Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

ghys Dafydd Sy'n Deyd-

GoresSyn Cape Colony. -I

ABERFFRAW.

AMLWOH.

BANGOR. ;

BODEDFA-N.

CAERGYBI.,

CAERNARFON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CAERNARFON. Llys Ynadon y Fwrdeisdref.—O flaen y Maer (Mr W. J. Williams), Mr R. Roberts a Mr Edward Hughes (dydd Llun), dirwywyd v rhai canlynol am feddwdod :•—Richuixi Roberts, Crown-street, 2s 6c I a'r costau; Robert Howard, eto, 5s a'r costau John Pritchard. 2s 6c a'r costau; WiUiam Ethall, barn-street, 2s Óí: a.'r costau. Tatlwrd allan vr aohos yn erbyn Owen Pany, Mount Pleasant Court. Y Nadolig.—Tywydd annymunol a fodolai yma, fel mewn manau eraill, ar y diwrnod uchod. Cyn- haliwyd y gwasanaethau arferol yn yr holl eglwysi I yn ystod y dydd, ac yn yr hwyr cymerodd canu carolau Ie, hefyd, yn ychwanegol. Profodd gwas- anaeth y carolau yn Eglwys St. Mair yn fwy at- dynol fyth, oherwydd y cynorthwy roddwyd gan seindorf cerddorfaol. Cadwyd tranoeth wedi'r I Nadolig (Boxing Day), hefyd, yn wyl gyffredincl. Bu i lawer o'r swyddfeydd ac amryw sefydliadan o fusnes gau o nos Lun hyd foreu Gwener. Pryd- nawn Mercher cafwyd ymdrechfa gicio yn yr Oval, yr hyn a dynodd dorf fawr o edrychwyr; ac yn yr hwyr, diachefn, cafwyd "variety entertainment" yn y Guild Hall. Marw Foreu'r Nadolig. — Boreu ddydd Nadolig bu farw Mrs Roberts, priod Mr Roberts, Orug, Caernarfon, yn Llundain, mewn canlyniad i weith- rediad meddygol. Yr oedd Mrs Roberts yn chwaer i Dr. John Roberts, Porthaethwy, a Mr G. J. Roberts, Trefarthin, ac yr oedd yn perthyn, hefyd, i amryw o'r piif fasnachwyr yn Sir Gaernarfon a Manceinion. Bydd i'w marwolaeth gael ei deimlo yn ddwys y tlodion yn nghymydogaeth ei chartref. I Odyddiaeth.—Dydd Mercher diweddaf cynhaliwyd cyfarfod haner blynyddol dosbarth Caernar- fon o Odyddion yn y Prince of Wales Hotel. Cymerwyd y gadair lywyddol gan yr Uwchfeistr Robert Owen, Arvon- terrace, ac yr odd yn bresenol oddeutu 40ain o gynrychiolwyr o Leyn, Mon ac Arfon. Ar ol cadarn- hau gweithrediadau y cyfarfod diweddaf awd trwy y rhaglen. Gwnaed y penodiadau canlynol am y flwyddyn ddyfodol: — Yn uwchfeistr, Mr Richard Jones, Llanberis; yn is-uwchfeistr, Mr Richard Hughes, Dironvig; yn archwilydd y dosbarth, Mr H. Griffith, Pwllheli; ac i gynrychioli y dosbarth ) I y Pwyllgor Blynyddol Symudol, a gvnhelir y Sulgwyn nesaf yn Norwich, Mri Cadwaladr Davies (^ienai Bridge), Owen Evans (Caernarfon), T. H. H-ughes (Bethesda), a William Jones (Bangor). Tasiwyd yn nghanol brwdfrydedd fod yr Uwchfeistr Robert Owen i dderbyn "jewel" aur yr urdd, fel C} dnabyddiaeth o'i wasanaeth yn y gadair yn ystod biwyddyn olaf y ganrif. Cynhalir y cyfarfod nesaf yn Mangor.

CEMAES

GAERWEN. !

GWALCHMAI.

LLANDEGFAN.j

% 1 I . LLANDRYGARN.

|LLAN DY FRY DOG.

LLANDDEUSANT._

LLANDDONA.

LLANTEITdAN.