Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
EHYFELYNEWROP
EHYFELYNEWROP YR YMOSODIAD MAWR AM PARIS. -METHIANT YR YMDRECH. Y PRIF GADFRIDOG FOCH. Y MWNCI A'R GATH. Pryder yn Germani ac Awstria.—Yr Arlywydd yn Baltimore.-Y Cadfridog Smuts ac Awstria. Ddechreu yr wythnos o'r blaen yr oedd yr ymosodiad enbydus am Paris wedi arafu yn fawr, a'r Germaniaii fel p8 wedi rhoddi myned yn mlaen am Paris i fyny yn awr, gan ohirio hyd ryw amser yn y dyfodol. Cawsant yr ym- daith o'r dechreu yn hynod o arw a phoeth, ac yn llawer poethach nag yr oeddynt wedi dysgwyl. Yr oeddynt • wedi gwneyd darpariaeth ddirfawr o fyddin ac adnoddau gyda'r amcan o oresgyn pob gwrthwynebiad ac an- hawsder, and gwnaeth y fyddin Bry- deinig y ffordd yn arw iddynt, ac wedi colli yn agos i haner eu byidin ymosod- ol, gorfu i'r Hwn sefyll cyn cyraedd Oinell y byddinoedd yn nghadw gan y Prydeiniaid a'r Ffrancod. Nid hawdd yw cyfrif colled y Germaniaid o ochr y Cyngreiriaid, ac nid yw Germani yn arfer cyhoeddi ei cholleiion er's dwy flynedd. Daeth adroddiad o Holland, gwlad gymydogol, fod trenau diddiwedd yn llawn archolledigion yn myned heib- io I Germani bob dydd yn ystod yr ym- drech erchyll, ac fod y ffyrdd wedi eu tagu gan gerbydau. Hawliai y Kaiser ei bod yn fuddugoliaeth, ond ychwaneg- ai y Cadfridog Ludendorff fod y canlyn- lad yn ameus. Tebyg i Germani gael mwy o laddedigion ac archolledigion nag yn un o'r brwydrau blaenorol. Yr oedd y Kaiser a'i giwed wedi ymffrost- to eu bod yn foddlon colli 300,000 i fyn- ed I Paris, ond collasant fwy, a heb fyned haner y ffordd. Cyraeddodd adroddiad ddydd Iau nad oedd yr ymladd ar y ffrynt ond yn ys- gafn ac ar adegau yn darfod, ond y ffyna y gred fod Germani yn paro- toi am ymosodiad arall, feallai. Y mae lie i gredu, serch hyny, fod y gurfa ddi- weddar wedi bod yn wers drom iddi, ac y peidia hi am dymor. Bygythir yn awr ymosodiad tebyg ar y ffrynt Eidal- aidd, ond tybion yw. hyn, rhyw gysgod- ton ofnau. Ni fydi Germani yn gallu antnrio am dro fel y gwnaeth yn ddi- weddar. Nid yw am y golled o ailfyned dani. Bydd colled o 500.000 o filwyr yn fwlch peryglus yn rhengau yr Hwn. Yn ystod yr wythnos, cyn y diweddaf, ni suddodd y tanforolion ond 13 o long- au yn lie 28 yr wythnos gynt. Y mae y newydd fod cyrff o Americaniaid i ym- uno a'r Prydeiniaid wedi eu lloni yn ddirfawr, a chanmolir America yn fawr am y cynllun hwn yn hytrach na gweithredu yn annibynol. Y mae y eynllun y collfernid Lloyd George am dano mor greulon gan ei elynion yn dy- fod i arfer. a'r 'generalissimo,' sef y Cadfridog Foch, wedi ei ddewis. Daw y Dyn Bach allan o bob dyryswch yn o lwyddianus. Gwell fyddai i'w elynion dewi bellach, a'i gynorthwyo, yn lie ei faeddu. Peth arall y daeth y Prifweinidog allan o hono yn llwyddianus yw cynyg- iad Awstria am heddwch. Yn ei araeth yn ganlvnol 2 gvnygiad Cownt Czernin, cymerold yr Arlywydd Wilson y Cownt ar ei air, heb feddwl fod dichell Ger- mani y tu ol iddo; canfu y Prifweinidog Lloyd George wyneb y Kaiser y tu ol i'r Cownt, ac erbyn hyn y mae y brad yn amlwg. Offeryn yw y Cownt yn Haw y Kaiser, ac nid oedd ac nid yw ei gynyg- iad heddwch ond un o ffurfiau brad Germani. Y mae Wilhelm a Carl yn ffryndiau agos ac anwahanadwy, a saif a syrth y ddati gyda'u gilydd. Y Kaiser yw y mwnci. a Carl yw y gath druan. Y mae gan Lloyd George ddoethineb greddfol, ac y mae yn adwaen yr Hwn fel dewin. Y mae Arlywydd Ffrainc hefyd wedi adwaen Cownt Czernin a'i safle. Cyhoeidai y Cownt y dydd o'r blaen i Ffrainc gynyg heddwch iddo, ac atebodd yr Arlywydd Clemenceau mai celwydd oedd. Amcan holl gyfrwysdra a dichell Ger- mani ac Awstria yw llonyddu y bobl druan sydd yn berwi fel crochan. Bydd y crochan yn beri drosodd i'r tan cyn y diwedd, ac fe fydd yno dan! Ni wyr pobl Germani nac Awstria yn mha sef- yllfa