Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
1851 Y DRYCH, 1919 Newyddiador Ccaedlaethol Cyhoeddedig Bob Dydd Iaa PIlI y Talacthao Unedig$2.00 PWW y Canada L Chyawre, tal yu ilium Raw yn ddiekhriad_$2.50 ED PRi -TRADES IA-Rc;1 f cOUMOL fffSBYSIADAU am Brisiau Rhe- symol. Anfoner am ein Telerau. ANFONER ARIAN mown Pott Office Order, Registered Letter am mewn Draft ar New York taladwy i'r perchenog- Thomas J. Griffiths & Sons, Drych Office Utica, N. Y. AT ElM GOHEBWYR Er arbed trafferth i'r elerc yn y Swyddfa cyfeirier pob gohebiaeth a phob taliadau i'r "Drych" a'r "Cambrian" a'r rhai hyny yn ■nig, i Thomas J. Griffiths & Sons, Utica, N. Y.
[No title]
Tebyg i rai o'n darllenwyr glywed am lyfr newydd Caradog Evans ar "Gapel Seion," lie y mae yn darlunio ein cenedl ni, fel y gwnaeth yn ei lyfr, "Fy MhobI" (My People). Carem gael rhywun a'i llyncodd (heb ei chwydu allan) i anfon ysgrif am dano i'n calofnau. Nid ydym wedi cael yr anffawd o'i weled. Cymerwyd i'r ddalfa 130 o lowyr yn Neheudir Cymru am beidio talu eu treth incwm, yr hyn a brofa yn gyntaf eu bod yn o oludogaidd, ac yn ail, nad ydynt mor wladgarol ag ydynt o oludgarol. Feallai y bydd treth incwm dda ar olud y dosbarth gweithiol yn foddion iddynt foddloni ar incwm gweithiwr. Yn yr hen amser, teflid Uu o bethau o'r neilldu fel yn ddiwerth i gymdeithas, a daliai y tomenau y pryd hwnw lawer o ddefnyddiau a gedwir yn awr, ac a droir i wasanaeth dyn. Gwelsom y dydd o'r blaen y defnyddir pob peth yn nglyn a'r mochyn (marw), ond ei wich; ond gyda thipyn o ddiwylliant, feallai y gellid gwneyd cerddoriaeth o hono! Yr ydym yn teimlo yn fwy dirmygus o'n llywodraeth Ddemocrataidd bob dydd, o herwydd ei llacrwydd. Os y pery lawer yn hwy, bydd y werin yn rheoli y llywodraeth yn lie y llywod- raeth yn rheoli y werin! Y mae elfen- au anhysbys yn y werin. Ni wyr neb beth wnai pe yr elai ati a chael ei ffordd ei hun. Y mae elfenau da ynddi, ond y mae ynddi elfenau a fyddai YIl: berygl enbydus pe y caent afael yn yr awenau. Y syniad a flina lawer y dyddiau hyn yw beth wnaeth ein gwareiddiad a gan molir mor uchel i ni wedi y cwbl. Y mae ein byd mewn cyflwr truenus; a chyflawnir rhagddywediad yr Apostol, fel y ceir y geiriau yn 2 Tim. 3 1-8: "Gwybydd hyn hefyd y daw amseroedd enbyd yn y dyddiau diweddaf, canys bydd dynion a'u serch arnynt eu hun- ain"—a dyna ddigon i andwyo y byd; pob un drosto'i hun, a chyfle braf i deyrnas Satan ymledu fel chwyn! Ed- ryched y darllenydd i'r benod, a cha ddarlun o'n hoes ddrygionus; a chyng- orwn drigolion yr oes i efrydu y Beibl yn fwy, a phapyrau newyddion yn llai. A'r gofyniad pwysfawr yn awr yw pa fodd i gael y bobl i roddi eu serch ar bethau uwch na'u hunain? Dyna bwnc mawr y dydd! 4 Sonir llawer iawn am gynilo y dydd- iau hyn, ond credwn mai ofer yw y cyfan. Ymddengys na cha hyny o gyngor nemawr sylw. Prynir y pethau drutaf heb gwyno. Y mae pawb am ddangos y gallant fforddio; ac y mae pobl yn falch iawn, ac am ddangos y gallant fforddio! Fel y dywedai un: "Y mae y prisiau yn codi o hyd, a'r bobl yn cynorthwyo i'w codi." Eithaf gwir. Digon hawdd yw eu cael i lawr gryn lawer, ond i'r bobl hunanymwadu. Prynir y pethau drutaf gan y merched, a dywedir y gwnant gam a'u cyrff oddi- mewn i'w haddurno oddiallan! Ofer pregethu, ofer gweddio, ofer canu, ofer cymell pechaduriaid! Gan fod pwnc cyfrifoldeb yn un mor bwysig, gobeithiwn na roir i fyny gan ein hathronwyr cyn penderfynu fod pawb yn gyfrifol. Pe bae yn ddichon profi y tu hwnt i ameuaeth i nifer o ddarllenwyr y "Drych" fod dyn yn fod cyfrifol, feallai y dylanwadid arnynt i beidio benthyca y "Drych" mwyach, eithr dal aelodaeth yn ei eglwys fawr Gymreig, gan gyfranu at gynaliaeth yr achos. Na fydded neb yn ddarllenwr y "Drych," eithr yn dalwr hefyd am dano. Y mae cryn lawer o synwyr yn hyn- yna hefyd. Darllenasom y dydd o'r blaen am aelod o gwmni cyfoethog a wrthwyneba chwech awr, nid am y cred nad yw chwech awr o lafur yn ddigon, eithr yr ofna na wna y gweithiwr wir ddefnydd o'i oriau hamddenol. Y mae yn erbyn mwy o