Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

21 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

AT EIN GOHEBWYR.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

Cyflwyno y Dysteb i Mr John…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cyflwyno y Dysteb i Mr John HtLghes,. Prondeg, Amlwcii. CYFARFOD DYDDOROL. Brydnawn Sadwra diweddaf gellid yn hawdd weled fod rhyw gyfarfod dyddorol' i gymeryd lie yn y dref gan faint j nifer o bobl oedd wedi ymgasglu ar y Sgwar. Ac felly yr oedd, gan mai dyma'r achlysur o anrhegu Mr Hughes ag anerchiad goreu- redig hardd a phwrs yn eynwys can' gini, ac awr- lais ysplenydd i Mrs Hughes. Am dri o'r gloch cynhaliwyd y cyfarfod yn Ystafell yr Ynadon, yr hon oedd wedi ei haddurno yn brydferth gan Mr T. F. Leche a nifer o "coastguards." Yn abeenoldeb anorfod Sir George Meyrick, Bar., Bodorgan, cymerwyd y gadair gan Mr John Rice Thomas, Bodeilio, Llangefni, is-lywyckl Cymdeithas Geidwadol Mon. Yr oedd hefyd yn bresenol: Miss Neave, Llys Dulas; Mr J. Rice Roberts, Rhiwlas Mrs Fanning Evans, Mona Lodge; Dr. Evans, Llan- erchymedd; Mrs Hughes a Miss Leila Hughes, Frondeg; Parch J. Smith a Miss Smith, Rhosybol; Mr W. Lloyd, Bryn Dyfrydog; Mr a Mrs W. Fan- ning, Amlwch Mr Rioe Hughes, Fair View; Mr W. Jones, ironmonger; Mr W. Jones, arwerth- wr, Yr Erw, Pensarn; Misses Roberts, Glasgraig; Mrs Owen, Dwvgir; Mr a Mrs Williamson, Glan llyn; Miss Thomas. Amlwch Mr Thomas, i^.echog Cadben Rench, eto; Dr. Jones, Fair View; Dr. Rossiter, F.R.C.S., Mr W. Owen, Pen'irorsedd; Mr J. Elias, Plas Ucha', Llanwenllwyfo; Mr Elias, Aberach Mr W. Elias, Llanerchymedd Mr Hughes, Home Farm, Llanwenllwyfo; Mr Thomas Pritchard Graswr"), Mr Thomas Williams, Mr W. Barnett, Llangefni; Miss Rowlands, Rhos Hill; Mr 0. R. Roberts, Amlwch Mr a Mrs Jones,Balog Mrs Jones, Deri Fawr; Mr Jarvis, Mr Roberts, Peibron, ac amryw eraill na chawsom eu henwau. Dywedodd y Cadeirydd mai prin yr ystyriai ei hun y person cymhwysaf i gymeryd y gadair. Daeth yno o Langefni i glywed anerchiadau eraill, ac yn sicr buasai wedi gwrthod yr anrhydedd onibai fod y llywydd urddasol (Syr George Meyrick) yn an- alluog i fod yn bresenol. Diangenrhaid oedd dweyd fod yr achlysur yn un dyddorol, set anrhegu eu cyfaill nobl. Yr oedd Mr Hughes wedi gwneud gwaith da mewn bywyd cyhoeddus, &0 wedi axwain yr achos Ceidwadol yn Mon (clywch, clywch). Gwerthfawrogent ei waith mawr yn nglyn a'r achos. Yr oedd ef (y llywydd) .yn un gwael am siarad Saesneg (chwerthin). Dywedid mai Saesneg a siaredid ainlaf yn eu cyfarfodydd. Ond i ddyfod at y pwynt. yr amcan oedd anrhegu Mr John Hughes. Yr oedd ganddo reswm dros ddweyd nad oedd y gwaith wnaed gan Mr Hughes yn