Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y mae eisieu geiriadur Cymraeg new- ydd a'r geiriau Seisneg diweddaraf yn- ddo; geiriau fel 'snob' a arferir mor ami gan Gymry yr Hen Wlad. Dyna 'automobile.' Gellid ei droi i 'hunan- fynedydi' yn y Gymraeg. Dywedir fod yn y fyddin 100,000 o Smiths nid 'gofiaid,' eithr bechgyn o'r enw 'Smith.' Y mae 1,500 o William Smith, 1,000 o John Smith, &c. Y mae ynddi 15,000 o Millers (nid melinydd- ion); a 15,000 o Wilsons. Ni welsom eto pa nifer o John Jones a Dafy Dafys sydd! Nid oes son y gwanwyn hwn am blanu tatws a garddu ag oedi flwyddyn yn ol. Nid oes dim fel profiad. Coel llawer oedd y pryd hwnw fod amaethu yn waith hawdd, ac y gallai pawb ei wneyd, ond y ffaith yw fod yn rhaid dysgu rhyw gymaint ar bob gwaith, fel barddoni neu lenyida, er engraifft. Y mae trin y Gymraeg yn anhawddach na phlanu tatws. Tystia y 'Cymro' iddo dderbyn rhestr gyfrinachol o'r llyfrau a gyhoeddir drwy'r wasg Seisneg yn ystod y mis- oedd nesaf, ac ni chai ynddi gymaint ag un enw Cymraeg. Os y cyhoeddir un llyfr Cymraeg, edrychir arno fel rhy- feidod; ac y mae llyfr Cymraeg yn America fel comed! Credwn y dylid cael rhyw ffordd I beri anesmwythdra ar y genedl Gymreig. Byddai y byd yn dywyll o ran y mae hi yn oleuo arno. Os y cyneuir canwyll yma, bydd nifer ar ei hoi ag eisieu ei diffodd! Hyderwn fod ein darllenydd yn wy- bodol ein bod yn byw awr o flaen yr oes, a hyny drwy drefniant y llywodr- aeth gyda'r amcan o'n cael I fwynhau mwy o oleu dydd. Collwn lawer o'r dydd drwy aros yn ein gwelyau a hithau yn ddydd; ac y mae yn oi na allem adael y clociau i ddweyd y gwir, a chodi heb ein twyllo. Rywfodd y mae yn rhaid i ddyn dwyllo ei hun er lleshau ei hun, ac felly y mae yn well iddo hyny na pheidio. Ffyna cryn diirgelwch yn nglyn a'r dwymyn datws flwyddyn yn ol. Ni welsom ddim goleu ar y cyffro y llyn- edd, a thebyg na chawn fyth. Aeth y daten i fyny fel aroplen, a'r pris gyda hi, ac ni eglurwyd eto paham yr aeth, a pha ysbryd drwg a feddianodd bawb am [ dymor! Effeithioid fwy neu lai ar law- er o nwyddan, ac aeth pob masnachwr i godi mwy na ddylasai, a rhoi y bai ar y rhyfel. Y mae y rhyfel genym eto, ond gwelwn rhai pethau yn disgyn! Y mae un gwall a phall yn ein Har- lywydd, sef ymgymer yn ormodol a rhedeg y rhyfel enbydus hwn a'i gyfeill- ion, y Democratiaid, yn unig. Y mae dynion cryfion gan y Gwerinwyr, ond ni ymddengys ei foi yn eu gweled. Diys- tyrodd Roosevelt a'i ymdrechion ar y cyntaf, ac nid yw am ddefnyddio neb o gyfeillion y cyn-Arlywydd, os y gall oeidio. Y mae ei ymddygiad at y Cad- friiog Wood wedi bod yn ddyeithr. Y mae dirgelwch yn y gogwydd sydd yn y Cymro at dduwinyddiaeth. Y mae yn dduwinydd o'r groth-rhyw fath o Nazaread duwinyddol. Pe y darfydiai duwinyddiaeth o'n byd, byddai un Cym- ro yn ddigon i'w ail-lefeinio. Ysgrifena a siarada ar wyddoniaeth fel duwinydi, fel y try bob barddoniaeth yn emyn. Y prawf diweddaf i law yw fod y 'Beirn- iad' yn dechreu myned i afael yr un dwymyn. Nid yw yn un syndod i glywed foi