y maent yn eu perthynas a'r byd allanol. I fyny hyd ddiwedd yr wythnos gwn*eth y Germaniaii nifer fawr o ym- OBodiadau o bob rhyw I dori drwy y llinell gyngreiriol ond yn ofer. Yn ol yr holl adroddiadau i law hyd nos Sqd- WTJI, yr oedd y Germaniaid wedi methu yn eu holl ymgais i barhau eu hym- daith tua Paris, lie yr oeddynt wedi addaw bod ar y cyntaf o Ebrill. Ddydd Iau, gwnaethant ddeg o ruthriadau ffyrnig yn erbyn y Ilinell Ffrengig rhwng Grivesnes a ffordd Roye ac Amiens ond yn ofer, a thaflwyd hwy yn ol gyda cholledion echrydus bob tro. Oddiar y dydd y rhwystrwyd yr ymosod- iad mawr cyntaf, y mae y Germaniaid wedi bod yn bygwth ymosodiadau enbyd us arall, ond nil ydynt i'w cyffelybu i'r un cyntaf. Byddai yn ddyddorol cael meddwl y Kaiser a'i giwed ar ganlyniad- au yr ymosodiad mawr. Parhant i siarad yn ffrostgar a bygythiol, ond y mae yn tramwyo drwy eu mynwesau feidyliau o fath arall, fel y gellid cas- glu oddiwrth anerchiad y cyn-gangell- ydd, Dr. Georg Michaelis pan ar ym- adael i gymeryd meddiant o safle new- ydd fel llywydd Pomerania: Pe byth mwy y deuai yn gyfrifol am y llywodr- aeth, ni ofynai am ddigollediad neu iawn mewn arian, oblegid cenfydd y drwg mawr a wnai hyny i'r gwledydd yn ogystal ag i Germani ei hun. Dad- ganai na fyddai i ofidiau Germani der- fynu gyda therfyniad y rhyfel, oblegid, ebe efe, pery y trueni yn hir ar ol hyny. Dylem gydnabod hefyd, ebe efe, ein bod ni yn gyfrifol am y rhyfel hwn mewn ffordd.' Ddydd Iau o'r wythnos ddiweddaf, cy- chwynodd y Germaniaid ymosodiad mawr arall ar y llinell gyngreiriol yn Ffrainc, ond mewn dau ddiwrnod yr oedd wedi darfod. Ddydd Sul yr oeid pob peth yn o dawel. Ddydd Sadwrn, yn ei anerchiad yn Baltimore, Md., gwnaeth yr Arlywydd ddaiganiad pwysig yn nglyn a Germani, a daeth allan yn glir a phendant dros gyfarfod a Germani ac Awstria a grym, a dim ond grym o hyd allan fel yr unig ffordd i adferyd heddwch cadarn a pharhaus. Bu yr Arlywydd yn hir iawn yn cael allan wir natur y Bwystfil o Berlin, ond ymidengys o'r diwedd y gwel mai ofer yw heddwch heb fuddu- goliaeth, a heddwch drwy gyflafaredd- iad, a chynlluniau aneffeithiol o'r fath. Derbyniwyd anerchiad Mr. Wilson gyda boddhad ar yr ochr draw, yn enwedig yn Ffrainc, a chymharer ladganiad clir a diamwys yr Arlywydd a g3iriau troell- og a thwyllodrus Cownt Czernin o Aws- tria, yr hwn yw cenad Germani i brofi bwriadau y Cyngreiriaid. Yn ol adroddiadau neu ragleni a gaed yn meddiant carcharorion Germanaidd. yr oedd y Kaiser a'i Gymdeithion weii trefnu i wneyd y cyfan o'r daith i Paris o ddydd i ddydd, ond dymchwelwyd y cyfan gan gyndynrwydd y fyddin Bry- deinig. Cymerwyd iddynt ddeg diwrnod i gymeryd y tir oeddynt i gymeryd mewn 48 o oriau yn ol y rhaglen. Yr oeddynt wedi cynllunio yn siwr i foi yn Paris erbyn y Cyntaf o Ebrill. Ni wyddant erbyn hyn pa bryd yr ant yno, os yr ant fyth. Nid yw y Parisiaid am eu gweled, ac y mae eu cymydogion yn gwneyd eu goreu i'w hatal. Nid oes croesaw i'r German yn un man. Adroddjr hanesyn dydiorol am ym- weliad y Cadfridog Smuts, yr hwn a benodwyd gan Brydain i fyned i gynad- ledd a chenad Awstria yn nglyn a hedi- wch. Parhaodd y cyfarfod dri mynyd, a synwyd a sarhawyd y llywodraeth Awstriaidd yn fawr. Gan na welai Smuts y cenad yn dod at y pwnc yn syth, eithr yn ymdroi ac osgoi, ebe Smuts wrtho, 'Nos dawch,' ac i ffwrdd ag ef. Ofer siarad heddwch a seirff.
Advertising
Mae'r Wawr Fasnachol Wedi Tori yn SEATTLE Mae cytundebau newydd wedi eu sicrhau am dros $700,000,000 o longau dur a choed; ac n<d yw hyn ond dechreu. Mi gredaf yn ^vdwybcdol yr a gwerth eiddo o bob math i fyny. Mae eenym amryw MORTGAGES ar law yn dwyn Saith y Cant o Log Ysgrifener yn Gymraeg os dewisir Joseph E. Thomas 1026 Third Avenue (GROUND FLOOR) S. E. Corner Third and Spring SEATTLE, WASH.
