Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
0 IDrcb. A WELSH WEEKLY ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning Thomas. J. Griffiths & Sons. UTICA, N. Y. i MFORTA.NT TO ADVERTISERS -The mention of buslneee men in general is ■nailed to Y DRYCH as a superior adrer- nunff medium, being read by thousand* "ho cannot be reached by any other pub- lication. It has a large circulation, with ,aubst-,ribem in every State and Territory ,ot the Union, in Great Britain and the British Dependencies. It is the recognised national Orjran of the Weish People.
ABRAHAM LINCOLN All ARAETHI…
ABRAHAM LINCOLN All ARAETH I GLASUROL Gan Joseph Aubrey, Youngstown, Ohio I Hanes y Cyfansoddiad Boreu Tachwedd 18fed, 1863, cych- wynodd cerbydres neillduol allan o Washington, yn cludo yr anfarwol Ar- lywydd Lincoln a chwmni o uchelwyr y llywodraeth ar eu ffordd i gyflwyno y Fynwent Genedlaethol yn Gettysburg y dydd canlynol at w-asanaeth y genedl, er cof am y milwyr dewr a syrthiasant ar y maes hwnw bedwar mis yn flaen- orol. Yn y cwmni yr oedd yr Anrh. Edward Everett, areithydd y dydd ca'nr lynol, yr hwn a ystyrid yn un o brif areithwyr y cyfnod. Gwyddai yr Arlywydd Lincoln y bydd- ai y miloedd a ymgynullai ar faes y frwydr yn aysgwyl i'w Harlywydd ddweyd rhywbeth wrthynt gwerth ei wrandaw, ac yr oedd ganddynt hawl i'r goreu a fedrai roddi, ac fe roddai ei oreu; felly aeth at y gorchwyl i gyfan- soddi yr araeth yn hamdden y daith. Cafodd afael ar lawr y cerlbyd ddarn o babyr lIwyd, a dechreuodd ar ei or- chwyl, a Ilafuriai tra'r oriau yn dianc i saernio gair ar air, a brawddeg ar frawddeg, a phan orphenodd, darllenodd hi, a gollyntgodd hi i'r llawr. Yr oedd y peth goreu a fedrai wneyd, ac yn ol ei farn ef, yr oedd yn fethiant. Yn y teim- lad yna, cododd y darn p-apyr oddiar y llawr, plygodd ef, a rhoddodd ef yn ei logell, a gosododd y meddwl am dano o'r neilldu fel peth gwael nad allasai efe ei wellhau. Boreu y 19eg a ddaeth, a thyrfa fawr wedi ymgynull ar y maes i glywed yr areithiau a seindorf enwog y Marine Band o Washington. Siaradodd Ever- ett am ddwy awr, a gwrandawai y bobl yn ddiflino arno. Yr oedd yn araeth feistroLgar ac effeithiol, ond chwerw ei hysbryd. Derbyniwyd yr araeth gyda churiad dwylaw a Uonfloeddiadau uchel a .pharhaus am ychydig fynydau. Yna dylynwyd ef gan yr Arlywydd Lincoln; cafodd yntau wrandawiad astud. Dal- iai y bobl eu hanadl fel pe yn, ofni colli ynganiad y sillaf leiaf; ond ni chafodd un arwydd o gymeredwyaeth gan y dorf enfawr. Yr oedd yr araeth, fel yr ofn- ai, yn fethiant. Talodd yr Arlywydd mewn ychydig eiriau caredig, deyrnged i areithydd yr achlysur. Gwrandawodd Everett yn feddylgar arno, ac wedi i'r penaeth or- phen, dywedodd yn syml, "Mr. Arly- wydd, mi fuaswn' i yn falch pe gallwn wenieithio i mi fy hun ddarfod i mi ddod mor agos i brif a chanolog feddyl- ddrych yr achlysur mewn dwy awr ag y daethoch chwi mewn dwy fynyd"; ond ysgwyd ei ben a chwerthin wnaeth Lincoln; yr oedd yn chwanog i ymddir- ied yn ei farn ei hun. Dychwelodd y tren neillduol o Gettys- burg yn union ar ol y gwasanaeth cyf- Iwyniadol a pharchus ddifrifol, a dyg- odd yr Arlywydd a'i gwmni i Washing- ton yn ystod y nos. Nid oedd dim gor- phwysdra i'r dyn oedd wrth lyw-olwyn y genedl dranoeth, ond goruchwylion yehwanegol, a theimlai yn bur siomedig a digalon pan gofiai am y derbyniad oer gafodd ei araeth y diwrnod o'r blaen. Oddeutu 4 o'r gloch yn y pryd- nawn, aeth allan am dro er cael ych- ydig awyr, a cherddodd nes dyfod i der- fyngylch y ddinas, pan y rhuthrodd llanc ieuanc oddeutu 15 oed ar ei draws. Gwelodd yr Arlywydd yn union fod y bachgen mewn helbul, canys yr oedd ei lygaid yn llawn dagrau, a chwyddodd ei gal on fawr o dosturi ac awydd i weini cymorth iddo. Wedi ychydig ym- ddyddan, deallodd ei fod yn chwilio am gyfreithiwr i ySigrifenuewyllys i'w frawd, y Cadben Blair, o fyddin y Cad- fridog Lee, a'r hwn. oedd yn yr ysbyty milwrol ac yn marw fel yr ofnai efe. Aeth gyda'r llanc ieuanc i'r ysbyty, ac i ystafell y milwr