Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

eaafau Seneddol Newydd.

,Ymosodiad Penffordd gan Grwydryn.

Ssgenlnso Plant yn Methesda.

A 3oddiad Trafaeliwr c Golwyn…

Cael Dyn wedi Boddi yn Llanfairfechan.

ILlythyr Nodedig Eunanlsiddiad.

Advertising

AT EIN GOHEBWYR !

[No title]

Anrhydeddu Cantcrion y Ehondda.

Marwolaeih a OJiladdedigaeth…

- Addysg Ailraddol.

Esgob Newydd Bangor.

ulTith Arglwydd Lovat" Eto.

Marwolaetb Cymro o Fon.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Marwolaetb Cymro o Fon. Tachwedd 24ain, yn nhy ci ferch, yn Portland, Oregon, bu farw Owen R. Owens, o Beaver Creek, Oregon, yr hwn wnaeth lawer o ddaioni yn ei ddydd. Ganwyd ef yn Amlwch, sir Fon. Trig- I ianai yn Fron Heulog, yn nglyn a'r hwn yr oedd } 30 erw o dir; ac yr oedd gan ei dad felin flawd rhwng Llangefni ac Amlwch, yn gwneud masnach 1 ar raddfa eang. Yr oedd gan R. Owens warehouse fawr yn Amlwch, a chariai yntau fasnach yn mlaen fel ei dad. Yr oedd ei dad yn flaenor gyda'r Anni- bynwyr hyd derfyn ei oes, a chymerodd Owen R. Owens ei le ar ei ol, gan ei lanvn urddasol. Yr oedd yn gyfaill mynwesol i'r Parch Thomas Evans (A.) a'r Parch John Pritchard (T. C.), a gweini dogion eraill. Llanwodd y swydd o guardian y tlodion nes iddo ymadael a Chymru a byddai y swydd yn galw ar iddo fyned i Lanerchymedd bob wythnos. Pan ymadawodd am Birmingham, Lloegr, Ile y cymerodd Herm o200 erw am dair blyn- edd, wylai llawer a dderbyniodd elusen ganddo. Ymfudodd i America ddechreu 1885, gan adael ei deulu yn Birmingham. Ar ei laniad yn New York, gwelodd lythyrau gan Dafydd Thomas, Beaver Creek, yn dweyd am dir rhagorol Oregon, a daeth yma; anfonodd am ei deulu, gan fyned i'w cyfarfod i New York. Yn Beaver Creek pryn- asant fferm, ao yno y bu ef hyd ryw ychydig amser yn ol. Y mae y fferm yn eiddo i'w ferch yn awr. Yr oedd yn weithiwr diflino yn ngwinllan ei Ar- glwydd a thrwy ei lafur a'i egni ef ac eraill sefydl- wyd Eglwys Annibynol yn Beaver Creek, yn mhen blwyddyn ar ol ei gyrhaeddiad, a bu yn ffyddlon o hyd. Nid oedd heb brofedigaethau yn y byd. Tachwedd 213in, 1895, collodd ei ferch, yr hon cedd gysur lawer iddynt gartref; ac yn Mehetin, f 1894, hunodd ei anwyl briod. Arhosodd ar y fferm ei hunan am beth amser; ond yn ganlynol daeth at ei ferch (ei unig blentyn), Mrs Bauman, i Portland, lie y cafodd ergyd o'r parlys, yr hon a brofodd yn angeuol iddo. Bu yn gaeth yn ei ystafell am flwyddyn cynei farwolaeth, a chollodd ei barabl dair wythnos cyn ei farw, nes yr anailuog- wyd ef i siarad. Derbyniodd bob gofal, cysur, a charedigrwydd. Dydd Sul, Tachwedd 27ain, claddwyd ef yn Riverview Cemetery, lie y gorr/edJ ei briod a'i ferch (PoDy). -"Y Drych." j