Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

Rhys Dafydi Sy'n Deyd-

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Rhys Dafydi Sy'n Deyd- Ei fod wedi derbyn a ganlyn —Mewn' atebiad i'r gohebydd Hugh Pritchard, Plas Llanligael, mai enw y plwyf hynod hwnw y mae yn son am dano yw Llanllibio, yn Mon. Mae yn terfynu ar y plwyfydd Bodedern a Llanligael, ac y mae yna gareg wedi ei chodi er coffadwriaeth am yr eg- lwys yn nechreuad y ddeunawfed ganrif yn nghanol mynwent yr hen eglwys, yr hon sydd i'w gweled mewn cae perthynol i Ty'n Llan yn y plwyf dan sylw." Ei fod wedi cael dyddordeb mawr yn hanes y ddwy ferch ieuainc hyny heb fod yn mhell o ben- tref B-. Ei fod yn deall eu bod wedi cael gwledd ar- dderchog y prydnawn hwnw. Mai fel y eanlyn y canodd y bardd iddynt: — Chwi, ferched ieuainc tirion, Yn fawrion ac yn fan, Eh of gynghor ichwi'r awrhon Mewn gair neu ddau o gan; Os byth y digwydd eto I chwi gael gwadd "to tea," Dymunwn ichwi actio Er enill parch a bri. Mai gwell yw cymod pawb na'i gas, Serch i'r forwyn garu'r gwas. Fod bugail G- yn ffaelio ihoi llaeth i'r oen heb help y forwyn. Piti! piti! Fod W- yn treio cael hwyl gyda J- trwy hel coed tan iddi hi. Wei done frawd. Fod parotoi garw yn R- gogyfer a'r gystad- leuaeth. JJ1.ai ail i Chicago fydd hon. Hei lwc Fod y ferch ifanc hono o G- yn credu y bydd yn fuddugol ar y "tie" goreu trwy ei bod yn ad- nabod y "chap" sydd yn rhoddi y wobr. Felly'n wir. ? Fod y saint yn y V- wedi cael gwledd y Sul or blaen wrth wrandaw un o gewri y pwlpud Cymreig yn pregethu. Fod rhai o wrageddos y fro yn dweyd J drefn na buasai y cyhoeddiad wedi ci roddi i ryw un yn dechreu pregethu. Fod yn amlwg na wyddent fawr am bregetli na'r pwysigrwydd sydd yn nglyn a'r gwaith o bre- gethu pan yn siarad fel y maent o dy i dy y dydd- iau hyn. Fod cor y V- yn llawn haeddu yr englynion canmoliaetliu.^ yn y rhifyn diweddaf. Fod y cor a'i olwg ar bedair os nad pump o wobrau pwysig o hyn i'r Pasg. Mai. dal i gerdded y tai i hel chwedlau am eu cymydogion y mae rhai o wragedd Ll- Mai dyma y rhybudd olaf yr wyf am roddi iddynt cyn gwneud eu henv. au yn h-vsbys. I Mai tro gwael iawn ydoedd taro yr hen wr parchus a thawel hwnw. Fod pawb a'i hadwaenai yn teimlo yn arw iawn drosto, a gwyr pawb ei fod yn nodedig am ei am- ynedd a'i dymer dda. Ei fod yn resyn gan y rhai oedd gerllaw ei glywed yn dweyd pan gododd mai dyna y tro cyn- taf iddo gael ei daro er pan oedd ef yn hogyn bach yn yr ysgol. Fod yn bur hawdd gan bawb ei goelio a thei- lynga y teitl o "peacemaker" yn hytrach na dim arall. Mai wedi'r cyfan teneu dros ben vdoedd y gyn- j ulleidfa yn y cyfarfod dirwest, Ffei, ffei. "GwelI yw esiampl na gorchymyn." Fod un hen wron ffyddlon a da yn y cyfarfod, er yn ddeg a phedwar ugain oed, a golwg iawn oedd arno hefyd. Mai un o'r hoelion wyth ydyw, ac fod yr hoel- ion llai wedi aros gartref am fod y dywydd dipyn yn afrywiog. Fod yna ddau neu dri o'r dychweledigion at sobrwydd wedi synu gweled cyinaint o seti gweig- ion, ond eu bod yn benderfynol o ddal yn gadarn trwy'r cyfan, gan m;\i llawer iawn gwell ydyw. Nad ydyw Syr John Heidden yn liidio nac yn malio yn y "three R.'s. Do the right thing at the right place and at the right time." Amirliefn yw ei "fotfco." Fod un o brenti-siaid ardal neillduol wedi myn'd xua r orsaf y noson o'r blaen i ddisgwyl y feistrea adref, ac, wedi disgwyl nes oedd wedi