y Cynghor a'r Llyfrgell. Pasiwyd i daflu y cwestiwn i'w drafod mewn cyfarfod arbenig. CWMNI Y RHEILFFORDD A'R CYNGHOR. ,Gwnaeth y Parch John Hughes adroddiad, ar ran y pwyllgor. oedd wedi ei benodi i ohebu a chwmni y rheilifordd o berthynas i gael telerau arbenig i deithwyr i'r dref hon yn ystod misoedd yr haf, fel ag a gani.iteir i leoedd eraill. Diolchwyd jm gynes i Mr Hughes a'r pwyllgor am eu llafur, a llawenhai y Cynghor fod llwyddiant mor fawr wedi dilyn eu hymdrechion. PWYLLGOR Y TAN-DDIFFODDWYR. Ar ran y pwyllgor hwn anogai Mr John Thomas fod y Cynghor i brynu tan-beiriant cymhwys at alwad y dref a'r wlad oddiam,ylcll.-Y Cadeirydd a sylwodd nad oedd y peiriant oedd wedi bod ar brawf yn ddiweddar yn ddigon o faint, ac amheuai a oedd digon o ddwfr i'w gael yn mhob rhan o'r dref. —Cynygiodd Mr John Thomas, ac eiliodd Mr Slater, fod peiriant priodol yn cael ei brynu.—Cynygiodd Mr Owen Hughes nad oedd peiriant yn cael ei brynu hyd nes byddai gan y dref well cyflenwad o ddwfr.— Cynygiodd Mr W. D. Jones eu bod yn myned yn mlaen gyda'r busnes nesaf, a chytunwyd a hyn. FFORDD MAESHYFRYD. Cynygiodd Mr Hall fod heol 32 troedfedd yn cael ei phrynu er unioni y lfordd i'r gladdfa. Sylwodd fod yr hen Fwrdd Lleol ar hyd y blynyddau wedi bod yn awyddus iawn i wella y lfordd yn y lie hwn, ac nid oedd yn gallu esbonio fod cynifer o aelodau y Cynghor presenol yn erbyn yr hyn oedd yn amlwg i bawb fuasai yn welliant pwysig. Buasai yn warth fMTthod y cylleusdra presenol i wella y ffordd.—Mr ohn Jones, wrth eilio y cynygiad, a sylwodd fod y lfordd fel y mae JTI bresenol yn wir enbyd i drafnid- iaeth.-—Mr W. D. Jones a sylwodd fod yn ddrwg ganddo weled y rhai oedd yn cynrychioli y rhan- barth yr oedd yr heol ynddi. mor bendant yn erbyn gwella y lfordd. Gobeithiai nad oedd dim byd per- sonol wedi cael ei wthio i mewn i'r cwestiwn.—Y Cadeirydd a ddywedodd nad oedd dim ond teimlad a chwareu teg yn nodweddu ei wrthwynebiad ef i brynu y ffordd. Yr oedd yn ffaith na ddarfu y Cynghor erioed o'r blaen brynu ffordd er budd tai- feddianwyr. Yr oedd arno ef eisieu i'r Cynghor ymddwyn yn ddibleidiaeth tuag at bawb fel eu gilydd.—Mr John Thomas a ddadleuai yn gryf o blaid prynu y ffordd. Buasai yn warthrudd ar y Cynghor i adiiel y cyfleusdra presenol i basio heibio o bosibl na cheid cyfleusdra mor ffafriol eto i wella y ffordd.-Y Parch John Hughes a ddywedodd fod y ffordd yn arwain i'r gladdfa, ac os na chymerid mantais ar y cylleusdra presenol i brynu darn o dir 1 wella y norcld, byddai y Lynghor yn fuan yn sicr o gael achos i ofidio oherwydd ei wrthwynebiad. Ni byddai y gost ond rhyw 45p. Yr oedd yn ddrwg ganddo, gan fod bron yr holl wrthwynebiad yn dyfod o ranbarthau ag yr oedd o 3000p i 4000p wedi eu gwario yn ddiweddar mewn gwelliantau.—Cynyg- iodd Mr J. W. Ellis fod 50p yn cael eu cynyg i Mr R. J. Jones.—Cynygiodd Mr David Williams fod y cwestiwn i gael llonydd.—Eiliwyd liyn gan Mr Owen Hughes.—Pan aetli y cwestiwn i bieidkus pasiwyd i brynu y ffordd gyda mwyafrif o dri.—Y Cadeirydd a ddywedodd yn ngwyneb pleidlais y Cynghor yn yr achos hwn ei fod ef yn ymddiswyddo fel cadeirydd. —Pasiwyd fod ymddiswyddiad y cadeirjrdd i ddyfod o dan sylw yn y cyfarfod nesaf.
■CAPELGWYN (Valley). j
■CAPELGWYN (Valley). Oyfarfod Adloniaciol.-Nos Wener, y 17eg cyf- isol, cynhaliwyd yr wythfed gyfarfod adloniadol yn y lie uchod. Hwn oedd yr olaf am y tymhor, ac hwn, yn ddiau, medd pawb, oedd y goreu o'r oil. Yr oedd y cynulliad yn Iluosocach, a'r adroddiadau, yr areithiau, a'r canu yn cyrhaedd gradd uweh o berffeithrwydd rag arferol. Melus, moes mwy. Deallwn fod cryn ddarpar ar gyfer y cyfarfod llenyddol nos Gwyl Dewi nesaf. Llwyddiant i'r cyfarfod medd—Un oedd yno.
GAERWEN. :
GAERWEN. Cyngherdd. Nos Sadwrn diweddaf cynhaliwyd cyngherdd na llwyddiamu yn y Neuadd Gyhoeddus (Ysgol y Bwrdd). dan lywj'ddiaeth alluog Mr H. Williams, Felinuchaf, ac arweiniaeth Mr W. Hughes, yr Ysgol Genedlaethol. Cymerwyd rhan ynddo gan Master Hugh D. Jones, bachgen ieuanc talentog Miss E. G. Williams, geneth ieuanc obeithiol; Miss M. C. Williams, Bethel, Arfon; Mrs Price, Llan- gefni; a Mr J. O. Hughes, Niwbwrch. Yr oedd y canu o nodwedd uchel a chwaethus. Nid yn ami y clywyd dim gwell na "Llam y Cariadau" gan Miss M. C. Williams, a'r ddeuawd, "Y Llaetliferch a'r Bugail," gan yr un foneddiges a Mr J. 0. Hughes. Yr oedd dadganiadau o hen benillion Cymreig gan Mrs Price yn newydd-deb bendigedig, ac yn cynhyrfu y gynulleidfa anferth i deimladau toddedig. Mwy o ganu fel hyn gwyd chwaeth ein cyngherddau a'n dynion ieuainc. Atdyniad mawr oedd cystadleuaeth ar y don "Talyllyn," gwobr o ddeg swllt. Daeth tri parti yn mlaen dan arweiniad Mri D. Hughes, R. Roberts, a John Hughes. Dyfarnodd y beirniad, Mr J. O. Hughes, Niwbwrch, y wobr i barti Mr R. Ro- berts, yr hwn a ddychwelodd y wobr yn ol i'r achos elusengar. Rhoes y Parch G. W. Griffith hefyd 10s, a Mrs Ripton 5s, at yr amcan, ac yr oedd yr elw, ar 01 talu yr holl gostau, dros dair punt ar ddeg, yr hwn swm a gyflwynwyd i Mr John Williams, Ban- gor-street, yn ei waeledd. Tra y mae sel cerddorol yn ymgodi dymunwn awgrymu i'r