clwyfedig. "Da,, fachgen, Warry, cawsoch gyfreithiwr i mi"; estynodd allan ei law a diolchodd i Lincoln am ddyfod. "Mae ysgrifbin ac inc ar y bwrdd, Mr. —————; ni ddywedodd fy mrawd eich enw i mi." "Fy enw yw Lincoln," meddai yr Arly- wydd. Edrychodd y swyddog ieuanc arno, "Enw da yw hwnyna o'ch saf- bwynt chwi; tybiwyf mai Gogleddwr ydych." Gwenodd yr Arlywydd, "Yr wyf ar yr ochr yna o'r clawdd; gellwch fy nghalw yn Ianci os mynwch." Meddai mewn atebiad, "Y mae rhyw- beth yn perthyn i chwi, Mr. Lincoln, rhyw swyn sydd yn peri i mi ddymuno, os caniatewch, i'ch galw yn gyfaill," meddai y milwr. Estynodd Lincoln ei law fawr allan, gan ddweyd, "Siglwch, cyfeillion yr ydym." "Hyd nes gwahana angeu ni," meddai y milwr. "Rhaid i ni wneyd yr ewyllys," ychwanegai, ac awd ati i wneyd hyny o orchwyl, ac wedi ei or- phen, cododd y cyfreithiwr dyeithr i fyned allan ac i ymadael. Ymbiliodd y clwyfedig arno am beidio myned mor fuan. "Yr wyf yn eich hoffi; ni hoffais ddyn dyeithr erioed o'r blaen gymaint mewn amser mor fyr. Yr wyf am si- arad a chwi am y dyn Lincoln hwn, eich cydenw; dyn nodedig yw'r Arlywydd yna o'r eiddoch; yr wyf wedi ei* edmygu o hyd. Ysbrydolir ef gan egwyddor ac nid .gelyniaeth;. y mae yn wir ddyn a nerthol. A ddarllenasoch chwi ei ar- aeth y ddoe yn y papyrau? Dywedwch, a yw y dyn mawr hwn yn unrhyw berth- ynas i chwi, Mr. Lincoln?" "Y mae rhyw fath o gysylltiad trwy fy nhadcu," atebodd Lincoln; "ond gwn pa fath ddyn ydyw; gellwch ddweyd yr hyn a fynoch am dano." Meddai y milwr oedd yn prysur farw: "Y peth wyf am ddweyd yn gyntaf yw hyn, iddo y ddoe if'neyd un o areithiau mawreddog hanesiaeth." "Beth?" gofynai Lincoln. "Mi a wn," meddai'r milwr, "beth yr wyf yn siarad yn ei'gylch. Yr oedd fy nhad yn areithiwr, a'n hewythrod, a'm laid yn areithwyr. Cefais fy mvyn i fyny ar areithyddiaeth. Yr wyf wedi darllen a myfyrio yn engreifftiau goreu er pan oeddwn yn llanc mewn llodrau penlin, ac mi a adwaenwn araeth fawl"- oddog pan y gwelaf hi; a phan ddyg- odd Nellie, fy. chwaer, y papyr i mewn boreu heddyw, a darllen yr araeth i mi, dywedais wrthi yn union, nad oedd ar- aeth gydradd a hi wedi ei gwneyd chwech o weithiau er dechreu hanes. Yr oedd hyn cyn iddi ddweyd wrthyf beth a ddywedodd y Seneddwr. "Pa beth ddywedodd y Seneddwr?" gofynodd y dyn tawel oedd yn gwr- andaw. "Y Seneddwr Warrington, i'r hwn y mae fy chwaer yn ysgrifenydd- es; yr oedd efe yn Gettysburg y ddoe gyda chwmni yr Arlywydd. Dywedodd wrth fy chwaer i'r araeth fyned mor ddwfn i galon-au y miloedd pobl fel pan derfynodd, yr oedd yr holl dorf megys yn dal eu hanadl; ni chodwyd Haw mewn cymeradwyaeth. Buasai yr un fath a phe tgwnaed hyny i Weddi yr Ar- glwydd; buasai fel cysegr-anrhaeth; a theimlassnt hyny; bawb oedd yno— i lawr hyd yr iselaf. Buwyd am fynyd hir mewn dystawrwydd parchedig, heb yr un swn gan y dorf enfawr. Ym- ddengys i mi, gelyn fel yr wyf, fod hyny y deyrnged fwyaf berffaith sydd wedi e1 thalu erioed gan unrhyw bobl i un- rhyw areithydd." Sylwodd y llanc ar ol geiriau ei frawd. gyda synydod, fod dagrau yn llygaid y eyfreithiwr dyeithr, ond ni sylwodd y milwr clwyfedig. 0 » »
[No title]
-Leila Megane. Derbyniodd Mrs. Lloyd Ellis, Astoria, Cardiff Road, Pwll- lieli, air oddiwrth gyfeilles iddi yn :~ynegi am Iwyddiant anarferol ei chwaer, Miss Megan Jones (Leila Me- gane) yn y rhan gymerodd mewn opera yn Mharis. Ymddangosai fel "Char- lotte" yn yr opera. Parodd ei hym- 'ddangosiad ar y llwyfan frwdfrydedd mawr yn mhlith y dyrfa enfawr oedd wedi ymgynull. Nid oedd ball ar y gy- meradwyaeth a'r encor a roddwyd iddi. Yr oedd y gwrandawyr wedi eu swyno, ie, eu syfrdanu, tra yr oedd yn canu y "Tear Song," a daeth ei phortread o Charlotte yn ei phrofedig-aeth i derfyn- iad yn llawer rhy fuan. Dywed y gyf- eilles fod pobl Paris wedi eu swyno yn Ilwyr gyda Megan a'i llais cyfoethog. Y mae y Creawdwr wedirhoddi iddi dalentau dysglaer, ac y mae hithau yn eu defnyddio i'r pwrpas goreu sydd yn iscr o gael eu gwerthfawrogi yn fllhob- man y dengys hwynt.
