Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

--------------------I Hanes…

Crmdeithas Amaethyddol Mon…

--------- -----------------------Y…

Gwrthgiliwr at Wrthgilwyr.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gwrthgiliwr at Wrth- gilwyr. (Gan yr Hen Ffarmwr.) (Tarhad.) I Fy nghydwrthgilwyr—Do! Fy haul a faclilad- odd tra yr ydoedd hi yn ddydd." Do! Ac os methodd v gelyn a llwyddo i fy ngorchfygu trwy brofedigacthau tanllyd, na fy hudo chwaith irwy demtasiynau hudoliaethus, llwyddodd yn y diwedd yn ddigon sly" i fy suo i gysgri yn ddigon ta.wel hyd yn nod yn nydd brwydr a rhyfel; a hyny hefyd ar ganol maes yr ymdrechfa! Yspeil- iodd fi wedy'n yn ddigon rhwydd o'm holl arfau 11 y —-rhwymodd fi a chawdynau sicrhaodd ti with olwynion ei gerbyd llusgodd fi ar draws tomenau, d i,a. a thrwy garthffosydd drewedig profedigaetliau dragiodd fi trwy hcolydd prifddinas ei ymherodr- aeth yn mhlith ei gaethion rhyfel gan fy ligo.eod yn wrthddrych udiadau, gwawd, a dirmyg pawb o'm gely-nion, Seliodd arwtÍ yno, lieb nag ym- borth na dillad, goleuni na gwres! A gwae Ii. yn 1) awr yn y liau uffernol hon 'Rwyf beunydd dan draed fy ngclynion Mewn brwydrau echryslon eu gwedd, Yn ymladd a'r fyddin fy hunan Heb astalcli, na tharian, na chledd Yn gwbl heb unrhyw ymgeledd, Yn gorwedd mewn clwyfau a gwaed Y gelyn yn wastad yn drechaf, A minau yn sathrfa dan draed! Pa beth, gan hyny, a wnaf pan godo Duw ? A phan ymwelo Efe, pa beth a atebaf ? canys ofn Duw sydd arnaf, a chan Ei uchelder Ef, ni allaf oddef." Ei servio'n right am ei ffolineb. 1)y- lasai wylio arno ei hun ac yna peth hawdd fuasai iddo oehelyd yr holl drychineb a'r holl benbletli hyn! Pe byddai pawb o'r un feddwl a mi, ni welwn yr un cerydd yn rhy lym, na'r un oruch- wyliaeth yn rhy chwerw iddo ef a'i gyffelyb am eu hynfydrwydd. 'Roedd eisiau ei gael i lawr ersi llawer dydd ac os byth y daw yn ol at grefydd eto, rhaid gofalu am ei gadw i lawr hefyd." (Tru- eni mawr fod pethau fel hyn yn wirionedd.) Taw, y peth dideimlad Pa ddefnydd dan nod iddo bellach ? Mae yr un drwg' a chydwybod euog yn ddigon i wneud hyny yn awr. Ystyria, mae twr gwyliadwriaeth wedi ei gymeryd trwy ddichell, a'r gwylwyr oil yn gaethion rhyfel gan y gelyn. A oes arnat tithau chwant clnvueu rhan y cyhuddwr a'r brawd hynaf tuag ato hefyd ? Gwn y dylasai iitlio, a gwyr yntau hyny hclyd. A gwn nad oes rhith o dros iddo ef na neb arall beidio a gwylio ond, gwn yn llawn cystal a hyny, y gwnelai un deigryn o gydymdeimlad ag cf allan o lygad tosturiol lawcr mwy o les iddo yn bresenol na mil o ddanodion gan dafod annhosturiol. Pa un ai cuslai groesawgar a gwen serchog y tad ai danodaeth wawdlyd y mab hyttaf oedd debycaf i doddi calon yr afradlon ? Barna di. Yr hwn sydd yn sefyll, edryched na syrthio. Gwyiia rhag dy demtio hefyd." "Ust, bydd ddis'aw, mae yn edrych rywbeth yn hyll o gyffrous ac y mae 3m dechreu siarad rhvwbeth yn hynod gyn- hvrfus eto, feddyliwn. Ychydig mae yn xe.ldwl fod yma neb yn gwrando." Pe bawn yn gwybod y byddai o ryw ddefnydd i mi, pe gallwn, mi roddwn un troed