Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
AIL DDYFODIAD CRIST. I
AIL DDYFODIAD CRIST. I Gan Dr. Daniel Williams. I Dro yn ol gofynodd cyfaill o Chicago i mi ysgrifenu gair i'r 'Drych' ar ail ddyfodiad yr Arglwydd Iesu i'r byd, bod y pwnc yn cael ei drafod yn y parth o Chicago y mao ef yn byw ynddo. Go- fynai pa un ai cyn ynte ar ol y mil blyn- yddoedd y daw Crist. Mae llawer gor- mod o son wedi bod am y mil blynyid- oedd. Gadawer allan y deg adnod cyn- taf o'r 20fed benod o lyfr y Dadguddiad, ac mae y sail i son am y 'Mil blynydd- oedd' yn diflanu yn hollol o'r Beibl. Gellir tybied oddiwrth yr adnodau hyn, ar yr olwg gyntaf, y daw Crist i'r byd, yr adgyfodir rhai o'r meirw, ac y bydd Crist yn aros gyda hwy ar y ddaear am til o flynyddoeid.' Ond mae hyn yn annghyson a dysgeidiaeth y gweddill o'r Beibl. Yn hytrach na chymeryd yr adnodau hyn-hynod ffigyrol, ac mewn Ilyfr hynod ffigyrol, a throi yr holl Feibl i fod yn gyson ag esboniad arwyn- ebol o'r adnodau yma, llawer gwell yw cymeryd rhediad cyifreiin y Beibl a cheisio dwyn yr adnodau hyn i fod yn gyson a hyny. Yn ol dysgeidiaeth cyff- redin y Beibl daw Crist i'r byd, ad- gyfodir y meirw, eistedd yn y farn, a bydd diwedd y byd. Nid oes lie na son am fil o flynyddoedd. Deil y cyn-mil- flwyddianwyr (pre-millinarians) fod y byd yn myned yn waeth, ac mai gwaeth yr a nes y daw Crist i'r byd i.wneyd trefn arno. Ond nid gwaith Crist yw ffwneyd trefn ar y byd ond gwaith yr ysbryd, ac mae yr ysbryd yn y byd yn awr. lesu rodd addewid hyfryd Cyn ei fynd i ben ei daith. Yr anfonai ef ei Ysbryd I roi bywyd yn el waith. Gras yr ysbryd, Digon i'r dysgyblion yw. Pa bryd y daw Crist ac y byid diwedd y byd? Nis gwyr neb, 'na'r Mab, ond y Tad.' Ni wyr Crist fel y mae yn ddyn, fel y mae yn gyfryngwr. Ond yn ol rhediad y Beibl y mae amryw bethau i gymeryd lie cyn diwedd y byd. 1. Mae yr Iudiewon i ddyfod yn ol, ac i gael eu himpio i mewn i'w holywydden eu hun. Yr oedd yr Iuddewon yn ffafr Duw yn yr hen amser, a'r cenedloedd allan o'i ffafr. 'Yr hwn yn yr oesoedd gynt a oddefodd i'r holl genedloedd fyn- ed yn eu ffordd eu hunain.' Dyma beth tebyg iawn i'r hyn a eilw y duwinydd- ion yn 'adaeledigaeth,' neu wrthodedig- aeth. Ond am i'r Iuddewon wrthod Crist, a bod yn 'fradwyr a llofruddion,' gadawyd hwynt allan o ffafr Duw, a throwyd at y cenedloeid. Mae yr Iuddewon yn anffyddwyr hyd heddyw. Achubwyd llawer o'r Germaniaid yn oes Luther; llawer o'r Scotiaid yn oes Knox; Ilawer o'r Saeson yn amser y Piwritaniaid, a llu o Gymry yn amser y diwygiad Methodistaidd, ond nil oes son ar ddalenau hanesyddiaeth (ar ol oes yr apostolion) am ddiwygiad yn mhlith yr Iuddewon. Maent fel o dan farn. Dyma beth rhyfedd: anffydilaeth yr Iuddewon, fel yr ydym yn el weled a'n llygaid heddyw, yn brawf o wirion- edd y Beibl! Ond cyn diwedd y byd daw yr ludiewon yn gyffredinol 1 dder- byn Iesu o Nazareth fel y Messiah. Ni raid I'm ychwanegu. Darllener yr XI. .'r Rhufeiniaid. 2. Cyn diwedd y byd mae yr efengyl i gael ei phregethu i 'bob creadur.' Bob rhan o'r byd i glywed y newyddion da. Mae yr efengyl wedi gwneyd cyn- ydd hynod yn y can mlyneld diweddaf, cymaint yn y ganrif ddiweddaf, byddaf fi yn meddwl weithiau, ag a wnaeth yn y deunaw canrif cyn hyny. Edrycher ar y gwaith wnaed yn y ganrif ddiwedd- af yn Iniia, Burmah, Siam, Japan, China, lie mae chwarter poblogaeth y I byd, ynysoedd y mor, a chyfandir Affrica. Ond eto faint o waith sydd yn aros! Nid yw ond ymylon China wedi eu cyffwrdd. Er cymaint wnaed yn Affrica, ni allwn weled eto ond fel can- wyll frwyn fechan yma ac acw yn nghanol y cyfandir tywyll. Dyma ym- erodraeth eang Twrci heb yr efengyl hyd yn hyn. Oni myned yn mlaen wna yr efengyl. Cilio wna y tywyllwch, fel y canodd y bardd: Yr holl freniniaethau a dreulir, A'r ddelw falurir i lawr; Y gareg a leinw'r holl wledydd, Ei chynydd fel mynydd fydd mawr. Cyflawnir y proffwydoliaethau, Daw'r holl aidewidion i ben, Fe dynir myrddiynau at Iesu Groeshoeliwyd rhwng daear a nen. O'm cof yr wyf yn ysgrifenu. a yw y penill yn hollol gywir nid wyf yn sicr. 3. Pa bryd y bydd diwedd y byd? Yn fuan. ynte yn mhen oesau lawer? An- hawdd yw ateb hwn eto. 'Am hyny, byddwch chwithau barod,' yw gair yr Arglwyid. Dyma gyngor i bob dyn yn mhob gwlad ac yn mhob oes. Mae rhai yn meddwl fod y rhyfel presenol yn ar- wydd fod 'diwedd y byd' yn ymyl. Mae y rhyfel presenol yn union yr un fath a'r rhyfeloedd a aethant heibio o ran ei natur, mae yn wir ei fod ar raddfa dipyn mwy. Mae yn wir fod Germani wedi dangos ei hun yn ol yn mhell mewn gwareiddiad yn y rhyfel hwn, ac eto ni raid myned yn mhell yn ol i wel- ed yr un peth yn cael ei wneyd gan wledydd eraill. Tybiwyf fod llosgi Joan of Arc gan fyddin Prydain yn y flwydiyn 1431 yn waeth na dim mae y Germaniaid wedi wneyd yn y rhyfel hwn. Llosgwyd y capital yn Washing- ton gan y Prydeinwyr yn rhyfel 1812. Nid wyf yn meddwl fod y Germaniaid wedi gwneyd dim mor ddrwg a hyn yn Antwerp, Louvain na Rhiems. Nid wyf yn dweyd dim yn erbyn Prydain y wlad fwyaf wareiddiedig yn,y byd, ond dweyd yr wyf nad oes dim yn y rhyfel hwn yn wahanol i'r rhyfeloedd aethant heibio. Mae un peth yn peri i mi dybied, hwyr- ach y gallaf ddweyd gredu, na ddaw diwedd y byd am oesau lawer, a'r peth hwnw yw hyn. Ni ddaeth yr Iachawdwr i'r byd am 4,000 o flynyddoedd, yn ol y cyfrif lleiaf, ar ol creadigaeth dyn. Na- turiol yw i ni edrych ar y cyfnoi hwn fel math o ragymadrodd. Wel, os yw 'rhagymadrodd' y llyfr yn 4,000 dys- gwyliem i'r llyfr ei hun fod yn llawer mwy na hyny. Ymddengys yr ym- resymiad yma i mi bob amser yn bwy- sig. er nas gellir ei ategu a geiriau o'r Beibl ei hun. Os bu y byd 4.000 cyn i Grist ddyfod naturiol yw i ni ddysgwyl idio barhau lawer mwy na hyny wedi iddo ddyfod. Ond gwell peidio rhoddi gormod o bwysau ar bethau fel hyn nad yw yr Arglwydd wedi gweled yn dda roddi gwybodaeth i ni am dtlny-nt. ————
WILLIAMSBURG, IA.