HYN AC ARALLI
HYN AC ARALLI Gan T—n—dd I Feallai y dyry y Golygydd genad am y waith gyntaf i mi wneyd nodiad per- sonol am danaf fy hun y tro hwn. Fe gofia y rhai ddarllenant y "Drych" yn fanwl i'm henw canol, Talnedd, talfyr- iad o'r hwn a ddefnyddiaf i ddynodi awduriaeth y nodiadau hyn, a'm cyf- eiriad, ymddamgos ychydig wythnosau yn ol yn ngholofn bersonol y "Drych." Yn fu-air iawn wed'yn, dyma bedwar llythyr yn dod i mi oddiwrth hen gyf- eillion y dyddiau gynt. Er ysgariad hir am flwyddi meithion, a chyfnewidiadau amgylchiadol a ddeuant i ni yn nhreig- lad diball ffrwd amser, fe erys gwir gyfeillgarwch, ac nis trenga byth. Ar un o'r llythyrau hyn y dymunaf- sylwi, gan i hwn roddi syndod nid bychan i mi, ond da genyf oedd i'm cyfaill an- fon ataf fel y igwnaeth, gan y dry ei lythyr i mi oleuni ar achos tybiedig gwg a gwen llawer un, a sisial a rhai geiriau anngharedig nas teimlwn fy mod yn haeddu, er maent fy mai. Yn yr iselfrydedd a berai y pethau hyn, fel na suddwn i wanobaith arqsol, rhaid fyddai i mi weithiau lawenhau hyd yn nod fod pechaduriaid eraill, ac nad myfi fy hun yn unig oedd deiliad trigle gwen- did a phechod. Ond at y llythyr: "Clywais o Los Angeles amser maith yn ol," meddir wrthyf, "eich bod wedi marw yn Patton Asylum yn y Dalaeth yna, ac mai o garchar y ddinas yna y dyigwyd chwi yno gyq,ag ychydig obaith y caech byth a.dferiad meddyliol, ac mai achos dad- fail eich synwyr oedd y ddiod." Yn awr, nid oes gair gwir yn yr oil o'r uchod. Ni bum farw, canys yr wyf heddyw yn fyw, ac ni bum yn ngolwg Patton yn fy myw; ac os pery'm pen mor glir a'm bron ysgafned (a hyn er gwaethaf C. U. B.—cost uchel byw) ag ynt heddyw, nis credaf y daw'r dydd i mi dramwyo'r ffordd ddi-lon o'r carch- ardy i breswyl igwallgofiaid. Mae yn wir i bregethwr o Gymro farw yn Pat- ton bedair neu bum mlynedd yn ol; clywais iddo fod yn y carchardy yn San Diego yn y Dalaeth hon, a gwn iddo fod yn garch-aror yma. I Creda llawer, heb- ( law. myfi, iddo ddod i drybini a than ddylanwad y ddiod drwy ei gysylltiad a chyn-Babydd Gwyddelig anwir a gwlyb mewn gwaith cenadol. Mae'r gwalch hwn yn fyw heddyw, ac mewn anrhydedd nas haedda mewn eglwysi lawer. Parthed y Cymro, "de mortuis nihil bonum." Gwir i mi flwyddi yn ol fyned i graf- apgau cedyrn creulawn y ddiod, ond yn y flwyddyn 1905, aethym i a'm priod i fyw yn mynydd-dir California,, ar lan afon y Sacramento, mewn dyffryn pryd- ferth a Ilawn o dlysni igwefreiddiol an- ian, ac yno trwy gyngorion meddygol, cymdeithas a natur ar ei goreu, yn nghyd a diwydrwydd ymdrechol a dyfal- barhad penderfynol, mi deflais yr hudol- es i lawr, ac yno y mae hyd y dydd hwn, ac nis cyfyd awydd ynwyf am ei chwmni byth. Yr wyf wedi llwyr ar- gyhoeddi fy mab mai y ddiod feddwol yw gelyn penaf cymdeithas, ac yn y ddinas hon, faid oedd un o'i oed yn dwyn mwy o sel dros gau'r tafarndai. "Index" ddywed, ac o wired y gair, fod gobaith am adferiad pob meddwyn a gsidw yn ei feddwl rhyw syniad am urddasolrwydd y ddynoliaeth. Wrth edrych yn ol, fe ddaw un peth i fy meddwl yn ami, mai dim QlDd un dyn, er y deuwn i gyswllt ag ugeiniau, rodd- odd air o gyngor ac anogaeth i mi ad- ael y ffordd ddrwg. Mae genyf yn awr ugiiniau o gyfeillion nas aroglasant sawr diod arnaf erioed, ac nas gwel- sant un arwydd ynwyf o gariad at y gwin, ac nid oes, hyd y igwn i, ond ych- ydig o Gymry crefyddol yn cadw yn fyw y gwir am yr hyn a fu. Diacon oedd uln mewn eglwys Gym- reig, ac aelod blaenllaw