segurdod i weithwyr hyd nes y dysgont y ffordd o wneyd cief- nydd teilwng o'u hamser. Dywedai fod dosbarth o weithwyr pan drwy y gwaith yn gwastraffu eu harian a'u hamser i ddim dyben daionus, a'i gred y N in mi gwell yw eu cadw gyda'u gwaith, hyd y delont yn ddigon doeth i wneyd y iawn ddefnydd o'u breintiau. Gresyn na wuai llawer yn well nag y gwnant. Pan oedd y dafarn mewn bri, yr oedd llawer a warient y rhan fwyaf o'u hamser yn un o'r ddau le; yn y gwaith, neu yn y da- farn! Gresyn na ellid cael rheolau i weith- io un ffordd i bawb. Gellid cael pe bae pobl yn hunanymwadol, ac yn foddlon i bawb gael yr un breintiau a hwy eu hunain. Yn awr, pan y mae y glowyr am chwech awr y dydd a phum dydd yr wythnos, y mae y Darluniau Byw am gael agor hyd 11 y nos, a phob nos o'r wythnos! Y maent wrthi bob dydd drwy y flwyddyn, Sul, gwyl a gwaith! A'r syndod yw fod Undeb Llafur n!or oddefgar o hyny. Y mae yn anmghyson- deb amlwg. Gellid meddwl y bu-isai chwe diwrnod o ddifyrwch yn o dda i bob dyn; a gellid tybio y buasai dyn a dynes nos Sadwrn yn teimlo fel dweyd wrtho'i hun, "Wel, 'rwy'i wedi cael wythnos go ddifyr ar y cyfan; ond y fory, o foreu hyd hwyr, yr wy'i am roi ychydig ystyriaeth i fyd difrifolach. Ni all un enaid fyw yn unig ar gandi." Safle y "Drych" o hyd yw fod y llyw- odraeth wedi esgeuluso ei dyledswydd ar hyd y cenedlaethau, ac felly yn awr y mae mewn cyfyngder difrifol. Y mae yr Undebau Llafur wedi dod yn allu cryf, fel yr ofna llawer eu bod yn debyg o fyned yn gryfach na'r llywodraeth yn Washington; yn rhyw fath o deyrnas o fewn ein llywodraeth. Ychydig wnaeth y llywodraeth erioed oddigerth o ofn llafur. Gan mlynedd yn ol, ni chai lla- fur o'r braidd ddim o wasanaeth y llyw- odraeth. Yr oedd y llywodraeth yn ngwasanaeth y goludogion. Cododd undebaeth llafur i fwy mwy o sylw a mwy o gydnabyddiaeth gan y'i hanwy- byddid yn hollol gan y llywodraeth. Er- byn hyn, y mae llafur yn meddu llyw- odraeth o'i eiddo ei hun; y mae ganddo ei ddeddfwrfeydd, a'i gydgyngorfeydd ei hun; a'r dyddiau hyn y mae teyrnasl y glewyr (un o deyrnasoedd llafur) mewn ymrafael a'r llywodraeth yn Washing- ton, a phe yr elai teyrnasoedd bychain llafur i ymuno a'u gilydd, elai y llyw- odraeth yn Washington yn ddiymad- ferth! Pe gwnaethesid yn iawn a llafur o genedlaeth i genedlaeth, ni chodasai llafur yn deyrnas ar wahan i'r llywod- raeth. Yn nglyn a chronfeydd dwfr, ymddi- byna peth anferth ar yr amglawdd ddeil y dwfr rhag tori drwodd. Yn y man y ca ddechreuad, gwna y rhwyg yn eang mewn byr amser; a gall foddi dyffryn cyfan! Dyna fel y bu yn Johnstown, Pa., gynt. Gall dechreu gwan droi yn ddinystr gwlad a theyrnas. Y gwlad- weinydd yw y gwr doeth genfydd fan- ion fel hyn yn nglyn a'u canlyniadau echrydus; a igofala na ddechreuont. Bu y llywodraeth yn llac ac yn esgeulus gyda gwrthsefyll yr uchel brisiau ar y cyntaf. Cefnogwyd a chalonogwyd hwy gan Wilson a'i weinyddiaeth. Dechreu- wyd y ffrwd gyda buddugoliaeth y rheil- fforddwyr ar y llywodraeth; ac yn y man y cawsant hwy eu dymuniad, trodd y ffrwd fechan hono yn fuan yn ffrwd fawr a rhuthr anferth, nes y mae y wlad wedi ei boddi gan eigion uchel brisiau; ac ofnir rhag i anarchiaeth a Bolshefic- aeth godi eu penau erchyll yn y byd newydd! Ymddibyna ar fod ein llywod- raeth yn ddigon o amglawdd fel na ddechreuo y llid gychwyn ffrydio. Gwelsom am weinidog Presbyteraidd yn yr Hen Wlad yn ceisio cyfrif am fod duwinyddiaeth mor anmhoblogaidd yn yr oes hon. Priodolai hyny i iaith a thafodiaeth y duwinyddion; y def- nyddiant eiriau na sydd yn cludo llaw- er o feddwl i ddeall yr oes. Ychydig o son glywir y dyddiau hyn am ailenedig- aeth, santeiddhad, etholedigaeth, ar- faeth, a geiriau o'r fath (y tu allan i'r "Drych"). Y mae son am ailenedigaeth i bobl yr oes hon yn debyg i fel yr oedd i Nicodemus. Nid oes son am santeidd- had; y mae y gair "etholiad" yn fwy adnabyddus nag "etholedigaeth"; ac y mae "arfaeth," a geiriau o'r fath, fel Groeg i lawer. Gwelsom hanesyn difyr yn ddiweddar am foheddwr yn Cleve- land, Ohio, a'i was, dyn