WILKES BARRE, PA. I
WILKES BARRE, PA. I Cyfarfod Ymadawol y Parch. W. Glyn I Williams. Nos Fawrth. Ebrill 2il, cynaliwyd cyfarfod ymadawol y Parch. W. Glyn Williams, gweinidog yr eglwys Gynull- eidfaol ar South Side. Cafodd Mr. Wil- liams alwad gynes ac unfrydol gan eg- lwys New Castle, Pa., a bydd yn de- chreu ar ei waith y Sul cyntaf yn Ebrill. Llywyddwyd yn fedrus a dy- ddorol gan Dr. T. C. Edwards. Kingston. Archwyd bendith ar y cyfarfod gan y brawd J. Morris Jones, Wilkes-Barre. Yr oedd y siaradwyr, y cantorion a'r beirdd ar eu goreu; ac nid yn fynych y ceir gwell cyfarfod o'r natur hwn. Tystiai y jyrfa fawr a ddaeth yn nghyd, Ilonaid y capel o bobl, fod Mr. Williams yn hynod gymeradwy a bod ei ollwng felly yn waith pur anhawdd. Cynrych- iolwyd y ddau Ddyffryn yn y cyfarfod, o Nanticoke i Scranton. a gwahanol ran- au o'r ddinas hon, ac i'r ddwy ochr i'r afon. Y siaradwyr oeddent: Parchn. W. E. Reese, A. L. Rowe, Nanticoke; Davil Jones, Scranton; J. D. Thomas, Taylor; J. R. Williams, Kingston. gweinidog gyda'r M. C.. hen gymydog i Mr. Williams yn Fair Haven, Vt.; E J. Morris, Ivor Thomas, J. V. Lewis (B.), T. London'Jones (M. C.). J. M. Pritch- ard, Wilkes-Barre. Gofalwyd am y rhan gerddorol o'r cyfarfod, yr hwn oedd wir dderbyniol gan y cyfeillion canlynol: J. J. Jones. T. W. Jones. Miriam Williams (Eos Shawnee). Blod- wen Roberts. Wilkes-Barre; V. Williams ac Zechariah Jones (deuawd). Sqmuel Davies, Plymouth; Harry Jones (Harri o Wvnedd}, Ashley. Tua diwedd y t-wrdd. canodd cor y South Side yn ar- dderchog lawn dan arweiniad Enoch Williams. Y cor hwn oedd y fuddugol yn Eisteddfod Edwardsville, Mawrth y 18fe 1. Darllenwyd tri anorchiad barddonoi godidog gan y beirdd hyn: Parch. J. V. Lewis. Mri. E O. Belton WillTec:B<!rre' a John O. Williams. Ashlev. Siiradwvd "r rqn yr eglwys gan y diacon. J. D Ofpnbenq,. Pboddodd air uchel i Mr Williams fe1 bugail doeth pretethw- da a cherddor meirus. Dymnmi y" dda iddo vn ei fa°s nyd-1 gin ei fol wedi penderfynu mvned. Mrs. J. J,)nq- "Tvflwynodd i'r gweinidog bwrs yn Haw:" o bqpyr-iu gwerthfawr r-lvn vchvdi" eiriau detbolelift. T)e,llwn i'r nwr ,rlpl pi wneyi i fyny gan yr eglwys a cbyfeillion. Dioyct,o,i(i Mr. Wiiiia^s vn a~" v dd^neroseg o barch a dMwvd iddo a^ 1 vr arian. ac am yr hyn m all pri,n es brvnu-t elm lads ii rho Nid hqwdd iddo aedd tori y cysyntiid. oni gan fod y Haw yn arw-lin. rhaid oedd mvned. Dv- "Mmai fendi+t> Duw ar yr eglwys ac ar eglwysi y cylch. ^Ti annbofiwvrt Mrs. Wi^'a^s a'r i piant g^n y siaradwyr. Credent na qll,,i y preeethwr fod vr bvn vdvw ar wahan iddvnt hwv. Cafodd lqwer o ervr^nrth dvqtnw gqnilvnt ir bolh nfipg Pvdd°d i fendith y nef ddvlvn Glvn i'r fasten newydd fl v bvddo vn plin yn ei e.luovc; vn %rv-orth i'w fV'ljranedl 8C vn (Iflplnvddnl vn r»vich megys ag, y bu yma.—J. M. Pritchard. I
; NEW YORK A VERMONT
NEW YORK A VERMONT UTICA, N. Y., Ebrill 10, 1918.-Yr oedd Wm. R. Williams yn pregethu y Sul diweddaf yn eglwys Gymraeg Waterville, N. Y. —Lewis D. Owen a'i briod, o Pros- pect, N. Y., ar ymweliad a chyfeillion yn ein dinas. —Mrs. John H. Roberts, 1201h Wall St., sydd ar ymweliad a'i rhieni, Mr. a Mrs. John L. Davies, yn Scranton, Pa. Ddiwedi yr wythnos bydd Mr. Roberts yn myned yno i dreulio ychydig ddydd- iau. —Pte. Robert F. Jones, o Camp Bell- more, Va., sydi yn treulio deg diwrnod yn ei gartref, 112 Leah St.—Corp. R. Roberts, o Camp Campobello, S. C., yn treulio dwy wythnos gyda'i rieni, Mr. a Mrs.. W. J. Roberts, yn 1512 High St. —Mr. a Mrs. Richard Roberts. Grove Place, sydd wedi ymadael ag Utica am Detroit, Mich., lie y bwriadant gartrefu yn y dyfodol. —Pasiodd y Gymdeithas Elusengar Cymreig i gymeryd gwerth $500 yn ychwanegol o Rwymebau Rhyddid. Mae hyn yn gwneyd y swm y maent weii gymeryd yn fil o ddoleri. —Rhoddodd cyfrinfa 'Gwenfron' o Urdd y Gwir Iforiaid Americaniidd am- lygiad helaeth o'i theyrngarwch i'r Llywodraeth drwy brynu gwerth $500 o Rwymebau Rhyddid. -R. L. Rowland, 425 Aiken St., syid wedi dychwelyd i'w gartref o ysbyty Faxton. lie y bu o dan weithred llaw- feddygol. Da genym ddeall ei fod yn gwella. -Cydymdelnilwn a'r brawd Edward H. Jones, Blaniina St., yn ei bryder o herwydd afiechyd parhaol ei ferch. Mae wedi myned i New York i fyned o dan oruchwyliaeth feddygol. —Yr oedd John G. Jones (bariton) yn cymeryi rhan yn y perfformiad o 'Seven Last Words of Christ' yn Clark's Mills yn ddiweddar, a rhoddir gair da neillduol i'w ganu ef a'r cantorion eraill. -Llawenydd gan ei lu cyfeillion yn Utica oedd croesawu Robert Jones i'w plith am ychydig ddyddiau o Camden, N. J., lie y mae yn gweithio ar longau newyid i F'ewyrth Sam. Tra yn y ddinas arosai dan gronglwyd Mr. a Mrs. Wm. R. Williams, Steuben St. —Llongyfarchwn Griffith G. Jones, 