Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

-ADGOF. AM GWYDDERIG. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ADGOF. AM GWYDDERIG. I Gan Glan Carnant, Nanticoke. I Ar ol blynyddoedd lawer o adnabydd- iaeth bersonol o'r bardd-foneddwr Gwydderig, cafwyd adgofion melus a phrudd-hiraethlawn am dano ar bryd- iau, a rhyw fwynhad-tristaol i mi fydd eu croniclo, am fod ein cyfaill anwyl wedi mynd "tu draw i'r lien." Un o I fechgyn Brynaman oedd y bardd, a'i l enw bedyddiedig oeid Richard Wil- lims. Mabwysiadodd y ffugenw "Gwydderig" oddiwrth enw yr afon sy'n rhedeg cydrhwng Trecastell a Llanym- ddyfri, a dechreuodd wisgo'r ffugenw I pan oedi Caledfryn yn golygu y golofn farddonol yn y "Gwladgarwr." Brawd dirodres. syml, gwreiddiol a naturiol ydoedd. wedi ei waddoli a synwyr cyff- redin cryf, ac yr oedd yn un o blant an- wylaf natur. Hoffai lwybrau'r wawrddydd, y myn- ydd, a'r ddol; teithiai ei hun ar droion i ben ceunentydd cysegredig natur hen, i fwynhau bendithion gloewaf cyfrin- achau Duw. Yr oedd yn well ganddo ddringo clogwyni arddunol anian na'r llwybrau cyhoeidus. Bu yn aelod ffydd- Ion o deml ysblenydd natur hyd ei fedd, "yn moli Duw yn nheml y dail." Llawer ymgom felus a gawsom ar ol anfon llythyr-gerdyn i mi i'w gyfartod ar ben waun Nantgwineu, ryw haner y ffordd o'r Garnant i Brynaman, a byddai helyntion llenyddol y cylehoedd yn dod dan sylw ar un o hen dwyni'r I Waun. Yr oedd ganddo got gafaelgar fel gwe'r prifgopyn. Yr oedd awdl Brwydr Maes Bosworth Eben Fardd ar ei got o'r dechreu i'r diwedd. Coflaf yn awr iddo awgrymu y pryd hwnw foi y bai a elwir camosodiad gan Eben yn ei awdl odidog yn y linell flaenaf o'r cypled canlynol: "0 Gymro teg, mae'r gwaed da Yn naturiaeth Victoria." Nid oes eisieu dweyd wrth ddarllen- wyr y "Drych" mai efe oedd brenin yr urdi englynol yn y De. Yr oedd saer- nio englyn mor rhwydded iddo ag an- adlu. Yr oedd ganddo amynedd diflino i wau llinellau cywrain; ceir ganddo rai o'r englynion cywreiniaf yn yr iaith Gymraeg. Enillodd amryw droion ar yr I englyn yn yr Eisteldfod Genedlaethol. Cariai gorff cyhyrog yn agos i bum troedfedd a deg modfedd o daldra, o ymddangosiad tywysogaidd, gwyneb siriol, a chalon agored, hawddgarwch a boddlonieb fel yn gwledda ar ei wyneb. pryd cariadlawn. Chwith lawn fydd genym, os cawn ein harbed i fynd am dro i'r Hen Wlad,1 fydd talu ymweliad a man fechan ei fedd yn mynwent Gibea, Brynaman. Bu yn gweithio dan y ddaear nes idio gyraeddyd ei haner cant oed; bu yn carto glo dan yr hen oruchwyliaeth yn mhwll Brynaman; gweithiodd am dym- or yn Washington Territory, Drifton a Hazleton, yr Amerig; hefyd os wyf yn cofio yn dda, bu yn gweithio am ysbaid byr yn nglofa Treorci. pan oedd Gurnos yn weinidog yno. Arweinioid yrfa ddarbodus iawn pan yn gweithio; gwnaeth ddigon o dda'r byd hwn i'w alluogi i fyw heb galedwaith yn ystod y chwarter canrit gweddill o'i dymor. Dyna engraifft dra ragorol gwerth ei hefelychu gan bawb. I Yr oedd yn hynod hoff o'i bibell mewn cwmni, "ei enau fel simneu fawr" bob amser. Wrth ddweyd stori, teimlem rhyw arddeliad swynhudol yn ei ffraeth ddywediadau hamddenol. Ceid portre- ad adlewyrchol o'i anianawd hapus yn yr englyn a osodoid ar ei flwch myg- lys. Yr oedd y blwch alcan yn barodj bob amser yn y ty i estyn croesaw i'r frawdoliaeth farddol i gyfranogi o'i ys- brydiaeth cyfareddol. Dyma'r englyn: Dwg ataf safn dy getyn-gad y byd Gyda'i boen am dipyn; 'E ddaw rhyw Iwydd ar ol hyn- Arfoga, cymer fygyn! Cofus genyf iddo ddweyd wrthyf un tro pan yn dychwelyd o dy ei hen gyf- aill Dewi lago, Waencaegurwen, iddo gwrdd a donci un o ragmen y dyffryn ar y Waun, a phan yn nesu yn gyfagos ato, dechreuodd gicio ac oernadu nes diaspedain creigiau'r cwm, a gorfu i'r bardd gymeryd y traed i gyfeiriai y Benwen, ac wedi cael ei draed dano; anadlodd yr englyn canlynol i'r donci gwallgofus: Ciciwr, oernadwr yw Nedi-yn byw A bod dan y perthi; March dyn tlawd, a'i frawd o fri— Car i dincer yw donci. Fisoedd cyn ei farwolaeth derbyniais lythyr hirfaith oddiwrtho yn desgriflo ei daith o Frynaman i ddwr y mor yn Aberaeron. Cynwysai ei nodiadau res o'r englynion doniolaf a ddarllenasom erioed, a diweddai ei epistol fel hyn: Yn wir Glan bach Yr un o hyd, er yn hen—yw'r anian, Er hyny'n anniben; Bywyd dwl mewn byd di-wen Ydyw bywyd heb awen. (I'w barhau.)

Advertising

Y DIWEDDAR ROLAND HUGHES,…

HYSBYSIAD 0 BWYS.

Advertising

Family Notices

Advertising

Family Notices

Advertising

!CHICAGO, ILL.

MANKATO, MINN.

Advertising

CONGREGATIONAL MINISTERS OF…