y Germaniaid yn falch iawn o'i gwn mawr sydd yn taflu pelau o goedwig St. Gobain, 76 milldir, i Ddinas Paris. Y dydd o'r blaen lladdwyd tua haner cant ac anafwyd nifer fawr mewn eglwys. Y mae y ffaith fod yr Hwn yn falch o'r fath dirygwaith yn profi y tu hwnt mor anwar yw. Coel y German yw mai hwy yw cenedl etholedig Duw, ac nad yw pobloedd eraill o ddim pwys. Goreu po fwy o honynt ddyfethir, a gwelir hyny yn ymddygiad dinystriol yr Hwn. Dyfais hynod ddyddorol yw y darlun- iau byw, ond y drwg yw yr a y drafod- aeth hon yn fwyfwy o hyd i afael budrelwyr, a darostyngir y welfa ddifyr ac adeiladol i arddangos nwydau, ys- gafnler ac oferedd er boddhad teimlad- au y werin. Synwn na ymunai crefydd- wyr tref a phentref a'u gilydd i wneyd y iawnddefnydd o'r ddyfais ryfeddol i arddangos ymdrechion y da yn erbyn y drwg, a thrwy hyny gynorthwyo achos crefydi. Y mae rhyw lwgr anorchfygol yn y natur ddynol, a gwna y llwgr arall, sef ariangarweh, ddefnydd o hono i elwi yn frwnt arno. Cyff elyb yw yr eira i ddyn mewn ffordd. Yn nechreuad ei oes cyn el gwymp yr oedd dyn yn wyn ac yn bur, yn ol yr hanes. Y mae yr eira ar ol ei gwymp yn dal yn wyn, ond yn fuan cyll yntau ei burdeb, ac erbyn y mae yn bryd iido fyned, a i edrych yn o frwnt. Ar y mynyddoedd, ac yn y caeau, ceidw ei burdeb yn o hir, ond yn y dinasoedd a'r trefi a'r pentrefi a cyn ddued a phechadur, ac yn y budrbarthau a yn fudr ac aflan. A o'r golwg yn hollol dan oruchwyliaeth y gwanwyn; a i fyny i ddisgyn yn wlaw, a'r gauaf, i ymwelei a ni eto yn eira gwyn. Dyna ddarlun o ras a'i waith iachawdwriaethol! Coffa yr enw Cadfridog Foch i ni ddadl yn Nghymru yn ystod y rhyfel rhwng Germani a Ffrainc yn 1870. Yr oedd gan y Ffrancod Gadfridog o'r enw 'Trochu,' ac yr oedd gan bob un ei ffordi o'i ddweyd. Yr oedd yn frwd yno un diwrnod pan y daeth hen wein- idog y Bedyddwyr na wyddai lawer o ddim ond Cymraeg, a gofynwyd iddo y ffordd o diweyd enw y Cadfridog 'Trochu,' ac ebai yntau, gan gymeryd arno ystum un yn gwybod 'Swnia fel y gair Cymraeg Bedyddiol 'trochi' Gel- wir Foch yn 'Fock' a 'Foch,' 'ch' fel yn 'coch,' ond y ffordd yw 'Fosh.' l Byddai yn bwnc dyddorol I'w osod o flaen gwybodwyr a chydwyboiwyr y 'Drych' yn nglyn a symud y cloc (ni symudir yr amser) yn mlaen awr ar flaen yr oes, fel ag i wneyd y cloc dystio yr hyn na sydd yn wir. Y mae yrr engraifft o 'ddwyn camdystiolaeth.' Carem gael rhai o'n manylwyr i ddad- gan eu golygiadau yn nglyn a hyn. Cy- farfuasom eisoes a gwraig a ballodd a'i wneyd. Y mae yn arfer gan lawer I gadw y cloc yn mlaen er dyogelwch codi i fyned at eu gwaith. Gwelsom hyny yn Nghymru, ac ni chlywsom neb yn cwyno o'i herwydd; hyd yn nod pobl grefyddol. Y mae yn bwnc dyddorol lawn, a chynygiwn ef i fewn gyda'r pynciaa dyrys sydd ar fwrdd y 'Drych.' Dyweiai y Seneddwr Overman y dydd o'r blaen yn y Senedd fod 400,000 o ysbiwyr Germanaidd yn y Talaethau. Y maent yn amlach nag y mae y llyw- odraeth yn Washington hyd yma wedi dybio. Y mae yn anhawdd dweyd beth yw y nifer, ond teimlwn fel eu