du, yr hwn y cafodd ei feistr allan mai Presbyteriad oedd. "Sam," ebe efe wrtho un diwr- nod, "a wyt ti yn credu mewn etholedig- aeth?" E&rychai Sam arno yn o hurt. "Yna," ebe y meistr, "a wyt ti yn credu fy mod i wedi fy ethol?" "Wel, boss," ebe Sam, "y mae yna yn newydd i mi; wyddwn i ddim'ch bod chi yn rhedeg am ddim!" I wneyd duwinyddiaeth yn ddyddorol i'r oes, rhaid fydd ei chyf- ieithu i ddeall yr oes. tGwnaed yn hysbys ddymuniad y "Drych" am godiad yn ei gyllog, ac ym- ddengys fod pawb yn o foddion iddo gael. Bu efe yn o hir yn gofyn, ac ni ofynodd ychwaith cyn iddo deimlo gwir angen am hyny. Y mae yn llawen gen- ym na fu rhaid iddo streicio, fel y gwna Dathliadau Annibyniaeth yn Lioegr. Manwerthwyr yn gwneyd cynauaf o werthu yr Anthem Genedlaethol Americanaidd a Baneri —Copyright Western Newspaper Union. llawer. Pe y streiciasai, buasai yn o dywyll ar y Cymry, a buasai yn gywil- ydd mawr i'r Cymry drwy y Talaethau. Trueni na fyddai yn ddichon i bob tra- fferth drwy y byd ddyfod i ben mor dawel a digyffro. Y mae ymweliad y "Drych" a chartrefi ei gyfeillion drwy y wlad yn ddymunol a bendithiol, ac ym- drechwn beidio gadael i awyr trafferth- ion ei barotoad fyned gydag ef. Nid gwaith hawdd yw ei wisgo a'i drwsio i ymddangos yn weddus o flaen y cy- hoedd; ond ni ystyria neb hyny, ond y ni sydd yn cadw ty yma. Y mae fel pobl yn mwynkau, einiaw rhagorol, heb wybod dim am hunanaberth y rhai fu- ont yn ei goginio mewn gwres a lludd- ed. Nid yw yn foesgar nac yn weddus i'r Gol. gilagor y ddrws, a son dim am y ffordd y gwneir y gwaith!- Y dydd o'r blaen, yr oeddym yn gwrando ar ddau yn ymgomio, ac ebai y naill wrth y Hall, "A wyt ti'n yfed yrwan?" "Nag ydw," oedd yr ateb, ac y mae athroniaeth a duwinyddiaeth yn yr ychydig eiriau i ddyn meddylgar. Gelwir ymadroddion o'r. fath yn doliaith —cwtogir yr iaith fel y gadewir i'r meddwl lenwi i fyny y diffyg, a dych- ymygu amcan yr ymadrodd. Fel hyn: "A wyt ti'n yfed (diod feddwol) yrw- an?" Pe y cymerid yr ymadrodd yn llythyrenol, byddai dyn yn debyg o gy- meryd nad oedd yn yfed dim; ac y byddai yn siwr o sychu yn fuan, oblegid y mae 85 y cant o gorff dyn yn ddwfr. Y mae llawer o hyn yn y Beibl, sef tol- iaith, a diffyg dweyd y cyfan, ac felly pan ai y duwinyddion ati 1 esbonio, llanwent y bylchau neu yr hyn adawai y toliaith allan yn ol eu credoau eu hunain. Y mae hyn yn ddyddorol, ac feallai ryw bryd y rhown engreifftiau o hyn. I Y FFORDD IAWN I Mae ffyrdd yn gyffredin; maent yma a thraw; ar ryw ffordd yr a dyn; ar ryw ffordd y daw; fe'u gwelir yn myn- ed yn ol ac yn mlaen, a hyd-ddynt y teithir i bob man ar daen. Mae ffyrdd da a thruain; rhai ceimion a rhydd; rhai'n arwain i bobman, bob nos a phob dydd; rhai caeth a rhai cul- ion; rhai eang a'rhwydd; rhai'n arwain i aflwydd; rhai eraill i lwydd.. A rhai'n syth i anial; a rhai'n syth i ffawd; a rhai nis gwyr undyn eu rhed- iad a'u rhawd; mae ffyrdd sy'n gareg- og, a'u troedio yn flin; mae ffyrdd sydd yn llithrig i filyn a dyn! Mae ffordd y pechadur (chwi glyw- soch am hon); a ffordd y troseddwr, un galed o'r bron; mae ffyrdd sydd yn es- gyn o hyd fel ar riw; a ffyrdd sydd yn llithro rhai'n mhell o wydd Duw! Y ffordd hawdd ei theithio sy'n hoff- us gan ddyn; a'r ffordd sy'n ei foddio yw ffordd dyn ei hun; ond buan y profa wrth deithio hyd hon yr a cyn y diwedd yn ofid i'w fron. Mae ffordd sydd yn eang, a hon sy'n culhau; a'n arwach a blinach fel byddo'n parhau; a'r ffordd sydd yn gyf- yng, eanga o hyd; a gwella mae'r prof- iad wrth deithio drwy'r byd. Mae ffordd sydd yn berffaith; mae ffordd sydd yn iawn; pa bellaf y'i teith- ir, yn gwella fe'i cawn; o ddyddiau ein mebyd hyd henoed hon dry o bob ffordd i'n harwain i'r Cartref hoff fry! Y BYD A'I ARGYFWNG I Y mae sylwi ar y gwelliantau gynyg- ir gan yr Eglwys a'r Byd, gan ddysg- awdwyr, ac athronwyr a threfnidwyr, ae athrawon o bob gradd ac arweinwyr y bobl, a phleidiau politicaidd, yn ddifyr. Y mae gan bawb eu cynlluniau a'u cymellion, eu cyngorion a'u rhybuddion, i fod yn gynil, ond nid oes ond ychydig yn cynilo