1513 Miller St., ar ei apwyntiad yn brif ysgrifenydd cwmni yr Augusta Knitting Mill. Y mae hon yn swydd bwysig a chyfrifol, ac yn gofyn gwr o brofiad helaeth i'w llenwi, a gwyddom y byd 1 i Mr. Jones ei Ilanw hyd yr ymylon. Pob llwyddiant iddo. -Y Parch. John Davies, Racine, sydd yn Ilanw pwlpud eglwys Moriah am y mis hwn, a'r Sul diweddaf, cafodd ddwy oelfa rymus. Pleser i ni oedd ei groes- awu yn y Swyddfa y diwrnod o'r blaen. Mae yn parhau i gryfhau o ran ei iech- yd, a hyderwn fod iddo flynyddoedd lawer eto o ddefnyddioldeb. —Cydymieimlwn a Mr. Edward A. a Jane Pritchard Jones, 1545 High St., ar farwolaeth eu merch fach, Hannah Winifred, yr hyn a gymerodd le ddydd Sadwrn diweddaf, hyhi ond deuddeg mis oed. Loes drom i'r teulu bach yw colli eu hunig blentyn mewn dull mor sydyn, s?9.n na fu yn wael ond ychydig ddydd- lau, Cyflwyno Beibl i Eglwys Moriah. j Y Sul cyn y diweddaf, yr oedd Beibl newydd wedi ei roi ar astell pwlpud eg- lwys Moriah, yn cael ei gyflwyno i'r eg- lwys gan chwaer a dlymunai i'w henw fod yn gudd. Yn y gwasanaeth yr hwyr, dangosodd yr eglwys ei gwerth- fawrogiad o'r rhodd a'u diolchgarwch i'r rhoddwr. Pleser mawr i'r eglwys yw derbyn anrhegion fel hyn oddiwrth ael- odau ffyddlon a diwyd. Parti Ffarwel. Cynaliwyd parti ffarwel i Gomer Ro- berts, yr hwn oedd yn ymadael odd! yma ddydd Gwener am Camp Dix. N. J., yn nghartref Mr. a Mrs. Hugh T. Hughes, 1417 Howard Ave. Yr oedd cynulliai rhagorol wedi dod yn nghyd, a chaed adroddiad gan Hugh Hughes (ieu.); unawd gan Gomer Roberts a detholiadau ar y piano gan Waldo Jones. Ar ran y cwmni oedd yn bresen- ol, cyftwynodd y Parch. J. Vincent Jones, gweinidog eglwys Bethesda, am- ryw o anrhegion i Mr. Roberts; yn eu plith 'comfort kit.' Mae ei holl gyfeill- ion yn dymuno yn dda i Gomer ar ei fynediaj i'r fyddin. R. Walter Roberts. I Yn nghartref ei chwaer, Mrs. Charles Williams. 31 Faxton St., nos Sadwrn di- weddaf, bu farw y brawd adnabyddus R. Walter Roberts, o Remsen, N. Y., aelod blaenllaw a diacon cywir yn eg lwys M. C. Penygraig. Cafodd gystudd maith, a phoenus, a bu yn yr ysbyty am dymor pur faith, ond yn ei afiechyd, go- beithial am gael byw ychydig yn ychwaneg er mwyn ei ieulu. Ganwyd yr ymadawedig yn nghyffin- iau Pwllheli. G. C., yn y flwyddyn 1870; enwau ei rieni, Robert a Susannah Ro- berts. Daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1889. a dychwelodd i Gymru yn ddi weddar, lie yr ymunodd mewn priodas a Miss Annie Williams, gan diychwelyd yn fuan i'r wlad hon. Yn aros i alaru ar ei ol, y mae ei briod a pump o blant, Jason E.. Cather- ine, Elizabeth, Anna a Robert; tair "hwaer Mrs. Charles Williams a Mrs W. R. Evans, o'r ddinas hon: Mrs. Gwi' ym E. Jones. Dodgeville. Wis., a d- frawd, G. Cornelius, yn Pwllheli, G. C. a Wm. E. yn Lloegr. Nodion o New York Mills. N. Y. I Nos Fercher. Ebrill 3. cynaliwyd cyf- -rlod yr-adawol i Thomas R. Jones Pnrter St.. gynt, ond yn Chadwick0 Mills, yr hwn sydd weii ymuno a'r fyddin ac wedi gidqel dydd Gwener di- weddaf am Camp Dix. N. J. Cafwyd cyfarfod hynod o lewyrchus mewn canu ac adrodd. Unawd. R. S. Owens: leii awd, Mrs. R. S. Owens a Mrs. Morris Owen: adroddiad. David J. Thomas; deuawd. Robert W. Davies a Jennie Thomas; unawd, Miss Bessie Thomas tt^pi -e, fe rtvnodd y ty i lawr. a gor- fod iddi ail ganu. a mawr yw dymuniad pawb am iddi ddoi yma yn fuan eto. Cvflwyno anrheg i T. R. J. g^n S Jones ar ran yr eglwys a Chymdeithas PvHd y Cvrnrv a diolebodd T. R J. mewn modd calonog dros ben. Yna cqfwyd gair yn fyr gan Dr. Hughes Holland Patent, ac amryw frolyr eraill yn rhy luososr i'w henwi. Cafwyd gair gan y Llywydd. sef Hugh X. Jones. brawd t'r milwyr ieuanc erbyn hyn. Adroddiad gan Richard B. Williams. Solo, Lumley Davies; solo, Jennie Thomas. Terfynwyd trwy ganu 'Hud- dersfield,' ac mae pawb yn dymuno yn dda i T. R. J. pan yn y fyddin. Nos Wener nesaf, am 7:30, byid y Parch. John Davies, Racine, Wis., yma yn pregethu. Mae pawb yn gwybod am Mr. Davies ei fod yn bregethwr rhagor- ol. Cofiwch bawb am roddi eich pre- senoldeb. Nid yw Mrs. Pritchard, Clynog Farm, Marcy, ddim cystal o ran ei hiechyd yr wythnos hon. Hefyd Johnnie Jones, Elm St., yntau yn bur wael eto.-R. W. Thomas. Rome, N. Y. Bydd y Parch. W. Caradog Jones, D. D., yn pregethu yn Prospect foreu Sul nesaf, ac yn Remsen brydnawn a hwyr. Gan fod Cyfarfod Dosbarth y M. C. i'w gynal yn Rome y Sabboth nesaf, y mae eglwys a chynulleidfa Rehoboth, capel yr Annibynwyr yn tori i fyny am y dyjd er uno a'r Methodistiaid. 