Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

22 erthygl ar y dudalen hon

----------_.---.----_.----Pwllheli.

-----------------------NQDION…

Advertising

Aber 1

.Aberaeron. :

--Abeiporth3

Aberystwyth.

Bangor-

Bethesda.

Blaonau Ffestiniog a'r AmgylchceddI

!Caernarfon.

Gwrecsam-

Harlech-

Lianaitli.'

Llandegai.

---------Yprthyr Tydfil.

IlenrhoTgarnode

Porfhr?ac!ofi?-

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Porfhr?ac!ofi?- Cystadleuaeth Saethu.Dydd Sadwrn cynhaliwyd cystadleuaeth saethu ar y Traeth yn mysg y Gwir- foddolwyr am gwpan hardd a swm o arian a roddwyd yn rhodd gan Mr F. S. Pereival, Bodawen. Bydd un ymdrech ychwanegol y flwyddyn hon a phedair ymrytson y flwyddyn nesaf, a'r sawl gaiff y pwyntiau uwchaf fydd perchenog y gwpan. Enillwyd y prif wobr o 5p ddydd Sadwrn gan Sergeant Anderson, yr hwn a wnaeth 80 o bwyntiau ail (3p) Cadben Breese, ond ni chymerodd y wobr. yr hwn a roddwyd i Lance- Sergeant Hughes, gyda 72 o bwyntiau; trydydd (Ip) Private Simeon Thomas, 72 pwyntian; pedwerydd Private J. H. Williams, 71 o bwyntiau. Ymchwiliad.—Bu Mr George Waller Willcocks, C.E., yn cynal ymchwiliad, ddydd Llun, o berthynas i drosglwyddiad Uwchyllyn o ranbarth etholiadol rliif 5 a6 i ranbarth etholiadol rhif 30, a throsglwydd- iad rhan o blwyf Beddgelert, a adnabyddir fel Nantmor, o ranbarth etholiadol rhif 20 i ranbarth rhif 30. Hefyd o berthynas i gais Cynghor Dinesig Pcrthmadog i gael trosglwyddo rhan o'r rhanbarth ddwyreiniol (rhif 6) i rhif 5.-—Ychydig iawn oedd yn bresenol.—Rhoddwyd tystiolaethau gan Mr Jonathan Davies a Mr Morris (o swyddfa clerc y Cynghor Sirol), ac addawodd yr.arolygydd wneud adroddiad i Fwrdd y Llywodraeth Leol yn 01 yr arfer. Wrth glywed am weithred ddyngarol y P.C. Row- lands, Porthmadog, yn rhuthro drwy berygl i'r dwfr yn ei ddiIlad er achub y bychan o grafangau angau. rhedodd yr awen fel hyn :— Dyngarwch dan ei garon-realai Deimlad Rowlands dirion A thnvj- 'daith y weithred hon Enillai serch cyfeillion. Alltud Eifion. Yr Ysgol Ganolradd.—Cynhaliwyd cyfarfod o'r llywodraeth wyr prydnawn ddydd Gwener, Mr Jona- ) than Davies yn llywyddu. Yr oedd hefyd yn bresen- ol Mrs J. E. Greaves, Mrs Casson, Parch -Llewelyn R. Hughes, M.A. (ficer), John Owen, M.A., Dr. S. Griffith, Mri D. R. Thomas, J. T. Jones, Thomas Burnell, a William Morris Jones (clerc).-Cynygiodd y Ficer eu bod yn penodi y Rhingyll Roberts, yr hwn, yn fuan, fyddai yn ymneillduo ar ei flwydd-dal, i edrych ar ol yr ysgol.—Eiliwyd gan Mr D. R.Thomas, a dewiswyd y cadeirydd i ofyn i'r rhingyll ei delerau. -Rhoddodd Dr. Griffith rybudd i'r perwyl tou yn ddymunol adeiladu ty i'r prifathraw.—Penodwyd Elizabeth Lloyd, Tremadog, i lanhau yr ysgol am 12p yn y flwyddyn.—Pasiwyd i roddi ysgoloriaeth o 5p i'r tri bechgyn oeddynt Iwyddianus yn yr ariioliad diweddaf yn yr honours class, sef Thomas Roberts, Borth; Robert Ellis, Tremadog ac Edward J. Ed- wards, Porthmadog yn y "pass list," William R. Hughes, Evan Arthur Jones, Emily Claudia Owen, Sarah S. Jones, William Owen Roberts (Criccieth), a Maggie E. Evans (Criccieth).-Ar gynygiad Mr J. T. Jones, pasiwyd fod cais am y bursaries i fod mewn llaw ar v 30ain eyfisol, ac i'w hystyried gan bwyllgor o'r holl lywodraethwyr. Y LLYS SIROL. Cynhaliwyd y llys hwn ddydd Mawrth, gerbron ei Anrhydedd y Barnwr D. Lewis. CWYNO YN NGHYLCH MWG. Jane Pritchard, Market-square,- Penrhyndeudraeth, a ofynai ddwy bunt o iawn oddiar Ellen Edwards, gwraig Robert Edwards, paentiwr, o'r un lie, am jiiwed i'w thy mewn canlyniad i fwg o dy y ddiffyn- yddes, a gofynid yn mhellach fod terfyn yn cael ei roddi ar y mwg.