Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

----__----------_-NODIADAU…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU YR WYTHNOS. Aeth Mesur y Degwm trwy ei drydydd dar- lleniad yn Nhy y Cyffredin nos Iau gyda mwy- afrif o bedwar ugain a naw. Gwnaeth cywion y Cymry Fydd eu goreu i'w Irwystro, a chef- nogwyd hwy ga.n eu cyfeillion hoff o'r Iwerddon. Teilynga Syr Michael Hicks Beach ddielchgarwch gwresocaf y blaid Geidwadol am y modd gall nog ym mha ua y gwnaeth lyvvio y Mesur o'r dydd cyntaf y cyflwynwyd ef i sylw y Ty. Aeth y Mesur trwy ystormydd a bygythion garw heb fawr niwed iddo, dio'ch i ofalwch diflino Syr Michael a gweinidogion ag aelodau ereill o'r Weinyddiaeth. Yinruthrai aelodau radicalaidd Cymry arno yn wyllt. Canlynid hwynt gan am- bell li Wyddel digywilydd, ac yna gan Syr William Harcourt ag ysgarwyr ereill. Ond er eu holl ystranciau a'u cynllyniadau, hwyliodd y Mesur yn ddyogel i borthladd Ty yr Arglwyddi dan gadbeniaeth rhagorul Syr Michael. Yn fuan iawn bydd wedi ei argraffu ar Ddeddf-lyfr ein gwlad er mawr dristwch a gofid y gwrth- ddegymwyr a'u canlyuwyr di-egwyddor. Dan ddarpariaeth y Mesur hwu ni bydd percheuogion y degwm bellach i ofyn eu dyledion oddi wrth y deilad, ond gan y tirfeddiannwr, a hyn yng ngwyneb unrhyw gytnndeb a ddichun fod rhwng y meistr a'i ddeilad yn gwneuthur yr olaf yn atebol am y degwm. Nid oes a fyn y degwm berchenog a'r deilad o gwbl mwyach ond yn unig a'i feistr. Y tirfeddiannwr, mewn gwirionedd, oedd yn talu y degwm o'r blaen, o herwydd yr oedd rhent y fferm yn llai o swm y degwm dyledus ami. Gwna y Mesur hefyd roddi y degwm ar yr un sail a phob dyled arall, a gorfodir ei dalu trwy gyfrwng Llysoedd y man-ddyledion o hyn allan. Bydd hyn yn welliant mawr ar yr hen ddull. Mewn plwyfi lie y mae tirfeddianwyr mawr bydd yn lies annrhaethol i'r offeiriad gan na fydd bellach yn angenrheidiol iddo gymmeryd un step yn erbyn y bobl hyny a gant eu cydwybod yn bur wasanaethgar er achub eu llogellau, a thrwy hyny, ddi-feddu dynion o'u hawliau gonest. Nid ydym yn credu fod yng Nghymru yr un tirfeddianwr o nod a fydd mor ffol a throtian allan ei gydvvybod fel rhwystr yn ei ffordd i dalu ei ddyledion. Y mae hyn yn gyfyngedig yn hollol i'r dosbarth hyny o'n cenedl ac sydd yn anwybodus, ac yn ysglyfaeth i gyn- hyrfwyr beiddgar a flina y wlad ar arddull pregethwyr Efengyl hedd, cariad brawdol, cyfiawnder, a thhhndeb. Y mae yn enbydus meddwl fod dynoliaeth wedi syrthio i'r fath ddyfnder fel y gall, gyda'r haerllugrwydd mwyaf, feiddio appelio at gydwybod cyssegredig dyn fel cyfiawnhad digonol iddo er ysbeiJio eiddo arall. Mae y ffaith yn fwy cywilydd us byth pan y cofiom fod y gwyr a ddysgant yr athrawiaeth yma o foreu Llun hyd nos Sadwrn, ar y Sabbath yn rhyfygu gwasanaethu Duw Ceir