Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

26 erthygl ar y dudalen hon

---' -------<----CYNGAAVS…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-< CYNGAAVS AM ATHRODYN ] 11 ERBYN Y "CLORIAN YDD." Y Rheithwyr yn Methu Cytnnn. Yn Mrawdlvs Caernarfon, dydd Mercher, ger- bron y Barnwr Darling a rheithwyr, gwrandawyd cyngaws yn mha. un yr oedd yr achwynydd— Richard Jones, Ifcrmwr, tStabl Bodffurdd-yn hawlio iawn oddiar Gwmni y North Wales Chronicle, Cyfyngedig, Bangor, am ahrJd honedig a gyrnvvsid mevrn adroddiad a ymddangosodd yn y "Clorianydd ar y j 6ed o tIydrd diweddaf. Ymddangosodd Mr J. Bryn Roberts, A. S., a Mr W. Oodwaladr Davies (yn cael eu cyfarwyddo gan Mr W. Huw Row- land) dros yr achwynydd. a Mr E. Honoratus Lloyd a Mr E. J. Griffith, A.fs. (yn cael eu cyf- arwyddo gan Meistri Carter, Vincent, a Douglas Jones) dros y ditfvnyddion. Mr Cadwaladr Davies, wrth agor yr achos, a ddywedodd fod yr achwynydd yn honi ddarfod i'r cwmni diffynol, yn y "Clorianydd" am Hydref 6ed diweddaf, gyhoeddi yr hyn dybid oedd ad- roddiad o apel wnaed yn Llys Ynadol Porthaeth- wy run drwydded ddarpari*lol i westdy newydd yn Bodffordd. Y diifynyddion a bledient "gyfiawn- had," gan haeru nad oedd yr adroddiad yn dal yr ystyr osodid arno gan yr achwynydd. Dilynwyd gaii Mr Bryn Roberts, yr hwn a ddy- wedodd rnai Herinwr oedd yr achwynydd, yn byw yn mhlwyf Bodffordd, Mon. Yr oedd ymdrechfa wedi bod yn y plwyf ers amry»v flynyddau rhv.ng rhai o'r plwyfolion, yn benaf fferinwjr, er ceisio rhoddi pen ar rai o dafarndai y plwyf, tri o ba rai gawsant eu cau ar oi hyny. Yr oedd un o'r rhai hyn yn mhlwyf Bodffordd ac er pan y canwyd ef, pump neu blynedd yn ol, yr oedd amryw geisiad- au wedi eu gwneud yn y llys ynadol i gael trwydd- ed newydd, yr oil o ba rai a wrthwynebwyd gan y plwyfolion. Fe wnacd a.pei, yn Medi diweddaf, i gad trwydded i'r tafarndy neiilduol hwn yn Bodffordd, ac yr oedd yr achwynydd yn un o'r tystion. a alwyd yn erbyn yr apel. Oyhoeddodd y diifynyddion adroddiad o'r apel yn y '"Clorian- ydd," a gwnaethant gyfeiriad at y dull y rhoddes yr achwynydd ei dystiolaeth. Yr adroddiad mewn dadl a draethai: —"Fel y sylwai un, mae yn aniiawdd cael cyflawnder amynedd wrth wran- daw ar ambell i un yn rhoddi tystiolaeth. Yr oedd yno wr (nage. yn wir, hen lane) cyfrifol, i'r hwn y gofynid ei oed, ac efe a omeddodd. Nis gallai gofio, meddai ef, ychwaith a oedd wedi gwrthwynebu yr apel o r blaen. Yr oedd ei gof mor ddrwg. Wedi hir guro, ac wedi i un o'r fainc aiw ei sylw i beidio bod mor 'stupid,' dy- wedai Mr Richard Jones ei fod wedi gwrthwynebu o'r blaen bedair blynedd yn ol Nid vw dynion o r fath hyn yn gwneud dim daioni i eirwiredd y Cymry wrth geisio darnguddio. A