yn yr un eg- lwys (aelod,,gyda llaw, a gymer enw y Duw santaidd yn ofer ganwaith y dydd, ac a ddefnyddia eiriau twng a rheg yn wastadol yn ei ymddydda/nion cyffredin) ydoedd y ddau olaf i roi aw- grym brathoig i mi parthed y gorphenol. Mae dolurio teimlad yn fwriadol, pan na chyraeddir un amcan daionus, yn an- 'iighydweddol iawn a thynerwch a gras- lonrwydd cymeriad Pen yr Eglwys. Fod Duw yn annghoflo y pechod ag y byddis wedi ei adael gan ddyn yw y ddysgeidiaeth ddwyfol, ac er mor an- nymunol yr adgof am dano gan yr hwfa a fu yn euog o hono, eto fe ddyry gwen y nef fwy llawenydd, ac o fath nas medr edliwiad dyn fychanu na difwyno.
[No title]
—Yn Port Talbot gwysiwyd 130 ol lowyr am beidio talu treth yr incwm. I
BYD ADEILADAETH 'AR OL Y I…
BYD ADEILADAETH AR OL Y I RHYFEL Gan y Parch. Richard Thomas, Schen- I ectady, N. v'. Penod IV1"5 I Nid oes prinder wedi bod nac yn bod o eyfryngau trwy ba rai y -ceisiwyd ac y ceisir eto yn y dyfodol wella safle cym- deithas, a sefydlu cyfiawnder rhwng dyn a dyn, a chenedl a chenedl. Yn mhlith pethau eraill, ceisiwvd deddfwr- iaeth (legislation), cyfundrefn wahan- 01 o drethu, sefydliad partion gwleid- yddol newyddion, a diwygio yr hen; mae yr oil o'r rhai hyn wedi ceisio gwneyd y gwaith. Tra yn dda ynddynt eu hunain, ac i'r graddau y maent wedi myned, mae yn amlwg nad yw y cyf- ryngau hyn ond yn unig yn lleihau y drwg, ond nid yn ei ddifodi. Nid ydynt yn myned at wreiddyn y drwg. Tra yr erys cymdeithas yn hunatool, ac yn am- ddifad o'r egwyddor o gariad fel eg- wyddor llywodroethol eu. bywyd, ofer yw pob ymgais at ei diwygio. Rhaid cofio mai drwg moesol yw yr achos o drueni y byd heddyw, a gan gymaint a wellheir ar gylchyniadau dynion, tra y pery cymdeithas o ran 6i hysbryd yn hunanol, trahaus a gorthpymus, ni ellir sefydlu dedwyddwch yn ei ystyr uchaf yn mywyd plant dynion. Dedwyddwch tymorol yn unig a gynyrcha y cyfryw i ddynion fel inifer o greaduriaid, yn lie dedwyddwch yn ei holl agweddau i ddynion fel bodau moesol a. chyfrifol i Dduw a'u cyd-ddynion. Nis gellir rhoddi igwell engraifft o hyn na chyfeirio at amgylchiad^au yn mywyd cymdeithasol NeW Zealand. Dywedir fod y safle yno bron yn tm- arferol a delfrydol, yn unol a gofynion a hawliau sosialiaeth (sicialism), ond yn ol ystadegaeth, mae yno gymaint os nad rnwy tar gyfartaledd rh'if y trigol- ion o aiiechydon, ^^fdiiieb, llofrudd- iaethau, a drygau eraill, nag mewn un- rhyw fan arall, lie na fodola yr un safle gymdeithasol. Beth mae hyn yn brofi, os y profa rywbeth? Profa fod yn rhaid myned yn ddyfnach na chylchyniadau (envi- ronments) dynion, a igwella y cyfryw yn unig er mwyn sefydlu dedwyddwch yn mywyd y byd. Er holl gynydd cyf- oeth, addysg, darganfyddiadau a gwar- eiddiad, dyma y byd newydd fyned trwy y rhyfel fwyaf welodd y byd erioed, a'r gwledydd oedd yn flaenaf yn y pethau hyn oed yn gwrthryfela a'u gilydd. Mae yn amlwg fod yn rhald troi ein golygon i gyfeiriad aiwgenach na chyn- lluniau dynion, a sefydlu eiln gobaith ar rywbeth cadarnach na doethineb ddyh- ol, boent freninoedd, ymerawdwyr neu wladweinwyr, heb yr hyn ni fydd y League of Nations na'r Peace Treaty ond megys "scrap of paper" yr Almaen yn ei pherthynas a Belgium. Beth pe baem yn annghofio dwndwr a berw y byd am enyd awr, a cheisio astudio yn weddigar gymeriad a dysg- eidiaeth y Gwr o Nazareth, "yr hwn ni 'eddodd, ac nl pharodd i'w lef gael ei .glywed yn yr heolydd," ond .a ddy- wed yn bendant, "Wele, mi