Gaerweniaid y priodoldeb o gael cor mawr undebol. Gwna aelodau y tri parti ganasant gnewyllyn rhagorol i gychwyn! a chyda ser cerddorol disglaer yn y cyffiniau fel Mri D. Pryse Jones, Josiah Hughes, R- Pritchard, Gaer- wen Farm, etc., ceid pob cvnorthwy i ddadblygu gogyfer a chystadleuaeth eisteddfodol. Gyda llaw paham nad elhd cael Eisteddfod Gadeiriol Mon i'r fie. Mae yr ystafell yn ddigon mawr i'w chynwys, prif foneddwyr y sir yn cartrefu yn agos, ac aspri a sel ein dynion ieuaine yn warant o'i Uwyddiant. "Youth is genius," meddai Arglwydd Beaconsfield. ac y mae saile Gaerwen yn agos i'r rheilffordd, a'r ganghen newydd o Draeth Cocli, yn ychwanegiad pwysig i boblogrwydd yr ardal. Cymered y prif ddynion yr awgrym. Cj'feiliwyd yn rhagorol gan Miss Williams, Ysgol v Bwrdd, a diweddwyd gyda diolchiadau a "Hen wlad fy nhadau.W-If
I LLANALLGO. I
LLANALLGO. Marwolaeth y Rheitlior.—Gyda gofid dwya yr ydym yn gorfod cofnodi marwolaeth y Parch G. B. Jones, rheitlior Llanallgo. Daeth i gymeryd gofal y plwyfi hyn, sef Llanallgo a Llaneugrad, wyth mlyn- edd yn ol, sef 1891. Efe a benodwyd i lenwi lie y diweddar fardd-'bregetliwr, y Parch John Williams (Glan Mor). Ar ei ddyfodiad i'n plith yr oedd Eg- lwys Llanallgo mewn cyflwr dirywedig iawn, yn mhell iawn ar ol yr oes, ac yr oedd ei ragflaenydd, Glan Mor, fel Dafydd gynt, wedi bod yn rhag- ddarparu tuag at yr adeiladaeth, ac wedi derbyn addewidion a symiau sylweddol o arian er dwyn y gwaith oddiamgylch. Eitlir disgynodd i ran Mr Jones, fel i Solomon gynt, y pwys o ddwyn y gwaith i ben a gosod maen do yr eglwys, ac ni phetrusaf ddweyd fod genym yr eglwys fwyaf prydferth o ran cynllun ac adeiladaeth ag un yn unrhyw ran o'r deyrnas. A bydd yr eglwys fel u-deilad yn gof-golofn am y ddau weinidog am oesau i ddyfod. Gallwn ymffrostio y deil i'w chystadlu ag unrhyw eglwys yn yr esgobaeth. Yr oedd Mr Jones hefyd wedi ym- gymeryd ag adeiladu ty i ysgolfeistres Ysgol Genedl- aethol Llaneugrad, ac wedi bod yn fifcSus iawn i gasglu 120p tuag ato, ac y mae hwnw o'r bron yn barod i fjTied i fyw ynddo. Hefyd yr oedd wedi cael planiau gan archadeiladydd o Fanceinion tuag at wneud mynedfa i Eglwys Llanallgo, a chlywais ei fod wedi cael addewidion am gyfran tuag at ddwyn y gwaith hwnw oddiamgylch, yr hyn a brawf nad ydoedd eto wedi cwbl orphen y gwaith oedd wedi fwriadu ei wneud. Safodd i fyny fel milwr dewr i wasanaethu ei swydd gysegredig tra y gall- odd, a bu yn llenwi pob gwasanaeth hyd y cania.ta- odd nerth ei iechyd, ac y mae yn rhyfedd genym feddwl ei fod wedi ei dori i lawr mor ddisymwth, yn nghan01 ei ddefnyddioldeb. Nos Sul cyntaf yr Adfent y pregethodd ei bregeth olaf, sef y 27ain o Dachwedd, ac yr oedd hynodrwydd mawr yn nod- weddu y bregeth hono. Safai yn y radd flaenaf fel pregethwr, a byddai bob amser yn llawn yni a gwres- ogrwydd. Byddai ei gorph a'i ysbryd yn y gwaith ogrwydd. Byddai ei gorph a'i ysbryd yn y gwaith da. Yma yr oedd cuddiad ei gryfder, yma yr oedd yn cael mwynhad a chysur; ond rhaid dweyd fod gyrfa ei fywyd wedi terfynu nos Iau, yr I6eg cyfisol, am saith o'r gloch, a bwriedir rhoddi ei weddillion marwol i orwedd yn mhriddellau Mynwent Llanallgo, yn yr ochr ogleddol o'r eglwys, ddydd Iau nesaf, am ddau o'r glocli. Cafwyd pregcuh yoffadwriaethol am dano nos Sid diweddaf, gan Mr William Jones,Traeth Bychan, yn yr hon y dangoswyd teimladau da tuag ato gan y pregethwr yn nghyd a'r gynulleidfa. Yr oedd Mr William Jones wedi ceisio llenwi y bwlch i fyny yn ystod gwaeledd Mr Jones, gyda'r eithriad i'r Parch Mr Hyslop, ficer Caerdydd, gjrmeiyd dau Sul. Bydd colled nas gellir yn hawdd ei gwneud i fyny ar ei ol. Ymddenzys iddo fod yn y weinidogaeth am 24ain mlynedd, a rlxaid ei fod yn hynod ymrodd- gar a phenderfynol cyn y gall as a i ddringo i fod yn rheitlior Llanallgo. Huned mewn nedd hyd y dydd bydd dorau beddau'r byd ar un gair yn agoryd. Bydded fod nawdd Priod y Weddw a Thad yr Am- ddifad ar ei briod unig.-Itilidob.
-----LLANBEULAN.
LLANBEULAN. Cof-golofn y Diweddar Mr R. Williams, Treban.- Gosodwyd hon ar fedd y diweddar foneddwr parchus uchod, yn mynwent henafol y plwyf, y dydd o'r blaen. Pwysai dros bum' tunell, ac y mae yn ddeu- ddeg troedfedd a thair modfedd o uchdcr, a'i defnydd ydyw "fine brown Aberdeen granite." Y inae yn fonument hardd a chostus, ac ami y mae yn gerfiedig fel y canlyn — "Er serchog goffadwriaeth am Richard Williams. Treban, o'r plwyf hwn, yr hwn a fu farw Rhagfyr 16eg, 1894. yn 76 mlwydd oed. Bu yn warcheidwaid y tlodion drosblwyfydctLlanbeulan. a Ceircldog am 42 mlynedd, ac yn gadeirydd Bwrdd Gwarcheidwaid G-iergybi am y 35ain mlynedd di- weddaf o'i oes. Hefyd bu yn gadeirydd Bwrdd Ys- gol Dosbarth Unedig Trewalchmai am 21 mlynedd." Cyfrifid ef via foneddwr medrus a charedig, ac fel swyddog yn hynod selog a divmhongar. Claddwyd ei briod hawddgar yn yr un beddrod ar y 27ain o Ragfyr diweddaf. Yn ddiweddar y mae llawer o fylchau wedi eu gwneuthur yn nghylch teuluaidd y Treban, ac y mae y rhai sydd wedi eu gadael yn cael ein cydymdeimlaa llwyraf. Bu Mr Williams yn churchwarden Llanbeulan liefyd am dros ddeuguin mlynedd.
LLANEILIAN.