pheth mor symi ydoedd." Dadieuai ef fod yr adroddiad yn dwyn cyhuddiad yn erbyn yr achwynydd, yr hwn oedd yn fferznwr parchus, oi fod ar yr achlysur a nodwyd yn ceisio cadw rhywbeth yn ol, a bod ei ymddygiad yn gyfryw ag i adlewyrchu yn an- ffafriol nid yn unig arno ef ei hun, ond hefyd ar y Cymry. Mentrai ef feddwl y byddai yn alluog i brofi nad oedd dim lie i awgrymu fod yna unrhyw betlt yn tueddu i ddwyn cyhuddiad yn erbyn geir- wiredd yr achwynydd yn' y rtodd lleiaf. Y Proffeswr J. Morris Jones, o Goleg y Brif- ysgol, Bangor. a alwyd i brofi ei gyfieithiad i'r 8aesneg o'r adroddiad a furfiai achos y cyngaws. Yn cael ei holi o berthynas i ystyr y gair "darn- guddio," dywedodd oi fod yn llythyrenol yn gol- ygu celu neu guddio darn o rywbeth, ond arferid y gair bob amiei mewn ystyr drwg. Mr Bryn Robertf. a sylwodd fod y gair yn cael ei arfer yn yr ystyr yma yn y Bei'ol, yn Actau yr Apostolion, mewn cysyilliad ag Ananias a Sap- J phira. Yna agorodd Mr E. H. Lloyd yr actios dros yr amddiffyniad. Dywedodd fod yr ynadon wedi gwrthod adnewyddu trwydded y tafarndy hwn yn Modffordd, ac yr oedd yr achwynydd yn un o'r rhai oedd yn gwrthwynebu—ac yr oedd ganddo ber- ffaitli hawl i wrthwynebu—i'r drwydded fodoli. Yna nieddyliodd y darllawyr y buasent yn ail- adeiladu y ty, a cheisio cael trwvdded newydd. Fob tro y ceisiasant hyny credai ef (Mr Lloyd)< fod yr achwynydd yn gwrthwynebu. Yn Medi diweddaf cafodd y darllawyr fargyfreithiwr o Ler- pwl (Mr Madden) i apelio am drwydded ar eu rhan. Yn mhlith y tystion a hol wyd y pryd hyny yr oedd yr achwynydd, cof yr hwn, cyhyd ag yr oedd yn cael ei holi gan ei gyfreithiwr ei hun, Mr Rowland, a ymddangosai yn un o'r rhai goreu, 'ond mor fuan ag yr eisteddodd Mr Rowland i lawr ymddangosai iod rhyw ddiffyg wedi cymeryd lie yn nghof yr achwynydd. Gofynodd Mr Mad- den i'r achwynydd a oedd wedi gwrthwynebu y drwydded o'r blaen. Dilynodd distawrwydd, ac ail-ofynwyd y cwestiwn. Yn y diwedd sylwodd un o'r ynadon am i'r achwynydd ateb y cwestiwn a roddwyd iddo a pheidio bod mor "stupid." Wedi hyny bu i'r achwynydd ateb y cwestiwn—ei fod wedi gwrthwynebu y drwydded o'r lilaen. Yna aeth Mr Lloyd yn mlaen i ymwneud a'r ad- roddiad a ymddangosodd yn y "Ciorianydd." Wrth gyfeirio at y rhan lie y dywedir "nad yw dynion o'r fath hyn yn gwneud dim daioni i eir- ¡ wiredd y Cymry with geisio darnguddio,' dywed- odd Mr Lloyd y buasai ef yn adgofio y rheithwyr fod pobl yn y byd yma—ac yr oedd rhywbeth heb fod yn iawn ynddynt, yn ddiddad!