Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

eaafau Seneddol Newydd.

,Ymosodiad Penffordd gan Grwydryn.

Ssgenlnso Plant yn Methesda.

A 3oddiad Trafaeliwr c Golwyn…

Cael Dyn wedi Boddi yn Llanfairfechan.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cael Dyn wedi Boddi yn Llanfairfechan. Dydd Mawrth canfyddodd Moses Jones, bugail, gorph dyn o ymddangosiad parchus yn gorwedd mewn pwll o ddwfr yn ymyl lodge Brynyneuadd, Llanfairfechan. Daeth yr Heddwas T. Griffith a thynodd ef o'r dwfr, ac aeth ag ef i Lanfairfechan i aros trengholiad. Archwiliwyd y corph, yr hwn dybid oedd wedi bod yn y dwfr am tua phedair awr ar hugain, gan Dr. R. Hughes, a methodd gan- fod arno unrhyw olion ymosodiad. Yn ei logellau canfyddwyd nifer o fan bethau, gyda symiau o aur ac arian, nodyn pum' punt, a "cheque book" y Mercantile Bank of Scotland. Deallwyd oddiwith bapyrau eraill gafwyd mai ei enw ydoedd George A. Eadie, a'i fod yn fab i Mr Eadie, adeiladydd, Inglefield House, Pollockshields, Glasgow. Cynhaliwyd trengholiad ddydd Mawrth gan Mr J. Bodvel-Roberts. Tystiodd Mr George Eadie, o Glasgow, mai ei nai ydoedd y trancedig. Dyn dibriod oedd, yn byw ayda'i dad, i'r hwn yr oedd yn gynorthwywx fel adeiladydd ac ymgvmerwr.—Gwelodd y tyst ef yn fyw ddiweddaf oddeutu chwe' mis yn ol, a de- allai ei fod yn Glasgow ddeufis yn ol. Yr oedd lw yn ddiweddar wedi bod yn symud o gwmpas y wlad. Gaoi fod ganddo foddion, a dim busnes,- gwnai fel y mynai. Yr oedd wedi cymeryd llwybr ofer ers oddeutu deunaw mis, a gobeithiai y tyst ei fod wedi gadael y wlad, a dynahefyd oedd dy- muniad ei dad yn y llythyr gafwyd ar y trancedig. Yr oedd ganddo foddion ar wahan i'w dad. I fyny 1 ddeunaw mis yn ol pan y gadawodd dy ei dad yr oedd yn bartner a'i dad yn y busnes, ac hyd yn bur ddiweddar yr oedd y teulu dan yr argraph ei fod wedi myned i wlad dramor. Credai y tyst-nad oedd yn dymuno ymaflyd mewn gwaith, ond ni wyddai ei fod yn byw yn anghymedrol, er ei fod yn yfed ychydig weithiau. I ddamwain hollol y priodolai y tyst ei farwolaeth. Rhoddodd Moses Jones dystiolaeth parthed can- fod y corph. Yr oedd y dwfr oddeutu dwylath o ddyfnder lie y gorweddai y pen. Nid oedd yr holl lyn ond wyth lath o led. Thomas Thomas, signalman yn ngorsaf Aber, a ddywedodd i'r trancedig ddod ato ar y platfform nos Lun tuag ugain munud wedi unarddeg. Yr oedd yn bur wlyb ac oer, ac er yn gallu cerdded yn iawn ymddangosai fel pe wedi bod mewn diod. Tyst arall o'r enw David Rowlands a ddywedodd iddo weled y trancedig yn mhentref Aber ychydig hwyrach na'r amær y gwelwyd ef gan y tyst blaen- orol. Dywedodd ei fod yn myned i Benmaen- mawr, a chyfeiriodd y tyst ef tuag yno. Yr Heddwas Griffiths a dda.ngosodd lythyr gaf- wyd ar y trancedig oddiwrth ei dad. Eglurodd y Orwner fod ei dad yn ei ddwrdio yn y llythyr. Yr oedd yn amgauedig "draft" am gan' punt. Walter K. Bass, trwyddedwr y Liverpool Ex- change Vaults, Upper Bangor, a ddywedodd fod y trancedig wedi bod yn aros yn ei dy o'r 19eg i'r 26ain o Ragfyr. Hwyr y dydd diweddaf gofyn- odd ar fod i'w bethau gael eu pacio gan ei fod yn bwriadu myned i Glasgow. Gofynodd a oedd ei dad a'i fam wedi dod- Atebodd y tyst nad oedd- ynt, pryd y dywedodd y trancedig ei fod wedi breuddwydio ddwy noson olynol eu bod yno, ai fod wedi cael ychydig o hely-nt (rvda'i dad. Ych- v.-anegai fod arno eisiau myned i Glasgow i weled ei fain. Nid oodd y tranoedig yn yfed i ormod- edd. Barnai y rheithwyT fod meddwl y trancedig yn ansefydlog iddo gyfarfod a'i ddiwedd drwy foddi, ond nad oedd dim i arddangos pa iodd yr aeth i'r dwfr.

ILlythyr Nodedig Eunanlsiddiad.

Advertising

AT EIN GOHEBWYR !

[No title]

Anrhydeddu Cantcrion y Ehondda.

Marwolaeih a OJiladdedigaeth…

- Addysg Ailraddol.

Esgob Newydd Bangor.

ulTith Arglwydd Lovat" Eto.

Marwolaetb Cymro o Fon.