Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

ghys Dafydd Sy'n Deyd-

GoresSyn Cape Colony. -I

ABERFFRAW.

AMLWOH.

BANGOR. ;

BODEDFA-N.

CAERGYBI.,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CAERGYBI. Eisteddfod Geiddorol.-Yn y Nenadd Drefol, nos Fercher (Gwyl y Banc), cynhaliwyd eisteddfod gerddorol o dan nawdd y Wesleyaid. Y beirniad ydoedd Mr W. J. Williams, Caernarfon, yr hwn a roddodd foddlonrwydd cyffredinol gyda'i ddyfarn- iadau. Llanwyd y gadair gan Mr Owen Jones, Ty Mawr, a Mr R. Mon Williams vn arwain. Enill- wyd gwobrau am ddadganu gan Miss Polly Eva.ns, I London-.road, a Mr David Jones, Holbom-road. Ni ddaeth ond un cor yn mlaen ar y brif gystadleu- aetli, a rhoddwj-d y wobr iddo, Mr David Jones yn -in. Parti yr iyi arweinydd hetyd enillodd am I ddadganu "Myfanwy" (Dr. Parry). Gor Plant Kings- land, o dan arweiniad Mr Robert Hughes, ddyfarnwyd yn oreu, gvcbi clianmoliaeth, a piiarti o Armenia, o dan arweiniad Mr Tom Thomas, aeth a'r wobr am ddadganu ton gynulleidfaol. Yn ystod y cyfarfod cafwyd unawdau ar y orwth gan Miss Vemwy Hughes, ar y cornet gan Mr Owen Thomas, ac adroddiad rhagorol gan Mr Tom Roberts. Gwas- anaethwyd wrth y berdoneg gan Miss A. G. Jones, Old' Bank. Talwyd diolch i'r rhai a wasanaethodd yn y cyfarfod gan Mr W. S. Owen, yn cael ei gefnogi gan Mr H. P. Jones. Daeth cynulliad rhagorol yn nghyd, a chafwyd cyfarfod trefnus ac adedadol.— Brython. Cyfarfod Cystadleuol.-Cynhalir,dd Ysgol Sabboth- ol Bedyddwyr Bethel eu gwyl flynyddol prydnawn a nos Sul cyn y Nadolig, pryd yr adroddwyd bardd- oniaeth a thraethodau gan y plant, ac y canwyd amryw unawdau, yn nghyda darnau cerddorol chwaethus gan y cor. Nos Nadolig yr oedd y cyfarfod yn cymeryd gwedd fwy cystadleuol. Klywyddwyd gan y Parch J. W. Williams, gweinid- og. Cafodd nifer fawr o blant a rhai mewn oéd eu gwobrwyo am ganu, adrodd, traethodi, barddoni, ac am gelfyddydwaith. Yn mysg y beirniaid yr oedd y Parch J. W. Williams, Mri Edward Prichard, R. Mon Williams, Johnny Lewis, Trevor Hughes, a Miss Lewis. Er fod y tywydd yn ystormus, caf- wyd cynulliad da a chyfarfod rhagorol.—R.J.H. Cyfarfod Cystadleuol.—Nos Nadolig cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol yn nglyn ag Ysgolion Sabboth- ol Hyfrydle a Millbank. Cadeirydd y cyfarfod oedd Dr. R. T. Ellis; arweinydd, y Parch John Williams; a'r gyfeilyddes ydoedd Mrs Noble Grif- fith. A ganlyn ydyw enwau y rhai a enillasant y gwahanol wobrwyon: ■— Miss Nellie Roberts, Bod- eilian; Mr J. T. Davies, "Ap or Dyffryn," Mr H. H. Jones, Station-street; Miss M. Lewis, Miss Hughes, Miss M. C. Williams, Mr J. O. Jones, Mr T. Jones, Rock-street; Mr Robert Lewis, Miss Gladys Jones, Mri John Rowlands, a David Jones Mr Griffith Hughes,, m T. Parry, Mr John Row- lands, Miss Maggie Mary Pritchard, Miss Anne Evans, Miss E. A. Davies, Mr D. Jones a'i barti, Mr W. B. Thomas, Ysgol y Bwrdd Miss Gladys Jones, Bodifor; Miss Hughes, London-road; Cor Ebenezer (o dan. arweiniad Mr Robert Hughes) ydoedd y goreu am ganu yr anthem; Miss Gladys Jones, Bodifor Miss Minnie Hughes, London-road Miss Jane Lewis, Vulcan-street; Miss Katie Ellis, Mill street; Mr rr. Parry, Star Supply Stores Mr Robert Lewis, Vulcan-street; Miss Biodwen G. Williams, Cambrian-street; Mr David Jones, Hoi- born House, a'i barti. Mr Philip Thomas, Ysgol y J Dwrdd, Castellnedd, ydoedd y beirniad