11 ion, N. Y. Bydded hysbys i bob Cymro a Chyni- raes y bydd moddion crefyddol Cym- reig yn cael eu cynal yn y Polisher's Room. nos Sul nesaf am 7 o'r gloch. Gwahoddir holl Gymry Ilion a'r cylch- oedd i fod yn bresenol i ail ddechreu cyfres newydd o gyfarfoiydd crefyddol. Fel y sylwasom o'r blaen, ni bu yma 'foddion gras' genym er dechreu y flwyddyn o herwydd yr oerfel a prinder glo. Felly, o herwydd ein hiraeth a'n syched i glywed yr hen hanes yn yr iaith yn yr hon y'n ganed, aeth criw o honom i fynu i Moriah, Utica. y Sab- both o'r blaen wedi clywed o honom fod yno 'bregethwr da' gan feldwl cael gwasanaeth a phregeth Gymraeg, ond er ein siomiant yr oedd y gwasanaeth a'r bregeth yn yr estron iaith. Nid yd- ym yn cwyno am hyn, oblegid ein han- ffawd ni oedd, a dichon fod ambell bre- geth Saesneg yn ddymunol ac yn angen- rheidiol yn awr ac eilwaith yn yr eg- lwysi Cymraeg, ond at hyn y cyfeiriaf, gwelaf fod trefn moddion y gwasanaeth crefyidol Sabbothol y gwahanol en- wadau a llwythau y ddinas yn cael ei gyhoeddi yn y papyrau Seisneg y dref ar ddydd Sadwrn, ond mor bell ag y gwelaf fi, dim gair o son am yr eglwysi Cymreig! Oni ddylai yr eglwysi Cym- reig gael eu safle hyd yn nod yn y papyrau newydd? Tybei, Mri. Gol., na fyddai bosibl cael hyn yn wythnosol yn y 'Drych,' papyr cenedlaethol y Cymry? Tybed na wna rhyw frawd ffyddlon ofalu am. hyn bob wythnos. Credaf y gallai hyn fod o fantais i Gymry y dref, ond yn arbenig i ni y Cymry sydd ar wasgar. ac yn methu dylyn y gwersyll yn gyson. Deallaf fod Ilawer yn ymadael o'r Armory yn barhaus, ac felly fod yma brinier pobl. Yr wythnos ddiweddaf, cyflogwyd Bob El gan y Remington Arms Co. i fyned i Granville a'r cylch- oedd i geisio cyflogi dynion i ddod yma I weithio. Dysgwyliwn ei weled yn landio yma gyda llwyth Ilong o Gymry rai o'r dyddiau nesaf. Tebyg ei fod y 'right man yn y right place.' Lla,dron- Yn ddiwedlar, clywais fod amryw Gymry wedi bod yn anffodus gyda Iladron yn y car oddi yma i Utica ac o Uti^a yma. a deallaf fod un cvfaill wedi colli ei pass a swm o arian o'i boced nos Sadwrn diweddaf. Cymerel pawb y rhybudd i fod yn ofalus. a chad- wed pawb ei bres yn ei hosan fel yr hen Gymry gynt.—Dewi Ilion. Mae y cyfaill siriol J. Daniel Jones wedi ein gadael a mynd i Camden. N. J. Bwriada fyned i wasanaeth F'ewyrth Sam. Pob Ilwyddiant iddo. Pte. J. R. Williams, Co. 82nd Prov. Regt.. Delta Dam. Rome, N. Y.. fu ar ymweliad a'r lie hwn. Ni welsom eto un o filwyr F'ewyrth Sam yn eirych mor iach a chryf ag ef. Un o fechgyn Granville yw John, ac yn wyr i Richard Williams (Lalwyn Penddu), Bethesda, Arfon. Mynd a dod yw hanes llawer yma, rhai yn gwneyd yn dda yma, a rhai yn -ethu, ac yn ymadael am le gwell.— Un o'r Boys. -0- ARDALOEDD Y CHWARELI. I Fair Haven, Vt. I Ehrill 6ed, 1918. Mawrth 26ain. daeth tyrfa luosog a pharchus i bebrwng y ddiweddar Mrs. Richard Griffith i'w'hir gartref. Gwasanaeth- wyd yn y ty ac wrth y bedd gan y Parchn. Richard Owen (T. C.) a Dr. I Hugh D. Jones. Mae cydymdeimlad yr ardal yn sicr gyia Mr. Griffith a'r plant, sef Kenneth a Margaret Griffith yn eu galar ar ol priod a mam hoff a thirion. Hefyd gyda ei mam a'i brodyr a'i chwiorydd. Yr oedd Mrs. Griffith yn cymeryd dyddordeb garw yn y Village Improvements a'r Red Cross, &c. Bydd colled fawr ar ol un oedi, mor barod i wneyd ei rhan gyda pob achos teilwng. Yr oedd nifer y blodau hardd a drudfawr yn dangos fod un hoff wedi cael ei chymeryd ymaith. Daear- wyd yn mynwent bryiferth Cedar Grove. Bydded i Dad yr amddifad fod yn nerth i'r teulu oil yn eu profedig- aeth. Brydnawn dydd Mercher, y 27ain, bu farw Mrs. Janet Roberts wedi byr gys- tudd o'r clefyd blin pneumonia. Hen chwaer hoff a charedig iawn oeid Mrs. Roberts, yn barod bob amser i wneyd ei rhan lie byddai gwir angen am hyny. Cymerodd yr angladd le brydnawn ddydd Sadwrn o gartref ei merch, Mrs. Cyril Preston, Pine Street. Gwasan- aethwyd yn y ty, ac ar lan y bedd gan y Parch. J. D. Owen (A.). Yr oedi yno gynulliad da wedi dod yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'r hen chwaer. Wedi eu gadael mewn galar ar ol eu hanwyl fam, mae pedair o ferched, sef Mrs. Cyril Preston a Mrs. S. Burke yn y pen- tref hwn; Mrs. Lewis o Granville, N. Y., a Mrs. Roberts o Ilion, N. Y., ac un chwaer, sef Mrs. Metcalf o Hydeville, Vt. Rhoddwyd ei gweddillion i orphwys yn medlrod y teulu yn Granville, N. Y. Nawdd y nef fyddo dros y teulu yn eu galar. Mrs. Jane Davies sydd wedi ei chaethiwo i'w chartref y dyddiau hyn. Hefyd Mrs. Wm. E. Thomas. Wel, gyf- eillion, mae yr haul yn gwenu arnom eto, ac yr ydym yn gobeithio eich gwel- ed yn codi allan, ac yn gallu mynd a I dod yn ein plith fel arfer. Mrs. W. W. Parry ac Annie Parry weii dod yn ol o New York ar ol bod yno yn treulio y gauaf. Mae amryw o frodyr wedi dod a- dref; rhai i aros ac eraill i dreulio y gwyliau, sef John O. Davies, John R. Williams, o Ilion, 'N. Y., a Samuel Dav- ies a Wm. Pritchard, o Hartford, Conn., yr oil yn edrych yn dda.—Cymraes.
