Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

23 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

AT EIN GOHEBWYR.

Nodion Amaethyddol, SLC.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

Y Farchnad Yd.

10,000 o Geifyhu Americanaidd…

[No title]

Cymdeithas Gwartheg Duon Gogledd…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cymdeithas Gwartheg Duon Gogledd Cymm. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y gymdeithas hon yn y British Hotel, Bangor. ddydd Gwener, tan lywyddiaeth Syr Watkin Williams Wynn, Barwnig. Yr oedd hefyd yn bresenol :-Yr An- rhydedduB F. G. Wynn, Meistri O. F. Priestley, Hirdrefaig Thomas Roberts, Aber J. R. Jones, Bodfeirig; G. J. Roberts, Trefarthen; Trevor Hughes, Glascoed R W. Pritchard, Coedmar- ion V. P. Lort, Faenol; Edward Griffith, Tydd- yn Oanol; a W. A- Dew, ysgrifenydd mygedol. Darllenwyd llythyrau yn ymddiheuro am absen- cldeb oddiwrth y Milwriad Piatt,y Miiwriad Main- waring, Meistri Thomas Prichard, ac F. A. Wal- ter Jones. Darllenwyd a ohpfianihav.yd uofnodion y cyfar- fod blynyddol diweddaf. Wedi hyny darllenodd yr Yf-grifenydd gyfrifoK a mantolen am y llwyddyn yn teifynu Rhagfyr 31ain, 1898, y rhai a fabwysiadwyd. Mynegodd yr Ysgrifenydd, serch fod y tanys- grinad blynyddol i denantiaid auiaeihyddol wedi ei ostwng i 2s 6c y flwyddyn ddiweddaf, na ddarfu i ddim mwy na phump o aelodau newyddion ym- uno a'r gymdeithas. Yr oedd hyn, yn ei farn ef. yn dangos mai nid swm y tanysgrifiad oedd yn atal pobl i ymuno. Gan hyny, yr oedd efe yn awr yn cynyg y penderfyniad y rhoddasai rybudd o hono, sef "Fod i'r penderfyniad basiwyd yn y cyfarfod blynyddol ar y 25ain o Chwefror, 1898, yn tynu i lawr danysgrifiad blynyddol tenantiaid amaeth- yddol i 2s. 6c. yn cael ei ddiddymu." Eiliodd Mr Trevor Hughes a phan roddwyd y cynyg i'r cyfarfod, fe'i cariwyd yn unfrydol. Oynygiodd yr Ysgrifenydd yn mhellach fod y ddeddf wreiddiol, Rhif 2, yn awr yn cael ei hail osod yn ei lie, sef: "Mai tanysgrifiad blynyddol aelodau fydd 10s, a bod rhoddwyr 5p i gael eu hystyricd yn aelodau am oes o'r gymdeithas." Eiliwyd hyn gan Mr Thomas Roberts, a chafcdd ei gario gydag unfrydedd. Ar gynygiad Mr Thomas Roberts, yn cael ei eiilo gan Mr Priestley, ail etholwyd Syr Watkin Williams Wynn yn llywydd am v flwyddyn ddy- fodol. Yr Ysgrifenydd a gynygiodd, eiliodd Mr G. J. Roberts, a ehytunwyd ar ail etholiad Mr Priestley fel is-lywydd. Y flwyddyn ddiweddaf rhoddes Mr Dew rybudd y .byddai iddo ymddiswyddo o'r vsgrifenyddiaeth yn y cyfarfod blynyddol hwn, am ei fod yn cael nad oedd ganddo yn awr yr amser a ddymunai roddi at y gwaith. Modd bynag, cynygiodd Mr G. J. Roberts eu bod yn ail ethol Mr Dew fel ysgrifenydd mygedoi, golygydd. a thrysorydd ac wrth wneuthur hyny, dywedai ei fod yn gobeithio y byddai; iddo adys- tyried ei benderfyniad a pharhau yn y swyddi hyn o leiaf am beth amser eto. Eiliwyd gan Air J. R. Jones ac wedi ei