hwynt boreu Sadwrn ym mlaenllaw yn rhyfel y degwm yn ydlan neu fuarth rhyw fferm neu gilydd, yn crochfloeddio ac yn erlid gweision y gyfraith, a'r prydnawn yn llywyddu ar ben clawdd mewn cyfarfod o ddiolch- garwch am eu buddugoliaeth yn erbyn y gyfraith, i annog yr annysgedig i eiddigeddu tuag at offeiriad y plwyf, a gwadu iddo yn enw cydwybod ei hawl i'r degwm, ac yna gwnant forthyr teilwng 0 y o'r nef, o'r ffermwr hyny a werthwyd fyny am beidiotalu ei ddyled fel rhan pob dyn anonest arall! Nid yw gwaith y dydd ar ben eto. Yn yr hwyr, gwelir y pregethwr yn eistedd yn ei yatafell yn ysgrifenu hanes y frwydr i'r newyddiaduron. Rhwygir ei gyfansoddiad gan ymdiechion ffyrnig ei allu meddyliol yn awr, chwysa fel ych a buryma fel ymfydyn-mor ofnadwy a chynddeiriog y teimla yn erbyn Eglwys y Duw byw. O'r diwedd mae ei ysgrif ar ben, prif nodweddiad yr hon yw fod y gwirionedd mor bell oddi wrthi ag yw y gogledd o'r de. Nis gwyddom pa fath gwsg a gaiff. Arwain ein dychymmyg ni i feddwl ei fod yn cael gweledigaethau a breuddwydion wrth fodd ei galon. Dichon y gwel weision y gyfraith yn ffoi am eu bywydau o flaen cerrig, phastynau, wyau clwc, a llaid diaconiaid ac aelodau ei gapel, y benywod yn dawnsio ac yn euro tympanau, a'r bechgyn yn marchogaeth eu meirch dros yr holl wlad gan chwythu udgyrn buddugoliaeth. Yna yr a. heibio iddo dorf orfoleddus iawn yn dwyn dyn gwellt ar eu cefnau—delw offeiriad y plwyf— wedi ei ymwisgo mewn gwisg wen, ac yn gwein- yddu y Cymmnn Bendigaid Yn y diwedd, gwel yr oil yn cael eu gwawdio a'u llosgi gyda'r ynfydrwydd mwyaf. Yn nesaf coronir ei weled- igaethau a chipolwg o hen Eglwys y Llan yn dechreu siglo, ac o'r diwedd yn syrthio i adfeilion dan ymosodiadau Cristionogion cydwybodol yr hyn a bera iddo neidio fyny a gwaeddi allan Campus wir, dyma fuddugoliaeth Ian Mae'n tynu'n bryd iddo yn awr barotoi ar gyfer myned i'r capel. Mae'n cychwyn ar ei ffordd mor falch a brenin o'i weledigaeth. Cred mai prophwydol- iaeth yw, a gorfoledda ynddi. Ond beth yw testyn, beth yw achos, beth yw swm a sylwedd ei orfoledd mawr ? Mewn gair, llawenycha am fod dynion yn beiddio herio a thori cyfraith y tir, eu bod yn alluog trwy gydfwriad a thrais i ddi- feddu ereill o'u heiddo gonest, a bod prif sefydliad y byd Cristionogol a'r gallu mwyaf dros achos Duw wedi syrthio Yn cael eireoli gan yr ysbryd yma gwelir ef boreu y Sabbath yn rhyfygu gwasanaethu y Duw, priodoleddau pa un ydyw gwirionedd, gonestrwydd a lchariad. Nis gwyddom am ddim mwy beiddgar a haerllug. Dyfnder cithaf rhagrith yw, ac yn ddiddadl, mawr ac ofnadwy yw ei gyfrifoldeb a'i bechod yn llygaid y nefoedd. Y mae y ffugchwareu Gwyddelig hirfaith ar ben. Dangosodd Parnell y drwa i'w gyfeillion a moes- gyfarchodd ar ei hymadawiad, a dywedodd yn telaen wrth ei gyngrheiriaid