drwg- dybio oil hyi nes y profant yn wahanol. Ofnwn pa yr enillai y Germaniaid yn Ewrop, y byddai yma fwy o Germaniaid nag sydd yn foddlon cydnabod eu hun- ain yr awr hon. Y mae llawer o Ger- maniald yn ddystaw nas gwyr neb beth ydynt. Y maent yn deyrngar hyd y cant gyfle i idangos eu hunain yn ddi- berygl. Gwell eu gwylio oil! Yn amser yr etholiad diweddaf yn Utica, cyhuddai y politicwyr eu gilydd am na ofalent am foes y ddinas, a dy- wedent rai pethau go galed, ond sawrai yr oil o faw yr ymdrech ar y pryd. Gwnaeth y cyfan o gyneu i ddrygu y naill y llall. Nid amser i drin moes dinas yw adeg etholiad, oblegid nid yw y politicwyr fel rheol gyffredin yn pris-' io llawer o foes unrhyw amser. Yn awr, taflwyd ffrwydren i ganol pobl Utica 'fod y ddinas yn lled-agored ar y Sul,' a hyderwn y cymer y Maer a'i weision y botymau i chwilio a yw felly. Byr iawn eu golwg yw yr heddgeidwaid. j YMWELWYR AR UN 0 LONGAU F'EWYRTH SAM. I Ni welant dafarn agored ar y. Sul oddi- gerth fod drws y ffrynt yn agored a'r llymeitwyr yn hwylio f fewn ac allan. A ydynt dan gyfarwyddyd i beidio gwel- ed? Un elfen ddrwg iawn a ddaw i'r golwg yn nglyn a'r rhyfel yw y tra- chwant am elw sydd wedi meddianu dosbarth o lafur. Ni wyddant pa faint i ofyn am eu gwaith. Ychydig o wlad- garwch a chariad at degwch sydd yn eu calonau, a hawdd yw genym eu rhestru gyda'r pasiffistiaid. Ni phryderai y rhai hyn fyned ar streic tra fyddai y Ger- maniaid yn tanbelenu New York. Am- lygir llawer o ddiffyg cariad at wareidi- iad yn mhob ffurf ar hyd a lied ein gwlad. Safodd dosbarth o weithwyr allan yn ddiweddar yn y dwyrain yma am $10 y dydd. Pan y daw y rhyfel mawr hwn i ben, rhaid fydd talu yn ol y draul fawr yr a ein gwlad iddi, ac felly dylid gofalu am gyniledd yn nglyn a phob peth. Peth brwnt yw elwa yn fasnachol a gweithfaol. O'r gogoniant yw aberth dros wlad! Sonir a bu llawer o son am y pechod yn erbyn yr Ysbryd Glan, a phryderai Cristionogion yn nglyn a'i bechu, onJ ymddengys na phrydera y Germaniaid yn nglyn ag unrhyw fath o bechod. Y maent wedi myned y tu hwnt i bob ofn pechu. Ni ymddengys fod ganddynt barch i un egwyddor o fewn adnabydd- iaeth dyn. Dywedai milwr dro yn ol ei fod wedi bod yn ymladd a rhai na phar- chent y Deg Gorchymyn, a chyfeiriai at y Germaniaid. Ni fu y fath bechu erioed yn hanes y byd o ddyddiau Sodom a Gomorrah ag a wneir heddyw gan y Germaniaid. Y mae llawer o wir yn ngeiriau Harri Heine, yr ludiew Germanaidd, draenen fu yn ystlys Ger- mani yn ystod ei oes fer, sef mat dis- gynyddion trigolion Sodom a Gomorrah yw y Germaniaid. 0 un i un cawn y Talaethau yn troi eu gwynebau yn erbyn y Germanaeg, gan ei throi allan o'r ysgolion, a hyny yn iawn. Syna rhai at hyn, oblegid, ebent hwy, y mae Goethe, a Lessing a Schiller yn ddiwylliant i unrhyw ddyn. Ymddibyna llawer ar ba beth yw di- wylliant. Yr oedi Goethe yn ddyn llygredig, ac nid yw ei weithiau drwy- ddynt yn gefnogol i Gristionogaeth a gwareiddiad o'r fath uwchaf. Nid ydym yn cael y Germaniaid diweddaraf i'w cymharu a'r