LLANEILIAN. Ar Goll.—Codwyd gwaedd nos Lun fod bachgen bach pedair oed i Mr Hugh Williams, Tymoel, ar goll. Gan fod y noson yn ystormllyd, ac yn gwla.wio yn erwinol, yr oedd y prydcra fynwesai pawb yn angherddol. Bu y bychan yn crwydro, yn ol pob tebyg, am oriau. Ychydig wedi naw o'r gloch caf- wyd ef wedi cysgu yn nghanol y meusydd, tua mill- dir o'i gartref; pe y buasai y bychan wedi bod yno ychydig yn hwy diamheu y buasent yn ei gael yn farwoL Ni ddylai bechgyn mawr hudo rhai mor fychan ar eu holau, ac yna eu gadael i fyned ar gyfeiliorn. Os y bydd pethau felly dylid eu cospi a'r wialien fedw, yr hyn, yn ddiamheu, a wnai les iddynt. Gwaeledd,— Dywedir fod ysgolfeistr Pensarn yn cael ei gaethiwo i'w dy gan y crydgymalau. Gresyn hyny, ag adeg yr "inspector" mor agos. A yw hanes rhai o'r plant yn eu habsenoldeb yn cael sylw dylad- wy gan y Bwrdd am eu camymddygiadau gyda'r athrawon? Awr Ddifyr.—Os ydyw pentrefi Mon: am noson o fwynhad a difyrweh ewch am awr i "entertainment" Mr Young, sydd ar ymweliad a'r wlad, a diamheu mai daioni a ddeillia o hyny. Dyma'r lie i chwi dreulio awr a wna les i bawb. Da oedd genym weled ein blaenoriaid a dynion mwyaf blaenlBaw ein capelau yn ei gefnogi yn y lie uchod. Arwydd er daioni yn ddiamheu ydoedd y cyfryw gweled y ffugsancteidd- rwydd yn dechreu ymgilio o'r ardal. Dilyned eraill eu hesiampl yn y peth hwn mewn lleoedd eraill. Credwch fi, mai nid anwiredd ydyw yr uchod am ddynion blaenaf ein gwahanol addoldai yn y cyleh.— Alrec. Wyn Cynar.—Dydd Sadwrn diweddaf, y 18fed o'r mis hwn, gwerthodd Mr John Jones, BaIog, or plwyf uchod, yr wyn cyntaf eleni, pa rai oedd yn cael eu gyru i farchnad Manceinion, ac yn profi ei fod yn rhagori ar yr oil o'r ffermwyr yn yr ardaloedd cyicnynol. Prynwyd tri o'r wyn hyn gan Mr Shadrach Williams, Brynglas, Rhosgocli.—J.W.E.
LLANERCHYMEDD.|
LLANERCHYMEDD. Yr Ysgol Sabbothol.—Dymunwn longj-farch aelod- au un o gapelau y Llan am eu gwaith yn dewis tri o'u plith. i fyned o gwmpas i anog a chymhell esgeul- uswyr i roddi eu presenoldeb yn yr Ysgol Sul. Dyma arddangosiad o deimladau yn ystyried cyflwr peryglus go a chostfawr torwyr y rhan bwysig yma o wasanaeth y cysegr. Efelycher hwynt. Hyderwn y coronir eu hymdrech canmoliaethus a llwyddiant mawr. Pinacl Anrhydedd.—Y mae yn wybyddus i amryw o deulu'r Llan fod eisteddfod flynyddol yn cael ei chynal yn Hope Hall, Lerpwl, y Nadolig. Bydd yn Ilawenydd a hyfrydwch mawr i'r trigolion yma, pan yr hysbyswn mai ein cyd-drefwr caredig Mr J. 0. Williams (Wyr yr Eos) ddewiswyd JTI unfrydol yn feirniad y canu telynegol. Dyma safle gorona weith- garwch a diwydrwydd Wyr yr Eos gyda'r rhan bwysig yma o ganiadaeth. Gwyddom ei fod o gyff canwyr telynegol. Gallwn ddweyd fod ei gysylltiad a "chanu gyda'r tanau" er yn foreu iawn. Denai swn y canu yma ef o'i fabandod. Tebygol mai dyma y nodau cerddorol cyntaf v galwyd arno i'w gwneuthur, a byddai y nodau seinber, gan un mor ieuanc, yn dra effeithiol. Sicr nas gallasai y pwyll- gor edrych ar gymwysach beirniad nag Wyr yr Eos. Y mae yn feddianol ar aJluoedd mawrion profiad a barn addfed; chwaeth oruchel; ac yn uwch na'r cwbl y mae yn berchenog egwyddor onest, a hollol ddiduedd, a dyma brif angen beirniaid yn awr. Pob llwyddiant i'n cyfaill.—R.J.
-! LLANFACHRAETH. !
LLANFACHRAETH. Gwaeledd y Rheithor.—Parhau yn wael y mae y rheithor o hyd, ac wedi ei gaethiwo i'w ystafell ers hir amser. Coleddir gobeithion yr adferir ef eto. Colli Ffyddloniaid.—Y mae Eglwys Abarim, perth- ynol i'r Methodistiaid Calfinaidd, yn gwisgo ei galar- wisgoedd, ac mewn tristwch y dyddiau hyn oherwydd colli ffyddloniaid. Yr wythnos o'r blaen vr oeddys yn hebrwng chwaer ffyddlon, a'r wythnos ddiweddaf eto dyma yr hen dad selog, Mr John Owen, Peny- bont. Dronwy, wedi eu gadael. Bu yr Eglwys hon yn ffodus yn ddiweddar trwy alw gweinidog ym- roddgar i'w bugeilio, ac mae ef a'i braidd yn ym- ddangos yn hapus a dedwydd gyda'u gilydd. Ond, mae yn achos o brudd-der i'w feddwl i weled yr hen ffyddloniaid yn ymadael, y rhai fuasai yn galondid 3X2 y11 gymorth i ddal ei freichiau i gario yn mlaen v gwaith da. Er hyny, cysurus ydyw meddwl i ba le y maent yn ymadael "Yr oedd yn rhaid i'r Arglwydd wrthynt." Nid oes dim colled i unrhyw Eglwys am rai difraw a disel, oblegid dywedant yn eu hymddygiad na waeth ganddynt pa un a lwydda gwaith yr Arglwydd ai peidio. Un o'r rhai ffydd- lonaf oedd yr hen dad John Owen tra y gallodd. Llawer gwaith y sylwasom arno, ar foreuau Sabboth, yn cyrchu i breswylfeydd Seion, a hyny dan ddioddef- iadau poenau corphoroL Pan oedd llawer eraill mewn iechyd a hoenusrwydd yn ymdroi yn eu gwely- au, byddai ef yn pwneud yn fawr o'r breintiau oedd yn cael eu hestyn iddo tra yr ydoedd yn ddydd gras. Profwyd ef trwy gystudd caled am flynyddau, an- hwyldeb corphorol. a daliodd y prawf yn ardderchog ac amyneddgar, "Daeth allan fel aur wedi ei buro trwy dan," a diau fod marwolaeth yn elw iddo. Cydymdeimlir yn fawr a r teulu ac a'r Eglwys o dan weinidogaeth angau, a rhodded Duw iddynt o ddyddanwch ei Lan i sbryd. Claddwyd yr hyn oedd farwol o hono dydd Mercher, 15fed cj-fisol. yn Myn- went Llanfwrog. Yr oedd wedi ymuno ers blynydd- au a'r Gymdeithas Gyfeillgar yn y lie hwn, ac yn un o'r aelodau hynaf. Bu y gymdeithas ddaionus hon yn taflu ei nhodded a' i chymorth iddo yn ei waeledd mawr, a daeth i lanw bwlch yn adeg ei farwolaeth. Pe buasai ei angladd yn un cyhoeddus diau y buasai y frawdoliaeth yno yn gryno yn eu hurdd-wisgoedd galar, yn ei hebrwng i dy ei hir gartref. Heddwch i'w lwclt hyd nes bydd- "Dorau beddau'r byd Ar un gair yn agoryd." Yr Anwydwst.—IMna gawr gorthrymus sydd yn cyniwair trwy ein broydd y dyddiau hyn. Mae eisoes wedi taro amryw i lawr, a'u gosod mewn caethiwed rhwng erchwynion eu gwelyau i ddioddef effaith ei ddyrnodiau poenus. Dywedir gan rai mai distilwyr Ysgotaidd gyda'u Highland whisky sydd yn abl i'w drechu, ond y gred gyffredinol yw. mai gwenau Mr.Sol. i dyneru a chynesu yr awjT Iaith a'n daear wleb, wna ei lwyr ymhd i'w wlad ei hun. Tymhor y Garawys.—Fel y mae yn wybyddus mae y tymhor hwn o'r tiwyddyn Eglwysig wedi dechreu, a chynhelir gwasanaethau, a phregethir yn eglwys y plwyf hwn bob wythnos hyd y Pasc. Cynhaliwyd gwasanaetliau dydd Mercher y Lludw, sef y dydd cyntaf o'r Garawys, am ddeg y boreu, pan y gwasan- aethwyd gan y Parch R. Jones, curad am chwech yn yr hwyr darllenwyd y llithoedd priodol gan Mr John Williams (Alaw Fardd), ac aed trwy y gwasan- aeth yn hynod o deimladwy gan y Parch R. Jones, a phregethodd yn addas i'r achlysur oddiar Jonah iii. 5, 6 o adnodau, sef ar edifeirweh y Ninifeaid. Mae y gweinidogion canlynol wedi addaw dyfod i'w gwasanaethu yn mhellach hyd Wythnos y Dioddef- aint:—Parchn. James Jones, Caergybi; G. Owen. Bodelwyddan D. Evans, Llechcynfarwy; a J. Hopkins, Rhoscolyn.