—a aent o ;:m- gylch gan ddweyd ac ysgrifenu nad oedd y Gymry bob amser yn dweyd y gwir, ac yr oedd achwyn- ion wedi eu gwneud yn ei gylch o bryd i bryd fel yr oedd y rheithwyr yn gwybod. Y Barnwr Yn y llyfr y cyfeirix ato gan Mr j Bryn Roberts ccir y gosodiad—pob dyn sydd gehvydd'.g"' fchwerthin). Sylwodd Mr Roberts eu j)otl yn gwrtnwyneou iddo gael ei ddweyd fod y Cymry yn neillduol yn geiw (cliwc-rthip). Mr Lloyd a aeth rhagddo i ddweyd fod ysgrifen- ydd yr adroddiad yn syml wedi ychwanegu ar ddi- vedd ei adroddiad ciriau i'r perwyl ei fod Oll re-syn nad oedd dyn, pan y gofynid cwestiwn syml iddo, yn ei ateb, ac mai petrusdod o'r fath yn lie ateh a roddai fod i waith pobl yn gwneud sylwadau o berthynas i'r Cymry. Yna rhoddwjd t-, stiolaeth dros yr amddiffyniad. Y tyst cyntaf ccdd Mr William Gray Pritchard, clerc yn dros Mr Jones Roberts, clerc yr ynadon yn Porthaethwy. Dywedai ei fod yn cofio v cais yn cael ei wneud am drwydded newydd i'r White Lion Inn, Bodffordd. Cofiai hefyd yr achwynydd yn rhoddi ei dystiolaeth mewn gwrth- wvnebiad. Pan y daeth yr achwynydd i gael ei groesholi newidiedd yn hollol petrusai. Pan y gofvnwrd i-Id) a cedd ar unrhyw achlysur blaen- otol wedi gwrthwynebu y drwydde<l hon, hu am beth amscr cyn rhoddi atebiad i'r cwestiwn. Ail- ofynwyd y cwo-tiwn dair neu bedair gwaith, a dywedcdd ynad wrth yr achwynydd am lieidio bod mor "stupid," ond ateb y cwestiwn yn eglur. Wedi livny atebodd yr achwynydd, a dywedodd ei fod wedi gwrthwynebu adnewyddiad y drwydded. Wrth ei groeshdi, y tyst a ddywedodd mai of adgof ef oedd i'r cwestiwn gael ei roddi i'r aehwyn- ydd mewn ffordd gyffredinol yn nghylch a ddarfu iddo ef vrrthwynebu y drwydded ar unrhyw^amser blaenorol. Nid oedd yn cofio a ofynwyd i'r acn- wynydd o-i oedl wedi ei gwrthwynebu bedair blynedd yn oJ. Efe a gredai mai yr ynad wnaeth y STIW crvbwrlkdig with yr achwynydd oedd Mr T. W. Jones." Nid oedd ganddo un cof i'r ach- wynydd ddweyd, os g,vrth\vynebwyd y drwydded bedair blynedd yn oh y rhaid ei fod wedi ei gwrth- wyneb.i oherwydd itldr. fod yn nglyn a phob gwrtliwynebiad a wnaethpwyd. Yr oedd y tyst yn cvmeryd i lawr y dystiolaeth ar y pryti, Credai i odih-mi chwech o ymdrcchion gy:ner.yd lie dros y drvr- iided hon, ac fe fn ymdrechfa yn nghylch dv.'v eraill yn yr -1-ii plwyf. Mewn atebr-d i'r dv-yedai y tyst ei yn racddwl £0:(1 yr rtchwynydd yn curo o gwm- pas v liv/yn, yn neiilduol yn ei groeahoiiad. Y Rh.ingTll T:iouias Jones a ddywedodd ei fod yn gvoitliredu fel cyfieit'iydd yn llys trwyddedol gohiriedig Port::?.ethwy ar y 26a.in II Fedi. Yr I oedd vr achwynrdd yn gwrthwynebu "TI drwydded wnaed ar rai! y Meistri Greenall a Whit- ley. CTedai y tyst i'r achwynydd vrrtiiwynebu ar amryw achlysiiron blaenorol. Ar yr achly.ur y ayfeirir ato yn y cj nghaws hwn, nid oedd dull yr achwynvdd yr un wrth ei groesholi a phan yn rhoddi ti dystiolaeth. Wrth ei hoh gan Mr Huw Rowland," efe a atebai y