ac yn byw i fyny a'u heg- wyddorion. Y mae pawb am i rywrai eraill wneyd. Ni fu erioed yn hanes y byd gymaint o ymdrech ac ymladd em elw, am uchel brisiau, am uchel gyflogau, am godiadau 1 gyflogau yn uchel eisoes, ac y mae y casiglu at bob math o achoslon yn fwy nag a fu yn holl hanes y byd. Y mae'r oll gyda'u gilydd yn fygyth- 101 1 sefydlogrwydd cymdeithas. Dys- gwyl y mae pawb ystyriol am i bethau ymdawelu; am i'r crochan anferth beid- io berwi drosto! Dyna ofnir! Pe y berwai drosto i'r tan, y Mawredd wyr beth ddeuai o'n byd! Y mae y Prifweinidog ar yr ochr draw yn allu llonyddol gwerthfawr; tra ar yr ochr hon, nid oes genym arweinydd cyfartal i'r cyffro a'r annibendod, wedi i Tedi fyned. Nid ydym eto wedi clywed llais un yn llefain yn y diffaethweh. A ddaw efe cyn bo hir? A ddaw pawb, cyn bo hir, i ymlonyddu fel y caffo y llywod- raeth a'r wlad hamdden i gael ei hanadl? A gawn ni dro ar y "fflu" bris- iau a chyflogau, yr hon sydd yri fwy bygythiol na'r un anianol? Y mae fel tymestl fawr yn chwythu dros for gwareiddiad; ac y mae Hong gwareiddiad weithiau yn nghanol y mor, "yn drallodus gan donau"; a gofyna fwy na Phedr politics i'w lonyddu. Rhaid wrth allu uwch, gallu un all rodio.ar y tonau, a gallu un all godi ei law a'i ddystewi. Y drafferth fawr yn nglyn a'r dym- estl hon yw mai chwantau, a blysiau ac uchelgeision, a nwydau igrea y dymestl ofnadwy, ac ni lonydda y mor, ac ni ddy- stewa y gwynt gyhyd ag y ffyna y chwantau a'r nwydau. Bydd y cwbl yn fethiant hyd nes y delo Cristionogaeth i'r llong. Peth gwael fu ac yw ein Cristionog- aeth, onide? Y mae fel Pedr yn rhodio ar y mor, ac yn suddo! Rhaid fydd i ni gael y wir Gristionogaeth-nid y ffug sydd genym. nid Cristionogaeth pawb a'u serch arnynt eu hunain, eithr Cristionogaeth meddwl yn fwy o'n gil- ydd fydd yn rhaid ei chael!
HYN AC ARALL 0 CHICAGO, ILL.
HYN AC ARALL 0 CHICAGO, ILL. Gan E. A. W. Nos Fawrth, Hydref 28ain, yn 2740 Wilcox St., cartref y Parch. Morris S. Jones, yr hwn a wasanaethai ar yr achlysur, unwyd mewn rhwymyn priod- asol, Mr. J. Richard Evans, Hamlin Ave., a Miss Nora Bunce, Bristol, Lloegr. Ddydd Iau, Tachwedd 6ed, bu y Parch. Morris S. Jones yn Cambria, Wis., yn uno mewn glan briodas, Mr. John D. Jones, Gareg Wen, Columbus, Wis., a Miss Ellen Hughes, Cambria, Wis. Treuliasant ran o'u mis mel yn Chicago, ac arosent o dan gronglwyd glyd y gweinidog a'i deulu. Eto, ddydd Sadwrn, Tacnwedd 15fed, yn ei gartref, gweinyddai y Parch. Mor- ris S. Jones wasanaeth priodasol ar Mr. Julius Arbeck a Miss Emma M. Reins, y ddau o Elgin. Nos Sadwrn, Tachwedd ltaf, agorwyd tymor Cymdeithas Lenyddol Hebron gyda rhaglen chwaethus, o dan arwein- iad Mr. Maurice Griffiths, Van Buren St. (y llywydd am y tymor), yr hwn a draddododd anerchiad fuddiol ac amser- ol yn nghwrs yr hon yr eglurodd am- can y Gymdeitoas, gan estyn gwahodd- iad cynes i bob oedran i ymuno a chyf- Iwyno eu gwahanol dalentau at ei gwas- anaeth er ei gwneyd yn llwyddiant. Cafwyd unawdau gan Miss Olwen Jones, Warren Ave.; Miss Sarah Jones, Wilcox St.; Miss Mary Evans, Sacra- mento Blvd.; unawd ar y berdoneg gan Eluned Evans, Warren Ave.; adroddlad, Miss Louise Jones, Van Buren St., yr oil yn gwneyd eu rhan yn rhagorol. En- illwyd y gwobrwyon yn y ddwy.gystad- leuaeth gan Miss Olwen Jones, War- ren Ave., a Mr. Abner C. Jones, Warren Ave. Cafwyd anerchiad odidog gan y gweinidog. Is-Iywydd y Gymdeithas yw Mr. Llewelyn Jones, Warren Ave.; trys- orydd, Mr. D. R. Jones, Oak Park; a'r ysgrifenydd, Miss Gladys Hughes, Park Ave. Yr un noson, yn nghartref Mr. a Mrs. Daniel Price Jones, 2911 Jackson Blvd., gweinyddwyd priodas brydferth gan y Parch. Morris S. Jones, pan yr unwyd mewn glan briodas y ddeuddyn, Har- ry Roberts, N. Clarke St., a Miss Edith M.. Jones, South Side. Rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei brawd, Mr. Hugh P. Jones, Warren Ave., yr hwn hefyd a wasanaethai ar y priodfab, a gwasanaethwyd ar y briodferch gan Miss Marie Owen, Francisco Ave. Yr oedd nifer o berthynasau » chyfeillion wedi dod yn