a wnaf bob peth yn newydd." "Deuwch ataf fi bawb ar a sydd yn flinderog, ac yn llwythog, a mi a esmwythaf arnofth." Cyf.addefa pawb o honom fod angen gwneyd pethau o'r newydd, ac fod rhaid ein &eni ni drachefn cyn y gallwn gael yr esmwythad y cyfeiria Crist ato. Ond a ydym yn credu mewn gwirionr edd fod geiriau yr Iesu, ond eu deall a'u derbyn, a'u cytnwyso, yn meddu ar agoriad i ddadrys ac unioni amgylchiad- au y bywyd sydd yr awrhon, a'r hwn a fydd? Os nad ydynt, nid oedd Crist ond ffug, yn honi pethau anmhosibl, neu yn cael priodoli iddo honiadau a gweithred- oedd ga.n y rhai a ysgrifenasant yr ef- engylau, nad oedd yn euog o'u dysgu llZ.'U gweithredu. Os yw yr egwyddor osododd Crist yn •alluog i ddiddymu a dinystrio drwg eymdeithasol, yn ogystal a drwg moes- ol ac ysbrydol, fel yr achos o drueni y byd heddyw, mae yn llawn bryd i'r Eg- lwys ddeall a dysgu y cyfryw, gyda'r a mean o'u cymwyso at angen y byd, a dwyn teyrnas Dduw a daioni i gyraedd a meddiant y byd. Gadewch i ni geisio myfyrio uwch- ben athrawiaeth Crist yn ei gysylltiad ag angen naturiol cymdeithas, yr hwn sydd yn dwyn i weithrediad yn ein by- wyd egwyddorion moesol ac ysbrydol C'rist. Daioni yw amcan ei athrawiaeth, a daioni yn ei gysylltiad a dyn yn Igorff- orol a oaturiol, yn ogystal ag ysbrydol. Nid yw y neb sydd yn credu a dysgu mai rhywbeth i enaid dyn yn unig yw crefydci ar draul anwybyddu y corff, ac angenrheidiau y corff, yn meddu ar am- gyffrediad cywir am wir ystyr a chyr- aeddiadau egwyddorion y Gwr o Naza- reth. Mae Crist wedi gosod esiampl i'r Eglwys pan yn dangos ei gydnabydd- iaeth o, ac yn cymeryd dyddordeb mewn dyn fel cyfanwaith (entire man), yn gorfforol, meddyliol ac ysbrydol (physical, intellectual and spiritual). Dywedodd Cristion proffesedig ac ani- Iwg unwaith, "Nid oes gan yr Eglwys ddim i'w wneyd gyda gwyneb budr dyn, na'i gefn noeth, na'i ystumog wag; ei hunig waith yw gydag enaid dyn." Ofer yw dw^yd wrth neb ystyriol fod gwelediad y cytaill hwn yn bradychu anwybodaeth o wir amcan a gallu eg- wyddor yr efengyl yn ei pherthynas, a dyn yn yr oil o hono. Ceisiwn yn ein hysgrifau nesaf ddangos fel mae dysgeidiaeth yr Iesu yn g^ymwys at holl angenion y byd, a'r ffordd effeithiol i roddi y cyfryw mewn gweithrediad. ——— 8'. ————
PWNC Y SYMUD.I
PWNC Y SYMUD I Symud Cyfundeb Crefyddol Drosodd f I Gyfundeb Crefyddol Arall Gan y Parch. John W. Morris II. I Sylwodd un o'r brodyr yn y Gymanfa, "Nad ydym wedi dod allan o'r coed eto." Swniai y dywediad i ni fel "tint" o obaith nad yw yn rhy ddiweddar i geisio darbwyllo ein gilydd i droi yn ol eto, a gwerthfawrogi ein breiniau yn y ffurf y trosglwyddwyd hwynt i ni gan ein tadau, y rhai, yn ddiau, a adwaen- gnt ein hanianawd grefyddol a chenedl- aethol yn llawer gwell nag y gellir dys- gwyl hyny gan estroniaid. Dyna ein seiadau, er engraifft, y rhai sydd wedi profi mor fendithiol i'n Cyf- undeb o'r cychwyn; ond sydd agos yn hollol o ymarferiad gan y Cyfundeb, y mae rhai mor aiddgar dros i ni gymeryd ei iau arnom. Y fatlh'fantais anmhris- iadwy yw y seiadau i ymddyddan am y ,oflo -a'u eyfiiwyso ad- pregethau, eu hadgofio a'u cymwyso ad- ref. Y mae hyn yn un o brif amcan- ion y cynulliadau eglwysig, a byddai bod hebddynt yn rhwym o ddweyd yn anffafriol iawn ar fyyeyd ysbrydol. Hon- ir nad rhaid iddi fod felly wedi myned drosodd, y byddwn at ein rhyddid i'w cynal fel o'r blaen. Caniataer hyny, oni osodwn ein hunain yn safn y perygl o beidio, drwy