gyfyngedig i Amlwch ond i Fon yn gyffredinol (cymeradiwyaeth). Yr oedd wetyi gweithio yn y sir art yn y Wasg yn egniol, ac yr oedd yn haeddu y gydnabyddiaeth fechan hon ain y gwaith gwerthfawr a wnaeth i'r blaid (cymer- adwyaeth). Gwyddaief (Mr Thomas) mai dyled- swydd cadeirydd ydoedd siarad ychydig ei hun. Yna galwodd ar Mr W. Jones, Yr Erw, Pensarn, yr hwn a ofidiai ei fod ef wedi cael ei ddewis i wneud dyledswydd ellid ei gwneud yn well gan rywun arall. bynag, yr oedd yn falch iawn ganddo fod yn bres- enol yn y cyfarfod hwn, ac hefyd am fod diwedd y ganrif yn adeg nas gellid ei threulio mewn dull mwy priodol. Ni wyddai am ddim mwy cyfaddas. Yna cyfairiodd ait waaanaeth mawr Mr Hughes i'w dref a'i sir, a thros lesiant ei gyd-drefwyr, ac yr oedd wedi gwneud mwy nag unrhyw foneddwr yn y sir (cymeradwyaeth). Nid oedd yn ddyn ag a wnai gig o un a physgodyn o'r llall, eithf gwneud yr hyn a allai dros bawb (cymeradwyaeth). Nis gallent byth fesur y gwaith ardderchog a wnaeth i'r blaid yn y sir, ac fel aelod o'r Seiri Rhyddion yr oedd yn dal swyddi o dan Arglwydd Harlech a'r Miiwriad Hunter. Yna galwodd Mr Jones ar Miss Neave a Mr Fanning i wneud yr anrhegion. Cyn hyny, fodd bynag, darllenodd Mr Fanning (ysgrifenydd y mudiad) lytliyr oddiwrth yr Arglwyddes Neave yn gofidio nas. gallai fod yn bresenol, ac y byddai i Miss Neave weithredu drosti (cymeradwyaeth). Derbyn- iwyd llythyrau hefyd oddiwrth Syr Thomas Neave, Bar., y Miiwriad Platt, Mr Thomas Prichard, Llwydiarth Esgob, a Mr W. H. Owen, arwerthwr, Caernarfon. Yna darllenodd Mr Fanning yr anerchiad, fel y canlyn :— Mr John: Hughes, Frondeg, Amlwch.—Anwyl Syr,-Ar ran eich niferus gyfeillion ac ewyllyswyr da drwy Sir Fon, erfyniwn arnoch dderbyn yr anerchiad hwn a'r pwrs o aur, a dymunwn gynyg, ar yr lID pryd yr awrlais hwn, fel cofarwydd o'r acidlysur hap-u. Cymerwnj famtais,. gyda phleser mawr, o'r cyiieusdra hwn o roddi ar gof ein mawrygiad calonGg a chydnabyddiaeth oh" niferus a gwahanol wasanaethau yr ydych wedi roddi i wahanol symudiadau er y lies cyhoeddus yn Sir Fon. Moesgar, caredig, ac uniawn yn holl berthynasau bywyd, yr ydych wedi haeddu ac enill parch a gwerthfawr&giad pawb y daethoch i gysylltiad a hwy, pa un ai mewn materion o fusnes neu yn eich bywyd preifat fel cyfaill a chymydog. Mewn pob materion cyhoeddus mae eich gweith- redoedd wedi arddangos eich dyfalwch nodweddiadol a sel dros fanteision a buddianau y cymundeh. Mae y gefnogaeth haelionus a di-ildio ydych bob amser wedi ei roddi i'r achos Ceidwadol yn Mon yn cael ei gydnabod yn ogystal gan eich cyfeillion politic- aidd a chan eich gwrthwynebwyr. Ein taer obaith ydyw fod blynyddoedd meithion o fywyd defnyddiol yn ystor i chwi, yn cael eu dilyn gan ihapuSrwydd parhaol a. llwydidiant.