nghyd i fwynhau yr olygfa ddyddorol a'r wledd oedd yn dylyn. Y nos Fawrth flaenorol i'r amgylch- iad, rhoddwyd cawod amrywiol i'r briod- ferch yn nghartref Miss Mamie Owen, 337 S. Francisco Ave. (y torwyn briod- asol), pan y derbyniodd luaws o anrheg- ion buddiol a gwerthfawr. Yr oedd danteithion blasus wedi eu darpar ar gyfer y gwahoddedigion, ac wedi i bawb gael eu digoni, aethant oil eu ffordd, wedi treulio noson ddifyr ac o fawr fwynhad ganddynt. Nos Sadwrn, Tachwedd 15fed, o dan nawdd Cyfrinfa Iforaidd "Eluned," cyn- aliwyd cyngerdd tra Ilwyddianus yn mhob ystyr. Cafwyd llywydd doeth a medrus yn mherson y Parch. Morris S. Jones, a chymerwyd rhan gan y rhai canlynol: Unawdau gan Miss Mary Wood, Mr. Wm. Davies, Mr. Richard S. Davies, Milwaukee; unawd ar y crwth gan Miss Edith Welch, ac adrodd- iad gan Miss Gladys Geissler. Gwasan- aethwyd wrth y berdoneg gan Dr. Dan- iel Protheroe a Mr. Haydn Owen. Yr oedd y capel yn orlawn, ac yr oedd y gymeradwyaeth uchel roddent i'r rhai a wasanaethai yn amlygiad cywir, ni a gredwn, o'r boddhad a gawsant gan- ddynt. Y mae Cyfrinfa "Eluned" i'w chan- mol am drefnu gwledd mor rhagorol, ac am ei chario allan mor Hwyddianus. Da genym ddeall fod y Gyfrinfa yn ych- wanegu llawer at ei rhif yr wythnosau hyn, a'n dymuniad cywir ydyw ar iddi barhau i Iwyddo a chynyddu'yn y cyf- eiriad hwn. Nos Iau, Tachwedd 13, yn nghartref Mr. a Mrs. James Jones, 4516 Park Ave., cynaliwyd cwrdd synu ar Mr. a Mrs. Harry Roberts, 3008 Jackson Blvd. Yr oedd y trefniadau yn nwylaw dos- barth Mr. R. Trevor Jones, Wilcox St. (athraw), o'r hwn y mae Mrs. Roberts yn aelod yn Ysgol Sabbothol Hebron, ac amcan y cyfarfod ydoedd cyflwyno Beibl teuluaidd yn anrheg iddi ar yr üchlysur o'i phriodas. Yr oedd aelodau ,y dosbarth oil yn bresenol ag eithrio yr athraw, yr hwn yn anffodus a fethodd a chyraedd yno er mawr siomedigaeth i'r cwmni oedd wedi dod yn nghyd; rhai yn wahoddedig y tu allan i gylch y dos- barth. Modd bynag, treuliwyd noson ddifyr drwy gael rhydd ymddyddan, a gwahanol fathau o chwareuon, ac an- erchiad fuddiol a phwrpasol gan y gweinidog yn llongyfarch y cwpl priod- asol, ac yn dymuno yn dda iddynt yn eu bywyd newydd; ac fel hyn y cyfJ archodd eich gohebydd hwynt: Lwc dda i chwi, Harry. A'ch priod hawddgar, lion; Dwy galon weithian unwyd A sel y fodrwy gron; Pch cwrdd na ddeled gofid Na thrallod o un rhyw, Tra law yn llaw yn teithio Eich newydd fyd i fyw. Gan fod yr athraw wedi methTi a bod yn bresenol y noson hon, ail gyfarfydd- wyd yn ei gartref ef y nos Fawrth gan- lynol, a threuliwyd noson arall ddydd- orol, o dan arweiniad Mr. Richard Owen, Oak Park. Cafwyd unawdau gan Mr. James Jones, Park Ave.; Mr. Richard Owen, Oak Park; Miss Florrie Jones. Mewn ychydig eiriau pwrpasol, cyflwynodd Mr. R. Trevor Jones y Beibl yn anrheg i Mrs. Roberts ar ran y dosbarth, a chyflwynodd iddynt ei ddymuniadau da drwy y penillion can- lynol: I'r cwpl ieuanc hyn Boed hir oes ddedwydd braf; Eu serch fo'n dal yn dyn Y gaua' fel yr haf; Tros riniog drws eu hanedd glyd Na ddeued oerion groesau'r byd. Llii o gyfeillion mad Fo iddynt ar bob Haw, Heb elyn llawn o frad I beri iddynt fraw; Cysuron iechyd fyddo'n rhan, A llwyddiant gaffont yn mhob man. Ar ol blynyddau maith 0. rodio ar y llawr, 'Rol cyraedd pen y daith Yn gryf i'r olaf awr, Boed iddynt gael derbyniad lion I gartref gwell na'r ddaear hon. Trwy ymdrech fawr y llwyddodd y gweinidog i fedru pregethu, a hyny yn fyr iawn, foreu Sabboth, Tachwedd 16eg, gan ei fod yn dyoddef oddiwrth anwyd trwm. Aeth ar ei union o'r oedfa i'w wely, ac yno y bu am rai dyddiau. Er yn garcharor yn ei dy o hyd, da gen- ym ddeall ei fod yn graddol wella. Llanwyd ei le yn mhwloud Hebron, Sab- both, Tachwedd 23ain, gan y Parch. Elias Jones, efrydydd yn Ysgol McCor- mick ddaeth yma yn ddiweddar o Vene- docia, Ohio, er cael rhagor o addysg i'w gymwyso ar gyfer gwaith y weinidog- aeth, ac yr ydym yn dymuno ei lwydd- iant yn fawr. Treuliwyd y nos Sabboth blaenorol i ddysgu nifer o donau new- yddion, dan arweiniad Mr. Wm. R. Jones.