cerddorol. Cynorthwyo'r Tlodion. — Rhoddwyd cynorthwy haelfrydig a sylweddol i dlodion y plwyf y Nadolig diweddaf, fel arfer dros 40 tunell o lo yn cael eu rhanu i gynifer a 300 o dderbynwyr, pob un yn 1 cael dau gant, "tender" y Mri William Williams a'i Feibion yn cael ei dderbyn. Gweithredai Mr R. J. Edwaoxls, o Ariandy Gogledd a Deheudir Cymru, fel trvsorydd, a'r Parch Robert Price fel ysgriftmydd. Yn mhlith y rhai a gyfranasant yn hael at y gronfa yr oedd Arglwydd Stanley, Arglwydd Boston, Mr J. Lloyd Griffith, r rondeg; y City of Dublin Company, casgliad yn yr eglwys, Miss Adeane, Mrs Brereton, Miss Owen, Penrhyn Marchog; Mr F. M. Cotton, Mr Hugh Edwards, Towyn Lodge; Mr John Hughes, Castle House Cad ben Roche. Cadben Kendall; Cadben W. H. Binney, Mri William Williams a'i Feibion, Mr P. A. Jeffreys Smith, Mr T. J. Roberts, warden Eglwysig; y Parch Robert Price, y Parch James Jones, Mr R. J. Edwards, North and South Wales i Bank; Mr J. E. Williams, National Provincial Bank, ac eraill. Addurno yr Eglwvs.—Oaf odd eglwys henafol St. Cybi ei gwisgo yn hardd gogyfetr a'r Nadolig gan y boneddigesau canlynol :—Y ganghell gan Miss Adeane, y standards" gan Miss Eleanor Elliott, a'r bedyddfaen gan Miss Binney. Yn mhlith y rhai a gynorthwyent yn y gwaith yr oedd Mrs Owen, Miss Owen, Miss M. C. Thomas, Miss Edith Jones, Mrs Hurst, Miss Hughes, Miss Evans, Miss Thomas, Mr D. B. Thomas, Mr John o Owen, ac amryw eraill. Llys yr Ynadon.—Dydd LIun, eyn y diweddaf, o flaen Mr H. Edwards, Mr T. Forcer Evans, Cadben W. H. Edwards, Mr R. Gardner, Cadben Kendall, Mr T. Lewis Griffith, a Mr David Williams, gwnaed cais, ar ran Mri Wild a'i Fab, Gwaith dai, Caergybi, am drwydded i adeiladu ystordy tfrwydtol | (explosive) ar Fypydd Caergybi, yn lie yr un y bu cymaint o gyfreithio yn ei gylch. Penodwyd Mr Forcer Evans, Cadben Edwards, a Mr Gardner i ymweledl a'r lie cyn Thoddi y drwydded.—Cyhudd- wyd William Roberts, 2, Park-street, ganl yr Hedd- geidwad W. Evane o fod yn feddw yn y Stanley Arms ar yr 26ain o Hydref; hefyd, T. Conlan, j y trwyddedwr, o werthu diod i W. Roberts. Dir- wywyd Roberts i 2s 6c a'r costau, a thaflwvd yr achoa yn erbyn Conlan allan.—Cafodd John Jones, morwr, 27, Newry-street, ei ddirwyo i 2s 6c a'r | costau mewn dau amgylchiad am fod yn feddw ar j y 26ain o Awst a'r 16eg o Ragfyr.—Tail wyd yr achos allan yn erbyn David Roberts, Upper Jew- street, ar y cyhuddiad o fod yn feddw ar y 15fcd o Ragfyr. — Dirwywyd Ann Murphy, 3, Boston- court, a Catherine Deane, 4, Boston-court, i 2s 6c yr un yn cynwys y costau am fod yn feddw ac afreolus; hefyd, Alice Evans, 49, Baker-street, i 58 am gyffelyb drosedd. Maxchnad Nadolig.—Eleni eto yr oedd cigyddion Caergybi wedi pwrcasu cigoedd or fath oreu. Mr 0. Parry Jones, Plas Ll-echylched, yr hwn sydd wedi enill pedwar cant a haner o wobrwyon yn ngwahanol arddangosiadau amaethyddol Cymru, oedd wedi gwerthu y rhan fwyaf o anifeiliaid gogyfer a marchnad y Nadolig. Yr oedd Arglwydd Stan Penrhos, wedi gwerthu dau eidion campus. J Hefyd, arddangoswyd biffiau hardd wedi eu prynu gan Miss Roberts, Ty Hen, Llanynghenedl; Mr Humphreys Owen, Treddolphin. Gwalchmai; Mr Lewis, Quirtai; Bodorgan; Mr John Jones, Pen- yrargae, Llanfachraeth; Mr William Williams, Pare, Llandrygarn Mr Owen Wïlliams, Pencraig, Gwalchmai; Mr Evan Williams, Clegir Gwynion, Bryngwran Mr Robt. Roberts, Pendre' bwehelydd, Llantrisant; Mr