nad oedd ef yn myned i iklio dim modfedd i un dyn. l< Ni wnaf ymneillduo dan orfodiaeth, nid yw o ddim pwys o ba gwarter y daw." Nid yw rhesymau dros y rhwyg olaf wedi cael eu dwyn o flaen y cyhoedd hyd yn hyn. Hwyrach eu bod yn iliai personol fel y profa cyhoeddiad Mri O'Brien a Dillon. Tystiodd Parnell fod yu ammhosibl iddo ef yatyried fod y buddiannau cenedlaethoI yn cael ei hamddiffyn mor dda, fel y gallai deimlo nad oedd dim perygl iddo roddi i fyny y gofal a roddwyd iddo. Dywed yn ei lythyr at O'Brien, fod mewn rhai cylchoedd a allasai ddysgwyl yn amgen ysbryd ag oedd yn anadlu gwrthwynebiad marwol i heddwch. Mae yr achos o'r rhwyg yn lied amlwg. Ar un llaw mae chwerwder cenfigenus yn cael ei deimlo a'i ddangos gan y fath ddynion a Healy a Sexton a'u cyfeillion, tuag at eu hen arweinydd. 0 ochr Mr Parnell y mae anfodd- lonrwydd o barth addewidion Mr Gladstone- beth bynag ydynt—mewn perthynas i'r dyfodol, ei gynllun o ysgraglywiaeth Wyddelig, yng nghyd a thueddiad cryf i beidio rhoddi i fyny yr arwein- yddiaeth am un diwrnod. Mae gwrthwynebwyr Mr Parnell yn ammheus pa un a oedd ef yn ddi- dwyll pan oedd y negeseuaeth yn cael ei dwyn ym mlaen, a pha un a oedd ef am weled yr ym- drafodaeth yn cael ei chwblhau. Maent hwy yn haeru mai oi amcan oedd ennill amser a dysgwyl am i rhyw ddamwain lwcus i gymmeryd He i'w ryddhau o orfudiaeth i ymneillduo. Ond didwyll neu beidio, nis gellir gwadu na wnaeth ef gario v negeseuaeth ym mlaen gyda gallu perffaith. Trodd sylw y cyhoedd oddi wrth ei droseddiadau ei hun at dueddiadau Home Rule. Yn ofer yr ymdrechodd ei wrthwynebwyr eiddil a chloff ei ganlyn yn y rhedegfa am ennill sylw y cyhoedd. Yr oedd y rhedegfa yn un hollol anabeithiol, efe a aeth ym mhell o'u blaen. Pan welsant hyny, gorfu iddynt wneyd defnydd o ddifriaeth, ac ymosodiadau personolyr hyn a wnaeth fwy o niwaid nag o les i'w hachos. Y mae anerchiad O'Brien a Dillon i'r Gwyddelod yn taflu goleuni ar gymmeriadau y blaid Wyddelig. Nis gellir cael neb yn fwy addas i roddi cymmeriad iddynt na'r ddau uchod. Dywed O'Brien ynei manifesto—wedi cyfarfod a chynnrychiol wyr y ddwy ochr, ac mewn meddiant o'u golygiadau, mae yn ddyledswydd arnaf yn sobr i ddatgan nad oedd dim anhaws- derau na allesid eu symoiud gydag ychydig o huiian aberth a theimladau personol ar y ddwy ochr er dyfod i gytundeb ar y prif bynciau mewn dadl. Yr oedd cytundeb wedi cael ei sefydlu, ac nis gallaf mewn geiriau rhy gryfion ddatgim eiu teimladau pan gawsom fod cytnndeb mor bwysig i Iwyddiant ein hachos, ac ewyllysda rhwng y ddwy wlad wedi cael ei longddryllio y 11 d foment ddiweddaf trwy ymrysonau mewn perthynas i eiriau ymadroddion, ymrysonau, y rhai a ellid gydag ychydig o fawrfrydigrwydd a llai o ddrwgdybiaeth ar bob ochr, yn ddigon rhwydd eu trefnu. Gwna