LLANGEFNI.
LLANGEFNI. Hela'r Carw.—Ddydd Sadwrn cymerodd "meet" Own Hela Mon le yn y Bull Hotel, Llangefni, pryd y daeth yn nghyd oddeutu 40 o foneddigesau a boneddigion ill gelfylaiu. Yn mhlitb eraill yn bresenol gwelsom Mr a Mrs Assheton Smith, yr Anrh. W. W. Vivian, Mrs Onadwick, Mr Fred Mills, Mr J. Rice Roberts, etc. Gollyngwvd y carw yn ymyl Capel Rhosmeirch, ac ar ol "run" ardderchog am oddeutu tair awr daliwyd ef yn Mhen'rallt, Pen- mvnvdd. -I Yr Eglwys.—Nos Sul diweddaf eanodd Cor yr Eg- lwys Blwyfol yr anthem "Teyrnasoedd y Ddaear." Fel y mite yn hysbys y mae y cor hwn tan ddysgybl- aeth Mr George Hughes, ac y mae ci yni a'i ddyfal- barhad yn nghyda chydweithrediad y cantorion wedi dwyn y cor i sefyllfa pur foddhaol. Yn absenoldeb anocheladwy Miss Lucy Jones, Pen'rallt, dilynwyd y cor ar yr organ gan Miss Jones, Castle House. Heno (nos Fawrth) pregetliwyd y bregeth arbenig gyntaf yn nghymhor y Garawys gan y Parch 1. Davies, curad-mewn-gofal, Llanudanielfab. Disgwylir pre- gethwyr enwog yn ystod y Garawys i draddodi pre- gethau. „ "Esiampl Crist." — Nos Fawrth, yn Nghapel Smyrna, darllenwyd papyr dyddorol ac effeithiol ar y testyn uchod, gan Mr Maurice Price. Rhoddodd fras-linelliad er Ilyfr sydd wedi achosi cymaint o gyffro yn y byd crefyddol yn ddiweddar, sef "Yn ei gamrau Ef: Neu beth wnai'r Ic.su?" gan C. M. Sheldon. Teimlai pawb yn dra diolchgar i Mr Price am y llafur a gymerodd i ddarparu papyr mor dda, a phenderfynwyd treulio y cyfarfod nesaf mewn rhydd-ymddiddan ar y mater hwn. Penuel: Oyfarfod Oyhoeddus y Band of Hope. 3-nhaliwyd cvfarfcxl cyhoeddus cyntaf Band of Hope Penuel, nos Wener, Chwefror 17, am 6.30 p.m. Llywydd ac arweinydd, y gweinidog. Wedi canu ton gvnulleidfaol, adrodd diarhebion iii. gan Miss J. E. Hughes, a gweddi gan y Parch H. Hughes, adroddwyd "lawn ymddygiad yn Nhy Dduw," gan Miss Maggie Roberts can, "Clywch yr Alwad," gan Miss Annie Barnett; adroddiad, "Ifan Ty Croes," gan Miss Lily Parry, Ty Gwyn, ae adroddiad gan Master J. O. Griffiths ton, "Cyfododd Crist," gan barti y Band of Hope; adroddiadau, "Parchu RIiieni," gan Miss Gwladys Frimston; "Illt,yd a'r Deryn Bach," gan Miss Mvfanwy James "Lizzie a'r Album," gan Miss Katie Williams; "Bobby a'i Ddillad Newydd," gan Master Bobby Williams dadl, "Pa un orea Dillad Hardd a'i Moesau Da," Misses Annie Davies a J. C. Hughes can, "On the Banks of Allen Waters," gan Miss Annie Lewis adrodd- iad, "Cwyn y DiGg," gan Miss Maggie Jones "Y Dafarn, gan Miss Annie Owen "Y Bacligen Hael," Misses Morris a Williams, a Mri R. Wil- liams a W. Barnett; can, Sleep Uolne, miss Emilv Thomas; adroddiad, "Dirwest," Miss Annie Williams; "Yr hen bren Cam," Miss E. E. Prytherch "Stori Gyffredin," Mr R. O. Roberts ;can, "Y Morwr Lion," Mr J. W. Evans adroddiad, gan Miss Maggie Williams "Y Ffordd i Baradwys," gan Miss Elizabeth Owen; "Y Clerc Gonest," Mri H. Hughes a R. O. Ro- berts; can, "Llythyr Mam," gan Miss Lizzie Jones cyfree-adroddiad o'r Beibl a'r Llyfr Hym- nau gan 60 aelodau y Band of Hope, ar ol yr hyn y canodd y gynulleidfa, "rr Arglwydd Oenwch adroddiad, "Dychweliad John," gan Mr Tommie Jones "Croeshoeliad yr Iesu," gan Mr H. O. Jones ton, "Molwn Ef," Band of Hope; cys- tadleuaeth adrodd, "Dangos dy hun," enillwyd v gwobrwyon gan Miss Davies a Mr W. Barnett "Hen Stori," gan Mr Griffith Jones; can, Mr William Hughes. Terfynwyd y cyfarfod llew- yrchus trwy ganu eilwaith, "I'r Arglwydd Cen- wch, etc. a diolchodd y gynulleidfa i Mrs Gray am ei llafur mawr yn gweithio y Band of Hope mor effeithiol. LLYS YR YNADON. Cynhaliwyd y Ilys hwn ddydd LIun, gerbron yr Anrh. Claud Vivian, Milwriad T. E. J. Lloyd. Mri T. Owen, D. Rees, W. Prichard, 0. H. Foulkes, 0. Jeffrey Jones, a Richard Williams. Hawkio Heb Drwydded.—Cyhuddwyd Grace Jones. Mill-street, Llangefni, gyda'r trosedd uchod. —Profwyd yr achos gan y Rhingyll William Hughes, ond rhyddhawyd hi gyda rhybudd. Teithio Heb Docyn.—Cyhuddwyd William Jones, labrwT, Tanyffordd, gyda theithio o Fangor i'r Gaer- wen heb docyn.—Dywedodd William Ernest M. Hughes fod y diffynydd wedi dyfod i Orsaf Gaerwen am 6.26 yr hwyr ar y 12fed o Ragfyr. Yr oedd ef (y tyst) yn casglu r tocynau tir gyrhaeddiad y tren, a gofynodd i'r diffynydd am ei docyn. Atebodd yntau nad oedd ganddo un, ac nad oedd wedi dyfod gyda'r tren. Nid oedd yn sicr a oedd y diffynydd wedi dyfod gyda'r tren. Yna daeth Mr Clough. y gorsaf- feistr, yno, a rhedodd y diffynydd yma.ith.-Tystiodd Mr Frank Clough ei fod wedi gwneud ymholiadau, ao wedi cael allan mai deuddeg o docynau roddwyd o Fangor i'r Gaerwen v diwrnod crybwyEedig, ac nad oedd yr un wedi myned ar goll.—^Dywedodd y Detec- tive-sergeant Thompson ei fod wedi gweled y diff- ynydd ar yr lleg o Chwefror yn y Gaerwen, a dy- wedodd y diffjTiydd ei fod wedi colli ei docyn. Cododd un yn Mangor, a thalodd 6 £ c am dano. Nifer y tocynau roddwyd allan yn Mangor i'r Gaer- wen ydoedd 12. a chasglwyd hwynt oll.-Dywedai y Diffynydd ei fod wedi codi tocyn, ond ei fod wedi ei golli.-Yn cael ei groes-holi gan Mr J. Fenna, cyfreithiwr Cwmni y rheilffordd, addefodd y Diff- ynydd ei fod wedi dweyd wrth y gorsaf-feistr nad oedd wedi dyfod gyda'r tren. Rhedodd ymaith er mwyn cael pres i dalu. Anfonodd ei fam a'i frawd at y gorsaf-feistr i dalu. Tybiai y byddai raid iddo dalu eilwaith gan ei fod wedi colli y tocym a gododd. —Dirwywyd ef i 10s a'r costau. Heb oleuadau.