Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

DR DAVID JONES, SCRANTON,…

NODION O NEW YORK.1

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Harold Ithel Rees Seithfed fab ydoedd yr uchod i Row- land a Margaret Rees,'Long Creek, Col- umbus Junction, Iowa. Ganwyd ef ar yr 21ain o Fedi, 1895, yn nghartref pre- senol ei rieni. Yr oedd yn un o 13 T) blant, a'r cyntaf yn y teulu i ehedeg tu draw i'r lien. Magwyd ef mewn cartref Cristionog- ol, ac addysgwyd ef, er pan yn fachgen, i fod yn ddysgybl i Iesu Grist. Pan yn 15 oed, derbyniwyd ef gyda'i ddosbarth i Igyflawn aelodaeth yn eglwys Salem; ac o hyny hyd y diwedd, bu yn nydd- lawn i'w broffes. Gartref gyda'i frod- yr a'i chwiorydd y bu ar hyd ei oes, hyd nes y daeth, ar Orphenaf 23, 1918, yr alwad i'r gad i mddiffyn ei wlad, a gw-asanaethodd yn ffyddlawn yn yr ym- drech fawr am ryddid a chyoawnder. Hwyliodd o New York tua Medi 1, 1918, a chyraeddodd Ffrainc, Medi 14. Bu am gyfnod byr yn y training camp yno, ac yr oedd ar fyned i'r ffrynt, fel aelod o'r 27th Division, ychydig o ddyddiau cyn i'r cadoediad gael ei lawnodi. Ar y 6ed o Fawrth, 1919, daeth yn ol i'w enedigol wlad, a rhyddhawyd ef yn anrhydeddus yn Camp Dodge, Mawrth 30ain. Bu am dri mis wedi dod yn ol yn mwynhau iechyd da, ond cwynai yn achlysurol o boen ysgafn yn ei ochr. Pa fodd bynag, ar y 4ydd o Gorphenaf, cyfyngwyd ef i' wwely cystudd, ac o'r amser hyny hyd y diwedd, dyoddefodd gystudd trwm yn amyneddgar, "fel mil- wr da i Iesu Grist." Gwnawd pob ym- drech gan ei rieni, heb arbed traud, na gofal, na chariad, i geisio ei adferu a ,dwyn adgyfnerthiad i'w gorff, ond meth- wyd yn yr ymdrech, a bu farw yn dawel ac esmwyth yn ei gartref, nos Lun am 6:30 o'r gloch, Hydref; 20fed, 1919, yn 24 oed. Yr oedd Harold yn aelod o'r Masonic Lodge, Rhif 235, ac yn aelod ffyddlawn a gweithiwr diwyd yn y Gymdeithas. Ymdrechol, ac hefyd yn aelod o'r Ysgol Sul, ac yn gwneyd ei ran yn ddyddiol yn narlleni-ad Gair Duw yn yr allor deuluaidd. Uwch law hyn oil, yr oedd yn Gristion ieuanc diysigog, gydag ar- gyhoeddiad dwfn o allu'r Efengyl i ddwyn iachawdwriaeth i ddynion, yn sefydlog yn ei amcan, ac yn bur yn e1 ymarferiadau. Meddai dueddfryd gyf- eillgar, a byddai bob amser yn ewyllys- gar iawn i gynorthwyo gydag unrhyw waith y galwyd arno. "Ei le nid edwyn ddim o hono mwy," ac eto, ,mae perarogl ei gymeriad yn perarcHgli yn felus yn meddyliau ei an- wyliaid a'i gydnabyddion yn y gymydog- aeth hon. Teimlir chwithdod mawr ar ei ol heddyw. Duw a fyddo yn nodded ac yn dwr cadarn i'r teulu caredig yn y brofedigaeth.. Cynaliwyd gwasanaeth angladdol yn eglwys Salem, ddydd Mercher, Hydref 22, pryd y daeth tyrfa fawr i dalu gwar- ogaeth o barch i'w goffadwriaeth a chydymdeimlad a'r teulu. Gwasanaeth- wyd ¡gan ei weinidog, yn cael ei gyn- orthwyo gan y Parchn. Mr. Evans (A.), a Mr. Allen. Claddwyd yr hyn oedd farwol o hono yn y Cambrian Cemetery, mynwent y Cymry, a'r gymyddgaeth Cymreig.-Parch. H. W. Owen.

RHIFYN JIWBILI Y "GOLEUAD"I

NODION PERSONOLI

[No title]

[No title]

[No title]

IAT Y WLAD A'R BYD CYMREIG

Advertising