Advertising
Supreme Quality In OLD COUNTRY TEA 70c. A POUND 250 full cups in every pound meets fIe demand for economy. Where not sold we will delivei post paid to points within I,()()( miles for 70c lb., and to points 1,00c miles and over for 75c. a lb. Check- and money orders accepted. DEALERS' NOTE We are first hand headquarter- for fine Teas itnd Coffees in bulk We supply those who want qual- itv. price and service. It will pav von to get our samples, which we will gladly send on request. G. T. MATTHEWS & CO., r05 Water St., New York
DAU GEFNDER YN Y FYDDIN.-…
DAU GEFNDER YN Y FYDDIN. I David Glyn a Richard Williams. I Cyflwynir yma ddarlun o Davii Glyn Williams, mab Mr. a Mrs. R. Roland Williams, Arthur st., Utica, N Y., a Richard Williams, mab William a'Kate Williams, o Poultney, Vt., y ddau deulu o Bethania, Ffestiniog. Y maent wedi ymuno a byddin Canada, ac yn awr mewn gwersyll milwrol. Dymuna rhieni y bechgyn hyn ddiolch yn gynes i Gymry Montreal am eu caredigrwydd i'r bechgyn hyn ac amryw eraill o gylchoedd Utica pan ymunasant a'r fyidin, ac yr anfonwyd hwy i Montreal. Deallwn fod David Glyn yn yr ysbyty milwrol.
CYMDEITHAS Y CYMREIGYDDION,…
CYMDEITHAS Y CYMREIGYDDION, UTICA, N. Y. Croesawu Aelodau Newyddion.—Pasio 4 Brynu Rhwymebau Rhyddid.—Testyn T raethawd. Yn y cyfarfod rheolaidd o Gymdeithas r y Cymreigyddion a gynaliwyd nos Lun diweddaf yn yr Arcanum Temple, der- byniwyd 17 o aelolau newyddion, a 22 o geisiadau am aelodaeth. Rhoddwyd 1 croesaw iddynt gan Lywydd y Gym- deithas, R. W. Owen, ac apeliodd arnynt i fod yn aelodau byw yn y Gymdeithas. Mae y llywydd a'i swydiogion yn gwneyd ymdrech neillduol i gynyddu aelodaeth y Gymdeithas, ac yn llwyddo yn rhagorol. Yn absenoldeb yr ysgrifenydd, Hugh J. Jones,gwasanaethwyd fel ysgrifenydd am y tro gan John O. Thomas. Rhodi- odd Mr. Thomas hefyd adroddiad o weithrediadau y pwyllgor oedd yn trefnu y cyfarfod gwladgarol a gynelir yn Moriah nos Fawrth. Pasiodd y Gymdeithas i brynu Rhwymebau Rhyddid i fyny i'r swm o $1,000. Gan nad yw y Cyfansoddiad yn eglur ar y mater, pasiodd y Gymdeithas i dderbyn aelodau newyddion os oeddynt o haniad Cymreig, pe yn analluog i ddarllen a siarai yr iaith. Hysbyswyd fod T. J. Griffiths, pen- chenog y 'Drych*' yn cynyg gwobr o ?25 am draethawd, y traethawd buddu- gol i'w gyhoeddi yn y 'Drych' wedi yr Eisteddfod. Derbyniwyd y cynyg gyda diolchgarwch. Hysbyswyd foi Miss Madge Williams yn derbyn y swydd o feirniad y celfydd- ydwaith yn yr Eisteddfod nesaf. Yn bwyllgor i drefnu amodau y cys- tadleuaethau yn yr Eisteddfod nesaf, rlwiwyd Wm. R. Williams, D. Lloyi Davies a Hugh G. Hughes. vn v cyfarfod nesaf. yr hwn sydd yn gyfarfod agored, perfformir drama; y trefniadau o dan ofal Richard Jones.
I EGLWYSIG.
I EGLWYSIG. Y mae pregethwr ag sydd wedi gwas- anaethu yn y pwlpud am oddeutu 30 mlynedd yn agored i alwad oidiwrth eg- lwys ag sydd yn chwilio am wr ag sydd yn abl i bregethu yn Gymraeg.—Cyfeir- ier ymholiadau i W., 'Drych' Office, Utica, N. Y.
CYFARFOD GWLADGAROL MAWR.
