Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Er fod rhai dynion yn teimlo yn eiddigeddua wrth yr aelodau Radicalaidd Cymreig a'u bod hwy eu hunain yn awr ac eilwaith yn dueddol i ymffrostio fod rhan fawr o'r genedl yn ganlynwyr iddynt, eto y maent weithiau yn gorfod profi iiad yw y canlynwyr hyny yn ymddwyn mor ddymunol ag y gellid disgwyl o dan amgylchiadau neillduol. Y mae yr arweinwyr ar amserau yn gorfod bwyta iail surion gyda'r danteithion ddeuant i'w rhan. Bydd rhyw gyfra4 neu gilydd o'u cefnogwyr yn barhaus yn galw yr arweinwyr i gyfrif yn neill- duol y rhai hyny o honynt sydd yn gyfreithwyr a bar-gyfreithwyr. Heb ofalu rhyw lawer am eu proffes wleidyddol bydd y boneddigion hyn, ar yr adeg yma o'r flwyddyn, yn ymddangos o flaen yr ynadon er dadleu dros roddi trwyddedau i werthu diodydd meddwol i'r dynionj hyny sydd yn dy- pauno am danynt. Nid yw yr aelodau Seneddol cyfreithiol yn aros am foment i ystyried a yw gwneud hyn yn gyson a'u golygiadau gwleid- yddol ac a'r geiriau lefarwyd ganddynt adeg- yr etholiad ddiweddaf ar y cwestiwn dirwestol. Ond y mae eraill yn ystyried ac yn ddiau yr:( tybio fod anghysondeb, ymddangosiadol neu wir- ioneddol, rhwng ymgeisydd Seneddol pleidiol i fesurau er cyfyngu y fasnach feddwol ac aelod Seneddol pleidiol i helaethu terfynau yr un fas- rach. Darfu i aelodau Cymdeithas Ddirwestol Deheudir Cymru a Sir Fynjwy gymeryd y mater i ystyriaeth ddydd Iau diweddaf, a phasiwyd pen- derfyniad yn cynwys achwyniad yn erbyn yr ael- odau Seneddol sydd yn gwneud y fath beth. Os nad ydym yn camgymeryd, y mae peth tebyg wedi ei wneud gan yr un gymdeithas yn flaenorol ond heb ateb uni pwrpas. Y mae yn bur debyg mai yr un dynged sydd yn aros penderfyniad ddydd Iau diweddaf; oblegid nid yw aelodau y Gym- deithas Ddirwestol yn gwybod fod gwahaniaeth rhwng bod yn gydwybodol o blaid mesur neillduol a bod yn wleidyddol o blaid yr un mesur. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng y ddau, ac er rmvyr.; pael eu goleuo dylai y gymdeithas wahodd un o'r boneddigion achwynir yn ei erbyn i'w; cyfarfod er mwyn iddo egluro y gwahaniaeth.

---__i/amwaia yn A4«iigor-…

Cais ar fywyd y Czar.

. IMarwolastii 11helthor Y…

. Gwallgcfddyn Mewn Mxidiarit…

[No title]

------—'y Y Cyn-ayngnorydd…

•---+-----fasnach id yr Wythnos.

---'-----+----Marwolaeih y…

ivodicn Amencanaidd.