—Arwyadwyd, ar ran y tanysgrifwyr, George Meyrick, cadeirydd. —Rhagfyr 29ain, 1900." Yn y fan hon oododd Miss Neave, a chan an- erch Mr Hughes, dywedodd: Meddaf y pleser mawr o'ch anrhegu gyda'r cheque YDla ar ran yr oil o'r tanysgrifwyr (cymeradwyaeth). Yn nesaf, anerehodd Mrs Fanning Mrs Hughes fel y canlyn —Ar ran y tanysgrifwyr rhydd i mi hleser mawr i'oh anrhegu a'r awriais hwn fel adgof o'r achlysur hapua hwn, pan y mae niter o gyfeillion ao edmygwyr eich. gwr teilwng n llawen wedi oymeryd mantais o'r amgylchiad i gydnabod y gwasanaethau oyhoeddiis wnaed ganddo, mewn modd mor barhaol a sylweddol; ao yr ydym yn hydieru yn faiwr y cedwir eioh da.u i fwynhau y parch uchel a deimlir atoch gan bawb sydd yn eicth adnabod (cymeradwy- aeth). Yr oedd yr awrlais yn un hynod brydferth, gwneuthuredig gan Gay, Lamaille a'u Oyf., Llundain a Paria, ao wedi ei gael drwy Mr Daniel Jones, Amlwch. Yna oododd Mr Hughes ao ymddangoeai o dan deimlad dwys. Dywedodd: Yr wyf yn sicr na ddisgwyliwch i mi ddweyd llawer iawn ar y faith achlysur a hwn, neu y bydd yr hyn a ddy- wedaf mewn ffurf gydlynol (coherent); ohar- wydd pan y mae calon un yn colli drosodd gan ddiolchgarwch, ao yn methu cael geiriau cyf- addas i ddatgan ei hun, mae un yn dueddol i osod pethau mewn dull trwsgi. Wrth. edrych yn frysiog dros restr y tanyagrifwyr gwelaf enwau amryw o fy ngwrthwynebwyr politicaidd, yr hyn a silleba i mi dedmlad da, a'r hyn bob amser a ddylai nodweddu dynion o olygiadau politicaidd gwahanol. Yr oedd y pwyllgor—neu dynged— wedi bod yn hynod ffortunus wrth ddewis y diwrnod hwnw i gyflwyno yr anrheg, yn < gy- maint a'i bod yn dangos y teimlad Ja a ddylai bob amser fodoii rhwng cyfeillion a chymydog- ion. Y diwmod hwnw ydoedd l>l\rrddgylch genedigaeth r gwladweinydd mawr hwnw—oedd wedi myned i orphwys—gyda'r hwn yn wleid- yddol yr oeddwn yn gwahaniaethu, ond yn erbyn yr hwn ni thedmlais unrhyw elyniaeth (cymer- adwyaeth). Mae yn fy nharo hedd/w fel cyd- ddigwyddiad rhyfedd. Gadewch i mi ddweyd ar unwaith mai prin y gwn sut i ddiolch i chwi yn Ibriodol am y caredigrwydd mawr ydych wedi ei arddangos tuagataf fi a fy haner goreu (chwerth- in). Os gallaf feddwl am ryw safie o arhyd- edd yn uwch nag ui arall, fe osodir yr anrheg- ion hyn yno i aros, nid yn gymaint i fy adgofio i, end fel y gall y rhai ddaw ar fy ol edrych arnynt fei arwyddlunian i'w hadgofio mai "mewn pob llafur y mae elw," ao mai yn Mon anwyl y canfyddanb boH a allant werthfawrogi llafur diwyd mewn pob achos da. Foneddigion, yn < sicr nid wyf yn gwybod a wnaethum i haeddu hyn oil oddiar eich dwylaw. Teimlaf, I yn sior na wnaethum fwy na'm dyledswydd. I