—Cyhuddwyd Edward Evans gyda dreifio ceffyl a cherbyd heb oleuadau am ddeng munud wedi deg yn ymyl Gorsaf Bodorgan. yn mlilwyf Trefdraeth.—Cymerai y Fainc olwg dyner ar yr achos, ond dylai y diffynydd fod wedi cael lampau gan ei feistr. Taflent yr achos allan ar daliad y costau. Owen Lazarus, gof, Llanbedr- goch, a gyhuddwyd gyda tlirosedd cyffelyb.—Tyst- iodo. yr Heddgeidwad William Jones iddo weled y diffynydd yn gyru ceffyl a cherbyd yn High-street, Llangefni, ar yr 28ain o lonawr, ac yr oedd heb oleuadau. Gofynodd iddo pa le yr oedd ei lampau, ond ni chymerodd y diffynydd unrhyw sylw. Aeth ar ei ol, a stopiodd ef, a chymerodd ei enw.—Dy wedodd y diffynydd ei fod wedi llwyr anghofio ei lampau yn ei frys i ddyfod at y tren chwech, a'r hon a gollodd. Cafodd fenthyg lampau gan Mr Gray, ironmonger, i ddychwelyd i'w gartref. Nid oedd wedi deall fod yr heddgeidwad wedi galw arno i stopio.—Gorchymynwyd iddo dalu y costau. Cysgu Allan.—Cj'huddwyd Richard Williams, King, Brynsiencyn, gyda'r trosedd -uchod.-Dywed- odd yr Heddgeidwad 23 iddo ganfod y diffynydd yn cysgu ar benllwyth o wair mewn ysgubor yn Groes- lon, Biynsiencj-n. Yr oedd wedi ei rybuddio ddwy- waith yn flaenorol. Yr oedd y diffynydd o deulu da, ond ni ddilynai unrhyw orchwyl.—Dywedodd y Cadeirydd mai peth fel hyn oedd achos tanau yn fynych.-Gorchymynasant iddo dalu y costau, neu fyned i garchar am saith niwrnod. Esgeuluso'r Ysgol.—Dirwywyd y personau can- lynol am beidio anfon eu plant i'r ysgol yn rheol- aidd :—William Williams, Ty Crwn, Pentraeth, 58, yn cynwys y costau Robert Roberts, Penlon, eto, yr un swm Catherine Hughes, Mill-street, Llan- gefni, eto; William Jones, amaethwr, Cefnmawr, Niwbwrch, eto; Robert Edwards, Llai nest, Niw- bwrch, eto. Tai Heb y Cyfleusderau Cymhwys.—Gofynodd Mi R. Benjamin Evans, clerc Cynghor Dinesig Aethwy, am archeb i orfodi Isaac Jones, Fron Gaer, Llan- dyfrydog, i wneud traen a chyfleusderau eraill mewn 17eg o dai o'i eiddo vn y Gaerwen.—Rhoddwyd tyst- iolaeth gan Mr Edward Jones, arolygydd y Cynghor, i'r perwyl ei fod wedi ymweled a'r tai ar y 18fed o Ionawr, 1898, a chanfyddodd fod y draen a'r tai allanol wedi eu tagu, yr hyn oedd yn niweidiol i iechyd. Gwnaeth adroddiad i'r Cynghor ar yr 28ain o Ionawr, 1898, ac anfonodd rybudd i'r diffynydd, ar archiad y Cynghor, ar Chwefror 2il yn yr un flwydd- yn. Ymwelodd a'r tai drachefn tua'r Nadolig di- weddaf, ond nid oedd dim wedi ei wneud. Gwnaeth adroddiad pellach i'r Cynghor ar v 30ain o Ragfyr diweddaf, a gorchymynwyd lddo gymeryd gwys allan yn erbyn y diffynydd.-Dywedodd y Diffynydd fod y traen wedi ei gwneud yn iawn dair gwaith ar ol iddo dderbyn y rhybudd oddiwrth Mr Edward Jones. Rhoddodd y "contract" i wneud yr hyn oedd JTI angenrheidiol i ddyn o Landyfrydog, am 40p, mor bell yn ol a. thair blynedd i'r liaf nesaf.—Y Cadeir- ydd Rhaid i chwi gario'r "contract allan. Mae'T Fainc yn gorchymyn i cnwi wneud yr oil sydd yn angenrheidlol mewn 28 o ddyddiau.Diffynydd: Dau ar bymtheg o honynt mewn amser mor fyr!- Gorchymynwyd iddo dalu'r costau.—Dywedodd yn- tau yr anfonai ddyn yno dranoeth. Bywyd Priodasol Annedwydd.—Ceisiai Mr S. R. Dew archeb yn erbyn Thomas Owen, Yr Hendy, Penrhoslligwy, tuag at p-nbaliaetli ei wraig, Ellen Owen, yn awr o'r Gadlys, yn yr un plwyf. Dywed- odd eu bod wedi priodi yn haf 1898. Yn flaenorol i hyny yr oedd Mrs Owen yn ngwasanaeth Mr Hughes, Cafnan, Cemaes, a dechreuodd y diffynydd ei chains drin hyd yn nod ar ddiwrnod y briodas. Ar eu ffordd gartref gofynodd am ei llyfr banc, ond dywed- odd hi nad oedd ganddi arian. Yna ciciodd hi, a gwnaeth yr un peth dridiau wed yn.—Dywedodd Mrs Owen ei bod wedi ymbriodi a'r diffynydd rhyw dair wythnos cyn Glangauaf y llynedd..Priodwyd hwy o Gafnui, lle yr oedd hi yn gwasanaethu fel "house- keeper." Ar noswaith y briodas aeth y diffynydd gyda. hi i Gafnan, ac yr un noswaith rhoddodd gic iddi yn ei chlun. Aeth ef am gartref foreu dranoeth, ond arhosodd hi am byfhefnos arall JTI Nghafnan. Yna aeth i'r Hendy at ei gwr. Tarawodd hi y noson i hono. Arferodd drais ati y diwrnod cyntaf yn y beudy tra yr oedd hi yn godro. Gofynodd iddo fwydo y gwartheg. Yna gaftelodd ef mewn pig- fforch, a dywedodd y byddai 111 yn gorph. "cd y taflodd "swedes" ati, un o ba rai a'i tarawodd ar ei chefn. Ar ol hyny aeth i'r ty gyda phiser o laeth i'r llaethdy. Dilynodd y diffynydd lù, clodd y drws, a gofynodd "Leiciech ch'i gael chwaneg, a dech- reuodd ei chicio ar ei chlun dde. Gafaelodd yn ei braich chwith gyda'i ddanedd, ac anafodd hi. Yna ciciodd hi. a churodd hi ar ei chefn. Cieiodd hi dra- chefn dair wytlmos yn ol. Gofynodd iddo symud sachaid o "Indian meal." Dywedodd yntau y gwnai, a gofynodd iddi hi ei gjTiorthwyo i'w gael ar ei chefn. Yna gollvngodd ef ar ei hystumog. Aeth hi i'r llaethdy. Difynodd ef hi yno, tarawodd hi i lawr, a chiciodd hi ar ei hochr chwith a'i chlun chwith. Boreu dranoeth, tra yr oedd hi yn godro, daeth y diffynydd yno, a cheisiodd daflu y fuwch yn ei herbyn, ond llwyddodd hi i godi. Dywedodd y byddai hi yn gorph os nad aethai oddiyno. Mewn canlyniad L hyny. aeth gartref at ei mham, lie JT oedd jn aros byth er hyny. Dangosodd jr marciau ar ei chorph i'w chwaer. Yr oedd arni ei ofn, ac nis gallai fyw gydag ef. Gweinyddwyd arni gan Dr. Williams, Llangefni. Amaethwr oedd ei gwr, ac yr oedd ei fferm 'wedi ei stocio yn dda.