cwestivnau yn lied ryud end v. rt'i ei groesholi, yr oedd yn petruso a bu raid pwvso rrno ar amscrau. Gofynwyd i'r aehwynfdd a oedd efe wedi gwrthwynebu y drwy- dded hi "n o'r blaen bu iddo betruso am beth am- ser cvn ateb, a gwasgwyd arno gan y Faine gyda'r svlw: "Dowch, dowch, 'nawr atehwch, a pheid- iwch bod mor 'stupid,' neu rywbeth i'r perwyl yna. Yna yr achwynydd a atebodd ei fod wedi gwrthwynewi yn flaen*>roL Yn y fan hon estyn- wyd i'r tyst yr adroddiad yn y "Clorianydd" i'w ddarllen. Dywedai y tyst ei fod, cyn belled ag y gallai efe wnesd allan, yn adroddiaa cywir o'r hyn gymerodd ra yn y llys, Wrth ei groesholi, y tyst a ddywedofld nas gall- ai efe ddweyd pa un a ofynwyd i'r achwynydd gan Mr Maddon a oedd efe wedi gwrthwynebu y drwy- dded bedair blynedd yn ol. Yr oeddy cwestiwn i'r perwyl a ddarfu yr achwyaydd wrtliwynebu y drwydided yn flaenorol. is gallai efe ddweyd a grybwyllwyd "pedair blynedd yn ol" ai peidio, ac nid oedd yn cofio i'r achwynydd, ddweyd ei fod wedi gwrthwynebu y drwyddedi bob trq- I Mr Richard Roberts, cyfreithiwr, Caeinarfon, a ddywedodd ei fod ef wedi ymddango* yn llys Porthaethwy ar ran yr apelyddion am y drwydd- ed,, ac iddo gyfarwyddo Mr Madden i wneud yr apeL Bu i'r achwynydd roddi ei atebiwn i Mr Huw Rowland yn hollol glir ac heb unrhyw Let- rusdod; ond, wrth ei groesholi, yr oedd yn gwbl ddyryslyd ac yn petruso. Y cwestiwn roddwyd i'r achwynydd oedd A ddarfu i cnwi wrtliwyn- ebu y drwydded hon y tro diweddaf?" Nis gallai efe (yr achwynydd) ddweyd. Yna dywedodd un o'r ynadon "Deweli, dewch, nid yw y cwestiwn ond un pur syml a dywedodd ynad arall, "Peid- iwch a bod yn 'stupid'-atehweh y cwestiwn." Yr achwynydd a ddywedodd o'r diwedd ei fod yn credu iddo wrthwynebu yr apel hwn bob tro y gwnaed ef. Oroesholwyd: Ni ofynwyd i'r achwynydd y cwestiwn pa un a oedd efe wedi gwrthwynebu y drwydded bedair blynedd yn ol. Buasai efe yn cofio pe buasai "pedair blynedd" wedi ei gry- bwyll. Mewn atebiad i'r\ Barnwr, dywedodd y tyst 21 fod yn meddwl, oddiwrth ymddangosiad yr ach- wynydd yn y Ilys ar y pryd, ei fod yn edrych fel pe yn ofni, os atebai y cwestiwn yn unionsyth, y buasai mewn rhyw fodd yn ymyryd a'r canlyniad. Nid elai efe mor bell a dweyd fod yr achwynydd yn osgoi y cweritiynau roddid iddo. Mr George Lambert, Tanygraig, Pentraeth, un o'r ynadon a eisteddent yri Llys Porthaethwy ar o'r ynadon a eisteddent yri. Llys Porthaethwy ar y 25ain o Fedi, a ddywedodd fod yr achwynydd wedi rhoddi ei dystiolaeth mewn ffordd hollol wyneb-agored a chlir ond pan yn cael ei groes- holi yr oedd yn anhawdd cael atebiad ganddo. Osgoai yr holl gwestiynau, ac ymddangosai yn I annhueddol i ateb yn wyneb-agored. Croesholwyd Gofynwyd i'r tyst a allai