roddi i'r cyfarfod, cariwyd ef yn unfrydol. Mr Dew, mewn atebiad, a ddywedodd ei fed wedi gobeithio y buasai'r aelodau wedi darpar olynydd pa fodd bynag, gan fod dymuniad mor I gryf wedi ei ddatgan, efe a gydsyriiai i ddal y swyddi am flwyddyn YI1 rhagor. Cafodd Mr James Smith (Lloyds Bank) ei ail ethol yn archwiliwr. Ail etholwyd y boneddigion canlyrxd ar y Cynghor Gweinyddiadol: —Y Gwir An rhyd. Ar- glwydd Harlech, y Milwriad Henry Platt, C.B., yr is-Filwriad Sandbacli, Aleistri G. J. Roberts, Trefarthcn; T. G. Owen, Penmynydd W. R. Lawford, Oroesoswallt; a Thomas Prichard, Llwydiarth Esgob. Yn unol a rhybudd a roddasai eisocs, Mr J. R. Jones a gynygiodd, yn cael ei eilio gan Mr Thos. Roberts, "Yn y dyfodol nad oes dim ond anifeil- t iaid a entrwyd yn weithredol yn yr Herd Book, a'r rhai y gellir olrhain eu llinach yn llawn yu- ddo, i fod yn agored i gystadlu am fathodau a gwobrau Gymdeithas Gwartheg Duon Gogledd Cymru." Pan roddwyd hwn i'r cyfarfod, pleidleisiwyd T drosto gan Meistri J. R. Jones, Thomas Roberts, C. F. Priestley, Trevor Hughes, V. P. Lort, ac Edward Griffith--6; yn erbyn, Meistri G. J. Ro- berts, R. W. Pritchard, a W. A. Dow-Z: gan hvnv cyhoeddwyd y cynygiad wedi ei gario. Etefyd yr oedd Air J. R. Jones wedi rhoddi rhybudd o ail gynygiad, sef: "Nad oes un anifail i fod yn agored i'w entro yn yr Herd Book oni bydd llinach (pedigree) Mi o leiaf o'r rhiaint wedi ei gofrestru." Yr oedd efe yn awr yn cynyg hyn, eithr syrthiodd drwodd o ddiffyg cael neb i'w eilio. Yna cymerodd ymddiddan le gyda golwg ar y doethineb o wneud cais arall i gynal arddangosfa flvnyddol a gwerthiant gwartheg duon a'r farn oedd fod y diffyg cefnogaeth i'r syniad hwn yn y gorphenol yn ddyledus i rybudd annigonol er '0 rhoddi amser i arddangoswyr bwriadedig barotoi eu stoc, ac awgrymwyd y dylid rhoddi o leiaf ddwy flrnedd o rybudd o fwriad i gynal y eyfryw ar- ddangosfa. Air Priestley a gynygiodd, ac eiliodd Air J. R. j Jones, fod isbwyllgor yn cael ei benodi i ystyried y cwestiwn hwn yn llawn a chymeryd y mater i fyny cytunwyd a hyny yn frwdfrydig. Penodwyd y boneddigion canlynol yn isbwyll- gor, sef Aleistri Thomas Roberts. G. J. Roberts, C. F. Priestley, R. M. Greaves, W. Lester Smith, V. P. Lort, Milwriad Alainwaring, a'r IsfiIwriarl Sandhach, gyda gallu i ychwanegu at eu nifer. Hysbysodd yr Ysgrifenydd fod y 6ed gyfrol o'r Herd Book yn awr wedi ei chyhoeddi, a v>;ien- derfynwyd i'r pris fod yn 3s 6c yr urL Trefnwyd i'r cyfarfod blynyddol nesaf gael ei gynal yn Alangor. Dygwyd y cyfarfod i derfyniad gyda phasio di- olchgarwch cynes i'r cadeirydd.

Athrawcn Isgolion Dyddiol…

---------_--Ymrysonfa Aredig…

Gohebydd wedi Oamgymeryd Ty.

--------------Sitrydion o…

Cyfarfod Cystadleuol Llangristiolus.

CYNGHERDD RIIOSYBOL: LZYTIIYR…

GWEITHWYR Y FFORDD HAT4IIN…

A.T I' WYLLGORkU YAIRYSO-NFEYDD…

PRIF-FFYRDD MON.

DERBYN RHENTI EfIFEDDiAETH…

Prif Fwyd a Eiod gwatanol…

[No title]