Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

YR AELWYD GYMREIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR AELWYD GYMREIG. [DAN OLYGIAETH ALLTUD.] cf'< -■ *9?. NODION. Dydd Sadwrn diweddaf, tra ar ymweliad a Barri gyda'r aincan o roddi ei bresenoldeb yn yr eisteddfod gynhelid yn y Tabernacl, tarawyd Mr W. T. Samuel yn wael iawn yu wir, mor wael fel nas gellid ei symud gartref am rai dydiiau. Blin iawn fydd gau eiu darllenwyr dderbyn y uewydd digalon hwn, a gwn y byddant hwy mor awyddus a ninau i'w weled eto yu holliach, gan fod yna rai canoedd wedi bwriadu ei weled yn arwain yn y Romilly Hail nos Fercher nesltf. Os nafydd ef yn alluog, pwy geir i lanw ei le ? ,Y. Daeth amryw ginoedd yn ng'iyd hwyr Sadwru diweddaf i Eisteddfod y Tabernacl. Diau fod arncan clod wiw y cyfarfod, sef estyn cyuorthwy i Mr Johnnie Williams, George- street,-Barri D >c, yr hwn sydd wedi bod yn glaf am ddwy flynedd, i raddau yn cyfrif am luosogrwydd y cynulliad; ond yn anibynol ar hyn, yr oedd y rhaglen yn un ddyddorol iawn. Llanvrodd y gweiuidog (Parch Ben Evans) y gadair mewu modd hapus a digrifol, a chredwn i'r gwahanol feiruiaid (y rhai wasanaetbasant yn ddidal) roddi boddlonrwydd cyffredinol. Beirniad y gerddoriaeth ydoedd Mr D. Fair, Barri; yr adroddiadau, Parch W. Tibbott, Cadoxton; a'r prize bags, Mrs Williams, Kingsland-crescent. Feallai mai yr hyn greodd fwyaf o loniant ydoedd ffugenwau difyr y gwahanol gystadleuwyr. Pan alwyd ar Kruger yn inlaen i ganu Llwybr y Wyddfa," dych- mygwch ein syndod i weled, yn lie yr hen wr dt:uddeg a thriugain oeddem wedi gysylltu a'r enw, fachgen ieuanc unionsyth ac addawol yn cerdded i'r set fawr ac wrtb sylwi yn fanwl aruo adgofiwyd ni fod y Kruger bwn yn aelod, dair blyned 1 yn ol, o Gyrudeithas Cymru Fydd Barri, ac yn medru siarad Cyniraeg yu llithrig a rhesymu yn gryf. [Gyda Haw, beth sydd wedi dyfod o Gymdeithas Cymru Fydd ? Ai y ginio fwriedir gyual ar Ddydd Gwyl Dewi yw yr unig arddangoseg ydym i'w gael y gauaf hwn o'n neillduolion cenedlaethol ?] A cbym eryd yr "holl destunau gyda'u gilydd, yr oedd nifer y cystadleuwyr yn lluosog a'r gystadleu- aeth yn llym. Parodd y cyfarfod am yn agos i bedair awr, a dangoswyd brwdfrydedd dibaid o'r dechreu i'r diwedd. Fod prawf o'r mod,, trylwyr y cariodd Mr Gwyn Morgan allnn ei ddyledawyddau fel ysgrifenydd nodwn y ffaith gysurlawn iddo allu trosglwyddo i Mr Johnnie Williaros, ar ol talu yr holl dreuliau, dros wyth punt fel cynyrch y cynulliad. Jë, Sabboth Dirwestol ydoedd y diweddaf, a chafwyd pregethau o bob areitbfa Ymueillduol yn Barri ar yr effeitbiau melldithiol sydd yn dilyn ymarferiad o ddiod gadarn. Mae neillduo un Sabboth bob blwyddyn fel yma yn sicr o brofi yn llesiol. I ddechreu, rhaid i'n gwein- idogion fod yn llwyrymwrthodwyr (os am fod fod yn gyson) cyn medvu anog eu gwrandawyr i ffyrdd sobrwydd. Credwn fod y mater hwii yn derbyn mwy o sylw ein gwt-iudogion fel cyfangorf fnag oedd, dyweder, ugain mlynedd yn ol, oblegld eithriad ydyw dyfod o hyd i fugail eglwys heddyw nad yw yn ddirwestwr proffesedig. A chymeryd i ystyriaeth gyflwr y dref hon, feallai. ma.i menywod-jë, mamau- ydyw y troseddwyr mwyaf yn y cyfeiriad hwn, ac mai mam feddw, bron yn ddieithriad, yn golygu tyaid o blant a fydd, a chaniatau iddynt amser a dadblygiad, yn dyfod yn bonteuluoedd eu hunain ac felly mae'r hid gwenwynig yn suddo i gwnawd, giau, ac esgyrn oesoedd dilynol, ac yn