roddi engraifft o waith yr achwynydd yn "osgoi dy- wedodd yntau nad oedd yn gwybod pa eiriau ar- ferwyd, ond dyna oedd agwedd yr achwynydd drwy y cwbl o'i groesholiad. Gofynwyd i'r ach- ] y wynydd pa un a wrthwynebodd y tro diweddaf y I daeth achos y drwydded yn mlaen. I Mr R.. G. Thomas, Porthaethwy, ynad arall oedd yn bresenol yn y llys, a ddywedodd fod ar- | holiad yr achwynydd yn berffaith foddhaol, ond yn ei groesholiad fod cyfnewidiad sydyn wedi dy fod drosto; yr oedd ei gof yn palln, a chyMiorai amser ma-ith i ateb cwestiynau. Croesholwyd Dywedodd y tyst na fu i'r ach- wynjOdd ateb cwestiwn roddw;«-d iddo o berthynas i'w oedran. Y cwestiwn roddwyd i'r achwynydd oedd, a fu iddo wrthwynebu y drwydded y ftyy- ddyn ddiweddaf neu y tro diweddaf yr oedd ger- bron y llys. Gallai y cyfeiriad at "bedair blyn- edd yn ol" fod wedi dyfod yn mlaen wedyn, ond nid oedd wedi ei wneud pan y gofynwyd y cwes- tiwn gyntaf i'r achwynydd. Wedi i un o r ynad- on ddweyd wrtho am beidio bod mor "stupid yn y man atebodd ei fod wedi gwrthwynebu bob tro I y bu gerbron y llys. Dywedodd y tyst ei fod yn byw yn y Victoria Hotel, ond nid eto oedd yn dal y drwvdded. Mr George Pritchard Rayner, un arall o'r ynad- on, a gadarnhaodd dystiolaeth Mr Lambert a Mr R. G. Thomas. Croesholwyd Nid oedd yn cofio i unrhyw gyf- eiriad gael ei wneud at "bedair blynedd yn ol." Yr oedd hyn yn terfynu y tystiolaethau dros yr amddiffyniad. Yna galwyd ar yr achwynydd, Richard Tone! Dywedodd ei fod yn brosenol yn llys trwyddedol gohiriedig Porthaethwy yn Medi diweddaf i wrth- wynebu trwydded y White Lion Inn, Bodffordd. Dywedodd na wnai ateb cwestiwn o berthynas 1 w oed a: i nad oedd yn dal cysylltiad a'r mater dan sylw. Gofynwyd iddo a oedd wedi gwrthwynebu y dr., ,dded cyn 3.894, ac atebodd nad oedd jr. gwybod. Dywedodd wrth y Ilys yn egluu ei fod v-edi ei gwrthwynebu bob tro. Nid oedd ganddo unrhyw ddymuniad i gelu hyny. Nid oedd yu meddwl fod neb yn y Ilys yn gwybod y cwestiwn a roddwyd iddo. Yr oedd ei wrthwynebiad yu agored, ac yr oedd wedi bod yn rhoddi tystiolaeth yn y llys bob tro. Nid oedd ganddo reswm yn y byd i ddarnguddio nid oedd ond ei anwybodaeth parthed yr amser. Yr oedd llawer o frwydrau wedi bod mown eysylltiad a'r drwydded, ac nis gallai roddi dyddiad yr oil. Dyn di-briod ydoedd, ac yr oedd yn ddiacon. Croesholwyd Dywedodd y tyst ei fod wedi gwrthwynebu y drwydded bob tro. Yr oedd ei ddull mewn croesholiad wedi newid oherwydd iddo fethu ateb y cwestiwn. Bu iddo ateb ei fod yn sicr iddo wrthwynebu bob tro. Ni chlywodd neb yn dweyd ar y pr'd eu bod yn gwybod y cwestiwn ofynid iddo ef (yr achwynydd). Y Barnwr: Nis gwn a ddylwn ganiatau i I "chorus" ddweyd yma eu bod yn deall y cwestiwn (chwerthin). (chwerthin). Yr Achwynydd, yn cael ei groesholi yn mhell- ach, a ddywedodd ei fod yn awyddus na fyddai tafarndy arall yn Bodffordd. Yr oedd efe yn barod i ddweyd pobpeth oedd yn wir. Ymddang- osodd yn y Sessiwn Chwarterol i roddi tystiolaeth pan y gwnaed apel yn erbyn y gwrthodiad o'r drwydded. Y cwestiwn roddwyd iddo ef yn' Mhorthaethwv oedd, pa un a oedd wedi gwrth- wynebu cyn 1894. Cofiodd fod yna wrthwyneb- iad yn 1893. Nid oedd yn cofio hyny nes yr aeth adref a siarad gyda rhai oedd wedi rhoddi tystiol- I aeth yn y llys y pryd hwnw. Dr. John Roberts, Porthaethwy, un o'r ynadon oedd ar y fainc yn Llys Porthaethwy yn Medi diweddaf, a ddywedodd ei fod wedi gweled yr ] achwynydd yn yr holl wrthwynebiadau a ddygwyd yn erbyn y White Lion Inn, Bodffordd. Yr oedd yn arbenig wedi sylwi ar ddull yr achwynydd ar yr achlysur hwn ac achlysuron blaenorol, a chaf- odd ef bob amser yn dyst araf a gwyliadwrus. Gofynwyd i'r tyst gan Mr Madden a oedd wedi gwrthwynebu y drwydded yn 1894, a rhoddwyd y cwestiwn iddo ddwy neu dair gwaith cyn iddo ateb. Pan y darfu iddo ateb dywedodd ei fod yn y gwrthwynebiad bob tro y gwrthwynebwyd y ty hwn. Croesholwyd Dywedodd y tyst ei fod yn ber- ffaith glir mai yr hyn a ofynwyd i'r achwynydd oedd, a fu iddo wrthwynebu y drwydded yn 1894. Wrth ei holi yn mhellach dywedodd y tyst fod y drwydded wedi ei chymeryd oddiar y ty yn 1893, a'r un flwyddyn gwnaed apel yn y Chwarter Ses- siwn. Gwnaed apel am adnewyddiad v drwydded yn 1894. Mr W. Huw Rowland, cyfreithiwr, Bangor, a ddywedodd ei fod yn gweithredu dros yr achwyn- ydd mewn gwrthwynebiad i drwydded y "llib Lion Inn. Ychydig iawn o gwestiynau a rodd- odd Mr Madden i'r achwynydd mewn croesholiad. Dywedodd na wnai ateb y cwestiwn o berthynas i'w (tl. Gofynwyd iddo a oedd wedi gwrthwyn- ebu y drwydded yn 1894. Darfu iddo ef (Mr Rowland) yn ddistaw brotestio ar y pryd fod cwee- tiwn o'r fath yn anhawdd i'w ateb ar unwaith. Yr oedd y tyst yn sicr fod "1894" wedi ei gry- bwyll, ac mai dyna achosodd yr holi ajtihawsd^r, canys yr oedd yn amlwg oddiwrth atebiad yr ach- wynydd mai y peth goreu ailai efe ei roddi Nu- oedd pan y dywedodd, "Os y gwrthwynebwyd ef y pryd hwnw rhaid fy mod i ynddo." Yr oedd y sylw oddiwrth y Fainc yn hollol ddialw-am-dano. Dywedodd yr achwynydd ar y pryd fod ei anhaw*- der o berthynas i'r dyddiad, ac nid oedd unrhyw gyfeiriad at hyny yn yr adroddiad yn y newydd- iadur. Croesholwyd Dywedodd y tyst i'r achwynydd gael ei wasgu i ateb cwestiwn nas gallai ei nttb. Nis gallai gytuno a'r achwynydd fod v cwestiwn yn ytIordd yr oedd ef yn ei roddi. Fe roddwyd y cwestiwn mewn dwy ffordd: "A' ddarfu i chwi wrthwynebu yn 1894." ac "a ddarfu i chwi wrth- wynebu bedair blynedd