Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y mae gan Radicaliaid Dwyreinbarthl Sir Ddin- bych berffaith hawl i'r holl gysur a'r gorfoledd allant hwy 8ugno oddiwrth eu mwyafrif cynyddol. Maent wedi mwy na chadw yr uwchafiaeth a sef- ydlwyd gan Syr G. O. Morgan yn 1895, ac y maent wedi gwneud hyny hefyd pan oedd rhagolygon y Blaid Undebol yra c-drych yn neillduol ddisglaer. Otor fyddai gwneud ymgais at egluro y ffigyrau, oblegid y ffaith blaen ydyw fod Radicaliaeth ym- osodol am y presenol mor nerthol yn rhanbarth- au gweithfaol yr etholaeth fel nas gall cyfeillion cyfraith a threfn ddim sierhau hyd yn nod gy- maint a gwrandawiad oddiwrth gefrbgwyr "dyrys- edig" Mr Moss. Pa fodd i newid hyn oil ydyw y pwno sydd gan y Blaid Undebol i'w wynebu. Bydd yn orchwyl maith a chyndyn, oblegid lie na wrendy y terfysgwyr ar resymau teg pan y mae eu pregethwyr a'u diaconiaid hwy eu hunain yn apelio am chwareu teg, ychydig obaith a fedd Tori fo' siarad yn blaen i lwyddo dim. Ond y mae dyledswydd pob Undebwr da yn berffaith eglur, a dylai arweinwyr lleol y blaid ar unwaith ym- gymeryd a'r gwaith o beorffeithio trefniant (organ- isation) a wna, mewn amser ac allan o amser, arfer pob moddion cyfreithlon i argyhoeddi a throi mwy- afrif Mr Moss i leiafrif. Ffiloreg yw haeru fod gan ganlyriad etholiad Sir Ddinbych ddim o gwbl i'w wneud a gwleidyddiaeth y Liywodraeth. Ni wyr glowyr y Rhos, Coedpoeth, a Minera fawr fwy am wleidyddiaeth nag a roddir ynddynt gan ar- weinwyr yn hyntio am boblogrwydd-rhai o nod- wedd y pregethwr a'r undebau erefftwrol. Gelyn- ion penaf y Elai(i Undebol yn jSTwyrain Dinbych ydyw galluoedd anwybodaeth yr un yw y gelyn- ion mewn llawer eraill o'r eth.olaethau Cymreig, ac yn erbyn y cyfryw elynion y bydd gan Mr Kjenyon a'i gefnogwyr i ymladd am flynyddoedd lawer i ddyfod. Pe gellid dysgu glowyr Dwyrain Dinbych i wireddu eu ffeithiau ac i feddwl dros- tynt eu hunain, argyhoeddedig ydym y cymerai cyfnewidiad pendant le yn fuan y nhon a chymer- iad yr etholaeth. Ein cysur am y presenol yw nas gall etholiad Dwyrain Dinbych feddu y dylanwad lleiaf yn y Senedd nac allan o honi. Bydd i Mr Moss, yr hwn sydd Radical, gymeryd sedd Syr George Osborne Morgaij), yr hwn yntau oedd Radical, gyda hyn o wahaniaeth, fod Syr George, gyda'i holl ffaeleddau, yn ddyn o safle lied gyfrif- ol yn NhY1 y Cyffredin. Nid yw y Radicaliaid wedi enill dim drwy yr etholiad hon nid yw yr Un- debwyr wedi colli dim chwaith. Y mae gan gefn- ogwyr cyfanrwydd ac urddas yr ymherodraeth, pleidwyr yr Eglwya Genedlaethol, cyfeillion trefn a chyfraith-y mae ganddynjb hwy eto fwyafrif o drosi gant a deugain yn Nhy Cyffredin Prydain I Fawr. Wrth gofio y ffaith hon, byddai yn ang- haredig i'r eithaf ynom rwgnach i'r Blaid Radical- aidd dlawd, ddigalon, a diymddiried, gael ym- fflamychu tipyn dros lwyddiant Mr Moss.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

---__i/amwaia yn A4«iigor-…

Cais ar fywyd y Czar.

. IMarwolastii 11helthor Y…

. Gwallgcfddyn Mewn Mxidiarit…

[No title]

------—'y Y Cyn-ayngnorydd…

•---+-----fasnach id yr Wythnos.

---'-----+----Marwolaeih y…

ivodicn Amencanaidd.