WILLIAMSBURG, IA. Cas peth genym yw anfon newyddion drwg i'r 'Drych,' ond eto dylai rhyw un wneyd, sef cofnodi amryw farwolaethau sydd wedi dygwydd yn y lie hwn yn ddi- weddar, a hwyrach y buaswn wedi an- fon gair yn gynt oni bae i mi fod yn lied wael fy hunan, oni wedi dod i allu myned o amgylch yn lied dda yn awr. Mae y marwolaethau y carwn son am danynt yn agos iawn at fy nghalon, gan eu bod yn gwneyd i fyny ran o ddos- barth Cymreig mawr yn Ysgol Sul yr A., a'r llwch gwael hwn yn athraw ar- nynt. Yr oedd y dosbarth yn cael el wneyd i fyny gan mwyaf o hen wrag- edd, ac yr oeddent yn hynod o ffyidlon ac yn oleuedig yn yr Ysgrythyr, a phleser mawr i mi oedd bod yn eu plith, ond mae twr o honynt wedi ymuno a'r dosbarth mawr fry. Y gyntaf oedd Mrs. Mary Hughes, gweddw yr hen frawd Robt. L. Hughes, yr hwn oedd weii ei blaenu er's tua 25 o flynyddau. Bu y teulu fyw yn y gym- j ydogaeth hon am yn agos i 60 mlynedd. I Yr oedd Mrs. Hughes tua 80 mlwydd oed. Y nesaf oedd Mary Hughes eto; Mary Hughes, y nyrs, gweddw oedd hi i Robert B. Hughes. Cafodi y Robert hwn ei ddiwedd mewn pwll glo yn Given, ac yr oedd y Robert hwn yn nai i Robert L. Hughes, mab i John L. Hughes. Daeth y ddau deulu i'r wlad hon gyda'u gilydd o sir Fon, ac wedi aros tua chwe mlynedd yn Wisconsin, daethant i'r lie hwn. Bu y Mary yma yn wediw am tua 38 mlynedd wedi marw ei phriod; daeth Mary yn ol, hi a'i thair merch fach i Williamsburg, lie yr oedd y teulu o'r ddwy ochr yn byw. Bu yn gweini fel nyrs am flynyddoedd lawer, ac adwaenid hi yma fel nyrs Hughes. Aeth i Des Moines yr hydref diweddaf i gynorthwyo ei merch henaf, Ida, I ofalu am eu mab, yr hwn oedd yn sal, ac yno y bu farw, a dygwyd ei gweddillion 1; Williamsburg i'w claddu yn ymyl ei phriod. Yr oedd yn 69 mlwydd oed. Y nesaf yw Mary eto, ac aelod o'r dosbarth Cymreig hefyd, sef Mary Jones, gweddw William Jones, y colier, fel yr ainabyddid ef. Yr oedd y wraig hon yn ferch i William a Sarah Evans, y teulu Cymreig cyntaf i ymsefydlu yn Williamsburg, a hi oedd y ferch wen gyntaf i gael ei geni yn Troy township, a saif y dref Williamsburg yn agos i ganol y township. Yr oedd Mrs. Jones yn 71 mlwydd oed. Un arall o aelodau y dosbarth y car- wn ddweyd gair am dani yw Mrs. James, gweddw John James. Mae hi wedi bod yn orweddog er's amryw wyth-, nosau, ond y mae hi yn well, a gobeith- io gyda dyfodiad tywydd braf y gwan- wyn y bydd hi yn abl 1 fod yn ei lie eto yn y dosbarth. Mae y tywydd wedi bod yn braf iawn yma er's amser bellach, a'r amaethwyr yn brysur yn hau, ac y mae yn dda iawn ei bod yn gallu de- chreu mor gynar gan fod yr help yn brin iawn; y cyflogau yn uchel iawn hefyd; ond mae cymaint o'r bechgyn wedi myned i'r rhyfel a neb i gymeryd ei lle.-James Nicholas. j
[No title]
Hugh L. Davies. Edward J. Davies. Meibion i Mr. a Mrs. John D. Davies, 16 Lloyd Lane, Wilkes-Barre, Pa., ydyw Hugh L. a Edward J. Davies, a'r ddau yn ngwasanaeth eu gwlad. Cafodi Hugh L. Davies ei benodi yn is-gadben ar U. S. Naval Reserve, ac yn bresenol yn gwasanaethu fel peirianydd ar fwrdd y llong rhyfel Rhode Island. Graddiodd o Harry Hillman Academy' yn 1907, ac aeth wedi hyny i Brifysgol Harvard a graddioid yno yn 1911. Cafodd yrfa addysgol ddysglaer a llwyddianus. Cyn cael penodiad yn y fyddin yr oedd yn beirianydd i'r General Electric Co. y ddinas hon. Cafodi Edward J. Davies ei wneyd yn Sergeant gyda'r Motor Trucks Sect., Quartermaster's Corps, sydd yn gwer- syllu yn Newport News. Yn Scranton yr arosai Ed. J. Davies cyn ymuno, a bu mewn cysylltiad a'r Miner-Hillard Milling Co., ac yn ddiweddarach yn eynrvchiolydd teithiol i B. F. Goodrich Co.. gyda Scranton, Wilkes-Barre, a'r trefi cylchynol yn faes iddo. Y mae'r ddau lane hefyi yn wyrion i Mr. a Mrs. Matthew J. Jones, cymeriadau adna- bvddus i luaws o Gymry drwy'r wlad hon a'r Hen Wlad.