yr esgusodion truenus ac annigonol daflu y wlad i ymdrechfa a fydd yn arswydus yn ei chanlyniadau. Ym mhellach, dywed un o'r pethau mwyaf galarus yn y fusnea brudd-chwareuol hon yw, fod amgylchiadau yn ei gwuey i yn ammhosibl i gaeldim un trefniadaeth i effeithio ar hiraeth gorlwythog y cyhoedd am heddychu y pleidiau pan oedd y maes yn cael ei 4<hI gan bleidwyr poethion, y rhai oedd yn cael | eu gyru ym mlaen gan amoanion, pa rai nid wyf yn eu hammheu; ond y rhai yn ol fy mam i a dwyllwyd yn farwol am nerth eu hunain a nerth eu gwrthwynebwyr, nac am ganlyniadau ym- rysonau parhaua, a wnaethant eu gwaethaf efo iaith chwerw, t:wy ddrwgdybiaeth sarhaus, trwy fygythion hanner cuddiedig, trwy chwedlau cndd- negeseua y rhai oedd yn gwneyd gwaith cynnil heddwch yn beth aniinhosibl." Nis gallesid cael condemniad mwy trylwyr ar y blaid Wyddelig na'r hon a gyhoeddodd O'Brien a Dillon. Ni wnaeth yr undebwyr erioed ddefnyddio gwaeth iaith gondemniol a ddefnyddiodd dau aelod blaenllaw o'r blaid Wyddelig am eu cyngrheiriad. Dywedodd y diweddar Mr John Bright nas gallasai un senedd Wyddelig fod mor bwerus neu mor gyfiawn yn yr Iwerddon a'r un sydd yn eistedd yn Westminster. Nis gallai ymddiried heddwch a buddiannan yr Iwerddon de a gogledd i'r blaid seneddol Wyddelig. Yr oedd y chwech blynedd prawf a gafodd o honyntyn Nhy y Cyffredin, a'u gweithredoedd yn yr Iwerddon, yn gwneyd yn ammhosibl iddo gydsynio i dros- glwyddo meddiannau ac iawnderau pum miliwn o ddeiliaid ei Mawrhydi i'r bobl hyn. # # # Nos Iau wythnos i'r diweddaf glaniodd Wm. O'Brien a John Dillon yn y wlad hon o Ffrainc. Yr oedd yr awdurdodau wedi clywed eu bod yn golygu croesi y dydd hwn, ac yr oedd swydd- ogion y gyfraith ar eu gwyliadwriaeth. Cyru- merwyd y ddau i fyny yn uniongyrchol ar eu glaniad, a boreu dydd Gwener, aethpwyd a hwy o Lundain i'r Iwerddon, yno i wasanaethu y chwe' mis carchar y maent wedi eu dedfrydu iddo. I; I; Dydd Iau yn yr wythnos diweddaf, cymmerodd etholiad le yn Northampton er ethol aelod yn lie Mr Bradlaugh. Yr oedd .1 dau ymgeisydd ar y maos,1 sef Mr R. A. Germaine (C.) a Mr Moses Philip Manfield (R.G.). Er etholiad 1886 y mae yr etholrestr wedi chwyddo gyda 1200 o ychwatiegiad, felly yn gwneud cyfanrif y pleideiswyr yn 10,895. Gwelir isod fod polio trwm wedi bod. Safai y pleidiau ar y diwedd Manfield (R.G.) 5436 Germaine (C.) 3723 Mwyafrif 1713 Yn etholiad 1886 y ffigyrau oeddynt Mr Labouchere (G.), 4570! Mr Bradlaugh (G.) 4353 Mr Turner (U.), 3850 Mr Lees (C ), 3656. Yn etholiad 1885—Mr Labouchere (R.), 4845 Mr Richards (C.), 3890. Gwelir na chyfnewidir dim ar sefyllfa y pleidiau, gan mai Radical a gynrychiolai yr etholaeth yn flaenorol. V Diwedd yr wythnos ddiweidaf torodd tan anferthol allan yn ystorfeydd y Meistri Morgan and