blino, aetli 9 i le cyfagos i lettya tan y boreu, ac iddo gysgu nes oedd pob tren wedi myn'd. Piti, piti. Fod yr hen Rhys am vitiv, cled a'r lie yn o fuan. Felly, look out, hoys! Fod carwr o Ll-- dan yr angenrheidrwydd o wneud i ffwrdd a'i fwstas anwyl yn ddiweddar, ;gan fod goruchwyliaeth y cusanu yn myn'd yu mlaen mor ami, a'r fenyw lan yn protestio yn erbyn y fath frwsh ar ei gwyneb tyner Ei fod yn swclyn garw yn myn'd i'w chyfarfod ySul diweddaf i lan y Fenai "with his clean .shave." Fod mwy o gusanu wedi cymeryd lie yn eu lianes y dydd hwnw nag a fu erioed o'r blaen. Fod yr hen ferch hono wrthi hi yn brysur iawn y dyddiau hyn o dy i dy yn hel ys- itraeon am ei chymydogion. gion. Mai ei hoif waith ydyw dweyd pa sut y mae ;gwyr a gwragedd yn byw gyda'u gilydd. Mai gwell fydda i bawb beidio rhoddi derbyniad i'r fath yma os nad ydynt yn hoff o chwedleuon Os na bydd diwygiad caiff ei henw hi, yn xigliyda'r holl rai sydd yn ei chynwys, weled goleu .dydd rai o'r dyddiau nesaf yma. Ei fod am alw heibio yn bur fuan. Look out, yr hen ferch. Fod y "penny reading" yn flodeucg iawn mewn pentref bychan yn Mon. Fod lie cryf i gredu fod y merched ieuainc hyny yn benderfynol o amddiiiyn eu iiunani au lieg- wyddoriun. Well done. Mai peth reit dda fuasai rhoi ffyn ar gefn y •gvveilch hyny o ardal M Mai pleser fydd gan Rhys sypleio ffvil 1 r merched os hvdd arnynt eisiau arfau amddiffynol. Mai nid achos i wneud sport o hono ydoedd y mor yn T- C-, ond achos o ddifrifoldeb anawr. F"d yr amser yn rhy fyr yr wythnos hon i <ldvverd d:m ar yr achos tan yr wythnos nesaf. Roedd y mor yn uchel iawn Yn nglanau y Traeth Coch, Sef Sul cyn y diweddaf, Pan oedd hi'n un o'r gloch R()edd yno bobl hefyd Yn speitio'r ffasiwn beth Ond cofiweh, anwyl Rhys, Cewch 'rhanes yn ddifeth. Peth mawr oedd gweled dwr Yn llenwi yr holl dai, A'r bobl'n aros allan HY(i nes y I)o hin drai A phobl wed'yn, cofiwch, Yn chwerthin am eich pen Ond edifar iddynt fydd Rhof bwys ar "writing pen. Maille poeth iawn sydd yn stryd S y dydd- lau, hyn. Fod pobl barehus y lie yn myn'd round rhag clywed iaith y cannibaliaid. Fod M.P. yn rhoddi desgrifiad gwrthun o'r hen lane: — Er hyny gwell geni yw byw'n hen lane A chrafu bob ceiniog 'rwy'n fachog fel crane, Heb neb i wastraffu a gwario fy mhres Am flodau a rubanau a phethau diles :Mac'r merched'n feilchion, Moes modd tori gwanc, 'Rwy'n diolch i'r Nefoedd fy mod'n hen lane Gochelwch bob gradd. Chwi glywsoch am Mari,merch giwt Brynystwr, Bu bron iddi dynu dau lygad ei gwr, A'i gicio a'i faeddu, wyr neb faint ei gwyn, A'i daro a'r procer rhyw dro ar ei drwyn, A'i alw'n bob henwa, mi glywais 'rhen bits, Ac edliw ei deulu, ond toedd hi'n hen wits 1 Gochelwch, etc. Mae rhai merched diog, maent ddigon o bla, Yn ffeilsion, yn flinion, yn bpbjpeth ond da; A'r tafod yn ysgwyd, 'does dicnon cael twrn, Waeth geiii tae'r lluaws yn nghanol y ffwrn Wrth edrych ar bethau fel maent, coelia fi, Paid rhoddi dy gynghor ddim rhagor, M.P. Gochelwch, etc. Chwi glywsoch sut darfu, pan ofynodd Die Prys I'w wraig roddi botwm ar goler ei grys, Aetli hono'n wallgo, o'i safn rhedodd poer, 'Roedd Mari'n hollol dan ddylanwad y lloer Caraswn o'm calon fflangellu'r hen stwmp A chwip dalcn poethion ar draws ei hen grwmp. Gochelwch bob gradd, Gochelwch bob gradd, O, peidiweh priodi, Rhag ofn cael eich lladd. BARCUD. Fod hwyl reit dda yn ardal 11-- yn nglyn a'r cyfarfod