Wel, efallai fod rhai pobl sydd well ganddynt wneud llai na'u dyleduwydd. Rhaid fod y bobl hyny yn hynod annedwydd. Ond pan y mae yr achos yn un d&, a'r amcan dn blaenau yn un mewn cydgordiad a'r nee cyhoeddus, yna nid oea dim a all roddi i ni fwy o bleser i weithio yn ddiwyd am y lies eyffredin. Nid ydyw ein bywyd yn un hir iawn ar y goreu, y mae yn rhy fyr a rhy werthfawr i'w wastraffu yn ddiameu; M y mae'r dyn yr hwn y mae ei galon yn y lIe iawn, ac wedi sylweddoli amcan teilwng mewn bywyd, yn sicr o gysegru ed bun i wneud rhyw ddaioni, fel y gall y byd fod yn well. Dylem oil fod yn falch otyIhagorfrntiau mawrion 00 o'n cyfleusderau mawrion. Fel gwyr Mon, fel Cymry, dylem fed yn falch ein bod yn Brydein- wyr (cymeradwyaeth). Ac y maieV Prydeiniaid bob amser yn y ffrynt yn yr ymdrech i wneud y byd yn vsgafnach a disgleiriach (cymeradwy- aethX Nid wyf yn meddwl 7 gwna Mis Hughe.s,atWroliiad'<Sl"yr.oobJYStU'hwn-er ei bod cyfeiriad- hwnw-fel: y gallaf dystjo oddiwrth yr anerchiadau bychain a gwa- hanal yr wyf wedi gwrando yn astud arnynt o fewn y oyleh teuluaidd (chwerthin). Ar ei rfaan hi dymunaf unwaith yn rhagor ddiolch i chwi 0. I waelod fy nghalon, a bydd i'ch1 caredigrwydd mawr tuag ataf bob amser gael ei gofio yn bar- haus gyda diolohgarwch a serch. Cyn eistedd i lawr dymunaf ddatgan fy niolchiadau puraf i bawb a gyfranasant mewn ariana llafur dros y symudiad yn gyffredinol, ac yn arbenig i'r An- ihydeddus Arglwyddes Neave, Syr. Georp Meyrick, Bar., Byr Thomas Neave, Bar., Mr J. Rice Roberts, a'r ysgrifenydd mygedol diflino -5ir Fanning (cymeradwyaeth). Sylwodd Mr Hughes, tra mewn eysylltiad a'r Wasg, yr oedd. wedi edrych ar ol y "Clorianydd" am ddwy flyn- odd bron, a hyny yn ddidal (cymeradwyaeth). Sylwodd Mr J. Rice Roberts y caffai blescr miawr i sefyll i fyny, ond prin y gwyddai beth i'w ddweyd. Ond yr oedd y ddyledswydd oedd., ganddo i'w pheiiformio yn un hynod ddymunol. Yroodd dwy foneddiges a gymerasant ran bwyr-, ig yn y seremoni, ae hebddynt ni,buasair. busnes wedi bod yn gyflawn. Y boneddigesau hyny oeddynt Miss Neave a Mrs Fanning (cymeradwy- aeth). Byddai yn anhawdd iawn, pe y ohwilient yr holl sir, cael gwell pobl na. theulu teilwng Dinorben. Perchid hwynt yn gyffredinol gan bawb a'u hadnabyddent. Yr oedd Mrs Fanning yn frodor o'r dref, a gwydd- ent oil am y rhinweddau da a pha rai yr oedd wedi cael ei chynysgaeddil (cymeradwyaeth). Yr oeddynt wedi dyfod yn nghyd i anrhydeddu dyn oedd wedi gwneud cymaint o lee yn ei fywyd. Beth oedd yn angenrheidiol yn y wlad yn awr ydoedd deiliaid gwirioneddoL Yr oedd yn dda., iawn ganddo glywed fod Mr Hughes yn un, ao wedi sefyll y prawf yn y dref, a hy*y, hab gyf- yngu ei hun i'r