INODION 0 WILKES-BARRE, PA._I
I NODION 0 WILKES-BARRE, PA. I Gan Jabez M. Williams Mae y Parch. R. R. Davies wedi dar- fod fel gweinidog eglwys y T. C. yn y lie hwn, a thra yr wyf yn ysgrifenu, mae ar ganol y mor a'i gyfeiriad am Gymru. Deallwyf ei fod wedi cael gal- wad i eglwys Llangeitho. Siomwyd yr eglwys hon yn fawr pan ddeallwyd fod Mr. Davies am ein gadael; pregethwr o'r fath dlysaf, a gallai fod yma am ei oes. Cafodd gyfarfod ymadawol, er fod y tywydd yn hynod anffafriol. Pa beth a wneir eto, nid oes weled- igaeth eglur. Sonia rhai am gael dyn ieuanc, ac eraill, un tipyn mewn oed, ond chwi wyddoch, Mr. Gol., fod hen bregethwyr fel hen bobl eraill wedi myned dipyn yn hen ffasiwn y dyddiau hyn. Dywedai Dr. Daniel Williams, dro yn ol, fod dyn yn ei gyflawn nerth o ran ei feddwl pan rhwng 69 a 70 oed. Nis gwn a yw y Dr. yn iawn ai peidio, ond byddai yn haws genyf gredu ef yn dweyd cyfeiliornad nag ambell un yn dweyd gwirionedd; ond gwn un peth yn brofiadol, sef fod dyn rhwng tri ugain a thri ugain a deg yn well o ran barn a phrofiad nag un cyfnod arall yn ei oes. Felly, peidier a thaflu yr hen weinidogion dros y domen yn rhy fuan, canys mae eu proflad yn fwy o werth na'r byd yn grwn. Mae y Parch. John M. Pritchard, gweinidog yr Annibynwyr, wedi dych- welyd o Ebenezer, Arfon, lie y bu ar ymweliad a'i rieni yr haf diweddaf. Cefais gipolwg arno unwaith. Nid da ei flino ar hyn o bryd, gan ei fod yn lied brysur yn clorianu beirdd Eisteddfod Calan Utica. Mae efe yn ddigon o feirniad, ac nid oes dim perygl am ei anonestrwydd. Neithiwr bu farw y brawd David Parry, un o Geredigion; tebyg yr ys- grifenir eto am dano. Mae Owen Williams, Cae Rhos, Llan- rug, yn lied wael er's tro; hefyd, John Jones (Twt), o ardal Ebenezer, yn lied wael; a thra yr wyf yn ysgrifenu, y mae Mrs. B. R. Jones yn lied wael. Mae Mair Llechid wedi anafu ei braich dde er's tro yn ol, fel nas gall ysgrifenu yn hwylus i'r "Drych." Deallwyf fod y Parch. John R. Wil- liams, Kingston, yn dechreu ar ei waith fel bugail eglwys y T. C., South Wilkes- Barre, y Sabboth cyntaf ar y flwyddyn. Dyma ddyn yn ei gyflawn nerth, ac yn abl i wneyd llawer iawn o ddaioni am flynyddau lawer. Dymunaf ei lwydd- iant yn ei faes newydd. Drwg Igenyf fod y "Drych" yn myned i farw; beth pe bae yn cael pymtheg mlynedd eto fel Hezekiah? Mae yn gwneyd llawer o ddaioni, ac yn sicr o fod yn foddion gras i laweroedd ar was- gar trwy y wlad.