Co., cerbyd-adeiladwyr, Castle-street, Long Acre, Llundain. Dechreuodd oddeutu hanerawr wedi naw y nos, ac mewn llai nag awr yr oedd y lie yn goelcerth boeth o'r top i'r gwaelod. Ymehangodd y mamau cynddeiriog yn gyflym i adeiladau cyfagos nes yr oedd bloc cyfan o adeiladau yn oddaith, a'r preswylwyr yn diancam eu bywydau. Galwyd tri chant o heddg idwaid allan i gadw y dyrfa draw, ac yr oedd cynifer a dau cant o ddynion, gyda 30 o beirianau, yno yn gweithio eu goreu erbyn unarddeg. 0 fewn awr i ddechreuad y tan yr oedd cymaint a gwerth 25,000p o carriages wedi eu difa. Ni ddywedir fod dim bywydau wedi eu colli ;ond caed y tan danodd oddeutn haner nos Rhwng adeiladau a nwyddau eraill, &c., bernir na fydd y golled yn ddim llai na 50,000p. Un o'r pethau mwyaf niweidiol i fasnach y wlad yw y rhyfel rhwng cyfalaf a llafur, y mae yn niweidio pawb yn ddiwahaniaeth—y meiatri, y masnachwyr, y siopwyr, a'r gweithwyr eu hunain, nid oes neb yn goddef cymmaint a hwy. Collant eu huriau, a'r canlyniad yw, suddant i ddyled a thyludi, a'r gwragedd a'r plant yn goddef eisieu bara. "Edrych yn y drych hwn dro, Gyr galon graig i wylo." Dygir yr adwyth hwn ar y wlad fynychaf gan aflonyddwyr a chynhyrfwyr sydd yn myned a'u tan-ffyrch ymryson am draws y wlad i gynneu coelcerthi; ac mae y gweithwyr yn eu canlyn fel deillion heb wybod i ba le maent yn myned. Ceir prawf o hyn y dyddiau yma yng Nghaerdydd. Safodd y llongwyr allan am fod perchenogion y llongau yn cyflogi llongwyr heb fod yo perthyn i'r undebau, a gwrthododd y dynion oedd yn gweithio yn y dociau, lwytho y llongau am fod y dwylaw yn wrth-undebwyr. Rhwystrodd olwyn- ion masnach a gyrodd y drafnidiaeth i leoedd ereill, ac aberthir y cwbl ar allor moloch y streic. Dywedir na wyr dim o hanner y rhai sydd yn sefyll allan beth yw yr achos eu bod allan o waith, a buasai iddynt barhau i weithio oni buasai gormes yr undebwyr. Yr ym yn clywed pobl yn barhaus yn gwaeddi am ryddid ac am wlad rydd, ac ar yr un pryd yn gormesu ar ereill. Buasai yr un peth i ddynion fyw yn Siberia a bod dan ormes haiarnaidd arweinyddion y rhai sydd yn sefyll allan. Dywed papyr lleol fod yr arweinyddion yn cael dawns bob nos a Punsh a Siwan. Yr ym yn cael mewn hanesyddiaeth fod Nero yn chwareu ei grwth pan oedd Rhufain yn llosgi ar ol iddo ei rhoddi ar dan. Y mae arweinydd yr undebau yn dawnsio pan fydd masnach y porthladd yn cael ei ddinyatrio a'r gweithwyr yn dyoddef eisieu, pan nad oedd dim ar eu cyfer ond ciniaw sal ar y Sul. # Dydd Gwener diweddaf cyhoeddwyd y newydd fod yr adyn a elwir Jack y Ripper, dychryn dwyreinbarth Llundain, wedi cyflawnu hunan- laddiad ond dydd Sadwm cyffrowyd y wlad gan newyddion brawychus am un Uofruddiaeth ych- wanegol yn y Whitechapel. Ychydig wedi dau o'r gloch 11 boreu dydd Gwener diweddaf, fel yr oedd yr