Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

eaafau Seneddol Newydd.

,Ymosodiad Penffordd gan Grwydryn.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ymosodiad Penffordd gan Grwydryn. Cyfarfu masnachydd o Fangor a dig^yddiad tra anhyfryd nos Fawrth diweddaf. Tra yn cerdded o Gaernarfon i Borthdinorwig, daeth crwydryn (tramp) ato mewn rhan unig o'r ffordd, yr hwn a fwngialodd rywbeth yn nghylch bod allan o waith ac heb arian. Ni chymerodd y masnachydd un sylw o hono ac aeth yn ei flaen, gan basio crwydryn arall yn ochr y ffordd. Yn mhen byr amser cafodd y masnachydd fod y crwydryn cyntaf wedi ei oddi- weddvd ef ac iddo yn sydyn ymosod arno. Llwydd- odd y masnachydd i rrael yn glir a'i ymosodydd, a rhedodd yn 01 at yr ail ddyn a gofynodd iddo am ei enw a'i gyfeiriad fel tyst o'r ymosodiad. Y dyn a sylwodd ria byddai ei enw o ddim defnydd, gan ei fod ef ei hun "ar y ffordd." Yn mhen ytbaid, fel yr oedd' yn parhau ei siwrnai, derbyniodd y masnachydd ymosodiad ffyrnig; ond y tro hwn efe a drodd at y dyn a gwnaeth doriad hyll ar ei wyneb, yr hyn barodd i'r crwydryn. fyned ymaith. Yn ddilynol aeth y masnachydd yn ei flaen am Borthdinorwig; a chan na feddai ond amser byr i ddal y tren i Fangor, methodd gael hamdden i roddi hysbysrwydd i'r heddgeidwaid yno. Yn ddiweddarach ar y nos, fel yr oedd y masnachydd yn myned i lawr y Stryt Fawr, Bangor, efe a wel- odd y dyn a ymosododd arno. Ar unwaith rhodd- odd hysbysrwydd i'r Rhingyll Breese, yr hwn ddigwyddai fod gerllaw. Y swyddoig a adwaenodd y dyn fel un o'r enw Lewis, a chymerodd ef i'r ddalfa. OYn-rwyd, ef o flaen yr ynadon ddydd Mercher; ond tynodd yr Arolygydd Rowland y cyhuddiad yn ei erbyn yn ol, sef ymgais honedig i gyflawni lladrad penffordd, ar y tir i'r trosedd honedig gael ei gyflawni o fewn cylch swyddogaeth heddgeidwaid Oaernarfon, i ofal pa rai y tros- glwyddwyd y cyhuddedig.

Ssgenlnso Plant yn Methesda.

A 3oddiad Trafaeliwr c Golwyn…

Cael Dyn wedi Boddi yn Llanfairfechan.

ILlythyr Nodedig Eunanlsiddiad.

Advertising

AT EIN GOHEBWYR !

[No title]

Anrhydeddu Cantcrion y Ehondda.

Marwolaeih a OJiladdedigaeth…

- Addysg Ailraddol.

Esgob Newydd Bangor.

ulTith Arglwydd Lovat" Eto.

Marwolaetb Cymro o Fon.