NODION PFRSONOL <
NODION PFRSONOL < Cyhoeddir y darlun hardd o'r nofel- £ ydd enwog, Ben Ames Williams, yn y rhifyn hwn, drwy ganiatad caredig Mr. ] R. T. Davis, Golygydd y "Munsey Magazines." ( Gan fod dau Owen yn Arcade, N. Y., < cyfeiriad O. L. Owens yw East Main St. J Mae y Parch. Edwyn Evans, Chilli- cothe, Ill., wedi derbyn galwad i fugeil- I io eglwys yr Annibynwyr yn Hopkins, ] Minn. ] Rhagfyr 1, 1919, priodwyd Mr. Hum- ] phrey Evans, Delta, Pa., a Miss Ferne Hartsell, Benton Harbor, Mich. Gwein- [ yddwyd ar yr achlysur gan y Parch. W. D. Thomas. Wrth anfon $3 am y "Drych," D. P. Price, Elgin, Ill., a ddywed na all gadw ty heb y "Drych"; ac, yn siwr, ni all yr un Cymro gadw ty ar ei fenthyca. Clywsom am wraig—ond gad awn hi ar hynyna. Bu farw, yn ddiweddar, y Parch. James A. Jones. Genedigol oedd o Fer- thyr Tydfil, D. C. Yn Plymouth, Pa., y dechreuodd bregethu. Bu yn weinidog yn Maine, Plymouth a West Pittston, Pa. Bu ei briod farw tua blwyddyn yn ol. Daeth y cyfansoddiadau canlynol i law ar gyfer Eisteddfod Utica, 1919- 1920:—Traethawd: Gostyngedig, Gwil- ym, A Real Optimist, a Whole-hearted Unionist, loan, Gweledydd Gwerinol yr Amseroedd. Daeth un traethawd i law heb ffugenw, (7). Chwedl:Meirionydd, (1).—Surdival. Yr un yw y teimlad o bob parth o'r wlad, sef y byddai yn drychineb gadael y "Drych" i farw. Cymellwm y Cymry o newydd i dr6i yn Gymry. Bu David W. Thomas, Warren, Ohio, yn talu ymweliad a'i fab yn Missouri, a'i frawd, y Parch. Owen Thomas, a'i briod, yn Fontanelle, Iowa. Cafodd ei foddloni yn fawr yn y Gorllewin. Enfyn J..T. Evans, Minneapolis, Minn., y cywiriad a ganlyn: Dylasai y 3edd linell o'r englyn cyntaf i Hedd Wyn fod yn "Cam ddyffryn a'r cwm ddeffrodd; ac "Aran" yn yr englyn olaf yn lie "Aren." Bob Halfway a ysgrifena o Granville, N. Y., gan sicrhau nad oes perygl i'r "Drych" farw, ond i'r Cymry anfon modd iddo gael cynaliaeth. "Dyna y feddyginiaeth ora," ebe efe. Ofer yw dweyd pethau annymunol ac anwireddus am yr Awdwr a'r Gol. Gwerthodd dwysged o'i lyfrau yn ddi- weddar. Wrth geisio ei ladd, y mae pobl yn ei fywhau! Bydd Eisteddfod ar raddfa eang yn cael ei chynal, Chwefror 21-22, 1920, yn DesMoines, Iowa. Bydd y gwobrwyon yn ymyl $2,000.00. Ni fu y tanwydd erioed mor brin yn y Gorllewin ag y mae y gauaf hwn. Nid oes dim glo mewn llawer o'r trefydd. Cafwyd Eis- teddfod rhagorol yn Albia, Iowa, Ddydd Diolchgarwch, a chynulleidfaoedd llu- osog. Dywedodd hen Gymro wrthym mai diffyg ystyriaeth noeth yw na wnai y Cymry fwy dros lenyddiaeth Gymraeg. Dymuna yr Awdwr gyfiwyno y "Ddau Adda" i sylw Cymdeithas Rydd y Cym- ry, New York Mills. Yr hen batriarch William Jones yn unig a'i cafodd hyd yma! Da iawn oedd genym' 'glywed fod y Parch. Richard Oliver, diweddar Eglwys Goffa Utica, wedi cael galwad i eglwys Wales, Iowa, ac wedi dechreu ar ei waith. Y mae Mr. Oliver fel Paul o faint, ac y mae ysbryd y tadau ynddo. Llwyddiant iddo. Ei gyfeiriad yw Em- erson, la., R. F. D. No. 1. Y Parch W. D. Williams, reithordy, Southington, Conn., a ysgrifena atom i gefnogi y "Drych"; yn ei dderbyn oddi- ar 1871. Pan oedd yn efrydyN^ yn ngholeg Oberlin, Ohio, yn y flwyddyn hono, galwodd yn y Swyddfa, a chafodd gopi o'r "Drych," ac y maent yn ffrynd- lau oddiar hyny. Fel hyn y gofyna R. Evans (Cybi), Llangybi, G. C., i'r Awdwr: "Pa bryd y cydnabyddir chwi fel awdwr?" Daw hyny pan y daw "gwyr mawr" Cymru i weled y "gwahaniaeth" rhwng pethau! Fel hyn y cana am y "Ddau Adda": Y "Ddau Adda," pur ddyddan-yw dy iyir Di lol, gwreiddiol, llydan; Ei wybod am ddyn-faban O'r ddaear i'w euraidd ran. Dyma gyhoeddiadau Cor Glyndwr o Rhagfyr 22 yn mlaen: Rhagfyr 22, Am- terdam, N. Y.; 23, Ilion; 24, Utica; 25, Rome; 26, Oneida; 27, Fulton; 28, Syra- cuse; 29, Auburn; 30, Ithaca; 31, Cort- land. Dymunwn ddiolch i'n hen gyfaill, y Parch. Theophilus Davies, Plains, Pa., am ei gerdyn o ddymuniadau da i Mr. a Mrs. Gol. Yr ydym yn adwaen Mr. Davies oddiar pan y daethom i'r wlad, tua'r un adeg. Y mae Mr. Davies, fel y dymunai yr hen emynydd Jgynt, wedi colli ei olwg ar y byd a'i deganau, ond y mae yn dal yn ngwasanaeth y byd ys- brydol, ac yn gwneyd yr hyn a all. Yr ydym yn dymuno llawer o gysuron iddo yn mhlith ei blant a'i gydnabod. Yr ydym am i'n gohebwyr eto i ys- grifenu ar