I .-TORONTO, CAN.I
TORONTO, CAN. Cymdeithas Dewi Sant. Gan Twrogoronto. I Dathlwyd Gwyl Sant cenedlaethol y Cymry gyda brwdfrydedd neillduol eleni eto o dan nawdd y Gymdeithas flodeuog uchod, pryd yr ymgynulloid dros ddau gant o Gymry y ddinas a'r amgylchoedd i ddangos eu parch a'u hedmygedd i arferion a thraddodiadau gwlai eu genedigaeth. Cynaliwyd y wledd gerddorol a danteithiol fel y'i gelwir yn awr, y tro hwn yn Lecture Hall y Metropolitan, trwy garedig- rwydd gweinidog newydd yr eglwys, y Parch. Trevor H. Davies a'r swyddog- ion. Mae y cynllun a fabwysiadwyd y flwyddyn ddiweddaf wedi troi allan yn llwyddiant mawr, sef canu hen donau ac emynau Cymreig. Fel ag y mae y cynllun o ddwyn i mewn y Gymanfa iganu i'r Eisteddfod Genedlaethol yn yr Hen Wlad wedi troi yn llwyddiant, felly yma; mae troi banquet flynyddol Cym- deithas Dewi Sant yn banquet gerddor- ol wedi creu dyddordeb neillduol mewn cylch eang y tuallan i'r Cymry, fel ag yr edrychir yn mlaen gyda phleser at Wyl Dewi Toronto. Yr anrhydedd uwchaf ag y gall y Gymdeithas roddi i'w noildwyr yw llyw- yddu ar yr achlysuron neillduol hyn, a'r tro hwn teimlwyd nad oedd yr un Cymro yn haeddu mwy o barch ac an- rhydedd na'r Proff. J. Hugh Michael, M. A., yr hwn sydd yn gwneyd cymaint dros hyrwyddo pob symudiad sydd oreu ac uwchaf er daioni a lies ei gydgenedl yn y diinas, ac yr oedd ar ei oreu y noswaith hon, a gwnaeth gadeirydd heb lei fath. Cynorthwywyd ef ar y Ilwyfan gan y Parch. Trevor H. Davies, Dr. N. A. Powell, Lieut. Col. G. W. Williams (caplan milwrol), Col. Alex Fraser, LI. D., Litt. D., A. D. C.; Mr. R. 0. Wynne Roberts, M. I. C. E., F. R. S. I., hefyd Llywydd y Gymdeithas, Mr. E. Lewis Evans, a'r ysgrifenydd, Mr. Hugh Hughes. Dechreuwyd trwy ganu yr anthem Genedlaethol; wedi hyny, chorus, 'March of the men of Harlech,' gan gor y dynion (Toronto Male Voice Choir), o dan arweiniad Mr. Fred. G. Thomas. Er nad oedd y cor hwn weii ei sefydlu ond ryw dair wythnos, buont yn llwyddian- us i greu argraff hynod o ffafriol, a dys- gwylir pethau mawr ganddynt yn y dy- fodol. Er nad oes ond ychydig flsoedd er pan ddaeth y Parch. Trevor H. Dav- ies drosodi o Lundain i weinidogaethu yn y Metropolitan (yr eglwys Fethodist mwyaf pwysig yn ddiameu yn yr holl dalaeth), y mae efe eisoes wedi dangos I ei hun yn Gymro twymgalon a selog, a !gresyn nad yw yn gallu siarad yr hen iaith yn hyawdl, ond cafwyd anerchiad jrhagorol ganddo ar y Sant Dewi. Can- wyd yr hen don gynulleidfaol 'Malvern' ar y geiriau '0, tyrei Arglwydd mawr,' &c., o dan arweiniad Mr. T. P. Wil- liams; wedi hyny, cafwyd anerchiad y llywydd, cynwysfawr, doniol a ffraeth; italent naturiol, athrylith glasurol wedi ei Ilathreiddio a dysgeidiaeth. Cafodd y tenor soniarus. Mr. Albert David, encor, a bu rhaid iddo ymidangos yr ail waith. Wedi hyny, cafwyd anerch- iad y doniol ddoctor N. A. Powell ar 'Canada a'r Ymerodraeth,' i swn y 'Maple Leaf,' pawb ar eu traed. Y nesaf oedd yr hen don fendigedig, 'Crugybar' ar y geiriau '0 fryniau Caer- salem ceir gweled,' a sylwyd gan y llywydd ddarfod i'r milwyr Cymreig pan yn sangu heolydd Jerusalem ganu yr emyn yma wrth enill y ddinas oddiar y Twrc creulon. Gyda dwysder a difrifolwch traddod- odd Lieut.-Col. Williams ei araeth ar- dderchog hwn yn aros ar ein meddyliau am amser maith. Dynoethoid y gelyn yn ddidrugaredd ei anlladrwydd a'i greulondeb echrydus, gan ddangos y canlyniadau ofnadwy fyddai i'r byd gwareiddielig gael ei sathru gan gyn- ddaredd dieflig nerthoedd milwrol Ger- mani. Addas i'r amgylchiad oedd y chorus, 'Comrades in Arms' gan y cor, Addas hefyd mewn ystyr uwch oedd i bawb uno mewn canu mawl yr hen don 'Hvfrydol' ar y geiriau 'Marchog lesu yn llwyddianus.' Traddododd Dr.. Alex. Fraser ei an- erchiad ar 'Yr ymwelwyr a'r cymdeith- asau cvfeillgar,' ac yr oedd hefvd yn cvnrvchioli y gvmdeithas Scotniid, St. Andrews. Canwyd diosodd amryw weithiau gydag ysbryd anarferol yr hen don 'Huddersfield' ar y geiriau melus, 'Duw mawr y rhyfeddodau maith,' a chafwyd chorus arall gan y cor. 