CYFARFOD GWLADGAROL MAWR. I Apeliadau at y Cymry i Gynorthwyo y Llywodraeth Drwy Brynu Rhwym- ebau Rhyddid. Er fod y tywydd yn hynod o anffafr- iol, caed cynulliad da yn y cyfarfod gwladgarol a gynaliwyd yn nghapel Moriah nos Fawrth diweddaf, Ebrill 9, o dan nawdd CymGeitnas y Cymreigydd- ion. Llywyddid y gweithrediaiau gan John O. Thomas, yr hwn a gyflwynwyd i'r gynulleidfa gan Rd. W. Owen, llyw- ydd y Cymreigyddion. Wedi canu emyn, o dan arweiniad Wm. R. Thomas, gyda David Parry wrth yr organ. Ar- weiniwyd mewn gweddi gan Wm. R. Williams. Yna canwyi 'Baner Ein Gwiad' gan Edward J. Parry a Mrs. Olwen Jones yn cyfeilio. Gwnaeth y Llywydd apel ar ran yr Echwyn Rhyddid. Dangosodd fel yr oedd Cymru wedi aberthu yn y rhyfel hwn, drwy roi ei meibion, ac hefyd y rhai sydd gartref yn eu cynorthwyo a'u cefnogi drwy weithio a phrynu rhwym- ebau y Llywodraeth. Y mae ein bech- gyn ninau o'r America yn awr yn y :lrin, a dylem ninau eu cefnogi drwy brynu yn helaeth o'r Rhwymebau Rhyddid. Diweddodd drwy adrodd y farddoniaeth 'The Liberty Loan' a gyf- anscddwyd ar gyfer yr amgylchiad gan E. L. Griffith. Yna caed detholiad gan yr Utica Girls' Choir, o dan arweiniad J. T. Roberts. Yr areithydd nesaf oedd Hugh Hughes, efe yn pwysleisio y priodoldeb o gynal cyfarfodydd o'r natur yma. Yr oedd yn rhaid i ni wrthweithio haner can mlynedd o bregethu ac addysg pasi- ffistaidd, goresgyn dylanwadau German- aidd ag oedd wedi cymeryd gafael cryf yn ein gwlad. gwaith y German-Alliance ac ysbiwyr Germanaidd. Lieut. Meredith, cynrychiolydd y Llywodraeth Brydeinig yn Swyddfa Ymrestru Utica a'r cylchoedii. siarad- odd ar y British Draft, ac hefyd am ei brofiad yn ymladd yn erbyn y German- iaid. Eglurodd yr ymladdfa fawr fu am Vimy Ridgfe. pryd y cymerwyd y lie gan y Canadiaid. Dyweiai fod gwahaniaeth mawr rhwng yr ysbryd a lywodraethai y Cyngreiriaid a'r Germaniaid; yr oedd swyddogion Germaniaid yn greulon hyd yn nod at eu milwyr eu hunain. Wedi i Mrs. John L. Evans ganu 'Angus Macdonald,' siaradodd y Parch. John Davies, Racine, Wis., gan egluro amcanion aruchel y Cyngreiriaid yn y rhyfel hwn. Credai ef y deuai mawr les hyd yn nod o'r rhyfel dinystriol hwn, a byddai i Dduw oruwchreoli y cyfan er llesiant dynoliaeth, ac apeliodd at bawb i wneyd eu rhan. Darllenodd E. L. Griffith gan o'i eiddo 'The Children of the Lusitania,' ac hef- yd arweiniodi y gynulleidfa i ganu 'Rhyfelgvrch Gwyr Harlech.' Cafwyd ?air hefyd gan R. G. Lloyd, aelod o'r Liberty Loan Committee. Y siaradwr olaf oedd Dr. J. Vincent Jones. a siaradodd ar y Faner Ameri- canaidd, a'r hyn a gynrychiolai. Di- weddwyd gydag 'America' gan y gynull- eidfa.
CHICAGO, ILLS. j
CHICAGO, ILLS. j Foreu Sul y Pasc yn eglwys Hebron, I cafwyd cyfarfod gyda'r plant o dan lywyddiaeth Thos. Lewis, ac yn ystod y cyfarfod caed anerchiad gan y Parch. T. Ll. Jones. Niles. Ohio. Gwnaeth y plant yn ganmoladwy iawn, yn arddang- os ol 11afur mawr. ac y mae ein diolch yn dyledus i'r chwiorydd am rodii eu hamser am wythnosau i'w parotoi. Ar ei daith yn ol o Jacksonville, Florida, galwodd Mr. a Mrs. Jonah Williams, Milwaukee, Wis., a'i hen zyfaill, R. D. Jones. a chawsom amser difvrus yn eu cwmni yn mynd dros hel- yntion yr amser a fu. Tystiai Mr. Wil- liams iddo gael tywydd dymunol a haf- aid] tra yr oeddym ni yma yn ngwlad y gogledd bron a rhewi gan yr oerfel. Ymwelydd arall a'r ddinas yn ystod y pasc oedd Wm. Edwards, yn awr o Randolph. Wis.. yntau yn ymddangos fel tae gwynt Wisconsin ac yntau yn hoffi eu gilydd. Cydymleimlir a Mrs. Ben Ellis a'r teulu yn eu profedigaeth o golli ei thad, er wedi cyraedd oedran teg. Nid ydyw angeu un amser yn groesawus. Deall-I wn fod Sydney, bachgen C. C. Jones, wedi bod o dan driniaeth yn yr ysbyty, ond yn gwella. Hefyd Mrs. John Rich- ards, 2947 Jackson Blvi., hithau wedi gorfod bod yn orweddog am ddyddiau, ond yn well yn awr. Tra mai achos i alaru ydyw rhan rhai o honom, mae yma eraill ag achos I lawenhau, felly Mr. a Mrs. D. O. Evans. 3429 Cqpgress St., gan eu bod wedi cael ymwelydd fach foreu Mercher; y fam a'r ferch yn dod yn mlaen yn dia o dan ofal Dr. Gala way, yn ysbyty Gorllewin. —Ardudwy.