ar begwn y Do a'r llall ar begwn y Gogledd, a bloeddiwn yno hyd nes clywai yr holl greadigaeth, fod cymaint o berygl i loan y disgybl anwyl" syrthio i gysgu ar fynwes ei Arglwydd ag oedd i Pedr, druan o hono, i fyned i dyngu a rhegi yn Ilys yr archofl'eir- iaid. Pe dywedwn y pethau hyn wrth rywrai, gwn na wnaent fy nghredu ond credu neu beidio, gwn eu bod yn wirionedd. Mae y dynion yn meddwl mai trwy syrthio yn ysglyfaeth i "bechodau rhyfygus y mae dyfod yn wrthgilwyr. Non- y sense, nonsense." Eithriadau anfynych yw y pethau hyn. Y dynion sydd yn cysgu sydd fyn- ychaf yn syrthio dan draed pechodau rhyfygns, ac nid y dynion sydd yn effro. A phe llwycidid i'w cadw rhag cysgu nid yn fynych y gwelid neb ym ebyrth i'r pethau gofidus hyn. Yr oedd Pedr, druan, yn haner cysgu pan aeth i lys yr archoffeir- iaid, a'r disgybl anwyl yn haner cysgu hefyd pan ffodd ymaith gan adael ei Arglwydd i gynddaredd Ei elynion yn Ei oriau cyfyngaf. Ie cysgent ill dau pan oedd Ef yn chwysu'r gwaed! Efe a'u cafodd hwynt yn cysgu Un erchyll yw gwrth- giliad y cysgu. Yn wir, nid yw llithriadau i bech- odau gwaradwyddus, fynycliaf, ond yn unig cang- henau ag sydd yn tyfu ar y pren Upas gwenwynig hwn. Ac nis gall Satan ei hun, yn gymharol, ond prin gyfrif lladdedigion y cysgu wrth y miloedd! "N id oes achos i neb fyned i ddilyn y rasus ceffyl- au, y puteindai, y 'prize-ifghters,' v 'theatres,'] a'r balls,' er gallu dyfod yn wrthgilwyr. Na, TJa, dim ond dilyn ychydig yn ffyddlon ar ol y cricket a'r scientific yma, y penny readings' inffidelaidd, y corau cami, a'r cyngherddau ag sydd wedi Hadd a diffodd pob gwreichion o ysbrydoirwydd crefydd yn meddyliau y miloedd! Yr eisteddfodau yina hefyd (yn eu harddull bresenol) ag sydd fel loeust- iaid yr Aipht, yn difwyno ac ysgubo, yn ysg'yf- a.ethu a. gwenwyno pob eginyn gobeithiol braidd yn mhob man lie yr elont. Dim ond dilyn y peth- au hyn am ychydig, peth digon rhwydd fydd dv- fod yn haiarnaidd wrthgiliedig Mao digon o laudanum vsbrydol a digon o gloroform uffern v Y-S 11 ddynt i suo eu gwrthddrychau i gysgu yn ddigon tawel fel na bydd ond gobaith gwan am iddynt ddeffro byth mwy hyd nes syrthio yn ebyrth i fflamau tragwyddol! 0 na byddai arnaf yn awr fel yn y misoedd o'r blaen fel yn y dyddiau pan gadwai Duw fi. 'Rwy'n cred uwed'yn yr yscrrif- enwn i lythyr neu ddau ar y pethau damniol hyn a wnelai i rywrai grynu hyd eu gwadnau ond y 11 awr fyddai waeth i mi ddweyd wrth y cervg yna sydd yn ngwaelod yr afon nag wrthynt hwythau— nid oes neb a. wrendy ar wrthgiliwr. Ond mi ddeuant i wrando ar ol i'r haf fyned heibio, a ninaii heb fod yn gadwedig. Mi allaf fi feddwl a dweyd y peth a fynwyf wrthyf fy hun ar Ian yr afon yma heno ond os yw Eglwvs Iesu Grist am ddiwygiad, gall gredu fy nga.ir i neu beidio. rhaid stwri y lludw hyn allan o'r aelwvd (chwedl y Parch P. Griffiths (Alltwen) ers 40 mlynedd yn ol) cyn y cymer diwygiad sylweddol byth Ie. Ihe- gethwyr ieuainc, da chwi, chwareu teg i Pedr yr oedd yn sicr o fod yn llawn cystal dyn a Christion hefyd a llawer un sydd yn ei drafod yn lied