awduron goreu yn Mhry- dain ac America, ac ofnwn fod llenydi- iaeth Germani heidyw yn gefnogol i an- wareiddiweh. Y mae benbwygilydd yn Gaiseraddoliaeth, ac y mae hyny yn ddigon o reswm dros ei chau allan o ysgolion America. Y mae yn ddirgel- wch pa fodd y daeth i fewn i ysgolion America oidigerth drwy ddylanwad Germaniaid bradus a dichellgar. Yr oedd fel cymeryd gwenwyn i fewn i'r Weriniaeth. Y PHILISTIAID YN EIN PLITH. Daeth yr ymosodiad enbydus diwedd- ar a llawer o gudd-Germaniald i'r am- lwg. Y mae llawer iawn o honynt yn y Talaethau y byddai o fendith fawr i'r weriniaeth pe na diaethent yma erioed. Daeth y rhan fwyaf o honynt o gaeth- iwed Germani; a llawer o honynt wedi dianc i beidio myned yn ol. Eto yn y rhyfel hwn, y mae eu calon gyda'r Kaiser yn el ymdrech i orchfygu, ac er na amlygant eu hunain yn gy- hoeddus, yn ystod yr ymosodiad diwedd- af, gwelwyd ar ba ochr y safent drwy y wen ar eu gwyneb, a'r llawenydi yn eu geiriau. Daliwyd rhai o honynt mewn conglau yn gorfoleddu er y per- thynent i gymdeithasau Americanaidd gwladgarol. Pe y gellid myned i aelwydydd Ger- manaidd yn America, ceid allan mai Hwniaid yw y mwyafrif mawr o honynt. 'Anhawdd tynu cast allan o hen geffyl;' a gallwn anturio y dvwediad nad yw y German wedi llwyr gnddio yr Hwn. Y mae dwy fil o flynyddau o Gristionog- 1 aeth wedi llwyr fethu dofi yr Hwn. Anffodus yw ar y German yn Ameri- ca-rhaid yw iddo gadw dau wyneb er cadw ei hun ar delerau heddychol a'r byd o'i amgylch. Druan o'r Hwn. Nil ar y ddaear hon y mae ei le. Dylai fod yn ei le ei hun gyda'i dad diafol. Dy- eithryn yw yma, a gresyn na ddeuai ei dad ar ei ol i'w gymeryd adref. DRWG ETO. Felly yn ol dysgeidiaeth yr Hen Des- tament a'r Newydd, y mae yn diyled- swydd i wrthwynebu, sef sefyll yn erbyn drwg, ond nid a drwg, eithr a moddion i'w atal, os na ellir ei ddifodi. Dyna wna gwareiddiad pan y gwna yn iawn: defnydiio moddion effeithiol i atal drwg, os na ellir ei ddifodi. Dyna hanes gwareiddiad o ddechreu amser, er y cyll yn ami yn natur y moddion. Byddai peidio gwrthwyneb yn yr ystyr o sefyll yn ei erbyn yn an- wareiddiweh; felly nis gallwn goelio a chydnaboi y syniad fod yr Efengyl yn addysgu anwareiddiweh. Gwelir hyn yn ymddygiad yr hedd- geidwad cynrychiolydd gwareiddiad. A o amgylch gyda'i bastwn i wynebu drwg; ac.os y by 3d y drwg yn fygythiol a a gwn yn ei logell. Os y gwel ym- ladd, ni a yn mlaen gan ddiosg ei got, a myned i ymladd fel yr ymladdwyr. Byddai hyny yn wneyd drwg yn wrth- wyneb i ddrwg (yr hyn a waherddir gan yr Efengyl a gwareidiiad) ond a yn mlaen, ac os na cheir heddwch drwy'r deg, defnyddia'i bastwn, a lloria y tros- eddwr neu y troseddwyr gyda'r amcan o atal y drwg, nid ei feithrin drwy ei borthi a drwg. Byddai yn iawn i ddin- esydd cyffredin wneyd yr un modd, os na fyddai heddgeidwad yn gyfleus, os y byddai hyny yn effeithiol i atal y drwg. Nid drwg yw ymosod ar ddrwg i'w atal, eithr da. Newidia yr amcan y cyfan. Dyna y rheswm fod ein byd mor ddyogel i fyw ynddo, am y gwrthwynebir drwg, nid a