yn oi?" Pa beth bynag ydoedd, cwestiwn o amser oedd. A ihybio fod y -ir cwestiwn yn un teg, tyst aniiawdd ymwneud ag ef oedd yr achwynydd, gan ei fod yn araf yn ei arholiad. Mr William Pritchard, adeiladydd, Llanfair P.G., a gadarnhaodd dystiolaeth Dr. Roberts. Wrth ei groesholi, y tyst a ddywedodd ei fod yn tvhio i'r sylwadau oddiwrth y Fainc gael eu gwncud am "fod yr achwynydd yn araf wrth roddi ei dystiolaeth. Y Parch David Roes a ddywedodd ei fod ef ar y fainc yn Mhorthaethwy ar yr achlysur hwn. Holwyd "yr achwynydd o berthynas i amser y gwrthwynebiad. Tyst araf ydoedd efe yn ei ar- holiad eyntaf. Ddarfn iddo ddim gwrthod af-d) mewn ffordd fuasai yn awgrymu gwrthodiad ar ei ran i wneud hyny. Dywedodd yr achwynydd, lie j oynag y gyvrthwynebid y tafarndy, ei fod ef yno. Wrth ei groesholi, dywedodd y tyst ei fod yn teimlo ar y pryd fed y cerydd i'r achwynydid oddi- wrth un o'r ynadon yn bur annheg, a darfa idc10 ef ddweyd hyny WTth gyfaill iddo oedd ar y fainc yn ei ymyl.. Mewn atebiad i'r Barnwr, dywedodd y tyst fod yr ynadon wedi gwneud eu meddwl i fyny parthed caniatau. y drwydded. Yr oedd y tyst gyda'r mwy- afrif dros wrthod, ac felly yr oedd Mr Pritchard a Mr Roberts. Yr oedd Meistri Rayner, Thomas, a Lambert ar yr ochr arall. Mewn- atebid i'r Barnwr, Mr E. H. Lloyd a ddywedodd fod yno 21 o ynadon ar y fainc. Pan aethpwyd yn mlaen a'r gweithrediadau ar ol y gohiriadi, Mr E. H. Lloyd a anerchodd y rheithwyr dros yr amddiffyniad. Anturiai fcdcl- wl na chlywsant hwy erioed am gynghaws mwy camsynioL Nis gellid tybied am foment gan un- dyn fod yr adroddiad newyddiadurol mown dadl neu y sylw ar yr hwn y dibynai ochr yr aehwyn- ydd yn awgrymu fodi yr achwynydd yn wirfoddol dyngu anudon.. Wedi ymwneud a manylion yr adroddiad, aeth y cwnsler yn mlaen i ddadleu nad oedd yr adroddiad yn awgrymu anudoniaeth i'r achwynydd, ond mai y casgliad ydoedd fod yr achwynydd drwy ei ddull yn rhoddi achlysur i wneud sylwadau gwrthwynebol ar y Oymry. Nid oedd dim yn adlew yrchu ar yr achwynydd fel Iyp- 0 anrhydedd, i achlvsuro dwyn yn mlaen y eyng- I haws hwn gyda br-vs, cyflogiad pedwar o gwnsler- iaid, a'r amser gymerid i wrando mater o'r fath yma. Myntumiai ef na ddylai yr achos fod wedi ei ddwvn yn mlaen. Mr Bryn Roberts, dros vr achwynydd, a ddal- iai allan nad oedd adroddiad y newyddiadur yn cynwys unrhyw awgrymiad fed yna unrhyw an- hawsder o berthynas i'r cwestiwn o ddyddiad, yr r hyn, dadleuai efT oedd cnewyllyn yr achos. Cry- bwyllai yr adroddiad yn mynegiad agoriadol Mr Madden fod trwydded y tafarndy wedi ei thori bedair blynedd yn ol, ac yr oedd hyny yn rhoddi lliw i'r ddadl fod Mr Madden wedi ei gynwys yn ei gwestiwn i'r achwynydd. Yr oedd yr achsvyn- ydd wedi bod