Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

EI AN GYLE S NO S.!

Y Qwir, iii, 2im ond y Gwir,

Y Budd Mawr Cyhosddus

T Ddaeargryn yn yr India.

Advertising

-----Ffeithiau yziNghylch…

.------------_-----Cyflafan…

!Damwain Arswydns yn Kghaerfyrddin.

Nod ion Gwasgaredig.

[No title]

--------_.-__.------_.----__---Arddangosfa…

r.Dam wain Ddifrifol Angladd

Advertising

:!o Marwolaeth a Chladdsdigaeth…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

:!o Marwolaeth a Chladdsdigaeth Hr J. Hckard. Yr wythnos hon mae genym y gorchwyl prudd- aidd o gofnodi marwolaeth Mr John PickardT "stud groom" i'r Gwir Anrhydeddus Argiwy-id Penrhyn, yr hyn a gymerodd le foreu Mawrth ar ol cystudd hynod fyr. Buasai y trarcedig yn ngwasanaeth teulu Arglwydd Penrhyn im 52ain o flynyddoedd fel "stud groom," ac yr oedd va dra adnabyddus mewn cylchoedd amaethyddol yn Ngogledd Cymru. Delid ef yn y parch uchaf bob amser gan Arglwydd Penrhyn a.'i deulu, am en bod yn llawn werthfawrogi ei gymeriad rhagorol, ac nid hawdd fydd i'w arglwj-ddiaeth gael dyn all lar/w ei le yn meddwl ei feistr. Mawr berchid ef hefyd gan ei gyd-wasanaethyddion ar yr ystad oherwydd ei ddull plaen, dirodres, a gwyneb- agored. Tra yn gwemyddu ar un o ddynion ys- tablau y Penrhyn, yr hwn a gymerwyd yn wael yn sydyn, y cafodd efe anwyd, yr hwn a ym- ddadblygodd yn "erisipelas" a gorwasgiad yr ys- gyfaint; ac er yr oil allai Dr. Dobie (Caer) a Dr. Grey Edwards (Bangor) ei wneud iddo, colli'r dydd a ddarfu ar ol dim ond wythnos o afiechyd.. Mawr gydymdeimlir a'r weddw draUodus, yr non sy'n eiddil ei hiechyd ers peth amser. Cymerodd yr angladd le prydlawn Iau-angladd preifat—yn mynwent Eglwys Llandegai, pryd y gweinyddwyd gan y Parch Canon Jones yn yr eglwys ac ar lan y bedd. Yn yr orymdaith angladdol yr oedd Arglwydd ac Arglwyddes Penrhyn (y blaenaf yn dyfod yr holl ffordd o Ysgotland er mwyn bod yn bresenol), yr Anrhydeddus Hilda Pennant, yr Anrhydeddus Henry Douglas Pennant, yr An- rhydeddus Henry Mostyn, Mrs Reid (cyfnither), y Milwriad Sackville West, Mr E. Woodman (Eaton Hall), Miss F. Speed, Dr. H. Grey Ed- wards, Meistri W. Speed, H. Thompson, G. Johnson, Robert Roberts (cyn-bostfeistr), E. Jones (gorsaf-feistr), E. W. Thomas, J. Wil- liams (Penlan), T. Webster, Robert Jones (Llan- degai), W. Parry (ironmonger), Steward, R. Mickle, J. E. Pritchard, E. Jackson, Bindley* F. SouthweH, F. Barlow, W. Brocklebank, W. Roberts, J. Richards, Thomas Pritchard, Lewis Thomas, W. Hurst, Owen Morris, Rich. Hugh,. a Mr Oliver (yn,1 cynrychioli Mr J. Fairclough), etc. Yr oedd yr arch o dderw caboledig gyda "brass mountings" trwehus, ac wedi ei gorchuddio a phlethdyrchau o flodau, y rhai a anfonwyd, yn mhlith eraill, gan Arglwydd ac Arglwyddes Pen- rhyn, yr Anrhydeddus Alice, Hilda, Violet, ac Ina Douglas Pennant, yr Anrhydeddus Henry Mostyn, Mrs Pickard, Miss Barnes, Mrs Walton, Mrs Reid, Mrs Grey Edwards, Mr E. Woodman, cyd-wasaihetiiyddion a dynion yr ystablau, Mr Geo. King, Mr a Mrs Roberts, Mr a Mrs Hawkes, Mr a Mrs Thompson, Miss Soulsby, Miss Brad- ley, Mr a Mrs King, Mr T. Webster, Mr aMra Jackson, etc. Yr "undertaker" oedd Mr Ambrose Jones, High-street, Bangor.

rMagwraeth Anifeiiiaid

Advertising