cystadleuol. Fod Gwladys yn anfon am y tro diweddaf yn awr i'w hen ffrynd, R. y P. "Anwyl Mr Rhwng y Pust,-Atebaf chwi eto fel gwrthddrych tosturi. Os gallwch wybod rhywbeth 'gyda haner pen,' fe wyddoch nad oes pall ar dafod merch. Gwaith anhawdd iawn ydyw cael y gair diweddaf ganddi. Felly gwel- weh mai peth greddfol ynom fel rhianod ydyw siarad. Ond nid ydwyf yn bwriadu gwneud ond ychydig iawn o sylwadau brysiog ar eich llythyr. Chwi eich hunan sydd yn tori tir newydd bob tro. Minau fel profwr gwerth yr hyn yr ydych yn ei gynyg i'r farclinad yn eich dilyn, ac mae genyf ddigon o gyffyriau i'ch cyfarfod i ba laid bynag yr eloch. D'wedasoch 'anghofio fy hun.' Da iawn am gyfaddefiad profedig. Dal mewn cof yr oedd- ycli yn wastadol nad oedd neb uwchlaw i chwi mewn dysg, dawn, a gwybodaeth, 'saeth yn llwyddo, myn'd i lawr yn lie myn'd i fyny. A oes cynllun yn eich meddiant i fyned i lawr yn lie myned i fyny ? Os oes, pa sawl gris y mae wedi tynu i lawr ? Taranu twrf, fel gwybedyn ar gorn tarw.' Diffyg synwyr mewn brawddeg. 'Y peth oedd yn y sach ddaeth allan, bobl bach.' 'Llanw swydd uwchraddol.' Y mae fy swydd yn gofyn dim llai na chymeriad dilychwin, gofal ac ymddir- iedaeth drwyadl yn ei chyflawniad. A ydyw swydd uwchraddol y crybwyllasoch am dani yn gofyn rhywbeth yn amgenach ? 08 ydyw, atebed Rhwng y Pust. 'Yn nillad Saul;' yr oedd dillad Saul yn maglu Dafydd; mwy o rwystr nag o gymhorth iddo. Ond am fy nillad i, y maent yn gyfatebol i'm corph. Gallaf eich sicrhau y bydd yn bleser genyf eich cyfarfod i brofi hyny, gan fod amheuaeth ynoch yn y peth hwn fel mewn pobpeth arall. Afreidiol dweyd y gwna dogn o'r hotel broliadol les i chwi; treiwch hi. 'Amddifad o uniform dyma. ni o'r diwedd wedi dyfod at eich hoffus air. Y mae'r bel ydych yn ei lluchio yn taro ar bared heb dwll ynddo. Felly daw yn of at v Iluchiwr. Gan eich bod yn hollol amddifad o addysg, ofer fyddai i mi droi atoch chwi am eglurhad ar y gair 'uniform.' Dyma fel y byddaf fi yn deall y gair: dosbarthiadau o bobl yn gwisgo yr un fath, yr un ffurf, neu yr un wedd. Caniatewch fy mod yn 'policeman:' y wisg am danaf yr un flurf a 'policemen' eraill; neu os 'postman:' yr un ffurf ag eraill. Neu caniatewch fel hyn: os meddwyn wyf, fy ngwisg wedi cochi, ac yn seimlyd, yn garpiog a thlod- aidd yr olwg, ac olion brwydrau caled ar y gwyneb, a'r trwyn wedi cochi a'r dyn yn myn'd i lawr yn lie myn'd i fyny. Hawyr bach, Mr Pyst, gobeithio nad aiff yr un o honom ni i wisgo 'uni- form' fel y diweddaf. Bydd 'uniform' o'r arddull j-l_1 yna yn ddigon i godi gwrid ar wyneoau Leuiu y pwll diw^elod. 'Yr hwn sydd yn sefyll, gwylied j na syrthio.'—Ydwyf yn ddiffuant GWLADYS. | Fod rhyw ferch ieuanc wedi cael ei gyru o'r Band of Hope (A.) gan y blaenor. Fod y teulu doeth hyny wedi dychryn y gwein-1 idog. Nad oes neb mor ddoeth a merched "Mon, mam I Oymru." Ei fod yr wythnos hon am roddi gwaith i'r beirdd ieuainc,a dyna ydyw cyfleu yr enwau can- lynol o'r Hen Destament fel ag i gyfansoddi eng- lyn o g\*nganeddiad cryf —Aaron, Abel, Asa, Asaph, Baalam, Barac, Debora, Gad, Heth, Jere- miah, Ioseph, Miriam, Moses, Ra, a Ruth. I

AMLWCH.

BANGOR.

-------------CAERGYBI.

■CAPELGWYN (Valley). j

GAERWEN. :

I LLANALLGO. I

-----LLANBEULAN.

LLANEILIAN.

LLANERCHYMEDD.|

-! LLANFACHRAETH. !

LLANGEFNI.

[No title]

---------------TRAETH COCH.

|Aelwyd y Gan.

[No title]

CAERNARFON. !

[No title]