ddi- scremoni. Gwir iddo fethu dal yn awr y brofedig- aeth annisgwyliadwy hono, ond, mor wir i. hyny, canlynodcl ei Arglwydd wedi i bawb o'r lleill ffoi ymaith a'i adael. Mi garwn yn fawr gael gwybod gan y scientific men" hyn beth yw y gwahaniaeth moesol sydd rhwng taro pel a chetyn bren a rhedeg fel ynfyd- ddyn ar ei hoi! a'i chicio a throed a rhedeg yr un modd ? Pwy- a etyb? Dywedaist ti, Solomon, onid do, i ti weled "dyn ieuanc heb ddeall gan- ddo yn myned i rywle fel yr ych i'r lladdfa ?" I Do, Solomon, mi welais inau ddyn ieuanc arall cyffelyb iddo yn mvned fel yr ych i'r lladdfa i rywle arall! A gwrthgiliwr yn cysgu oedd y ffwl hwnw! Do, mi gwelais ef y dydd o'r blaen ar y "plain" yn chwareu cricket ac yn cysgu. Mi gwelais ef yn y capel y noswaith wedyn yn oa-rando y bregeth mor ddefosiynol a sant ac yn cysgu. Mi clywai ef un noswaith yn vr eisteddfod yn adrodd a clianu y pethau mwyaf disylwedd a rhigymilyd a glywodd dyn a'i glustiau erioed, ac yn cysgu. A'r nos- waith wed'yn yn y seiat yn dwevd ei brofiad wrth y brodyr am v pleser a'r hyfrydwch, y mwvnhad a'r dyddanwch mawr n deimlai gyda phethau cref- ydd, ac yn cysgu Mi glywais ef un noswaith vn y dafarn yn eanu Hob v deri dando, dyna ganu eto, Sian fv;yn, tyr'd i'r llwm," er difyru trwp o nobs haner meddw! ac yn cysgu. A'r noswaith wed'yn yn y cwrdd gweddi yn ceisio gweddio am rywbeth na wyddai ar y ddaear wedi gorphen beth yr oedd wedi bod gerbron Duw yn gofyn am dano, ac yn cysgu. Mi glywais ef v nos o'r blaen yn y penny readings yn canu Bon- eddwr mawr o'r Bala." Mi fu'm gynt yn caru Seisnes, Globen felen fawr anghynes, etc., or difyru haid o inffideliaid! ac yn cysgu. A'r noswaith wed'yn yn ledio canu yn y capef: Mae abertb Calfari A haeddiant Iesu Mawr, Yn ngolwg f' enaid i Yn fwy na'r Nef yn awr (o'ch dyna gelwydd!) Dacw fy Nuw, dacw fy Mhen, A'r oil a feddaf ar y pren. ac yn cysgu. O! y Duw Mawr, os nad hvn yw j cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glan, pa beth,' ynte, ydywj Gwelais ef yn myned gyda'r "excursion train" er mwyn tipyn o "recreation," ac v mae hyny yn gyfreithlawn (?), wrth gwrs; a'r pryd- nawn hwnw yn dawnsio yn y "kissing-ring," ac yn cysgu. A'r Sabboth canlynol yn estyn ei ddwy- law at bethau cysegredig Ty Dduw, ac yn cysgu. Y dydd arall bu yn canu mewn match tonau cy- segredig am arian, ac yn cysgu. A'r Sabboth can- lynol yn cynyg y pethau hyn, wedi eu halogi, yn I ebyrth moliant i'r Duw Goruchaf yn Ei deml ( sanctaidd! ac yn cysgu. Erchyll! erchvH Dychrynllyd! dychrynllyd Match gwcddio fydd y nesaf, onide 1 Efallai mai fy nghalon galed, wrthnysig, a gwrthgiliedig i sydd yn peri i mi feddwl'fel hyn yn bresenol ond fyddai waeth genyf yn awr yr un blewyn glywed match pregethu, match gweddio, na clilywed match! canu yr "Hen Ganfed." Ai tybed fod mawl y cysegr yn fwy anghysegredig yn ngolwg y Nofoedd na rhyw ran arall o'r gwas- anaeth dwyfol, fel y gellir masnachu ynddo fel hyn ? Os yw Luther yn y Nefoedd yn gwybod am y fasnach annuwiol a d'ieflig hon ar y ddaear (maddeuer i mi deimlo yn gynhyrfus), mae