drwg, ond a da. A oes pasiffist yn dar- llen y 'Drych' a ddymunai weled difod- iad hunanamddiffyniad cymdeithas? Yr unig wahaniaeth rhwng gwlad filwrol a'i nod i atal drwg a sefydlu a chado6rnhau heddwch a heddgeidwad yw foi y naill yn dwyn arfau a'r llall bastwn. Y mae yr egwyddor a'r amcan yn gyffelyb gyda'r ddau. Felly, y mae rhyfela i orchfygu y byd a'i ddarostwng fel y gwna Germani yn ddrwg; y mae ei gwrthwynebu i'w hatal yn dda. Pan y defnyddir yr un math arfau, nid drwg wna yr ochr ymdrechant atal drwg. Meidylied y darllenydd uwch hyn yn ddifrifol, a cha fod yr egwyddor hon yn gyson a natur, Ysgrythyr, rhe- swm a synwyr cyffredin. Y RHAI NI PHLYGANT. I Y mae pobl oreu Germani naill ai yn y carchardai, dan warth a drwgdyblaeth neu yn alltudion o'u gwlad. Un o'r goreuon yw Dr. Liebknecht, yn nychu yn ngharchar; un arall dan ddrwgdyb- iaeth a gwarth yw y Tywysog Lich- nowsky, ac y mae llawer yn Holland a'r Yswitzdir o elynion pybyr y Kaiser, a rhai a ymjrechant ac a weddiant ddydd a nos am ddifodiad y Kaiser a'i drefn unbenol yn Germani. Y Tywysog yw un o'r rhai olaf o wrthwynebwyr y Pen Hwn i ymddangos o flaen y byd. Efe oedd y Llysgenadwr yn Llundain pan dorodd y rhyfel allan, a thrwyddo ef yr ymdrechai y Kaiser a'i jwnceriaid ddylanwadu ar Brydain i aros yn anmhleidiol gyhyd ag y byddai yr 'Hwn yn llofruddio Belgium a Ffrainc, yn rhagarweiniol i sicrhau glanau Belgium a Ffrainc fel ag i fod yn gyfleus i chwalu yr ochr hono i Bry- dain. Gwelodd Syr Edward Grey drwy fwr- ladau y Kaiser yn ngeiriau y Tywysog, ac aeth y cyfan yn fethiant. Aeth y Tywysog yn ol i Germani, ac yn olynol [ hyny eisteddodd i lawr ac ysgrifenoid idroddiad cyfrinachol o'r drafodaeth i'r teulu a'i gyfeillion yn hytrach nag i'r j vasg i'w gyhoeddi ledled y byd. Ysgrif- modd y gwir, fel y gwna dyn pan mewn rmgyngoriad a'i galon a'i gyiwybod. Tebyg iddo ei ymddiried i gyfeillion Irwy y rhai y daeth i feddiant gwyr y wasg, y rhai a'i roisant ar benau tai i bawb ei weled, a daeth hyny a'r Tywys- )g dan wg y Kaiser a'i gyifelzebwbiaid. Ni wadodd y Tywysog; cydnabyidodd mai ei waith oedd; ei fod yn adroddiad wir ac ymddiriedol er ei fod yn amddi- Efyn tegwch Prydain, ac yn cadarnhau mai dichell Germani arweiniodd i'r rhy- fel. Scrap o bapyr yw wnaeth ac a wna lawer o ddrwg i'r Kaiser. Yn ddioed trowd y Tywysog o'r neilldu, a thebyg na cha orchwyl arall o dan deyrnasiad y Bwli mawr yn Berlin; ond bydd ei enw yn gymeradwy yn yr oesau a ddeu- ant fel eithriad ogoneddus yn nghanol yr Hwniaii anwaraidd. Pan yr edrychir yn ol i'r oes hon, yn nghanol miliynau o Germaniaid duon yn tyrfu drwy eu gilydd fel twr o barddu, bydd y Tywysog Lichnowsky a Dr. Liebknecht fel goleuadau yn tywynu yn y fagddu, a'r oesau i ddod yn cael eu henwau mai hwy oeddynt. Y fath glod a fyid iddynt gael y go- goniant iddynt lewyrchu pan oedd gwyntoedd cryfion Kaiseriaeth yn di- ffodd pob goleuni o fewn y wlad!

MARWOLAETH CYMRO IEUANC 0…

NODION 0 NEW YORK.

DINAS Y CARIAD BRAWDOL. I

I Alliance, Ohio. I

NODION PERSONOL