j YR EISTEDDFOD YN NINAS NEW…
j YR EISTEDDFOD YN NINAS NEW YORK. Mae rhagolygon am Eisteddfod lwyddianus eleni eto yn ein dinas, er nad yw yr ymgeiswyr mor Iluosog a'r flwyddyn ddiwediaf. Anhawdd ydyw penderfynu i ba gyfrwng y priodolir y diffyg-ai amddifadrwydd o eiddo'r Cymry o gariad at un o brif sefydliadau y genedl ynte yr amrai aberthau wneir y dyddiau presenol dros ryddid a chyf- iawnder. Bu'r beirdd yn dra gweithgar a diwyd, canys derbyniwyd 13 o delynegion a 14 o englynion-digon i wneyd y cymrawd loan Eryri i annghofio y Daylight Saving Bill am bythefnos o leiaf. Gobeithiaf y caiff y cyfaill esmwyth gwsg wedi cy- hoeddi 'Tecel' uwchben y glorian. Ni fydd angen am yr un rhagbrawf, er fod mwyafrif o testynau a thri o ym- geiswyr arnynt. Dysgwyliwn gystadlu brwdfrydig ar y prii ddarn gan fod tri chor yn cystadlu, a gwyddom fod gan y tri chor adnoddau ddigon i'r beirniad Proff. E. D. Lloyd, er maint ei brofiad, drethu ei holl allu. Ni raid son wrth Gymry New York am feirniaid yr ad- roddiadau. Gwyr pawb a'i hadnsbydd Mr. Evans pa gyngor neu gymdeithas bynag y bo arno, ei fod yn llenwi y swydd hyd a thros yr ymylon. Yn ngeiriau'r Sais, 'He is the man of the moment.' Llawen fydd genym groes- awu y Parch. D. Morgan Richards i'n plith fel cadeirydd yr Eisteddfod, a hef- yd fel beirniad y traethodau. Pleser di- hafal gan bobl ieuainc Cymreig New York ydyw ei groesawu i'n plith. Mae yma faes toreithiog yn y ddinas, a sicr genym y ca gynorthwy y bobl ieuainc yn mha adran bynag y myn. Yn y ddwy feirniada'r celfyddydwaith cawn foneddigesau sydd wedi ac yn gwneuthur gwaith rhagorol yn y ddwy eglwys Gymreig. Eu harwyddair yw, 'Nid geiriau eithr gweithredoedd.' Ed- rychwn yn mlaen tuag at gyfarfod ar- weinydd yr Eisteddfod, sef y bonwr J. Lloyd Thomas-un a'i galon ar dan dros yr Allies, a dysgwyliwn oddiwrtho araeth bybyr ar arwyddion yr amserau. Gobeithiwn o galon y try yr EisteddfoJ yn llwyddiant dihafal, gan y credwn frfl ymdrech pobl ieuainc y Cymric Literary Society yn deilwng o gynorthwy Cymry New York. Mae yn gymdeithas sydd a gwir angen am dani yn ein plith. Dante, dos i'w ddylyn Shakespeare, tro i'w fyd, Cofia Bantycelyn Yr un pryd. T. 1. E.
WILKES-BARRE, PA.
WILKES-BARRE, PA. Mae eglwys y Methodistiairi Calfin- aidd yn cael ei chofio mewn modd syl- weddol ac anrhydeddus gan un o'i phlant a fagwyd ar ei bronau yn dyner am flynyddoedd, sef y diweddar Col. W. H. Thomas, Bramwell, West Virginia. Ychydig fisoedd yn ol. bu farw y brawd anwyl. Col. W. H. Thomas, yn ddyn cydmarol ieuanc. ac i fesur mawr yn ddirybudd. eto gwyddai fod ei ddolur ag oedd yn ei flino yn un peryglus iawn. Er hyny, cafodi amser a hamdden i drefnu ei dy. mewn ystyr ddaearol a thymorol. a hyderwn ei fod felly mewn modd ysbrydol, ac yn awr ei fod gyda'r dyrfa yn canmawl y Gwr a'i carodd. Yr wythnos ddiweddaf, derbvniodd swyddogion yr eglwys air oddiwrth ei fab, John C. Thomas, fod ei ddiweddar dad. sef Col. W. H. Thomas, wedi trefnu yn ei ewylfys i roddi pum mil ($5 000) at wasanaeth yr eglwys mewn gwahan- ol gyfeiriadau. Ceir air pellach am y trefniai eto.-Rees W. Morgan.
Advertising
Pan yn Flinedig a Nervus Os ar derfyn y dydd y cewch eich hun yn flinedig ac yn anfoddus, gyda chur yn y pen a nervau diffygiol, yr ydych mewn angen- rhyw- beth i gryfhau y cyfansoddiad. BEECHAM'S PILLS sydd yn feddyginiaeth ag a fydd o gynorthwy neillduol i gryfhau y cyfansoddiad. Gweithredant ar yr ystumog, yr afu a'r coluddion, ac adnewyddant y nerth, a chryfhant y nervau. Ychydig ddognau o'r pelenau adnabyddus hyn rodda i chwi Wellhad Buan ac Effeithiol Cyfarwyddiadau o Werth Neillduol i Frched gyda phob Blwch. Ar werth gan Gyfferwyr drwy'r byd. Mewn blychau 10c., 25c. Llyfrau Maes Llafur Undeb Ysgolion Sab- bothol y T. C. LLAWLYFR DR. CYNDDYLAN JONES, loan IX.-XXI. Pris 70c. LLAWLYFR SAESNEG ar loan IX.-XXI. Gan Dr. Marcus Dods. Pris 60c. GWERSLYFR ar loan gan v Parch. T. E. Roberta. Cymraeg neu Saesneg. Pris 5c. VT un. Y dwsin 50c. "CYSONDEB Y FFYDD" lDR. CYNDDYLAN JONESV Cyfrol TV, Hersou yr Ysbryd Glan a'i Waith." Allan o'r Wasg. Pris $1.25. Anfonwch eich archeb yn ddioed i sicrhau copi. Rhodd Mam. Dr. Davies (dwy-ieithog >. 5c.; 50c. y dwsin. Rhodd Mam Cymraeg (Parch. John Parry, Caer), 38c. y dwsin. Llyfrau Dosbarth Rhag- barotoawl, 38c. y dwsin. Pob math o Lyfrau ar gyfer Ysgolton Sabbothol. LLYFRAU ERAILL. Llawlyfr ar y Gwvrthiau (Parch. J. E, Davies. Treffynon), 35c. Blagur Awen Ren Rowpn. 35c. Short Storts History (0. M. Edwards), pne. Arfon y Dyddiau Gynt, 40c. r Gynganedd (Alafon). 40c. Rhvs lyewis (Nofelt yn yr lalth saeoneg. 75c. Aeoriad 1 Dduwlnyddiaetli v Testament Newvdil (Parch. James Charles, Dinbychl. S 1.1 O. Rhyddlaitfc Ren Bowen. n.10. Crefydd a Bywyd (Parch. D. Miall Edwards). fl.lft. Owen Glvndwr (EnzJiqh). 11.50 i'w werthu am $1.10. Llyfrau ar Gerddoriaeth. Llvfrati Adrodd. Dramodau. R. Morris Williams, Box 256, Utica, N. Y.