Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

23 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

AT EIN GOHEBWYR.

Nodion Amaethyddol, SLC.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

Y Farchnad Yd.

10,000 o Geifyhu Americanaidd…

[No title]

Cymdeithas Gwartheg Duon Gogledd…

Athrawcn Isgolion Dyddiol…

---------_--Ymrysonfa Aredig…

Gohebydd wedi Oamgymeryd Ty.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gohebydd wedi Oamgymeryd Ty. YAIGO'Al ANGHYFFREDIN. Tybed a oes un o'm darllenwyr wedi cael y profiad rhyfedd o gad ei hun yn ddamweiniol mewn un ty tra yn meddwl myned i dy arall, ac yna yn ymddiddan ag un person tra yn meddwl am berson arall. Dyna sut y cefais i fy hun ychydig ddyddiau yn ol, dywcd cynrychiolydd o'r "South- port ATisitor." Yr oeddwn wedi cael fy anfon i wneud ymholiadau neillduol. Gan mai dyeithr oeddwn yn yr ardal gofynais am gael fy nghyfar- wyddo i le neillduol, ond pan gyrhaeddais y ty ddangoswyd i mi cefais yno ddynes oedranus, yr hon ddywedodd wrthyf yn bur sarug nad oedd yn gwybod dim am y lie nac am y bold yr ymholwn am danynt. Wrtli ddychwelyd canfyddais, bron yn guddicdig gan goed, res fechan o fythynod I gwledig mewn ffordd o'r neilldu, a phenderfynais mai yno yr oeddwn i fyned. Daeth dynes hoenus, siriol, a glan yr olwg i'm cyfarfod i'r drws. "A ydyw Mr Alillerd i fewngofynais, gan benderfynu bod yn hynod ofalus, ac edrych ar nodyn oeddwn yn amhvg wedi ei gam-ddarllen. "Miss Alillerd ydych am weled," atebai y ddynes gan wenu. "Cawsom eich llythyr"—yr oedd wedi dyfalu pwy oeddwn. Ylla dywedodd Airs Alillerd wrthyf fod ei merch, yr lion fu am .V maith yn wacl iawn, yn awr yn "fruiterer" yn Alarchnad Southport, ac y byddai yn dda gan- ddi fy ngweled am haner awr wedi dau yr un pryd- nawn. Yn ystod ymgom, aeth yn mlaen i ddwoyd fod y forch am hir amser wedi bod yn dioddef oddi- wrth ddtjur y galon, a'i bod wedi ymgynghori ag amryw feddygon yn Southport a Lerpwl, yr oil o'r rhai edrychent yn bur anobeithiol ar ei hachos. G'r diwedd cafodd feddyginiaeth effeithiol yn Alheleni Pine Dr. Williams i Bobl Welw. Yn union i'r funud benodedig aethum i weled Aliss E. Alillerd, a chefais mai dynes ieuanc dde- allus a siriol ydoedd. Edrychai yn hynod o iach- n. Dechreuais trwy ddweyd wrthi fy mod wedi easglu oddiwrth ei llythyrau ei I)od yn foddlon i adrodd ei hanes wrthyf. "Gwell fyddai genyf, o'r ddau, gael y fraint o wneud hyny," atebai hi, "er mwyn i ddioddefwyr eraill dderbyn lies oddiwrth fy mhrofiad i." "Gallaf ddweyd, plte, mai eich henw ydyw Aliss E. Alillerd, a'ch cyfeiriad Thorntreo Cottage, Cambridge-road, Southport." Gallwch." "A gobeithiaf nad ydwyf yn tramgwyddo wrth ofyn eich hoed?" -"0, diar, nag ydych," atebai yn siriol. "Yr wyf yn bump ar hugain." "Beth ydoedd natur eich afiechyd ?" gofynais nesaf. "Dolur y galon," ychwanegai. "Yr oeddwn wedi dioddef am flynyddau lawer iawn." "Ac fel y dywedodd eich