heddgeidwad Thompson yn cylchwylio ei rodfa yn heol y Gerddi-gwenol, Whitechapel, canfydd- odd swp o rywbeth tywyll yn gorwedd yng nghanol yr heol tua'r hwn y cyrchodd ar unwaith heb fawr feddwl beth oedd yn ei aros. Trwy gyn- northwy ei lusern gwelodd mai corph merch ieuanc ydoedd. Gorweddai ei phen mewn pwll o waed. Yr oedd ei gwyneb yn dwym a'r anadl heb ymadael a hi ar y pryd. Galwodd yr hedd- geidwad am gynnorthwy trwy ei chwibanogl, ac yn y fan daeth ato gwnstabl arall yng nghyd a rhai gweithwyr perthynol i'r rheilffordd gyfagos. Yn frysiog anfonwyd am y meddyg Phillips, yr hwn a gyrhaeddodd y lie cyn pen ngain mynyd. Canfyddodd fod y ferch anffodus heb lwyr farw ond nid oedd modd gwneyd dim iddi. Yr oedd ei gwddf wedi ei dori yn druenus gan ryw offeryn awchus, a'r gwaed wedi rhedeg allan bron i gyd. Mynyd yn rhagor bu farw heb nag ysgogiad na gair. Dywedodd yr heddgeidwad Thompson nad oedd chwarter awr er pan y bu heibo'r lie o'r blaen, a chred fod y llofrudd wrth ei waith creulawn pan y clywodd swn traed y cwnstabl yn dynesu ato. Enw yr anffodiog ydoedd Frances Coleman, a'i hoedran tua phump ar hugain. Aelod o r un dosbarth ydoedd a'r rhai a iofrudd- iwyd yma tua dwy flynedd yn ol. Nid ydys wedi dyiod o hyd i'r un hanes yng ughylch y llofrudd a thebyg yw ei fod unwaith eto yn ddyogel o afael y gyfraith. Cofus gan ein darllenwyr am lofruddiaethau Jack y Ripper ysbaid yn ol, sef mereh anadnabyddus a bedwarwyd ganddo yn ystod wythnos Nadolig 1887, yn heolydd Osborne a Wentworth. Martha Turner yr hon a frathodd bedair-ar-bymtheg-ar-hugain o weithian ar Awst y 7fed 1888, yn Spitalfields. Ar yr 31ain- o'r un mis Mrs Nichols, corph pa un a dorodd yn ofnadwy. Ym mhen wythnos ar ol hyn, sef ar y seithfed o fis Medi, syrthiodd Mrs Chapman yn ysglyfaeth iddo. Ar y 30ain o'r un mis llofrudd- iodd ddwy ddynes, sef Elizabeth Stride, a Mrs Eddowes. Yna daeth Ilofruddiaeth Mary Jane Kelly, ar y 9fed o Dachwedd canlynol. Nid ydym yn clywed am dano eto, ond trwy lythyron a rhybuddion wedi eu ysgrifenu a gwaed, hyd y 17eg o fis Gorphenaf 1889, pan y syrthiodd Alice Mackenzie dan ei ddwylaw gwaedlyd, ac ar y 13eg o'r mis presennol, yr ydym yn cael Uofrudd- iaeth Frances Coleman, sef y nawfed person y mae'r adyn wedi llwyddo anfon i dragwyddoldeb heb ei ddal. Jack y Ripper yn wir ydyw dychryn a dirgelwch mwyaf Llundain, ac y mae braidt4 yn anhygoel ei fod yn medru beiddio holl fyddin heddgeidwaid y ddinas enwog hono.

[No title]

PWNC YR EGLWYS SEFYDLEDIG:…

ODLAU MAWL.' -

"Y GENINEN."

BRYNAMMAN.

LLANDYSSIL.

CEI NEWYDD.

EMLYN. - YR WYL GORAWL EGLWYSIG.

"Y DDAIAR I'R BOBL."

CYFARFOD CYSTADLEUOL YSTRAD.…

BWRDD YSGOL CEINEWYDD.

CYFARFYDDIAD CWN Y TEIFY SIDE…

[No title]

AT EIN GOHEBWYR.

FERNDALE A CHEINEWYDD.

PWNC YR EGLWYS SEFYDLEDIG:…