'Long day closes' yn effeithiol. Yr anerchiad diweidaf a roddwy.d gan Mr. R. O. Wynne Roberts ar ran Cymdeithas Dewi Sant Toronto. Dangosodd y dai- oni ag y mae y cymdeithasau gwladgar- ol hyn yn ei wneyd trwy y deyrnas, yn enwedig i fechgyn a genethod Cymru ag sydd yn mhell o wlad eu genedig- aeth, er cadw yn fyw sefydliadau, tra- diodiadau, ac arferion ag sydd yn peri i genedl fechan y Cymry fod yn esiampl i genedloedd y byd. Wedi canu yr emyn, '0, Dduw, rho i'm dy hedd' i'r don 'Andalusia,' hysbys- odd y llywydd mai y peth nesaf fydiai 'Er Cof (In Memoriam), a gorchymyn- wyd i'r holl gynulleidfa sefyll ar eu traed, ac mewn dystawrwydd a dwys- der argraffadwy gahvyd enwau y bech- gyn Cymreig ag sydd wedi. aberthu eu bywyiau ag sydd a'u gweddillion mar- wol yn tawel orphwys o swn rhuthriad- au y frwydr a'r magnelau yn 'rhywle yn Ffrainc,' sef Dd. Davies, David Johnson. Edward Hughes, Elmor Jones, Dd. Williams, Robert M. Ellis a Wfi. Lloyd. Hefyd ncdwyd am farwolaeth yr Hybarch Dr. B. D. Thomas, un o hen noddwyr y Gymdeithas er's llawer dydd, a'r hwn oedi yn bresenol yn mwynhau y canu a'r wledd flwyddyn yn ol. Yn uniongyrchol tarawodd arweinydd y gan, Mr. T. P. Williams, y don 'Babel,' ar yr hen emyn ag sydd yn cyraedd calon pob Cymro, 'Bydd myrdd o ry- I fediodau,' dwys a tharawiadol i ry- feddu oedd yr effaith. Cafodd y felus- lais a'r soniarus soprano Gymreig, Miss Gwladys Jones, dderbyniad brwdfrydig, a bu raid iddi ail ymddangos, pryd y canoid yn hynod effeithiol, 'Ar hyd y nos.' Canwyd yr hen don adnabyddus, 'Aberystwyth' ar y geiriau Seisnig, 'Jesus lover of my soul.' ac wedi i bawb uno trwy ganu 'Hen Wlad fy Nhadau.' neillduwyd i'r ystafelloedd'uwch ben i fwynhau y danteithion ag oedd y bon- eddigesau wedi bod yn brysur barotoi er yn gynar y pryinawn. Gwasanaeth- wyd wrth y byrddau gan Mrs. T. P. Williams a'r Misses Williams. Mrs. H. Hughes a'r Misses Hughes, Mrs. John Owen, Mrs. G. T. Pritchard, Mrs. J. T. Wood, Mrs. Wynne Roberts, Mrs. Lewis Evans a Miss Megan G. Evans, Misses Jones, Manning Ave. gydag amryw er- aill o ferched ieuainc yn nglyn ag eg- lwys Gymraeg y ddinas. Y cyfeilydd oedd Mr. C. L. Penney, a chyfeilyddes y cor. Miss Helena Thomas, y rhai a aeth- ant trwy eu gwaith yn foddhaol. 'Gyda diolchiaiau i'r rhai oedd wedi gwelthio mor ddiwyd, ac i'r cantorion am eu gwasanaeth, terfynodd gwledd Gwyl Dewi Sant, a bydd genym adgof- ion melus am y cyfarfod llewyrchus hwn a ddaeth i ben yn llawer rhy fuan.
I COLUMBUS, O.
I COLUMBUS, O. I Gan Thos. Roderick. v Bu farw Thomas Williams, Chwef. 27, 1918, yn nghartref ei ferch, Mrs. Thos. B. Jones, 157 N. 18th St., lie y bu yn cartrefu oddi ar pan gladdwyd ei briod tua saith mlynedd yn ol. Cafodd gys- tudd blin am tuag wyth mis, ond yr oedd yn ymdawelu yn hollol i ewyllys ei Arlywydd, ac yr oeid yn gysur mawr i'w deulu ac eraill i'w glywed yn dywed- yd ei fod yn gwybod ei fod wedi myned trwodd o farwolaeth i fywyd a'i fod yn barod i fyned adref pa bryd bynag y delai yr alwad. Yr oedd yn aelod ffyddlawn yn eglwys M. C., ac yn hoff iawn o astudio gaIr Duw; ac yn hwn yr oedd yn hyddysg lawn. Mab ydoedd i William T. ac Ann Williams, gynt o'r fferm, Maesyrhug, gerllaw Aberyst- wyth, D. C., a phan oedi efe yn ieuanc ymfudodd gyda'i rieni i'r wlad hon ac ymsefydlasant yn swydd Jackson, O. Ganwyd ef Tachwedd 1, 1846. Ymun- odd mewn glan briodas a Catherine, merch i Mr. a Mrs. John Davies, ac i'r undeb hwn y bu 10 o blant; dau wedi -4qrw ac wyth yn fyw; Mrs. Mooney, Mrs. Short, Elizabeth, Mrs. Clark, Mrs. Walcott, Newton Charlie, oil yn Colum- bus: a Benny yn Washington. D. C.. a phan doroid y rhyfel cartrefol yr oedd yn un o'r rhai cyntaf yn ymuno a chatrawd 179, O. V. I. Symudodd i Columbus tua 38 o flynyddau yn ol. Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol yn,? y cartref Mawrth laf, pryd y daeth yn nghyd lawer i dalu y parch olaf iddo; y Parch. E. Edwin Jones yn gweinyddu. Ga-dawodd yr ymadawedig i alaru ar ei ol heb law ei deulu galarus, bedwar brawd: David, Daniel, John a William yn Columbus; tair chwaer, Mrs. D. Davis Evans, Jackson, 0.; a Mrs. E. O. Davies a Elizabeth yn Columbus. Claddwyd ei weddillion yn mynwent y Green Lawn. Bu farw Mrs. Edward Davies yn ei chartref, 333 St. Clair Ave., Mawrth 9, ar ol cystudd blin o tua dwy flynedd. Merch ydoedd i Evan a Gwennie Rich- ards, gynt o gerllaw Llanllugan, sir Drefaldwyn, ac ymfudodd i'r "wlad hon efo'i rhieni a saith o blant, ac ymsef- ydlasant yn Nhalaeth New York am dymor. Yna symudasant i Brown Township yn agos i Columbus. Ymbriod- odd ag Edward Davies, lonawr 27, 1862, ac i'r undeb hwn y bu chwech o blant. Bu farw dwy ferch yn eu babandod, a bu farw un ferch 25 oed tua blwydlyn yn ol; ac y mae tri yn fyw: Mrs. Eliza- beth Brown, yr hon sydd yn weddw er mis Modi diweddaf, ac yn cadw cartref i'w thad a'i dau frawd, John a Edward. Yr oedd Mrs. Davies yn aeloi o eglwys A. Wash. Ave. Mae Edward Davies yn agos i 86 oed, ac yn agos lawn yn ddall, ond mae yn mwynhau iechyd rhagorol. Mab ydyw i'r diweddar Evan Davies o'r fferm a elwir y Wig gerllaw Dolonog, sir Drefaldwyn. Cynaliwyd y gwasan- aeth angladdol yn y cartref Mawrth 14, y Parch. E. Lloyd Roberts yn gwein- yidu, ac fe ddaeth llawer yn nghyd i dalu y parch olaf iddi hi. Claddwyd