—Croes-hol- wyd: Ciciodd hi ar ddiwrnod ei phriodas. Cyn ei phriodas, dywedodd mai lOp oedd ei ddvled: ar ol jr briodas, canfyddodd fod ei ddyled yn llawer mwy. Ni alwodd hi enwau arno ar unrhyw adeg. Gafael- odd ef mewn llytlyr o'i heiddo. a. threiodd ei daflu i'r tan. Cymerodd hi afael ynddo. Gof- ynodd ef iddi beidio ei ddangos i neb. Gwaeddodd "Mwrdwr" er na chyffyrddodd hi vnddo. Yr oedd arni hi cisiau gwybnd cynwys y Uythyr yn ogystal ag yntau, ac yr oedd arni eisiau cael ei ffordd ei hun yn y ty. Yr oedd ganddi hi gymaint o hawl i weled ei lythjrau ef ag oedd gan- ddo ef i weled ei llythyrau hi. Ar rai adegau byddti ei gwr jyn hollol orphwj'll. Nis gwyddai paham v gwaeddai mwrdwr. Oedd. yr oedd hi gan Honydded a'r oen. Ni chiciodd hi ef erioed-ni chododd ei throed ato chwaith. Nid oedd yn cofio iddi geis.o ei lindagu, ac ni redodd ar ei ol gyda. sospon (chwertliin). AT adegau byddai yn codi o ochr arall y bwrdd,;ic yn chwythu ei anadl i'w gwyneb. Cofiai v ci oedd gan ei gwr, ac arferai ei ati. ^Ni ofjTiodd iddo saethu y ci, ond dj'wedodd ef y gallai gael rhj-wun i'w saethu. Ni chlj'wodd ef j-n dweyd "Ellen, yr ydych vn ddigon i'm gwneud i gvmeryd rhaff a, chrogi'fy hun" (chwerthin). Ac nid atebodd hi y "buasai ynei helpu i dynu yn y rliaff" (chwerthin adnewyddol). Aeth hi oddiyno yn ystod absenoldeb ei gwr o'r cartref. Arhosodd -no, gan y disgwyliai ef gartref oddeutu saith o'r gloch, ond nid oedd wedi dvclrwelyd am lianer-awr wedi naw. Efe ddywed- odd wrthi am fyned odd iJTI o. ^i ddaeth hi yn ol \T un noswaith.—Rhoddwyd tystiolaeth ategot gan Mary Owen (ei chwaer), a Thomas Owen. Gadlys (ei brawd).-Dr. Williams. Llangefni, a ddywedodd fod Mrs Owen wedi galw arno ef ar y 4ydd cyfisol. Canfyddodd gleisiau ar ochr allanol ei chlun dde, ac eraili ochr allanol ei choes chwith. Yr oedd hefyd gleisiau ar ei braich, ac ar y "pelvis." Yr oedd un clais ar yr ochr fewnol i'r glun arall, ac un arall y tuf(?wn i'w phenglin.—Dj'wedodd Mr Huw Rowland fod hwn yn achos anghjifredin iawn. Gofynid iddynt gredu fod y diffjnydd wedi gwneud yr ar- J. chollion y cyfeiriwyd atynt gan ddechreu ar ddydd eu. priodas, a r cwbl oherwydd nad oedd gan y wraig a^8in yn y banc. Yr oedd yr oil stori yn anghred- adwj*. Nid oedd am ddadleu na fu anghydwelediad rhjTigddyntj ond yr oedd y wraig yn ddigon hen edrych ar ol ei hun. Yr oedd v diffynydd yn ddyn tawel, di dramgwydd. Yna rhoddodd y Diff- ynydd dystiolaeth, yn mha un y gwadai ei fod erioed wedi cicio ei wraig. Pan gododd ei droed ar vr am- gylchiad y cyfeiriodd hi ato, nid oedd ond ychydig o ysmaldod. Gofynodd am weled ei llyfr banc. Nid oedd ganddo reswm dros gredu fod ganddi hi un; nid oedd eithr yn ysmolio. Cododd vr anghyd- welediad cyntaf parthed ewyllys ei dad-yn-nghyf- raith. Tybiai hi ei fod ef yn cael mwy nag a haedd- ai. Un boreu ceisiodd In daflu cwpanaid o de poeth yn ei wyneb. ,Ar achlj^sur arall ceisiodd ei lindagu a'i daraw jm ei ben a sospon, yr hwn a ddisgjnodd ar ei ysgwydd. Ceisiodd hi ei daraw ar ei ben gyda cbauad pren. Gafaelodd ynddi mewn hun an- amddiffyniad, ac yna agorodd hi ei dillad a dangos- odd glais ar ei bron. Dangosodd amryw gleisiau, ond nid achosodd ef JT un o honynt. Synodd jn fawr pan welodd hwynt. Nid oedd jn wir ei fod wedi hysio'r ci ati. Dywedodd wrtno "Wrth gwrs, yr wyf yn myned i'r Farn, a chwi fydd fy llofrudd!" Ni cheisiodd ei lladd gyda'r fllwch (chwerthin). Nid oedd ganddo JT un drychfeddwl o'i niweidio, canys nid oedd eithr yn m\ned a bwyd i'r fuwch. Yr oedd yn cofio dweyd wrthc ei bod yn ddigon i'w wneud i grogi ei hun. a dywedodd hi y caffai bleser i dynu yn y rhaff (chwerthin). Nid oedd erioed wedi ei churo, na gafael ynddi, oddigerth mewn hunan-amddiffyn- iad.—Croes>-holwyd Yr oedd yn rhaid iddo amddiff- yn ei hun amryw weithiau. ond ni chymerodd y ci i'w helpu. Yr oedd hi yn ddyeithr i'r ci pan ddaeth i'r Hendy gyntaf. Fe gododd ei droed ddiwmod eu priodas, ond fel tipyn. o ysmaldod y gwnaeth hyny. Celwydd mawr ydoedd dweyd ei fod wedi ei briwio. Nis gallai ddwevd pa fodd yr achoswyd hwy, ac nid oedd am ddweyd mai hi ei hunan a'u gwnaeth.— Wedi jmgj'nghoriad bjrr, dychwelodd yr ynadon i'r ll. a, dywedodd y Cadeirydd Dim archeb. Yr Achos Tybiedig o Greulondeb at Blant.—Ym- ddangosai yr Arolygydd Rowlands, o'r Gymdeithas er Atal Creulondeb at Blant, yn nglyn ag achos David a Margaret Roberts. Ty'nlon Cottage, Llan- ddanielfab. Dywedodd fod ychydig welliant er pan fu yr achos o flaen y Fainc, a thaflwyd yr achos allan. Dim Trosedd.—Cj'huddwyd Thomas Thomas, Ty Mawr, Llanfair M.E., gjTda chamj-mddj-giad, a. gwrthod myned o'r Minydon Hotel, Llanbedrgoch, ar Chwefror 13eg. Cyfaill Gwael.—Cj'huddwyd Thomas Davies, o Rhostyllen, Gwrecsam, gyda lladrata pum' par o "socks," dau grys, 31 pwys o rawn, un tywel, cyllell, a "stopper" pibeD. gwerth 10s lle, eiddo James Mac- Donald, pedlar teithiol.-Dywedodd yr Heddgeidwad Hugh Williams (Pentraeth) ei fod wedi cael lysbys- rwydd o'r lladrad foreu Sul, a chafodd afael ar y carcharor ychjxlig wedi dau o'r gloch piydnawn JT un dj'dd jn. Kavanagh's lodging-house. Dean-street, Bangor. Yr oedd y ddau wedi cael caniatad i gysgu mewn jrsgubor berthynol i Pias Elwa, Llanbedrgoch, a chododd y carcharor o floen ei gyfadH, a diflanodd gyda'r nwyddau uchod.—Dedfiydwyd ef i 14eg diwrnod o lafur caled.