magu nerth parhaus. Mae yna ganoedd o fenywod a gwrywod yn Barri a'r wlad yn gyffredinol nad oes un gobaith am iddynt byth fyw bywyd teilwng o barch ond trwy lwyr-ymataliad; mai cymedroldeb (a phwy sydd yn gallu mesur cymedroldeb ?) iddYDt yn beth anmhosibl. I'r cyfryw deddfu ydyw'r unig foddion effeithiol, oblegid ar ol eu hanog a'i darbwyllo i sobrwydd maent hwy, tra yn chwenych byw yn sobr, yn llithro! Mae gan bleidwyr sobrwydd ymdrechfa galed yn mlaen, oherwydd mae'r darllawyr a'rtafarnwyr -ac mae'r un perscnau yn eyfansodoi'r ddau ddosbarth yn awr—a'u rhengoedd yn ddifwlcb. a chanddynt ddigon o arian i gadw eu biawn- derau (?) fel masnachwyr. Gobeithio y cawn glywed ein gweinidogion yn siarad yn ddi- floesgni ar y pen hwn ar bob achlysur taraw- iadol. Pwy all fesur y creulonderau, yr hunanedd, y tlodi, a'r trosedd mai y ddiod yn acbosi hyd yn nod yn ein tref ni bob blwyddyn ? Mae yr hwn sydd yn ymwrtbod a'r ddiod feddwol er mwyn y brodyr gweiuiaid yn eicr o fod yn derbyn wrth roi, ac yn myned i dderbyn mwy'nol Ilaw. Nos Fawrth diweddaf ymddangosodd Cor Meibion Treorchy, 30 mewn nifer, ac o dan arweiniad Mr William Thomas, o flaen Iarll Dunraven a chwmni a foneddigesau a boneddig- ion oeddynt ar ymweliad & Cbastell Dunraven. Bu y cor hwn ar ymweliad a'r Castell tua thir blynedd yn ol, a chafodd ei arglwyddiaetb y fath bleser wrth eu gwrando yn canu y tro hwnw fel y penderfynodd anfon cais arbenig atynt eilwaitb. Llongyfarchodd Arglwydd Dunravcn Mr Thomas a'i gantorion ar y dull delieuig yr aethant trwy eu gwaitb. Fel y gwyr ein darllenwyr, cafodd y calltorion hyn yr an- rhydedd o ymddangos o flaen ei Mawrhydi y Frenines beth amser yn ol, a dywedodd Arglwydd Dunraven wrth Mr Thomas y gwnai ef ei oreu er cymbell eiu Grasusal Frenines i anfon am danynt eto. Yn mysg y cwmnii urddasol yr oedd Major Wyndbam-Quin, a phetb ryfedd na fuasai cynrychiolydd Seneddol y rbanbarth hon o Forganwg, wrth glywed yr addewid yn cael ei gwneyd, yn meddwl am Gor Barri, yr hwn, er wedi trechu boll gorau Cymru a Lloegr yn yr Eisteddfod Genedlaethol dai- weddaf, sydd eto heb dderbyn nawddogaeth eu Brenines dirion. Fel y bydd yr Etholiad Cyffredinol yn agoshau, cawn glywed am y gorchestion mae'r boneddwr hwn wedi estyn i ni yn gyfnewid am yr anrhydedd o gael eistedd yn St Stephan! Ond dyaa, i'w dyb ef nid oes yn Barri ond llweh glo a phleldlelslau-nld yw y cyntaf o fawr gwerth iddo, ond gofala am y diweddaf pan ddaw'r amser! ;i TEMLYDDIAETH. Y mae Teml Seren Gobaith yn parhau i fyne(irhagddiynllwyddoacilviyddo. Y mae tua 60 o aelodau yn perthyn iddi yn bresenol. Cawson y fraint nos Fawrth diweddaf i dderbyn y Parch Ben Evans, y Tabernacl yn aplod o n teml; felly y mae genym ddau weimdog gweithgar yn aelodau, yn nghyd ag amryw o weithwyr oifefl, per.hynol i'r ddau ryw ac o bob oearan. Y mae rhaglen dda gan y em ar gyfer y chwarter. Dyma faes rhagorol i bobi sydd yn awyddus i weithredoedd da, i roddi help i gadw tin pobl ieuainc rhag myned yn ygglyfaetb i'r gelyn ac i geisio codi y rhai sydd wedi syrthio i grafangau'r gelyn. Frodyr anwyl, unwch yn lluoedd, a hyny ar unwaith. TEMLYDD.

A CADOXTON WOMAN'S ELOPEMENT.…

BARRY FUND FOR RESERVISTS'…

THE WAR.

ST. DAVID'S DAY CELEBRATION.

--DISTRICT NEWS.

FOOTBALL NOTES.

Family Notices

[No title]

SN AP SHOTS.

BARRY RAILWAY TRAFFIC RETURNS.

Advertising

BURIAL INCIDENT at BARRY DOCK.…

'THEFT OF COAL.

Advertising