ei gweddillion yn mynwent y Green Lawn. Mae Mrs. H. M. Collins, Pewee Valley, Kentucky, ar ymweliad a'i mam, Mrs. Dr. H. P. Howells, am ychydig wythnosau, ac y mae hi yn cael amser da iawn, a derbyniad croesawus gan bawb. Mae ei phriod, er ei fod yn swyddog mewn banc, yn tuediu at waith y weinidogaeth. Yr oedd ei dad- cu yn bregethwr enwog gyda'r Bedydd- wyr. Mae Mrs. W. F. Dietz a'r plant o Cin- cinnati, 0., ar ymweliad a'i rhieni, Mr. a Mrs. L. P. Stephens, 1466 E. Long St., am ychydig wythnosau. Bu farw un o bendefigion y nefoedd, sef William E. Jones, gynt o Vene- docia, yn nghartref ei ferch, Mrs. R. Chapman, 563 E. Spring St., Mawrth 18, lie y bu yn cartrefu am tua blwyidyn. Ganwyd ef Rhag. 28, 1826; felly yr oedd yn 93 mlwydd oed. Un o foneddigion y nefoedd oedd Wm. E., ac er ei fod mewn gwth o oedran yr oedd yn hynod o 'smart' hyd yr ychydig fisoedi diwedd- af, pan na allai fyned allan o'i ystafell. Yr oedd yn bleser gan yr ysgrifenydd ymweled ag ef o herwydd yr oeddwn yn elwa rhywbeth bob tro, a dyna oedd profiad pawb oedi yn edrych am dano. Oni ddylem ninau ymdebygu iddo yn hyn, sef fod gyda ni rywbeth i gyfranu i'r rhai yr ydym yn dod i gysylltiad a ni er ei cyfoethogi mewn doethineb ys- brydol. Nid oedd yn abl i fynei i'r capel tra y bu yn Columbus, ond yr oedd Duw yn gysegr bychan iddo yn ei ystafell, ac yr oedd yn tyriu ei gysur o'r Beibl, yr hwn oedd wrth ei ochr bob amser. Yr oedd ei fywyd uniawn a'i gyfeiriad bob amser i fyny at ei Diuw. Gwnaeth Duw roddi hir ddyddiau i'n brawd, ac yr oedd wedi gwneuthur y iawn ddefnydd o honynt nes yr oedd weii addfedu fel tywysen lawn yn barod i fyned i fewn i ydfa y nefoedd. Holl hyfrydwch Mr. Jones oedd dweyd yn dda am lesu Grist yn ei fywyd, ac er cymaint sydd wedi ei diywedyd ac a ddywedir eto, 'the half has never yet been told.' Ymwelodd yr ysgrifenydd ag ef, ac yr oeddwn yn ceisio canu iddo 'Er mor chwerw dyfroeid Mara,' ac fe wnaeth Mr. Jones gyduno gyda mi, ac ar ol diweddu dywedodd wrthyf, '0, machgen i, yr wyf yn hollol ymwybodol o'r geiriau a'i cynwysiad; dyfroedd chwerwon pan yn claddu fy anwyl brioi a phlant. Ond diolch i'r nefoedd, fe dderfydd pob rhyw chwerwon ffrydiau, a cheir y goron yn lle'r croesau. Yr oedd yr hollol dawel wrth wynebu ton- og lu yr hen lorddonen gan ymdeimlo mai ei Dai oedd wrth y llyw. Cynal- iwyd y gwasanaeth angladdol Mawrth 21, yn nghartref ei ferch, pryd y daeth yn nghyd laweroedd i dalu y parch olaf i un oedd yn hawlio edmygedd; nid yn unig oddiwrth ei deulu, ond oddiwrth y gymydogaeth lie y bu yn treulio ei fywyd yn ngwasanaeth ei Arglwydd. Y Parch. E. Lloyd Roberts a'r Parch. E. Edwin Jones oedd yn gweinyddu. Yr oedd ei ferch, Mrs. Ann Ellis, o Chi- cago, yn bresenol, ond ni ddaeth ei fab, Charles, o Nebraska, i Columbus; oni fe ddaeth i Venedocia. Canwyd gan y gynulleidfa 'Ar Fryniau Caersalem ceir gweled.' Ar ol y gwasanaeth awd a'r gweddillion i'r orsaf er ei dwyn i Venedocia. Galwyd y Parch. E. Edwin Jones i Randolph, Wis., o herwydd marwolaeth Mabel, unig ferch ei chwaer, Mrs. Dan- iel Jones, yr hon a fu farw rai blynydi- au yn ol ar ol cystudd blin. Gobeithio y bydd nodded Duw dros y tad galarus dros ei unig ferch. Mae y Parch. E. Edwin Jones a'i fam oedranus yn teil- yngu ein cydymdeimlad yn nhrolon chwerwon rhagluniaeth yn y dyidfau hyn, a gallwn weled fod llaw yr Ar- glwydd yn amhvg iawn yn ein plith fel eglwys a chenedl oddi ar ddechreu y flwyddyn hon.
IOAK HILL, OHIO. -I
I OAK HILL, OHIO. Mae arosiad y Parch. J. C. Jones, D. D., gydag eglwys y T. C. yn y lie hwn wedi terfynu am y presenol. Ni fu tri mis mwy llwyddianus mewn eglwys erioed. Llanwodi y capel yn orlawn. Gosododd holl ranau peirianol yr eglwys mewn gwaith, ac y mae yn fwy byw a nerthol nag erioed, a derbyniodd i'r eg- lwys 24 o aelodau newyddion, tuag un am bob pregeth draddododd. Mae yr eglwys mewn undeb Ilwyr wedi rhoddi galwad iddo, ac wedi gwneyd y cyflog y fath fel nas gall gael gwell lie yn America. Mae eglwys Gynulleidfaol Oak Hill gydag eglwys Brynhyfryd eto heb wein- idog. Ymadawodd Mr. Roberts ryw fis yn ol. Mae Carmel a Centerville hefyi yn amddifad o fugail; a sibrwd yn y gwynt. fod y Parch. Dr. F. Davies ddechreu y mis yn ymadael ag eglwysi Tynrhos, Nebo a Siloam. Yr oedd y Parch. W. H. Jones, Jack- son, y Sul diweddaf yn rhywle yn ar- daloedd y llynau. Mae y Parch. G. James Jones wedi ei ethol yn ynad hediwch. Gall efe yn awr osod 'J. P.' ar ol ei enw, gyda y llythyrenau eraill sydd ganddo. Bydd Eisteddfod yn Grand College, Mai 17, gyda y Parch. W. H. Jones o Jackson, a Dr. Herbert Jenkins, o Rush- more. yn arweinvddion. Bydd lluaws o Gymry yn cystadlu.—Pedro.