[No title]
PENRHOSLLIGWY. Priodas.—Dydd Mawrth, N-n Nghapel Dinas, Llan- gefni, gan y Parch Robert Thomas, Llanerchymedd, priodwyd Mr William Lloyd Hughes, unig fab Mr Lloyd Hughes. Belle Vue Hotel, Upper Bangor, a Miss Elizabeth Owens, mefch hynaf Mr William Owens, Rlios, PenrhosEigwy, Mon. Yn y Belle Vue Hotel y tynhaliwyd y wledd briodasol, ac yn y prydnawn aeth Mr a Mrs Hughes i dreulio y mis mel i Lundain. Derbjniasant nifer fawr o anrhegion defnyddiol a gwerthfawr.
---------------TRAETH COCH.
TRAETH COCH. Llanw Ang hyffredin o Uchel.—Yr oedd y llanw yn eithriadol o uchel yn Traeth Coch, fel mewn manaa eraill, wythnos i'r Sul a'r IJun diweddaf. Yr oedd mor uchel yn Traeth Coch fel ag yr oedd wedi gorchuddio Pont y Foryd, ac jn dylifo dros y Cob i'r tai. Yr oedd mewn pedwar o dai vn llat-hen a naw modfedd o ddyfnder. Yr oedd golwg ddifrifol iawn arnynt, yn enwedig ar ddau o honynt, sef dau dy dwy hen wraig weddw ar y plwyf. Yr oedd eu gwelyau yn nono ar wyneb y dwfr, a phob peth oedd yn y ty wedi codi i nofio, ac felly am ddau ddiwrnod, a'r tai yn hen dai a llawr pridd ganddynt. Chwe' bfynedd ar hugain y bu y mor yn gyffelyb o'r blaen, ond nid mor ucliel ag y bu y mis hwn. Mae'n dda fod y gwjnt o'r fan lie 'roedd. Pe buasai yn dig- wydd troi yn ddwjTrein-wynt cryf yr ydym oil yn credu na fuasai un ty wedi sefyll ar laiiau Traeth Ooch. Buasent oil wedi cael eu tynu yn llwyr l r llawr, ond mae'n dda fod y gwynt o'r fan lie yr oedd er ein lies ni yn Traeth Coch. Yr oedd yn cjThaedd am filldir o ffordd i gyfeiriad Pentraeth ar hyd Afon y Foryd, ac yn gorchuddio ugeiniau o aceri o dir. Gwnaeth lawer o golled i rai yn Traeth Coch,- O. H. E.
|Aelwyd y Gan.
Aelwyd y Gan. ER COF AM FACHGEN IEUANC GOBEITHIOL. Addfwynder emai'i feroe.os hunodd Deil swynion ei geinfoes Heb wyTedd purdeb eirioes, Gwawr Nef wen goronai'i f oes. MACHRAETH MON. ENGLYNION: MIS RHAGFYR. Rhagfyr, ei j-stjr gwasbd-hoewych wyl, Dychwelydd ein Ceidwad l Mis oeraf mewn amseriad, A rhew yn glo ar ein gwlad. Yr haul ar hynt yn rhywle.-ydyw mae Wedi mjn'd o'i gartre' I wylaed gwlad anaele, Trigolion duon y de. Y lleuad weithiau'n llawen-anwadal Yw nodau y feinwen GWJTyf ffals yn gwyro'i phen, Rhy wylaidd i wawr heuiwen. Dol a gardd, a'u dail g'.ryrddior.—hyd y maes Wedi myn'd yn llwydion; Eu gwreiddiau a'u brigau bron Mor welw a marwolion. Tro dy olwjn, tyr'd eilwaith—haul enwog, I hnw'r hen gjdehdaith Nid gwybod wyf, ond gobaith, Y gyr Duw ei gawr i daith. Na. chwynwch os cewch hancs-y fjnwent, A tinau mswn lloches Y tyner Haul daena'i wres, Er fy mwyn, ar fy rnynwes. LLWYDFRYN HWFA. CWYN OOLL. I Cyflwynedig i'm cyfaill, Mr Hugh Williams,Rowland- terrace, Caergybi, yn ei drallod. Gwir adwyth chwaer garcdig—wedi myn'd, 0 mae 'ma. le chwithig 'D aeth 'run i bridd fwy diddig,—fwy. difai,'i Hyfwyn dy gadwai mor fendigedig Y wyliadwrus law dirion—wywodd, Er hoewed ei throion, Trwy wae erch mae y rhaid, rhoi hon o 'ngolwg yn tori nghalon. Addolai lor, un dduwiol iawn—jrdoedd, Nodedig o ffyddlawn A Hef Duw, yn 11 if ei dawn, Wnai f enaid yn fwy uniawn. Caergybi. TREFLYN. LLYN COROX. Llyn Coron, hen, anwyl Ljn Coron, Mae sWJ-n yn dy enw I mi, 'Does unman ai- wn-neb y ddacar, MWY,a.Ilwyll ill goh,g na thi: Mor ddifyr cael treulio riiyn- orig, I rodio dy lenydd iach glan Ac eistedd ar garcg i wrando Murmuron dy wiw conau man. Llyn Coron, hen, anwyl Lyn Coron, Wrth feddwl am danat daw llu 0 gyncs adgolion, a, hiraeth I'm meddwl, am amser a fu. Pan rodiwn dy Ienydd. yn nghwmni Hen ff rind iau. o-yddanu, a lion A'r adar yn canu nes codi Rhyw ffrwd o hjfiydwch i'm bron. Llyn Coron, hen, aiiwjrl Lyn Coron, Mor ddifyr ar noswaith o haf, Mewn ewch hyd dy NejTfcb yn uofio, A sugno yr ó1WC! iach, Draf A gwylied yr haul yn rru.chhido, A mar.tell yr nwjTddj-da yn dod Mae pobpeth o'th amgj'lch yn dangos Mai Duw sy'n rheoli y rhod. Bodorgan. MONFAB.
[No title]
Nis gellir enill buddugolia^-th fwy gogoneddus ar (tdjrn ar.ul na hon—sef, pan y bydd y niwed wedi dechren. o'i du ef, fod i'r caredigrwydd ddechrcu ar ein tu ni. Fe wna, plentyn iach ly-ncii--yli ystod y flwyddyn gjntaf o'i fywyd—bedwar cant ar ddeg o bwysi o laeth, Yl1 yr hwn y mae un ar hugain o gaws, deg ar hugain o yniepyn, a chant a deuddeg pwys o sugr. Yn y rhan foreuof o deyrna-siaii Hsrri JT Wythfed, I. cospid a marwolaeth y neb a. ddysgai y Deg Gorchy- myn, neu Gredo yr Apostolion, yn jaith y wlad. Am y trosedd hwn, llosgwyd chwech o ddynion, ac un ferch, yn Coventry, Ebrill 4ydd, 1519.
CAERNARFON. !
