Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

26 erthygl ar y dudalen hon

Brawdlys Chwarterol Arfon.

Cydbwyllgor Heddgeidwadol…

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

Erchyllwaith mewn Gorsaf yn…

Damwain Angeuol ar Ffordd…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Damwain Angeuol ar Ffordd Penygroes. Y TRENGHOLIAD. Dydd Mercher bu Dr. Hunter Hughes (y trengholydd dros ddeheubarth sir Gaernarfon) yn cynal trengholiad yn Llanllyfni ar gorph dyn ieuanc o'r enw Owen Parry Williams, morwr, yr hwn oedd yn byw yn Rhedyn-terrace, Llanllyfni. Bu y trancedig farw boreu ddydd Llun mewn canlyniad i niweidiau a dderbyn- iodd drwy syrthio oddiar ei ddeurodur ar y 4ydd cyfisol. Yr oedd WTilliams, yr hwn oedd yn 23ain mlwydd oed, ac newydd basio arhol- iad y Bwrdd Masnach fel swyddog, ar y dydd- iad o dan sylw yn gyru detirodur ar ffordd Peny- groes, gyda dynes ieuanc. Pan yr oeddynt yn myned i lawr gallt serth ger pont y rheilffordd collodd y trancedig reolaeth ar ei ddeurodur, ac aeth yn erbyn y ciawdd. Derbyniodd niweid- iau difrifol i'w ben, a symudwyd ef i'w gartref. -Rhoddodd Mrs Pritchard (Llanllyfni), yr hon oedd gyda'r trancedig, dystiolaeth. Mewn ateb- iad i'r Trengholydd, dywedodd y tyst eu bod hwy yn myned i lawr yr allt, gwelsant geffyl a cherbyd, & dyn ar gefn ceffyl yn ngwaelod yr alit. Canodd y trancedig. y gloch, ond ni ddar- fu i'r dynion gymeryd dim sylw o gwbl, ac ni symudasant. Buasai O. Parry Williams wedi gallu myned heibio iddynt pe na fuasai i'r ceffyl oedd gyda'r cerbyd wedi troi, gan rwystro y ffordd. Fel canlyniad i hyny aeth y trancedig yn erbyn y clawdd.—Dywedai y Trengholydd fod yn anmhosibl i'r dyn oedd yn ngofal y cer- byd, na'r dyn arall, glywed y trancedig yn canu y gloch, a hwythaui yn ngwaelod yr allt.— Rhoddodd Dr. E. Shelton Roberts, Penygroes, hefyd dystiolaeth. Dywedodd fod y trancedig wedi dlerbyn niweidiau i'w ben, ac yr oedd ganddo lygaid du. Nid oedd asgwrn o gwbl wedi tori. Yr oedd yn dioddef oddiwrth ys- gydwad yr ymenydd. Wedi hyny daeth y tan lddwf arno, o effeithiau yr hwn y bu farw dydd Llun.—Rhodd,wyd tystioiaeth yn mhellach gan Robert Owen Roberts, Quarryman's Arms, Llanllyfni.—Dychwelodd y rheithwyr, blaenor y rhai ydoedd y Parch G. Oeidiog Roberts., reithfarn o "Farwolaeth ddamweiniol." Pas- iwyd pleidlais o gydylndeimlad a theulu y tranc- edig jn eu trallod.

Bwrdd Gwarcheidwaid Banger.

[No title]

[No title]

Gormes yr Undebau Crefftwrol.

Streic yn Blackburn: Achos…

Tan Arswydus yn Mlaenau rfestiniog.

Eglwys Rydd y Cymry.

Eisteddfod Genedlaethol y…

Mordaith ar Draws y Werydd.

Local Tide Table.

ICARNARVON.

PORTMADOO.

Family Notices

Marchnadoedd Diweddaraf -----_---_--_-

ma,cohnacloodd Cymreig -