I PWLPUD Y DRYCH
 I PWLPUD Y DRYCH LLAWENYDD POBL DDUW. (Esaiah 35:10 a 51:10). I Gan y Parch. Peter Gray Evans, Moneta, Calif. Yn ddiweddar, darllenais ddau lyfr, adnabyddus efallai i lawer o ddarllen- wyr y 'Drych,' ond nid i'r oil o honynt. Rhydd y diau bwyslais neillduol ar law- enydd crefydd, a meddyliais mai nid anfuddiol i'r darllenwyd fyddai cyfranu rhan o'r mwynhad a'r pleser a gafoid yr ysgrifenydd yn y pethau hyn. Ofn- wn fod tuedd ynom fel cenedl i edrych yn ormodol ar yr ochr dywell-y waeth- af; canlyniad hyny fydd poeni a grwg- nach, nid yn unig gyda phethau tymor- ol, ond hefyd pethau crefyidol. Ceir lluaws yn edrych ar grefydd fel baich trwm ac anhawdd ei ddwyn. Rhyw 'na wna' parhaus; canlyniad hyn, teimlant yn isel a thrist. Nid ydyw y Beibl i lawer ond math o addurn ar y bwrdd yn y parlwr, tra i eraill mae yn wledd i'r enaid, yn angenrhaid bywyd, yn ffynon- ell cysur, hyfrydwch a llawenydd. Ceis- ir galw i'r cof gymaint o gyfeiriadau geir yn y Gair at lawenydd. 'Goddi- weddant lawenydd a hyfrydwch.' 'Am hyny na thristweh,' canys llawenydd yr Arglwydd yw eich nerth.' Mae y Psalmydd yn gweddio am gael adferiad o hono, 'Dyro drachefn o lawenydd dy iachawdwriaeth.' Paul yn gorchymyn, 'Byddwch lawen;' yr Arglwydd lesu yn ei nodi, ac loan yn ysgrifenu 'fel y byddai eich llawenydd yn gyflawn.' Yn un o'r llyfrau y eyfeiriwyd ato, dywed un o'r cymeriadau wrth siarad am ei thad: Arferai fy nhad ddweyd na fuasai yn aros yn bregethwr am fynyd onibai am y testynau gorfoleddus. Gwir nad ydyw y Beibl yn eu galw felly, eto pe byddai yr oil sydd yn iechreu gyda 'Llawenydd yn yr Arglwydd,' 'A mawr lawenhewch' neu 'bloeddiwch o lawen- ydd,' a'r cyfryw. Pan oedd fy nhad yn teimlo yn isel unwaith, meidai, darfu iddo eu cyfrif a chael fod yna wyth gant o honynt yn dweyd am lawenychu a gorfoleddu. Dywedai fy nhad yn mhell- ach, 'Os ydyw Duw wedi myned i gym- aint o drafferth i ddweyi wrthym wyth gant o weithiau am orfoleddu a llawefi- ychu, rhaid gan hyny ei fod yn golygu i ni wneyd. Mae arnaf gywilydd, medd- ai, nad oeddwn weii gwneyd mwy. Bu hyn hefyd yn foddion iddo feddwl a cheisio gweled rhywbeth yn mhob peth i lawenychu erddo. Mewn pentref bychan yn y Gorllewin pell dyma hanes cenadwr tlawi, afiach ac unig yn y byd cyn cael pleser a mwynhad wrth chwil- io y Beibl er canfod gymaint o weithiau y darfu i'w Arglwydd a'i Feistr ddweyd wrtho am orfoleddu a llawenychu. Wrth ddarllen y llyfr mediyliais fod crefydd yn debyg i'r haul ag sydd yn addfedu yr yd. Gall dyn gael yr hyn 011 a geisia mewn crefydi, ac nis gall ei gael yn unman arall. Y cyfiawn a lawenycha yn yr Arglwyid a'r rhai un- iawn o galon oil a orfoleddant. (Psalm G4:10; 58:10). Nid ydym am geisio darnodi llawenydd, gellir cael hyny mewn lleoedd eraill. Ceir fod tri math o iawenyid (Geiriadur Charles). 1. Llawenydd naturiol sydd yn cyfodi oddiar fwynhad o bethau naturiol, megys cyfoeth. anrhydedd neu swydd. Dyna lawenydd goreu y byd. 2. Llawenydd cnawiol, sydd yn tar- ddu oddiar bleser a mwynhad pechad- urus-llawenydd yn annuwiol, 'Gwna yn llawen wr ieuanc.' 3. Llawenydd crefyddol, sydd yn deilliaw oldiar fwynhad o Dduw-hedd- wch eydwybod, a chymdeithas a'r Tad.' Yn adnodau y testyn cawn lawenydd gwaredigion yr Arglwydd. Ei natur, ei darddiad a'i barhad.' 1. Llawenyid crefydd. 'Does dim eisieu profi fod i'r Cristion lawenydd, mae pob dyn duwiol yn gwybod yn brof- iadol beth ydyw. Byddai yr un peth ceisio profi fod dyn yn anadlu a cheisio profi fod y dyn duwiol yn llawenhau. 'Hyn,' mediai Iesu Grist, 'a ddywedais wrthych, fel yr arosai fy llawenydd yn- och, ac y byddai eich llawenydd yn gyflawn.' Dywedir am yr eunuch iddo ddychwelyd yn llawen, wedi cael golwg ar Oen Duw. Enwa Paul lawenydd fel un o ffrwythau yr ysbryi. Dywed un fod llawenydd crefydd Iesu Grist yn brawf o'i gwirionedd. Dywedai Flavel dduwlol iddo brofi y fath lawenydd law- er gwaith nes colli golwg ar bob peth daearol a dymuno bod gyda'r lesu. Cofia pobl South Wilkes-Barre, Pa., yn dda am yr amser gogoneddus fyddem yn gael yn y seiat pan fyddai Thomas Nightingale yn dweyd ei broflad. Bydd- ai gwedd nefolaidd ar ei wyneb, a siriol- deb dwyfol yn treiddio drwyddo pan yn dweyd am yr amser gogoneddus a hyfryd, a'r wledd oedi wedi gael gyda'i lesu anwyl y prydnawn hwnw, i lawr ganoedd o latheni yn y pwll glo. Trist yn wir, mddai, na 'doedd neb yn teim- lo yn fwy llawen na mi, yn mwynhau cymdeithas fy Ngwaredwr, dim ond ni ein dau.' Llawenydd crefydd yn rhagorl ar bob llawenydd yn 1. Ei darddiad, llawenydd dwyfol, gelwir ef yn llawenydd a dyidanwch Duw. 0 hono Ef y tardda, ac y mae o'r un natur a chyffelyb a'r eiddo yntau. Nid ydyw Ilawenydd y byd ond ffynon sydd yn sychu, ond os mewn undeb a Duw, bydd mewn unieb a ffynon y dyfr- oedd byw, o'r hon y rhed ffrydiau llaw- enydd a leinw ei enaid. Mae golwg iawn ar yr Arglwydd yn galluogi dyn i edrych ar ochr oleu bywyd, a bydd hyn yn peri achos gorfoledd a llawenydd. 