William Morris, Ty Mawr, Valley Mr Edward Owen, Pentreewyddill, Rhoscolyn. Y cigyddion oeddynt fel v canlyn :—Mr David .Morgan, Stanley-crescent: Dau eidion wedi eu pesgi yn ar- benig gan Mr O. Parry Jones, Plas Llechylched; deugain o ddefaid, pa, rai abesgwyd gan Mr Mor- gan ei hun. Mr William Thomas, Bodedern Eidion gwir dda, wedi ei besgi yn Mhenrhos, ac un arall gan Mr O. Lewis, Quirtai, Bodorgan; phump o ddefaid. Mr William Jones. Stanley-crescent: Dau eidion penigamp gan Miss Roberts, Ty Hen, Llan- ynghenedl; dwsin o ddefaid, a deg ar hugain o wyddau. Mri Mathew Williams a John Rowlands: Pedwar eidion gan Mr O. Parry Jones, Plas Llech- ylched; tair-ar-ddeg o ddefaid gan Mr W. Jones, 'Rhen Gapel; ardaangosiad ysplenydd o wyddau a chwiaid. Mr William Jones, 'Rhen Gapel, Ceirch- iog Eidion campus o Benrhos gan. Arglwydd Stan- ley nifer fawr o ddefaid gan Mr Owen Griffith, Crug, Lianfaelog; ac hefyd llu o wyddau. Mri William Owen a Robert Owen, "Rhen Valley: Pedwar eidion gan Mr O. Parry Jones, Plas Llech- vlched a nifer o ddefaid a gwyddau. Mr Robert Roberts, N«wry-street: Dau eidion gan Mr William Wjdliams, Pare, Llandrygarn; deg o ddefaid gan Mr O. Parry Jones, Plas Llechylched; a deg o foch wedi eu pesgi yn bwrpaeol gan Mr William Roberts, Bryn, Llanfachraeth ac arddangosiad coeth o wyddau a hwyaid. Mr F. Reilly, Stanley- j street: Eidion gan Mr John Jones, Penyrargae, Llanfachraeth deuddeg o ddefaid gan Miss Adeane, Ltanfawr Hall. Caergybi, a phedwar o foch, yn nghyda. chyflawnder o sausages,ac felly yn y blaen. W. Pritchard. Greenfield-terrace: Eidion gan Mr John Jones, Penyrargae, Llanfachraeth a nifer o ddefaid. John Owen, Bryn Eidion gan Mr William Williams, Pare, Llandrygarn; a nifer o ddefaid. William Rowlands a'i Fab, Queen's-terrace Dau eidion, un gan Mr William Morris, Tv Mawr, Valley, a.'r llall gan Mr Edward Owen, Pentregwyddiii, Khoscolyn a dwsin o ddefaid o'r un fferm. W. waine Williams, Holborn-road: Yr oedd gan hwn aiddangosiad campus o biff a mutton. John James, Bryngwran Eidion gan Mr O. Parry Jones, Plas Llechylched, yr hwn a enillodd amryw wobrwyon 1 an yr arddangosid yr anifail crybwylledig. Hefyd yr oedd gan Mr Richard Hughes, Bodedern, a Mr j Richard Owen, Llanfihangelynhowyn, eidion bob un wedi eu pesgi gan Mr O. Parry Jones. Mr Fvan Evans,. Gwalchmai Tri eidion gan Mr Owen Williams, Pencraig, Gwalchmai; ac ugain o ddefaid wedi eu pesgi gaia efe ei hun. Yr oedd gan Mr Joseph Davies, Llanfaethlu Mr Hugh Williams, Rhydwyn a Mr John Jones, Bythincws, Llanfach- raeth. aimer (heifer) bob un gan Mr John Jones, Penyrargse, Llanfachraeth; a chan y Brodyr Jones, Bryngwran, yr oedd eidion wedi ei besgi gan Mr Evan Williams, Clegir Gwynion, Bryngwran, hefyd pedair o ddefaid Mri O. J. Lloyd a'i Fab, Ty'n- ddol, Llanfihangelynhowyn. Eidion gan Mr Robert Roberts, Pendre' Gwehelydd, Llantrisant, a nifer o ddefaid; ac yr oedd gan Mr J. O. Lloyd, -Elen, LlT-uifairyneubwll, eidion o'r un fan. Cyn diweddu rhaid i ni giybwyll fod gan Mr Owen Jones, pork- Stanley-ntreet (yr hon sydd wedi ei sefydlu ers haner cant o flynyddoedd), aetholiad gOdldog bore. sausages, ac felly yn y blaen. Yr oedd y drapers a'r grocers hefyd ar y blaen eto eleni.

CAERNARFON.

CEMAES

GAERWEN. !

GWALCHMAI.

LLANDEGFAN.j

% 1 I . LLANDRYGARN.

|LLAN DY FRY DOG.

LLANDDEUSANT._

LLANDDONA.

LLANTEITdAN.