Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

I Y DIWEDDAR RUSSEL JONES,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Y DIWEDDAR RUSSEL JONES, BANGOR, PA. Aeth Russel trwy faith waeledd—i'r bedd, Er ei barch a'i rinwedd; Daw eilwaith uwch dialedd I ail fyw o'i dawel fedd. Dyma ddarlun o'r diweddar Russel Jones, mab i Mr. a Mrs. Win. Jones, 4th Street, Bangor, Pa. 0 ochr ei fam, yr oedd yn orwyr i'r Hybarch. John Williams, Bangor; ac o ochr ei dad, dis- gynai o hen deulu Caermoel. Dyma delyn dorwyd yn gynar, dim ond dwy- ar-bymtheg oed; eto wedi gosod i lawr sylfaen i fywyd maith, a neillduolion oedd yn proffwydo oes o wasanaeth mawr. Ac i bawb oedd yn ei adnabod ac wedi deall teithi ei feddwl, nid oedd ei golli ond colled ddigymysg i fyd ac eglwys. Un sail dros feddwl felly oedd ei fod yn reddfol wedi ei neillduo i fywyd 0 ymgysegriad. Yr oedd yn llawn hoen ac asbri, fel pob dyn ieu- anc, ond nid oedd mewn un modd dan ddylanwad y nwyd o chwareu sydd mor niweidiol o dinystriol i fywyd yr oes. Tra yr oedd asbri chwareu yn Ilons;d ei natur, eto yr oedd wedi gosod ter- fynau fel na chae y chwareu ddim tres pasu ar derfynau diwylliant a moes, er cymaint oedd swyn y chwareu. Yr oedd llais hawliau tasgau yr ysgol yn seinio yn uwch na swyn pob chwareu, fel yr oedd, er ond wedi myned heibio ei ddwy flwydd-ar-bumtheg o'i oedran, eto yr oedd ar ei flwyddyn olaf, a'i lygaid yn ddiysgog ar ddiwrnod y graddio, ac yr oedd tynu diwrnod y graddio allan o'i broblem yn groes an- hawdd ei dwyn. Y Diweddar Russel Jones I Yr oedd seiliau ei fywyd cymdeithas- ol yn addawol iawn, a llawer o honom wedi gosod dysgwyliadau uchel wrtho. Yn un peth, meddai ddawn gyfoethog at gerddoriaeth, a daliai ar bob cyf- leusdra i'w dadblygu. Yr oedd yn ddi- droi-yn-ol yn ei benderfyniad i lwyddo yn mha beth bynag y gosodai ei fryd arno. Syrthiodd mewn cariad yn foreu a'r .crwth, ac hwyrach y gallai rhai sydd yn gwybod pa mor anhawdd ydyw meis- troli y crwth, ei fod mor ieuanc wedi goresgyn yr anhawsderau, ac wedi ei ddwyn yn offeryn lied ufudd heb yr help lleiaf ond a gafodd mewn un Ilyfr. Meddai ar chwaeth uchel a choeth yn mhob peth a ganai. Chwareua yn swynol ar y crwth yr alaw brydferth hono, "It's the road that leads home. Peth arall, a choron pob peth, yr oedd crefydd yshrydol wedi cymeryd medd- iant o hono. Er mai amser byr gafodd, profodd uwchlaw pob ameuaeth mai dyna oedd ei brif drysor. Nid oes un yn yr eglwys wedi hunanymroddi mor llwyr i waith crefydd ag oedd Russel Jones. Fe ddaeth i Bethel tra medrodd ymlwybro. Bob blwyddyn, yr oedd yn enill y brif wobr am ffyddlondeb i'r Ysgol Sul. Yr oedd mor ami ei fedals ag archdder- wydd Cymru. Daliodd ei ddyddordeb yn mhethau crefydd i'r diwedd. Ed- rychai at amser dyfodiad y gweinidog gyda. syched ac archwaith angerddol, a mynyd dedwyddaf y diwrnod fyddai y mynydau hyny pan fyddai y Beibl yn cael ei ddarllen, a'r weddi yn cael ei hoffrymu. Diangenrhaid ydyw dweyd iddo ddal ei gystudd gydag urddas. Nid oedd cwyno a grwgnach yn adnabod ei galon. Dywedai lawer gwaith y buasai yn hoffi cael mendio. Foreu Sadwrn, Tachwedd 8, hedodd ei ysbryd pan oedd gwawr y dydd yn tori, i ganol gogoniant gan adael pob llesgedd ar ol. Ddydd Mawrth dylynol, talwyd iddo y gymwynas olaf. Wedi gwasanaeth byr yn y ty, symudwyd i'r capel, lie yr oedd torf fawr wedi ymgynull. Hawdd deall fod rhywun ag y teiml-ai y gymyd- ogaeth yn serchog tuag ato yn ymadael. Gwisgwyd y pwlpud gan bobi ieuainc yr eglwys yn addas a phrydferth. Gwasanaethwyd yn y ty, yn y capel, ac ar lan y bedd gan y Parch. Abram Jones, ei weinidog, yn cael ei gynorth- wyo gan y Parchn. J. T. Williams (W), a J. W. Matthews, (M. C.). Canwyd yn swynol gan Miss Ceridwen Davies, "It's the road that leads home," ei hoff emyn. Mae cydymdeimlad yr ardal yn rhed- eg at y teulu, ac yn gweddio am yr aden fawr fod yn daenedig drostynt.

Advertising

[No title]

Y DDIWEDDAR MRS. MARGARET…

PRIODAS YN TORONTO, CANADAI

IY DDIWEDDAR MRS. DAVID R.…

Advertising

[No title]

I"Rhydd i Bob Meddwl ei Farn…

Advertising