2. Yn ei natur. Llawenydd ysbrydol, i'w gael gyda phethau ysbrydol. Gel-! wir ef yn lawenydd yr ysbryd, gan mai efe sydd yn ei gyfranu. Mae yn un santaidd a gogoneddus. Llawenydd iynion santaidd gyda phethau santaidd. Mae yn cael ei alw yn ffrwyth yr ys- bryd. Mae yn llawenydd gwirioneddol a sylweddol sydd yn tarddu oddiar ber- thynas y credadyn a Duw. 3. Rhagora yn ei barhad-llawenydd tragywydiol. Pob llawenydd bydol i ddarfod yn angeu—cyfoeth. anrhydedd a pleserau. 'Eich llawenydd.' meddai Iesu Grist. 'ni ddwg neb oddiarnoch.' Gallant ddwyn ymalth eich meddianau, eich cyfoeth. eich perthynasau a'ch bywyd, ond nid eich llawenydd. Gall y ffrydiau sychu, ond mae ffynon eich cysur a'ch Ilawenydd yn Ilawn. Bydd i achos galar gael ei symud. ond mae achos llawenydd i barhau byth. Fydd raid i'r duwiol ddim tristau yn hir iawn eto, cystudd a galar a ffy ymaith. Mae diwedd ar y dyoddef, y poen a'r trist- wch, a diolch am hyny, ond 'does dim diwedd ar y llawenydd, nis gall angeu ei ddinystrio na meithder tragywyddol- deb ei ddiflasu, oblegid cariai ydyw awyrgylch y nefoedd, nid oes yno gas- ineb na phechod, ond llawenydd fel y mor. Sut i ddod yn feddianol arno. Pan yn pregethu, carem fod fel ein Meistr, yn gallu dweyd mor dda am y pethau fel ag i greu a wydd yn y gwrandawyr am ddod yn feddianol o honynt. Gwnaeth hyny gyda'r wraig o Samaria, dywed- odd wrthi am ddwfr y bywyd, nes creu awydi ynddi am dano. 'Dyro i mi o'r dwfr hwn.' Carem ninau ddweyd mor dda am y llawenydd hwn fel ag i greu awydd yn y darllenwyr am ei feddianu. Mae yn werth i'w gael. Byddwn yn hoffi cymdeithasu a'r bobl ydynt yn feidianol arno. Mae yr Arglwydd wedi gweled yn dda i agor maes i ni yn mhlith y Saeson, tae waeth am hyny. Yr ydym yn cael gwleddoedd o basged- igion breision yn nghymdeithas y saint yma. Un hen fam yn Israel dros ei phedwar ugain oed a chanddi amryw o blant yn pregethu efengyl Crist, rhai yn y wlad hon a rhai mewn gwledydd tramor. Cyfrana yn helaeth at y Gen- adaeth, ac mae yn ffyddlawn gyda phob rhn o waith yr Arglwydd. Nid oes yr un cyfarfod yn myned heibio nad ydyw yn cael achos i lawenhau-yr un bre- geth yn cael ei thraddodi gan y gwein- idog nai ydyw yn cael rhywbeth ynddi ag sydd yn peri llawenydd. Pan mae hi ac eraill yn dod atom i fynegi y mwynhad a'r llawenydd a gant yn y bregeth, a ydym i'w hameu, neu i fedd- wl eu bod yn rhagrithio? A ydym i chwerthin am eu pen a dweyd eu bod yn mynei yn hen a ffol? Onid ydyw hyn yn brawf o wirionedd ein crefydd— a Gair Duw-onid cyflawniad o'r addew- id ydyw, 'y goddiweddant lawenydd a hyfrydwch; mewn llawenydi y tynwch ddwfr o ffynonau yr iachawdwriaeth.' Y rheswm o'r llawenydd ydyw ffydd yn addewidion Duw. Trwy gredu y mae yn cael ei genedlu a'i gynal yn yr enaid. Hefyd llwybr ufudi-dod ydyw yr eiddo llawenydd; gweithio gyda'r achos yn rhoddi llawenydd; ffordd gweithgarwch ydyw ei ffordd. Peidio edrych ar bob neth fel dyledswyid, ond braint. Ceir llawer ydynt yn siarad yn barfcaus am ddyledswydd, byth am fraint. Pan mae y galon wedi ei llanw a chariad, bydd i'r dyledswyddau diiflanu a dim yn aros ond breintiau. Dyna broflad canoedd yn Nghymru cyn y diwygiad nad oedd- yn teimlo yn fraint i weithio gyda chrefydd; yn y gwaith y mae pleser. 'Mwy o bleser yn y gwaith na dim a feid y ddaear faith.' Mae llawenydd yn beth posibl i'w gael. A ydym yn feddianol arno? ♦» »
I LLYTHYR 0 WERSYLL WADSWORTH,…
I LLYTHYR 0 WERSYLL WADS- WORTH, S. C. Efallai mai nid annyddorol i ddarllen- wyr y 'Drych' fydiai gair o wersyll Wadsworth, S. C., y fan lie y gwersylla y New York State National Guard. Saif y gwersyll hwn tua pedair milldir i'r gogledd o ddinas Spartansburg (dinas o tua 25,000 o boblogaeth). Cyraeddais yma ar y 9fed o fis Medi y flwyddyn dii- weddaf. Ar ol ymuno a'r fyddin. treul- iais tua mis yn Syracuse, N. Y.. a deg diwrnod yn Pelham Bay Park. N. Y., a chymerasom ran yn yr orymdaith fawr i lawr Fifth Ave., New York, amgylch- iad nad aiff byth yn annghof genyf- Gwelais fwy o bob! y diwrnod hwnw nag a welais erioed gyda'u gilyid. Yr oedd yn ymddangos fel pe bae pob copa walltog yn y ddinas fawr, a thrwy y dal- aeth, wedi troi allan, ac yn gwlawio eu bendithion ar ein penau. Wedi teithio tri diwrnod yn y tren cyraeddasom yma ar foreu Sul. Y pryd hyny nid oedd ond ychyiig o filwyr yma, dim ond rhan