vn sicr o fod yn wylo dagrau hyd yn nod yn nghanol y gogoniant ei hun! Ond waeth yn v byd am Luther na neb arall na'i ddagrau ychwaith rhaid i ni fyned yn mlaen gyda'r oes oleu hon," serch aberthu mawl y Goruchaf ar allor y Mammon anghyfiawn," i ddelwau cerfiedig cyfaxfodydd cys- tadleuol, cyngherddau, a'r eisteddfodau, hyd yn nod pan mae Duw yn protestio yn erbyn hyny! ac megis yn myned ar ei liniau i ddeisyf arnom i beidio! Ha; nid oes ond yr Hollwybodol vn unig a wyr pa faint o'r pethau moesol, enald- ddinystriol hyn mae y gelyn ddyn wedi bod yn eu hau yn Eglwys Iesu Grist yn yr oes oleu hon ac y caiff gweinidogion y Testament Newydd, a hyny heb fod yn hir hefyd, drafferth ofnadwy i'w div.-reiddio, neu ynte fe lenwir ffauau y drei.^iau yn y tir a reibiwyd, hyd oni bydd eisiau lie ° Os oes rhywrai eisiau gwybod am y ffordd oreu i ladd a diffodd pob gwreichionen o ysbiydolrwydd cref- ydd yn y meddwl, a bod yn grefyddwr respect- able" hefyd, "go ahead," hon yw'r ffordd; rhod- iwch ynddi. Ha fy nghydwrthgilwyr, gwyr canoedd o hon- och yn llawn cystal a minau, yn well o lawer, am ddylanwad gwenwynig a marwol y pethau hyn ar grefydd ysbiydol yn y meddwl nag y gall arall ddv- wedyd byth wrthym am danynt. A phe gwyddwn y cymerai rhywrai rybudd oddiwrthyf, mi iloedd- iwn y funud hon hyd nes v clywid fy llef o "Dn hyd Beerseba." Pan yn dilyn y pethau hyn nid oedd amser i ddim ar y ddaear ond i feddwl am danynt hwy, a hwy yn unig! Dim amser byth i ddarllen penod, dysgu adnod, rhoddi emyn yn y cof, na gweddio yn y dirgel o un pen blwyddyn1 i'r llall. Chwilio y newyddiaduron am yr úiscJd- fodau, y testynau, y gwobrwyon, a gwneud ein goreu i drechu ein gilydd, dyna'r cwhl! Cyn gorphen gwneud ein can i ffair gwagedd ,;m gwpl o docynau, rhaid dechreu un arall o glod i "Mr Cypher, am ryw rinwedd dychymygol a dybid fod ynddo ond ni wyddai neb yn y byd am dan- ynt. A chyn gorphen hon eto, rhaid dechrcu m any nad i Mr Good-for-nothing, na wntdai neb braidd am ei fodolaeth hyd nes clywed ei fod wedi marw. A'r hwn yn ddamweiniol a fyddai mor lwcus a chael y wobr, a gaffai hefyd ci goroni a'r anrhydedd o fod y Uuniwr celwyddau goreu i ganu clodydd un a aeth drwv'r byd mor ddiddefn- ydd a saeth drwy'r awyr! Ydwvf yn y tir a relb- lwld: „ GWRTHGILIWR. Ingfa Dreigiau. O-Y. Yr oedd dyn ieuane. yn ddiweddar vn aelod yn ac yn perthyn i'r cor canu hefyd Mewn gair, oanu braidd oedd y cwbl ganddo. Dy- wedodd un o'r hen frodyr unwaith wrtho a!1 iddo feddwl ychydig am weddio gyda meddwl am ganu weithian. "O," ebe yntau, "mae i bob un ei ddawn yn yr eglwys—y canwr i ganu, a'r gwcrldi- wr i weddio." Nid rhyfedd i'r canwr, druan, ganu ei ychydig grefydd mewn amser byr iawn i fanvol- aeth, tra yr oedd y gweddiwr yn blaguro fel y llawryf gwyrdd yn ngwinllan ei Arglwydd. Tru- eni fod i'r canwr gymaint o frodyr wedi canu eu hunain i farwolaeth-gwrthgiliad ysbrydol, onide ? (I'w barhau.)

-__--dwrt PMil Latigor.

----._--_--- ------- -----..-…

Advertising

I EI AN 0 YJL E S NOS.

Advertising

---------------. Y Cnwd owenith.

Advertising