fyned i awyrigylch wahan- 01 a mwy anffafrilol i gynydd ysbrydol? Ar y pen yma, ceir arabedd un, ond synwyr pawb yn y ddiareb hono, "Os i Rufain yr awn, byw yn Rhufeinwyr a wnawn." Yn ol cyfansoddiad y Cyfundeb y per- thynwn iddo yn awr, nid yr henadur- iaeth yw yr eglwys, ond y mae gan bob brawd a chwaer enw, lie ac awdurdod ynddi; y bobl biau yr achos; ac y mae y seiadau yn foddion arbenig i'w dwyn i deimlo yn fywiog a chynes tuag ato. Y mae myned o'r cyfryw awyrgylch ffafriol i fywyd ysbrydol i awyrgylch Vrinach o ryddid a chaniatad a chefnog- aeth i bawb o bob oedran, rhyw a sef- yllfa, wneyd yr oil a allent gyda'r achos, yn symudiad nas Igallwn ddirnad sut y mae yn cymeradwyo ei hun mor gryf i deimlad a barn rhai o'n brodyr. Myntumir gan rai ei fod yn gam i gyf- eiriad undeb y saint yn gyffredinol, yr hyn a bwysleisir mor ddiamwys yn yr Ysgrythyr; ond, fel yr awgrymwyd mewn ysgrif flaenorol, nid yw yr undeb dymunol hwnw yn golygu unffurfiaeth. D-an yr amigylchiadau presenol, nis gell- ir ystyried dynesiad at y Presbyteriaid. yn brawf o'n duwiolfrydedd ychwaith. Pe felly, beth y gelwid ein gwaith yn lledu yr agendor rhyngom a'r hen Gyf- undeb anwyl. o'r hwn yr ydys wedi hanu, ac sydd yn parhau yn ffyddlon i'w neillduolion yn Nghymru, a hyny dan arddeliad y nefoedd mor wirioneddol ag unrhyw Gyfundeb arall dan yr haul. Os ein duwiolfrydedd esbonia yr uniad ar un llaw, a addefwn y gwrthwyneb fel esboniad ar y daduniad ar y llaw arall ? Priodol iawn y gall yr hen Gyfundeb yn Nghymru ein hanerch yn ngeiriau yr Apostol: "Eidh rhybuddio yr wyf fel fy mhlant anwyl, canys pe byddai i chwi ddeng mil o athrawon yn Nghrist, er hyny nid oes i chwi nemawr dadau. canys myfi a'ch cenedlais chwi yn Nghrist Iesu trwy yr Efengyl. Am hyny, yr wyf yn atolwg i chwi, bydd- wch ddylynwyr i mi." Serch fod y Werydd rhyngddynt, mae'r ddau Gyf- undeb wedi arfer teimlo dyddordeb mawr yn eu gilydd. Hyfrydwch i'r corff yn Nghymru oedd fod ganddo ddeiliaid yn y Talaethau yn arddel ei enw a glynu wrth ei neillduolion cyf- undebol; ond dyma fudiad ar dro yn awr i ymwadu a'r enw, yr hwn na chaf- wyd achos erioed i gywilyddio o'i bleg- ,d ac i, amddifadu ein hunain mewn gwlad werinol o'r elfen werinol anwes- wyd gan em tadau ac a ystyriwyd yn rheswm digonol ganddynt dros beidio derbyn y gwahoddiad estynwyd iddynt hwy, cystal a ninau, dro ar ol tro. Chwithig iawn i bobl fedd hawl frein- iol i fyw yn werinol, yn ol cyfansoddiad eu Cyfundeb, fydd ymlwybro felly mwy- ach fel mesur o oddefiad gan Gyfundeb arall. Yn hytrach, daliwn yr hyn sydd genym, frodyr, fel na ddygo neb ym- aith ein hawl gynwynol. Ni ddeallwn fod y Cyfundeb hyd yn -hyn, beth byn- tg, wedi ymddiried a chaniatau i gyfran o hono weithredu yn derfynol yn y mud- iad; a phe meiddiai rhyw nifer wneyd hyny heb y cyfryw ganiatad, ni fyddent yn iawn droedio tuag at symud y Cyf- undeb drosodd mor deg a didramgwydd 1 bawb ag y byddo modd, ac oni lwyddir i hyny, gwell fyddai peidio amcanu. Byddai i nifer arwyddnodi y telerau, tra yn gwybod na chadd yr holl Gyfundeb gyfleusdra i bleidleisio arnynt, yn ym- ddygiad rhy deyranol a chymelliadol i gwestiynau felly, Pwy a'ch awdurdod- odd chwi i chwalu ein cartref crefydd- ol? Rhag i saethau. o'r natur yna gael eu hanelu at neb, na chan neb ychwaith, teg fyddai argraffu y telerau a'u cff- Iwyno i'n iieglwysi, ac yna, wedi ystyr- iaeth ddyladwy, gymeryd eu llais gyda golwg arnynt. Golyga hyny, wrth Sgwrs, fwy o amser nag o hyn hyd Mai nesaf; ond os parai cymeryd mwy o amser lai o dramgwydd, cyfiawnhai hyny arafwch a phwyll yn y mudiad pwysig hwn. -000