—Ymddangosai Mr John Jones- Morris dros y gofynydd, a Mr William Morris Jones dros y ddiffynyddes.-Tystiodd y Gofynydd ei bod hi wodi dioddef oddiwrth fwg ac arogl drwg oedd yn dyfod o simneu y ddiffynyddes. Yr oedd hyn wedi digwydd bob wythnos ers y Nadolig, ac yr oedd y dyst wedi gorfod cymeryd ei phrydiau o fwyd allan o'r ty. Yr oedd y mwg yn dyfod rhwng y distiau a'r wal.-Thoma.s Rees, sa-er maen, a ddywedodd iddo fyned i dy Robert Edwards ddydd Sadwrn, a gwelodd y flues a'r berwedydd a sylwociu. fod yno agendor yn y simneu a phosibl oedd i fwg fyned drwy y wal. Bu- asai ef yn foddlawn i wneud y diffyg i fyny am 5s.— Dadleuai Mr W. Morris Jones mai anghydwelediad oedd rhwng y partion.—Dyfarnwyd o blaid y gofyn- ydd am lp, a gorchymwyd y ddiffynyddes i gymeryd moddion i rwystro'r mwg. "Y CI BACH" WEDI EI LADD. Hugh Griffith, Shop Newydd, Penrhyn, a ofynai 5p'o iawn oddiar Morgan Jones, Fferm Rhiwgoch, Penrhyn, am y golled a dderbyniodd trwy i'r diffyn- ydd ladd ei gi.—Ymddangosai Mr John Jones-Morris dros y gofynydd, ac amdditfynwvd gan Mr William George.—Mr Jones-Morris a ddywedodd mai y cwest- iwn ydoedd a oedd y ci yn gwneud rhywbeth ar y pryd i gynawnhau y diffynydd i'w ladd, a dadleuai Mr Morris nad oedd.—Tystiodd y Gofynydd fod y ci yn perthyn iddo ef. ac o wyth i naw mis oed. Cafodd y tyst gynyg lp 5s am dano pan nad oedd ond tri mis oed. Yr oedd y tyst wedi entro y ei yn Arddang- osfa Ffestiniog, ac wedi disgwyl y cymerai wobr. Welsh terrier ydoedd, a'r swm lleiaf fuasai y tyst yn ei gymeryd am dano ydoedd pum' punt.-Croes-hol- wyd A wyddoch chwi pa beth wnaeth y ci pan y lladdwyd! ef ?—Y" Tyst: Ni wnaeth ddim.—Mr George: Naddo pan y lladdwyd, ond a wyddoch chwi rywbeth am yr amgylcliiadau dan ba rai y Hadd- wyd ef? 9 A wyddoch chwi y byddai vr)- myned ar ol y defaid?—Gwn na fyddai yn myned ar eu hol, ac ni welodd neb mo hono yn myned ar eu liol.-William Jones, asiedydd, a ddywedodd ei fod yn pasio ar hyd y ffordd pan y galwodd y diffynydd arno i gymeryd gofal ei gi. Atebodd y tyst nad oedd ganddo yr un ci. Yr oedd wedi gweled y "ci bach" yn eistedd i lawr i edrych arno ef (y tyst) yn pasio (chwerthin). Wedi myned yn ei flaen gan' llath neu ychydig clyw- odd y tyst ergyd. Troiodd yn ol a gwelodd ddyn yn is i lawr. Yr oedd mwg o'i gwmpas fel yn dod o wn. —Croes-holwyd Yr oedd nifer o ddefaid yn y cae.— Ail-lwyd Hugh Griffith, yr hwn a ddywedodd ei fod yn siarad gyda'r heddgeidwad Jones >n y daeth y di- ffynydd i fyny atynt. Gofynodd yr heddgeidwad i'r diffynydd a oedd wedi saethu y ci, ac atebodd yntau ei fod,; a'i fod yn credu fod ganddo berffaith ha wl i wneud hyny gan fod y ci yn rhoddi llawer o drwbl iddo trwy fyned ar ol y de £ aid, a phan welodd naa gallai ei anfon adref. bit iddo ei saathu. Addefodd y diffynydd nad oedd y ci wedi ymaflyd yn y defaid.— Cadarnhawyd gan yr Heddgeidwad J. M. Jones, ac heb alw ar yr ochr arall, dyfarnodd ei Anrhydedd o blaid y diffynydd. GADAEL EI LLE. Gofynai Morgan Jones a William Jones, Cwrt Isa, Garn, dros y rhai yr ymddangosai Mr William George, iawn oddiar Keturali Pritchard am adael eu gwasanaeth—Ni wnaeth yr un o'r ddau ofynyod eu hymddangosiad, ac o ganlyniad dyfarnwyd o blaid y ddiffynyddes.

Ehyl.

Family Notices

Advertising

--__-*------Tieryddiad yn…