Oeidwadwyr. Yr oedd yn sicr eu bod oil yn falch nad oedd y mater wedi ed gyfyngu i'w blaid ei hun (cymeradwyaeth). Kid, oeddynt yn gwybod faint y rhwymedigaeth oedd yn ddyledus arnynt i Mr Hughes, ond yr oedd- ynt yn ddiolchgiar i'w cyfeiJion (cymeradwy- aeth). Yna cyfeiriodd Mr Roberts at y rhyfel yn Neheudir Affrica a'r casineb a'r eiddigedd a pha rai yr ystyrid Lloegr gan Alluoedd y Oyfan- dir, ond beth bynag fyddai y diwedd byddai i ddeiliaid gwirioneddol Prydain sefyll ysgwydd wrth ysgwydd (cymeradwyaeth). Siaradodd Mi Roberts am gysylltiad Mr Hughes a'r mor, a'r sylw mawr a roddai i faterion yn dwyn eysyllt- iad a lies y trigolion. Yn ddiwoddaf cynygiodd Mr Roberts bleidlais o ddiolchgarwch i Miss N'eave a Mrs Fanning (cymeradwyaeth). Eiliwyd gan Mr W. Lloyd, Y.H., Bryndyfr- ydog, yr hwn a ddywedodd na ohymerai eu ham- ser i fyny gyda sylwadau meithion.. Gofidiai, oherwydd absenoldeb yr Arglwyddes Neave. Yna rhoddwyd tair banllef i'r Arglwyddes. Oynygiodd Dr. Evans, Llanerchymedd, bleid- lais o ddiolchgarwch i'w teilwng gadeirydd. Yr oedd yn hyfrydwch ganddo weled Mr Thomas am fwy nag un rheswm (cymeradwyaeth). Yr oedd yn wedthiwr diflino gyda phob peth a gym- erai mewn Haw. Partlied y dysteb nid oedd ond canlyniad o'r teimlad da yn y gymydogaeth yn I gvllredinal tuagat eu cyfaill Mr Hughes (clywch, olywch). Yr oedd yn deilwng o hono yn mhob agwedd. Rhaid ei fod wedi rhoddi llawer o'i amser i'r gwasanseth cyhoeddus-fel aelod o'r Bwrdd Ysgol, y Oynghor Sirol, a Ohynghor Dos- barth Gwledig Twroelyn, ac yr oedd yn ddyn! gwerthfawr yn mhob cylch (cymeradwyaeth). Eiliwyd gan Mr R. Jervis, athraw Ysgol Genedlaethol Glanog^v eri, Bethewda. Dywedodd' ei fod yn adnabod Mr Hughes ers 25ain mlyn- edd. Yn ystod yr holl gyfhod hwnw yr oedd wedi ei gael bob amser yn gyfaill. Yr oedd yn rhaid iddo gyfemo mewn cyffelyb dermau at Mrs Hughes. Yr oedd yn dda ganddo gael dod yno o Bethesda, lie y bu yohydig "HooligMiisnt yn ddiweddar (chwerthin). Dywedodd Mr Hughes fod un dd'yledswydd yn disgyn arno yntau, sef cynyg pleidlais o ddiolch- gairwch i'r ysgrifenvdd mygedo'. diflino. Rhaid fod j maiber hwn wedi cymeryd llawer o'i amser, a'i fod wedi gwario cwrs o arian. Yr oedd yn sicr nas gallai byth ddatgan i Mr Fanning ddigom o ddiolchgarwch. Eiliwyd gan Mr Jones, a phasiwyd yn 1ID- frydol. Diolchodd Mr Fanning yn fyr, ao yna terfyn- wyd cyfarfod hynod ddyddoroi.

Yr Ystorm.

[No title]

Liythyrec ni y Golygydd,

GWEITHWYR. BGDEDERN A'U HORIAU…

OYNGHERODD NADOLIG LLANEROHY-MEDD.

Gwerthfawredd Anan Pared...

[No title]

--------Glo Mbn.

----..............._-- __------_-Cychwr…

Nodion Amaethyddoi, 8tc. -

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]