Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

AKFWISG Y MARCBOG.I

I Yr oedd yn "Ormod o Wr Bonheddig."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Yr oedd yn "Ormod o Wr Bonheddig." MllIOO RYNOD DDRW GDTBUS. Walter Jams ydoedd enw dyn tal, mewn gwiag 0 da, ac yn foneddwribob ymddangosiad, a gyhudd- -.vyd yn Heddlys Bow-street, Llundain, o fod yn berson drwgdybua ac o dori i mewn i yatafoll yn y Cecil Hotel gydag allwedd pwrpasoL Mr Charles Hinman, marsiandwr, o Brooklyn, New York (Bin aros ar hyn o bryd yn y Cecil Hotel), a ddywedodd iddo y prydnawn blaenorol weled ei wraig yn cau drws d hystafell wely, i'r hwn yr oedd do picio, ac yn myned fr ystafell eistedd gyda'r plant. Aeth yntau (y tyst) allan am dro ac wedi dychwelyd efe a aeth ar ei union i'r ystafell wely, gan geiaio dadgloi y drws. Er ei syndod ni wnai y drws agor, a gwthiodd ef a'i ben- glin. Treiodd yr allwedd drachefn. bu i'r drws agor. Dyna lie gwelai efe y carcharor yn sefyll tumewn, a'r tyst a ddywedodd wrtho: "Beth ydych yn ei wneud yn yr ystafell hon ?" Yntau a ateborJd "Daethum yma i gyfarfcwl djrne,3 -Mrs Sadlk x-J-wkson wrth ei henw.'f "Nis gwn i ddim yn nghylch Mrs Sadlier-Jack- son," ebai'r tyst. "Nid dyma ei hystafell hi; ya- tafell fy ngr»r»ig a'm plant ydyw." "Wel," ebai y carcharor, "yr wyf wedi gwneud camgymeriad mawr." "Mae arnaf eisiau gwybod pwy ydych a phaham yr ydych chwi yma," meddai y tyst. "Yr wyf yn wr bonheddig perffaith," atobodd y carcharor. "Nid wyf yn meddwl eich bod," ebai'r tyst yn ol; "Thaid i chwi ddyfod gyda mi i'r brif swyddfa," a gafaelodd ynddo. Aeth y carcharor gydag ef haner y ffordd i lawr y grisiau yn ewyllysgar, oud yno efe a safodd ac a sylwodd: "Nis gallaf fyned i lawr yna. Nid af ychwaith. Tr wyf jn ormod o wr bonheddig. Fe andwya hm/fi j" "Mae'n rhaid i chwi fyned," ebai y tyst; a myned a wnaeth. Galwyd y rheolwr, yr hwn a holodd y carcharor. Ax y cyntaf dywedodd y carcharor nad oedd y tyst wedi bod tuallan i'r drws ond am eiliad, ond addefodd wedi hyny ei fod ef (carcharor) wedi bolltio'r drws oddimewn. Dywedodd mai y "forwyn a'i gollyngodd i mewn. Siaradodd y tyst a'i wraig hithau, wedi myned i'r ystafell, a gafodd fod ei satchel (yn yr hwn yr oedd allweddau eu trynciau) wedi cael ei dori yn agored a'r trynciau wedi eu dadgloi. Oa-fwyd yr allwedd- au wedi hyny ar lawr. Ar gais yr heddgeidwaid caxodd yr achos ei ohirio, a gwrthwynebwyd gollwng y earcharot dan feichiafaeth. Dygwyd y "gwr bonheddig" eilwaith o flaen Llys Bow-street ddydd Gwener, pryd y dywedodd De- tective-Inspector Leach fod y cyfeiriad roddes y carcharor yn un cywir. Syr John Bridge: Beth ydyw y dyn ? Y Swyddog: Edrychir amo fel un o foddion an- nibynol- Mae ganddo gyfrif yn y New Zealand Bank, ond hwy a wrthodant roddi i mi fanylion. I Ei eiddo rhydd-ddaliadol ef ei hun yw y lIe yn Horsham. Y mae wedi byw yno dair neu bedair I blynedd- Mae y lie yn werth tua 1500p. Oeidw dair neu bedair o geeyg magu. Tn icihob man lie bu y dyn hwn yn aros yr oedd pethau yn cael eu colli, ac mae efe wedi ei ddrwgdybio. I Yna galwyd Mrs Sadlier-Jackson, dynes wedi ymwisgo yn ffasivnol, yr hon a ddywedodd mai yn yr Iwerddon yr oedd yn preswylio. Dywedodd I hefyd ei bod yn adwaen y carcharor. Nid oedd yn frawd iddi, ond yr oedd yn "berthynas i mi." Yr oedd hi yn aroe yn yr Hotel Cecil ar y 9fed o Ea^fyr, ond ymadawodd ar y diwrnod hwnw ar ol bod yno rhyw bythefnos. Ni fu iddi ddychwelyd i'r gwesty hyd y boreu hwnw. Syr John Bridge: A oedd y dyn y fath "berth- ynns" i chwi ag i roddi iddo yr hawl i fyned i'ch ystafell ? Mrs Jackson: Nac oedd, ond mynych y mae wedi bod yn fy ystafell. Gwraig briod ydwyf fi, yn byw gyda'm gwr. Nid oedd dim byd o'i le yn y ffaith ei fod yn dyfod i'm hystafell. Wedi i Mr Judah, rheolwr yr Hotel Omil., roddi tystiolaeth, Syr John Bridge a ddywedodd fod y careharor, pan ddarganfyddwyd ef yn yr ystafell wely, wedi dweyd mai myned yno i weled boneddiges a wnaeth, ac nid oedd amheuaeth ei fod yn golygu iddo gael ei gredu, os ffeindid y peth allan, y byddai yna "scandal." Yr oedd y foneddlges yu berthynas, ac ni fuasai ynA ddim "scandal;" a dy- munai ddweyd ar unwaith nad oedd un adlewyrch- iad yn cael ei daflu ar Mrs Jackson. Pe yn ddyn gonest, ni fuasai'r carcharor byth yn defnyddio'r fath esgusawd. Tr oedd yn argyhoeddedig iddo fyned i'r ystafell gydag amcan anghyfreithlon, a dedfrydid ef i dri mis o lafur caled.

[No title]

.._--,__-----.-...----------------.--------Llwyddiaat…

[No title]

---.-------------.-:-----------Chwytbu…

-..-__----__-__-------..,.-Pobl…

-------.----------Eisteddfod…

[No title]

I Eisteddfod yn nhvi,

Eisteddfod yn Kgliaer.I

----------------.-Y FLWYDDYN…

PuHEILFFYRDD MON.

-_.-.-.------------TTSTEB…

LLWTBRAU RHOBYB04

OIG IffANGEFNI.

YR ANNIBTNWTR YN MON.

EIN GWEINIDOGION.