niam wrthyf, darfu i chwi roddi prawf ar amryw feddyginiaethau 1" "Do, yn wir," atebai yn deimladwy. "Ar un adeg bum am wyUi wythnos yn Yspytty South- port, ond daethum adref heb fod ddim yn well na pkan aethum yno. Bu'm hefyd o dan ofal amryw feddygon, yn cynwys "specialist" o Lerpwl. Dy- wedodd un meddyg enwog yn greulawn wrthyf na fyddai iddo roddi dim i mi, gan nas gallai roddi dim fyddai o les i mi. Yr oedd yn cymeryd golwg tra anobeithiol ar fy achos." "A ddarfu i chwi ddioddef llawer T gofynais nesaf. "Nis gallwn gerdded heb boen mawr, a byddai yn rhaid i mi sefyll yn fynych iawn er mwyn cael fy anadl. Yn awr, modd bynag, gallaf gerdded faint fynoeh, ac mae cordded yn bleser." "A dygwyd hyn oddiamgylch yn unig T' .'Tnry Releni Pine Dr. Williams," ydoedd atebiad brysiog ALss Millerd. "Sut y daeth son am y feddyginiaeth yma gyn- taf i'ch clnstian 1" gofynais wed'yn. nal "Trwy ddarllen hanes adferiadau yn y newydd- iaduron," ydoedd ei hatebiad. "Ac a deimlasoch les oddiwrtho yn fuan ?" i ddweyd v gwir wrthveh "sylwai "nid oedd y blychaid cyntaf yn ymddangos fel pe wedi gwneud llawer o les i mi, ond dyfalbarheais, a theimlwn lawer yn well ar ol cymeryd yr ail flych- aid. A'r wyf wedi cymeryd pum' blychaid i gyd, ac mae fy iechyd yn awr yn well nag y bu ers pan adewais yr ysgol. Gallaf yn awr gerdded o'm cartref at fy ngwaith o fewn deugain munud, ond cynt nis gallwn wneud hyny o dan awr, a byddai yn rhaid i mi yn fynych gymeryd cerbyd." A'r oedd achos Aliss Alillerd yn un eithafol o ddolur y galon, ao yr oedd wedi ei rhoddi i fyny gan y meddygon goreu. Alae y diffyg anadl y dioddefai oddiwrtho r ol ychydig ymdrech yn beth tra chyffredin gyda'r dolur hwn, ac mae yn rhyfedd pa mor fynych y dywedir fod hyn wedi ei adferyd gan Beleni Pine Dr. Williams, gan eu bod wedi medru gwneud cymaint mewn achos mor ddifrifol, ac ar y pryd mor anobeithiol, nid syndod ydyw y gwnant y fath les mewn achosion ysgafaach. Nid oes mewn bod donic mwy dyogel a gworthfawr. Gweithreda Dr. Williams' Pink 11 Pills yn uniongyrchol ar y gwaed, ac felly adfer- aiit achosion o ddiffyg gwaed, crydcymalau, scia- tica, scrofula, tan iddwf parhao], darfodedigaeth, pob math o wendidau benywaidd. a dygant iechyd yn ol i ruddiau llwyd a gwelw. Gellir eu cael gan tferyllwyr, neu gan y Dr. Williams' Aledicine Company, 46, Holborn-viaduct, London, am 2s 9c y blychaid, neu chwe' blychaid am 13s 9c, ond nid ydynt yn bur os nad yn dwyn yr enw llawn, Dr. Williams Pink Pills for Pale People. Alaent yn feddyginiaeth ra*gorol i'r gewynau a'r asgwrn cefn, ac oherwydd hyny wedi adferyd amryw achosion o'r parlys, locomotor ataxy, neuralgia, St. Vitus' dance, a phoen yn y pen.

--------------Sitrydion o…

Cyfarfod Cystadleuol Llangristiolus.

CYNGHERDD RIIOSYBOL: LZYTIIYR…

GWEITHWYR Y FFORDD HAT4IIN…

A.T I' WYLLGORkU YAIRYSO-NFEYDD…

PRIF-FFYRDD MON.

DERBYN RHENTI EfIFEDDiAETH…

Prif Fwyd a Eiod gwatanol…

[No title]