DUWINVDDIAETH AC ATHRONI-I…
DUWINVDDIAETH AC ATHRONI-I AETH DANIEL WILLIAMS Gan Sam Ellis I Yn y "Drych" am Tachwedd 13, ceir ysgrif gan Dr. Williams ar "Athraw- i-aeth a Duwinyddiaeth Sam Ellis." Gwna y Dr. gam ag ef ei hun yn yr ys- grif. Gallasai ysgrifenu Ilawer gwell ysgrif, pe mynasai; eithr eglur yw iddo golli ei dymer, ac mewn canlyniad, collodd ei gydbwysedd meddyliol. Mae colli tymer yn bechod parod i amgylchu plant dynion, ond mae'r sawl edy i'w dymer ddiorseddu ei reswm yn gosod ei hun o dan anfantais. Ysgatfydd na thybiai rhai y buasai oedran, swydd a diwylliant (tybiedig) y Dr. yn ei ddyogelu rhag syrthio i'r amryfusedd o "fyn'd o'i gof." Mae yn ymddangos fod yr "hen ddyn" yn ad- fywio ambell waith mewn doctoriaid duwinyddol. Gwenu ac nid gwgu wnaethym wrth ddarllen yr ysgrif, a hyderaf y ceir mwy o ymresymiad a llai o dymer ganddo y tro nesaf. Sonia y Dr. am bedwar cyflwr dyn, ac wrth ddarllen ei ysgrif, dyfalwn yn mha un o'r cyflyrau yr oedd efe pan yn ys- grifenu. Hyderaf ei fod wedi .graddio yn y trydydd dosbarth, eithr yr oedd ei ysgrif yn debyg iawn i eiddo un yn yr ail ddosbarth, sef "cyflwr natur." Ad- roddir hanesyn am Siencyn Penhydd pan wedi cael ei dramgwyddo yn dost gan rywun, yn dweyd, "Pe buaswn: yn cael bod yn fy nghyflwr natur am bum mynyd, buaswn yn rhoddi cosfa ofnad- wy i ti." Hwyrach mai llithro yn ol i'w gyflwr natur wnaeth y Dr., er mwyn ceis4o rhoi cosfa i mi; "reversion to type," ys dywed y gwyddonwyr. Gan iddo gael boddlonrwydd wrth ysgrifenu, ac i mi- nau a darllenwyr y "Drych" gael difyr- weh wrth ddarllen, pobpeth yn iawn, a pharhad brawdgarweh a chaffed amyn- edd ei pherffaith waith o hyn allan. "All is well that ends well," ebai Shakespeare. Gan mai clytwaith amliwioig ydyw ys- grif Dr. Williams, heb unrhyw unol- i-aeth yn rhedeg drwyddi, nid hawdd ydyw gwybod pa fodd i'w hateb. Dy- wed mai edrych ar ddyn fel dyn wna'r athronydd, ac mai edrych ar ddyn yn ei bedwar cyflwr wna'r*duwinydd. O'r goreu, onid dyn ydyw dyn yn ei holl gyflyrau pirioneddol neu dybiedig? Gwn mai tuedd yduwinyddion o'r un ys- gol a Dr. Williams ydyw edrych ar ddyn fel peiriant. Dywed eto. "Mae dysgeidiaeth y Bei'bl gan ddyn wedi caek crefydd ysbrydol ydyw duwinyddiaeth." Nid oes un ffaith eglurach na bod dynion wedi cael crefydd ysbrydol yn gwahaniaethu yn fawr yn eu barn parthed agweddau ar dduwinyddiaeth. Ynfydrwydd Phariseaidd fyddai i neb ddadgan mai y rhai a gredant yn hollol fel hwynt-hwy ydyw yr unig rai ag sydd yn feddianol ar grefydd ysbrydol. Con- demnia y Dr. y gair ".goruniongred" fel un anmhriodol, a dywed "os bydd llin- ell yn uniawn, anmhosibl ydyw iddi fod. yn fwy uniawn." Pe buasai wedi ys- tyried moment wrth ben y gair, gwelai > ei fod yn hollol briodol, ond druan o hono, y mae yn fwy llythyrenol ei am- gyffrediaeth na Nicodemus gynt. Nid ydyw yr hyn a elwir yn uniongredaeth yn hollol "uniawn"; rhaid wrth wybod- aeth berffaith a doethineb perffaith i fod yn uniongred yn ystyr fanwl y term; ac felly nid oes undyn yn "un iongred"; ac mae y Dr. yn euog o'r un pechod a minau wrth ddefnyddio y term hwnw. Meddylier am y frawddeg, "Na fydd. ry gyfiawn." Pe cymwysid rheol lyth- yrenol Dr. Williams at y frawddeg, byddai yn agored i'r un condemniad a'm defnyddiad o'r gair "goruniongred Dylai dyn edrych