o'r 102nd Engineers, ac yr oedd y gwer- syll yn ei blentyndod. Yr oedd y seiri wrthi yn brysur yn adeiladu y 'mes' shacks.' Yr oedd y Sul cyntaf i ni yma y diwrnod poethaf a deimlais yn fy myw- yd erioed, y gwres bron yn llethol, ac yr oedd yn rhaid gosod y pabelli i fyny. felly nid oedd dim i'w wneyd ond '.Uck to it' fel y dywed y Sais. Yn fuan ar ol i ni gyraedd yma, do- chreuodd y canoedd (ie, y miloedd, 1dy- laswn ddweyd) milwyr ddylifo i fewn, fel erbyn diwedd mis Tachwedd yr oedd dros ddeng mil ar hugain yn y gwersyll. ac y mae yr olygfa yn werth ei gweled. pawb yn trigo mewn pebyll, ae nid mewn barracks, fel y mae mewn rhai gwersylloedd yn y wlad yma. Erbyn hyn y mae miloedd eraill wedi cyraedd yma, sef y National Guard Troops o dal- aeth New Hampshire a rhai o'r Fyddin Genedlaethol, a dywedir y bydi y gwer- syll yn rhifo o 60,000 i 70,000 erbyn de- chreu mis Mai. Y mae y llywodraeth wedi prynu tua 1,000 o erwaa yn ychwaneg o dir er mwyn eangu y gwer- syll, ac erbyn hyn dywedir mai hwa yw y gwersyll mwyaf yn y wlad. Y mae y tywydd yn ddymunol iawn yma. Cawsom tua chwe modfedd o eira yn mis Ionawr diweidaf, ond yn mhen tri diwrnod yr oedd y cyfan wedi clirio, a'r haul yn tywynu ei belydrau tyner unwaith eto. Yr ydym wedi cael train- ing caled, ac y mae yn ymddangos fod y training yn dygymod a ni yn lied dda. Mae'r ymborth, er yn blaen, yn faeth- lawn, ac yn cael ei goginio mor flasus ag y dysgwylir i ddau goginiwr allu ei baro- toi i gant a haner o enau newynog dair gwaith y dydd. Yr ail p Chwefror, cefais ddeg diwr- nod o furlough, a manteisiais ar y cyf- leusdra i ymweled ag Utica. Yr oedd yn wir dda genyf weled amryw o fy nghyfeillion Cymreig, ac i gael siarad gair yn Gymraeg. Nid oes gair o'r hen faith i'w glywed yn y gwersyll, ac nii wyf hyd yn hyn wedi cyfarfod a neb all siarad yr hen iaith. Pan ddaethym yn ol' o Utica symudodd ein cwmni i le olt- enw Campobello, tua 18 milldir i'r gog- ledd o Spartansburg, ac yr wyf yn ys- grifenu y llythyr hwn yn y lie a nodwyd. Ein gwaith yma yw cludo tanbeleaaH a nwyddau i'r range, ac y mae y gwaith yn diyddorol annghyffredin, yn enwedig wrth edrych ar y gwaith da a wna y gynau mawr. Y dydd o'r blaen, hyrdd- iwyd cynifer o danbelenau i grombil y mynydd nes y dechreuodd y mynydd losgi, a gorfu iddynt beiiio tanio am chwe awr cyn y gellid rhoddi y tan allan. Nid gwiw rhoddi hysbysrwydd pa bryd y cawn y cyfle i fyned i'r ochr draw i'r Werydd i ymladd law yn llmw a Chymru fechan sydd weii gwneyd ei rhan mor wrol. ac wedi dyoddef echlrs- lonrwydd a chreulonderau dieflig yr ElI- myn, ond yr ydym yn dysgwyl y byddwn yn myned cyn hir. Hyn gyda choflon anwylaf at holl dd^rllenwvr y 'Drych.' W. T. WILLIAMS, Co. B. 102 Ammunition Traim 27 Div. U. S. Army.
¡. I , I MYFYRDODAU HOPHNI.I
wydd eu pechod, neidio i'r adwy i wedd- io wnai gwr Duw, a thrwy hyny troai draw y farn a hofrai uwch eu pen, a hyny gyda hwylusdod. Treuliodd efe ddeugain niwrnod ddwy waith yn y mynydd gyda Duw ar ran ei bobl. A dyma y gyfrinach yn Rephidim, 'A dy- wedodd Moses wrth Josua, Dewis i ni wyr, a dos allan ac ymladd ag Amalec.' Dyna dy waith di, Josua, ond y mae genyf finau fy ngwaith hefyd: 'Yfory, mi a safaf ar ben y bryn, a gwialen Duw yn fy llaw.' Y mae i'r wialen ei gwaith newydd i'w wneyd yfory; yn lie pwynt- io at wrthrychau daearol y mae i'w chyfeirio tua'r nef i ddangos mai oddi yno y mae yr oruchafiaeth i ddod, a bydd fy ngwaith inau yn ei chodi yn dangos mai oddiwrthyf fi fel cynrych- iolydd Israel, y rhaid i'r symudiad dde- chreu, yna oddi fyny at i lawr mewn Ilwyddiant ar ymdrechion y milwyr. Ac felly y profodd hi: 'Felly Josua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho; ac a ymlaidodd ag Amalec: A Moses, Aaron a Hur, a aethant i fynu i ben y bryn. A phan godai Moses ei law (mewn gweddi, yn ol y Caldaeg) y byddai Israel yn drechaf. A dwylaw Moses oedd drymion ac Aaron a Hur a gynal- iasant ei ddwylaw ef, un ar y naill du, &'r llall ar y tu arall; felly y bu ei ddv/ylaw ef sythion nes machludo yr haul. A Josua a orchfygodi Amalec a'i bobl a min y cleddyf.' Pwy all ameu yn awr effeithiolrwydd gweddi, na gwerth ymdrech y cwmni diarfau ar ben y bryn? Cawsant lawer o drafferth i gadw i fyny yr ymdrech drwy ystod y dydi, ond talodd yn dda ei gwneyd, a gofala ysbrydoliaeth gofnodi mai i ym- drechion gweddigar pen y bryn yr ydym i briodoli y fuddugoliaeth oiidog a, gaf- odd lluoedd Duw y dyid hwnw. Felly eto gall cwmni Bryn Gweddi roddi cyn- orthwy sylweddol i enill ein brwydrau. Canys yn ol Dafydd nid 'a chleddyf, na gwaewffon y gwared yr Arglwyid, can- ys eiddo yr Arglwydd yw y rhyfel.' 0