Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

26 erthygl ar y dudalen hon

LLAN ERCHY .,^DD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLAN ERCHY .DD. Llys yr Ynaon.—Ddydd Llun- cyn y Nadolig, cynhaliwyd y Ilys hwn, gerbron Mr H Roberts, Dr. W. Evans, a'r Mri A. McKillop a W. Lloyd. — Dinrywyd John Owen, Rhwng-y-cLdwy-bont, Llandyfrydog, i 5s a'r costau am fod yn feddw yn Llanerchymedd ar y 29ain o Dachwedd.—Gorchy- mynwyd i Maria Owen, Farmers'-Street, Llanerchy- medd, i dalu 10s o iawn a'r costau am adael gwas- anaeth Mr Charles G. Pierce, Ty Croes, heb rybudd. —Mewn llya arbenig, ddydd Mercher, o flaen Dr. Evans a Mr McKillop, dirwywyd William Roberts, Felin Newydd, Uandrygarn, i Is a'r costau am àyngu, a 2s 6c a'r coetau am fod yn feddw ac afreolus. Profwyd y dldau gyhuddiad gan yr Hedd- geidwad Hugh Williams. Y Tlotty.-Dydd Nadolig cafodd deiliaid y tlotty en ciniaw blynyddoL Gwasanaethwyd gan Mr R. Williams, cigydd Mr Williams, ironmonger; Mrs Pritchard, Bryn Hyfryd; Mr Griffiths, yr ysgoifeistr; Mr W. J. Williams, Stanley House; Mr J. Jones, argraphydd, yn nghydag amryw o foneddigesan ieuaino y dref. Anfonwvd yr an- rhegion gan Dr. Hughes, Mr Thomas Hughes (y clerc), Mr Williams, "ironmonger;" Mrs Parry Jones, Caemawr; Parch E. W. Davies, Rheithordy; Mr Griffiths, yr ysgolfeistr; Parch R- Thomas, Mrs Prichard, Bryn Hyfryd; Mr Robert Roberts, Mr J. R. Jones, Chester House; Mrs .Hughes, BrynOuhelyn MrWilliams,Tanyrhall; MrW illiams, Stanley Houae; Mr Parry, Bryn Goleu; Mrs Tho- mas, Manoeinion; Mrs Jones, Rheithordy Llan- dyfrydog Mrs Williams, Preswylfa Miss Prytherch, Llythyrdy, a Mrs Hughes, Ty Hen. Yr Yr oedd Cadeirydd y Bwrdd (Mr A. McKillop) yn bresenol tra yr oedd y ciniaw yn myned yn mlaen, ac anerchwyd y rhai oedd yn bresenol gancido. Cafwyd te a bara brifch yn y prydnawn, ac yn yr hwyr cafwyd cyfarfod), o dan lywyddiaeth y Parch R. Thomas, Llanerchymedd. Cymerwyd rhan gan Miss Gwen Thomas, Mr Thomas (leu.), Miss Hughes. Bryn Cuhelyn Miss M. O. Thomas, Miss Netta Thomas, Miss Grace Ann Jones, Miss Bridgie Toway, Master Bertie Griffiths, a. Master William Jones, yn nghvdag eraill perthynol i'r ty. Bwrdd y Gwarcheidwaid.—Cynhaliwyd cyfarfod J mi sol Gwarcheidwaid Undeb Mon ddydd Mercher, yr wythnos ddiweddaf, Mr A. McKillop yn llywyddu. Darllenwyd llythyr oddiwrth Fwrdd Llywodraeth Leol yn adigefio y Gwarcheidwaid nad oeddynt wedi derbyn gwybodaeth parthed pobI o feddwl gwaii oedd yn y tlotty. Penderfynwyd gofyn i Dr. Evans a Dr. Hughes archwilio deiliaid a dybid oeddynt yn y cyflwr hwnw. Adroddodd Dr. Michael Hughes, swyddog iechydol rhanbarth Llanerchymedd o'r tlotty, i'r perwyi ei fod wedi ymweled a'r tlotty, ac wedi archwilio yn fanwl y dyn William Thomas, diweddai- o Benybont, ond yn awr yn y ty, ac yr oedd wedi llwyr fethu ei 1 gael yn wallgof, gan fod ei atebion, i gwestiynau yn hollol resymol a chyson. Ei unig wendid ydoedd parthed ei iechyd, y meddyliai ei fod yn bur wael, tra nad oedd dim yn ymanerol y mater arno. Eglurwyd fod y dyn yn un pruddglwyfus.— Ysgrifenodd Miss Sarah A. Williams, meistres gynorthwyol, yn dweyd y byddai yn gadael gwas- a,n-.i.eth y Gwarcheidwaid yn mhen y mis o'r 19eg o Ragfyr.-Dy,w,edold y Olerc (Mr Thomas Hughes) fod 546 o bobl wedi cael cymorth yn ystod y deu- ddeng mis diweddaf, ac fod lleihad o 5p 16s 6c yn y treuliadau.-Dywedai y Meistr (Mr W. Watter- son) ei fod ef a Mrs Watterson yn dymuno diolch i'r Gwarcheidwaid ar ran y deiliaid am y ciniaw Nadolig ardderchog a roddasant iddynt.—Adrodd- wyd fod! lleihad yn y crwydriaid yn ystod y chwarter. Cafodd 16 eu cynorthwyo, o'u cydmaru a 55 yn ystod v chwarter cyferbyniol y llynedd.— Cyfeiriodd Mr Priestley at y plant a anfonwyd i'r tlotty, rhieni pa rai oeddynt wedi cael eu carcharu am eu besgeuluso, a chredai y dylid ysgnfemi at y Gymdeithas er Atal Oreokmdeb at Blant. Dygwyd y plant dan sylw i'r ystafell, archwiliwyd hwynt gan y cadeirydd. ac ymddangosent yn gryf-m iach. Sylwodd y Cadeirydd eu 'bod yn ol pob golwg yn cael digon o f'sryd. Ar gynygiad Mr Priestley, penderfynwyd dychwelyd y plant i'w cartrefi gynted ag y deuai eu rhieni o garchar. Cynygiodd Mr Edmund Roberts fod plant y tlotty yn cael eu han- fon i wahanol dai yn y gymydogaeth arSadyrnau, ac yn ystod y gwyliau, mewn trefn i vmarfer a gwneud negeseuau i'r siopau, etc., a rhai i'r ffermydd cymydogaethol i ddysgu godi-o, etc. Pe caniabeid hyn byddai i'r meistr roddi papyr iddynt i ddangos pa. bryd y gadawent y ty, a pha bryd y cychwynent yn ol o'r Ileoedd lie y buont yn gweitnio. Eiliwyd y cynygiad gan Mr Priestley a chafodd ei basio yn unfrydoL

LLANFAIR P.G.

LLANTACHRAETH.

LLANGEFNI

PENSARN.

PORTHAETHWY.

PORTH AMLWCH.

I .SARDIS (Bodffordd).

SOAR (Aberffraw).

TALWRN.

YARD 'MALLTRAETH.

-----------Aelwyd y Gan.

ENGLYN I'R "MEDDYG."

Nos Cyn y HadLolig.

Talwrn Mawr ;yn Mon.

------" MarcLnadoedd Biweddaraf…

Harohnadoedd Cymreig

Hunting Appointments

LLANFAETHLU.

LLANSADWRN.

|PENRHQSGARNEDD (Bangor).I

SOAR (Rhosfawr).

VALLEY.

SIBRWD SERCH.

Family Notices

LLANTEITdAN.