ychydig yn mhellacn na'i drwyn wrth ddarllen, ac yna can- fyddir awgrymiarfJau cydrhwng y llin- ellau. Ond rhaid i mi ymatal, onide, bydd y Dr. yn dweyd wrthyf, "Mewn pech-od y ganwyd ti oil, ac a wyt ti yn ein dysgu ni"; neu yn sibrwd wrtho ei hun, "Y bobl hyn, na wyddant y gyf- raith, melldigedig ydynt." Dywedaf finau yn ngeiriau Elihu: "Nid yw gwyr mawrion ddoeth bob am- ser, ac nid yw henafgwyr yn deall barn"; ac ychwanegaf gyda Job, "Eithr y mae genyf fi ddeall fel chwithau, a phwy ni wyr y fath bethau a hyn?" Dywed y Dr. fod dyn yn rhyddtcmh- redydd, ac felly yn igyfrifol, ac ychwan- ega fod ewyllys y dyn yn gaeth i'w anian bechadurus, ac o ganlyniad ni all ond pechu. Nid ydyw dyn yn gyfrifol am yr anian etifeddodd, a pha fodd y delir ef yn gyfrifol am weithredu yn ol rheidrwydd ei natur? Mae ganddo yr un rhyddid ag sydd gan y dwfr i lifo ar y waered, neu'r mwg i esgyn i fyny. Gwatwaredd greulon ydyw cymell yr analluog i igerdded, a'r dall i weled. Addefaf fod yr athrawiaeth am anallu dyn yn cynwys gwirionedd, eithr yn gyfftchrog ac yn gyd-redol a hyhi ceir yr athrawiaeth am ddylanwadau yr ys- bryd. Gan fod y gorchymyn i edifar- hau yn un cyffredinol, mae 'r cymell- ion digonol (nid anorchfygol) i edifar- hau yn gyffredinol. "Ni fynwch ddy- fod ataf," ac nid ni ellweh ddyfod ataf ydyw'r pechod a gondemnir gan Grist. Mae Dr. Williams naill ai yn fwriadol neu mewn anwybodaeth yn camddar- lunio syniadau yr Arminiaid am ad- enedigaeth. Y gwahaniaeth cydrhwng syniadau yr Arminiaid (ac hefyd llawer o'r rhai a gyfenwir yn Galfiniaid) ag eiddo y Dr., ydyw hyn: Dysgant fod ad- enedigaeth yn beth gwirioneddol, by- wydol, ysbrydol, yn cael ei ddwyn oddi- amgylch drwg offerynoliaeth yr Ysbryd. Dylanwad moesol ac nid gorfodol ydyw dylanwad yr Ysbryd; ac ufudd-dod gwirfoddol, ac nid rheidiol, ofynir gan ddyn. Nid ydyw adenedigaeth, yn ol Daniel Williams, yn ymgodi uwchlaw tinianeg (physics), ond mewn geiriau yn unig. Nid oes mwy o werth moes- ol ynddi nag yn ysgogiad y materolwr; mae'r ddau yn effaith grym anorchfyg- ol. Yr wyf wedi sylwi fod prif dáuw- inyddion y Presbyteriaid yn Ysgotland, ac eiddo y Methodistiaitf yn, Nghymru, wedi hen adae! y syniadau goleddir gan Dr. Williams. Yn ddiweddar, cef- ais y fraint o ddarllen a chydmaru dwy gyfrol benigamp ar y pwnc hwn, a phynciau perthynol iddo, "The Christ- ian Doctrine of Reconciliation," Dr. Deniiy, a "The New Life in Christ," Dr. Beet. Yr oedd y blaenaf yn un o brif dduwinyddion y Presbyteriaid, a'r olaf yn un o dduwinyddion blaenaf y Cyfun- deb Wesleaidd Seisnig. Synwn at y cydnawsedd ysbryd a'r agosrwydd athrawiaethol cydrhyng- ddynt. Rhoddant bwyslais mawr ar foesolrwydd trefn iachawdwriaeth, ac megys awdwr y "Ddau Adda," syniant yn uwch am brofiad nag am dybiaethau. Credaf mai Dr. Denny ddysga na ellir sylfaenu un athrawiaeth ar ragarfaeth- iad diamodol, am fod hwnw y tu allan i gylch moes&g. Prin y ceir un awdwr diweddar yn coleddu syniadau. peirian- yddol y Dr. am ddyn a i berthynas a Duw a'i lywodraeth foesol. Yr ydwyf o'r un farn a Dr. Williams "foci c-yfeili-ornwyrbob amser yn lleciiu y tu ol i eiriau." Er engraifft, llecha efe y tu ol i'r gair "rhyddweithred- ydd," end wrth graffu gwelir nad oes unrhyw ystyr foesol i'r term fel y'i def- nyddir ganddo ef. Wrth olrheinio ath- roniaeth y caethewyllyswyr yn rhesym- egol, canfyddir eu bod yn gwneyd Duw yn awdwr pechod, ac yn dirymu y gwa- haniaeth haotodol cydrhwng da a drwg.