gerbron yr ynadon yn gwrthwynebu y drwydded hon o'r blaen, felly yr oedd yr bur adnabyddus iddynt. Ar bob achlysur rhoddru ei dystiolaeth yn hollol agored heb geisio celu dim. Am fod yr achwynydd yn araf ei ddull ni ddy:iJ It casglu oddiwrth hyny ei fod yn tyngu anudon. Dadieuai ef fod pctrusder yr achwynydd yn ddyled- us i'w anallu i gofio dyddiad neillduol. Oyfaddef- I lid ar bob ochr fod yr achwynydd wedi bod yn mhob gwrtharynebiad i'r drwydded. Yna sylwedd y cwnsler ar y ffaith nad oedd ysgrifenydd yr ad- roddiad wedi ei alw. ac aeth yn mlaen i ddweyd fod "darnguddio" yn golygu celu yn anonest. Nid oedd gair o ymddiheurad wedi ymddangos yn y papvr. Mr Lloyd: Yr ydych yn cofio yr holl ohebiaeth yn ddiragfarn. Mr Roberts (yn parhau) a ddywedodd mai hawdd fuaaai i'r diifynyddion roddi eglurhad yn eu papyr. Efe a ddaliai fod y "Clorianydd" yn cael edrych arno gan bobl o ddosbarth yr achwynydd yn yr un goleu a'r "Times" o Lundain, ac yr oedd yn cyleh- redeg yn mlilith ei gymydogion yn nghyda'i gyd- ddiaconjaid yn y corph crefyddol y perthynai iddynt. Dadleuai efe fod yr adroddiad yn un an- nheg. Wedi i'r Barnwr sylrdo i fyny yn lied faith, ym- neillduodd y rheithwyr i ystyried eu dyfarniad. Ar ol bod yn absenol am beth amser, ymddangos- odd un o'r rheithwyr yn y llys a dywedodd nad oedd dim tebygolrwydd iddynt allu cytuno yn eu dyfarniad. Cynghorodd y Barnwr hwy i fyned yn 01 i siarad y mater drosodd ac os byddai iciuvnt ddyfod i benderfyniad pendant, i ddyfod i'w hyshysu ef o hyny. Aeth ychydig funudau pellach heibio a phan wnaeth yr un rheithiwr ei ymddangosiad dy- wedodd nad oedd o un dyben i'r rheithwyr ymgyng- hori ddim yn hwy. Ar hyny archodd y Barnwr i'r rheithwyr ddyfod i'r Ilys, pryd y gollyugwyd hwy ymaith. Gofynodd Mr Bryn Roberts a fyddai i'w arglwydd- iaeth ail wrando yr achos yn Biwmaris? Y Barnwr Fy marn i yw mai gwell i chwi der- fynu y mater yn awr. Fe fydd i bobl yr ardal wneud eu meddwl i fyny pa ran o'r rheithwyr sydd yn iawn a pha ran sydd o'r tu arall. Os bydd i mi wrando yr achos eto yr wyf yn ofni na, fydd i mi ei ystyried mor ddifrifol.

t YN CAEL EI THYNU O'R AZORES…

-.-----. Dim Newydd am y "…

♦ LJong Brydt,-inim yn Myned…

[Dyddorol i Forwyr.

---------_-----Suddiad y "Germnic."

DIM OND TAIR AWR 0 SALWCH.

- Stliol Arlywydd Newydd.

Esgobaeth Bangor. 0

---__-._--_ Cymdeithasau Esgobaetb…

---------_---"CENINEN GWYL…

[No title]

I Cymunrodd o 66,000p.

-........ ' Huaan-laddiad…

Arholiadau Gcrsedd y Beirdd.

Hooley.

[No title]

[No title]

Marcfcnadoedd Cymreig, &c.

-------.--------r principal…

=-----. Local Tide Table-i…

'Of _______Shipping.

___Hunting Appointments.

Family Notices

Tan Mawr y.i Wilkesfcarre,…

[No title]