CAERNARFON. Gwaeledd.—Bydd yn ddrwg gan In edmygwyr y bardd a'r cerddor tdnibvddus Eos Bradwen glywed ei fod yn ddifrifol wael. Eiddunir iddo adferiad buan at ei ysgrifbin cyfoethog. Cymdeit-has Lenyddol Siloh.—Nos Fercher, y Parch J. E. Hughes, M.A.. yn y gadair. darllenwyd papyr gan Mr R. W. Prichard, Coed Marion, ar "Amaethyddiaeth yn ei gysylltiad a ffon ein bara." Llwyddiant.—Allan o nifer lluosog o ymgeiswyr, enillodd Mr Robert Edwards, Rose Mount, y bed- waredd gwobr, gyda, v.h.c., yn Arddangosfa Adar y Crystal Palace. Llwyddiant Eto.—Bydd yn llawenydd gan lu ed- mygwyr Mr J. P. Gregory (ieu.), mab Mr George Gregory, glywed ei fod wedi ei benodi yn "Associate of the Institute of Electrical Engineers," yr hyn a ddyry hawl iddo i r llythyrenau A.I.E.E. Ti-engl)oli,id.Dydd LIun cynhaliwyd trengholiad a.r gorph Mrs Elizabeth. Owen, Pool Side, yr hon a ddarganfyddwyd wedi marw, ddydd Sadwrn, yn ei gwely. Caed tystiolaetli ei bod yn dioddef oddiwrth -guriad y galon. Dychwelwyd rheithfarn o farwol- aeth oddiwrth amgylchiadau naturlol. Dramatitidd.-N-osweitliiau Mercher a Iau bu cwmni adnabyddus Mr T. R. Nugents yn difyru cynulleidfaoedd lluosog yn y Guild Hall. Cived gwledd a hir gofir. Cor Meibion Eryri.— Nos Iau, yn y "pavilion," ymgynullodd tyrfa luosog er clywed y cor enwog sydd yn bwriadu myued i Lundain i dynu v dorch o dan axweiniadaeth alluog Mr John Williams, organydd ,g Eglwys Crist. Aed. trwy y rhaglen ganlyno "Gwyr Harlech," Choir (arranged by J. Williams). "Y Dvmhestl," Mr R. R. Thomas. Song, "Niagara," Mr J. O. Morris. Song, Miss M. M. Jones, a. bu rhaid iddi ail ganu. Chorus, "Glory and love to the men of old," Choir. Song. Mr Thomas Patia-n Ro- I berto. Chorus, "Dewi, bydd wYSl (test piece), a chanusant vn ar dderchog. Anercniaa gan y Vaa" eirydd, y Maer (Dr. Parry). Chorus, "Nyni yw'v meibion cerddgar, Choir. Song, "Rage, thou angiy storm. "Y ddau foi-wr," y Meistri Peris Jones a J. 0. Morris. Song,Mr Yaughan Davies,a bu raid iddo ail ganu. Song, Miss M. M. Jones (encore). Song, Mr David Hughes. Chorus, "Recognition of Land." Choir (test piece), a chaed gwledd leisiawl a hir gofir. Yr otferynydd ydoedd Mr Richard Pritcliard. Dygwyd y gweithrediadau i derfyniad trwy i'r Lor ganu "Hen wlad fy nhadau'' a "Duw gadwo'r Fren- hines," a'r dorf yn cyduno yn y gydgan. Llys yr Ynadon Sirol.—Dydd Sadwrn, o flaen Mr Menzies (yn y gadair) ac vnadon eraill, cyhuddwyd ) Thomas Jones o ymyryd a chysur teithwyr tra yn y gerbydres rhwng Caernarfon a Llanwnda. Ym- ddangosai Mr Fenna i erlyn dros y cwmni, gyda Mr H. Lloyd Carter dros y diffynydd, yr hwn a gyfaddef- odd ei euogrwydd. a datgan ei ofid am y digwyddiad. Cosp, lp.—S. J. Owen, commercial traveller, Dol- o-eliey, a gyhuddwyd o drafuelio rhwng Cliwilog a Penygroes heb docyq. Erlynai Mr Fenna ar ran y cwmni, tra yr amddiffynai Mr Caiter. Cafodd y Fainc vr ;iilltldiffyiiydd yn euog, a dirwywyd ef i 10s ar costau.—Cyhuddwyd Griffith Jones, chwarel- Wr, o drafaclio rhwng Penygroes a Chwilog heb dos'yn. Addcfodd yr ;imddiffynydd ei fod yn euog, a dirwywyd (f i 10s a'r costau.—Cj'huddwyd Eben- ezer Jone" o iod yn feddw yn Ngorsaf Penygroes ar noswaith v Naxlobg, ac o ddefnyddio iaith anweddus. Cosp, os a'r costau am feddwdod. a 10s a'r costau am yr ail gyhuddiad. Cwymp Hynod.—Cyhudd- wvct Richard Williams, dyn o wisg dlodaidd, o lad- ratil y swm o 3s 6c, eiddo Mr Kichara Parry, glo fasnacliydd, Felinheli. Caed tystiolaeth i'r perwyl fod yr amddiffynydd wedi cael gofyn iddo gan Richard Parrv i wneud rnai o'i gyfrifon i fyny. Rhoddodd 3s 6c i'r amddiffynydd i fyned i Gaernar- fon i brynu "ledger,' ond ni ddvchwelodd yn ol, a cliymerwyd ef i'r ddalfa. yn Llangefni gan y P.C. Jones. Addefodd ei fod yn euog, a'i fod wedi cael eychwyniad da yn nechreu ei fywyd iddo gael ei brentisio gan ei fam weddw i'r North and South I Wales Bank, LerpwL Bu yn gwasanaethu yn Caer- i gybi, a llawer o ganghenan eraill i'r ariandy, ond ei fod yn ei sefyllfa breeenol trwy y ddiod. Tros- glwyddwyd i'r Fainc gj-fros o euogbrawfion blaenorol yn ei erbjTi, ac anfonwyd ef i'r carchar am fis gyda llafur caled. Chwarelwyr Esgeulus.—Cyhuddwyd Owen Davies ac Owen Morris, dau o weithwyr Chwarel Alexandra, gan eu meistradoedd am dori y rheolau trwy gadw "detonators" a "dynamite" yn yr un blwch. Erlynid gan Mr Carter, yr hwn a ddy- wedodd nad oedd gan y perchenogion yr un dym- uniad i bwyso y cyhuddiad yn mliellach na gwneud esiampl o'r amddiffynyddion i'r gweithwyr eraill. Cosp, 2s 6c a'r costau.
[No title]
CEMAES. Marwolaeth Hen Drigianydd. Boreu dydd Mercher, y 15fed cyfisol, bu farw Mr John Jones, Ty n-y-Gate, wedi saith wythnos o gystudd. Er fod gwely cystudd yn "dir dyeithr" (tel y dywedai) ni rwgnachodd ddim, ond yr oedd yn hollol ym- ostyngoL Yr oedd yn dda ganddo weled pawb yn ei gystudd ymddyddanai yn siriol, er fod arwyddion amI wg fod y diwedd yn neshau. Pan ofynwyd iddo gan un brawd crefyddol a oedd y gwely yn gwneud rhyw les ysbrydol iddo, atebodd "fod yn rhaid cael crefydd cyn dod i'r fan yma" (sef gwely cystudd). Hunodd yn dawel yn mreichiau ei Waredwr y boreu crybwy 1 ledi g, wedi gofal tyner ac anwjd ei ddwy ferch a'i briod. Yr oedd John Jones yn gymeriad pryd- ferth iawn, gonest, didwyll, a chrefyddol. Yr oedd yn gymydog caredig a dihoced. Teimlir chwithdod mawr ar ei ol. Yr oedd yn un o hen ffyddloniaid Eglwys Bethania, Tregela, ers blynyddau lawer, yn Uanw ei le yn ddifwlch yn y dirgel a'r cyhoedd. Yr oedd yn hen gymeriad y geliid ymddiried ynddo; yr oedd ei unplygrwydd djTnunoli yn peri i bawb iyned yn hoff o honi. Ni ddyferodd enllib erioed dros ei wefus ar enw neb. Claddwyd ei weddilhon yn Mynwent Bethesda (M.C.), Cemaes, dydd Sadwrn diweddaf. Gwasanaetliwyd yn y ty gan y Parchn. D. Marriott a H. Williams; yn y capel gan y Parch Henry Williams a Mr John Williams, Bethania, ac wrth y bedd drachefn gan y Parch H. Williams. Bydded i'r Arglwydd gysuro y teulu yn eu profedig- aeth lem, a llanw'r bwlch sydd yn Bethania ar ei 01.