ddalenau bychain, gan eu bod yn llawer mwy cyfieus i'r cysod- ydd. Meddylier am ddyn bob tro yn ysl- grifenu llythyrau mawrion llydain, rhy lydain i fyned i lawr i'r agen yn y llythyrflwch, ystyrid ef yn o ddisylw. Felly yn union, ufuddhewch er ein mwyn ni yma. Byddwch o wasanaeth i eraill, Y mae pob help i ni yma yn esmwythad. Cawsom ysgrif oddiwrth ein cyfaill, W. R. Davies, Wellston, Ohio, yn hys- bysu marwolaeth Wm. G. Morgan, Day- ton, Ohio, hanes yr hwn a anfonwyd gan R. E. Rees, Columbus, Ohio, hen gyfaill am flynyddoedd i'r hen batriarch. Yr oedd Mr. Morgan yn dal i ysgrifenu hyd y diwedd, ac yn fuan cyhoeddwn ei ysgrif olaf, sef ei hanes yn Talmage, Ohio, cyn ei symudiad i Minersville. Nid yn fynych y gwelir henafgwr 90 oed yn cymeryd y fath ddyddordeb yn y "Drych," ac yn estyn Haw o gymorth. Heddwch i Iwch yr hen Gymro pybyr a ffyddlon. Daeth cais i'r Swyddfa gan Mr. Hum- phrey Grimths ar ran Llyfrfa Ebenezer, Cwmyglo, G. C., yn y flurf o apel at Gymry yr ardal hono sydd ar wasgar y Talaethau, am y "Drych" (tair doler a haner y flwyddyn). A allai yr hogiau wneyd hyny i fyny rhyngddynt? An- oner y tanysgrifiadau i Humphrey Jriffiths, 1301 Seymour Avenue, Utica, q. Y. Os y daw mwy i law, troir yr Lrian ar gyfer blwyddyn arall. Awgrymodd E. O. Roberts mai cyn- lun da fyddai i rai allant, ac y mae niloedd yn ein gwlad a'r moddion gan- Idynt, i ofalu fod rhyw hen Gymro neu jymraes nad yw mor wych arnynt, yn jael y "Drych" yn rhad ac am ddim. Y'r ydym wedi cael Mr.. Roberts yn. ?aredig iawn yn ei gefnogaeth i'r Gym- *aeg a'i llenyddiaeth. Nis gwyddom am neb yn y wlad wedi bod yn fwy caredig. Mrs. B. R. Jones, Wilkes-Barre, Pa., priod y cyn-farnydd, a merch y diwedd- ar Gueddwyson, un o'n gohebwyr gynt, sydd hefyd yn cymeradwyo y cynllun. Bydd yn dda gan Mrs. Jones ofalu fod y "Drych" yn myned yn ddigost i ryw Gymro neu Gymraes. Yr ydym yn ddi- olchgar i Mr. Roberts a Mrs. Jones am eu cynyg da. Un o ddygwyddiadau y flwyddyn hon yn Utica fydd cyngerdd Cor Glyndwr, "y cor meibion goreu yn y byd," medd- ai rhywun. Y mae y sylw a'r ganmol- iaeth ga ar hyd y wlad yn eithriadol, a hawdd yw credu y gwna gampau yn y gelf o ganu. Y mae'r cor yn rhifo 15.- lleisiau eithriadol o ragorol; ac nid yn unig yn lleisiau o ansawdd uwchraddol ar wahan, eithr yn nghyd cynganeddant yn fendigedig. Dyna ddywedir am dan- ynt y mhob man. Lleisiant a symud- ant yn berffaith dan ddysgyblaeth ddi- gyffelyb. Y rhanau dynasant sylw ar- benig eisoes yw "Old Black Joe," a gel- wir am dano yn mhob lie. Ni chiywyd "Gwyr Harlech" erioed fel y'i cehir gan y cor hwn. Ca Sydney Charles sylw neillduol fel unawdydd. Cenir "The Fairy Land of Dreams" fel awel o wlad Hud a Lledrith; a cha John Williams air rhagorol. Darn hynod o heintus yw "The Gypsy's Laughing Chorus," obleg- id a pawb i chwerthin gyda'u gilydd. Y mae ganddynt bigion o bethau mwyaf swynol cerdd, a thai i Utica wrando ar "Dear Little Shamrock." Un o gampau y cor yw ei ddadganiad o "An Italian Salad," yr hyn a ddengys athrylith y cor hwn o Wlad y Gan. Y mae ei un- awdau yn odidog, a'r cor yn berffaith- rwydd cerdd. Y mae y cor hwn yn gyn- rychiolaeth ogoneddus o ddawn canu y Cymro, ac nid oes cor ar wyneb dafcar Duw all ei ddysodli. Ni all neb wneyd gwell anrheg iddo ei hun na phrynu tocyn i fwynhau o'r wledd hon. Un o fechgyn Poultney, Vt., ydyw Mr. Gray Harris, organydd eglwys Ply- mouth yn Worcester, Mass., a dyma. ddywed ar ol mwynhau dau o gyngerdd- au bechgyn y Mountain Ash yn y dref hono: "The Mountain Ash Welsh Male Chorus is without doubt the most illus- trious singing aggregation that Wor- cester people have ever listened to, in the line of male chorus work. Ton- ally, their voices are each splendid, and the ensemble effects are most thrilling. The famous Welsh folk song, "March of the Men of Harlech," typifies most significantly the style and mode of their choruses, and the virile desonants of their minor modes are new and stimula- ting. "The Destruction of Gaza" and "The Martyrs" were two wonderful numbers that seemed in each case to present new vistas of tone color. The swift, decisive attack and dynamic eff- ects of sforzando almost brought the listener to his feet, while the legato movements were like placid waters. One cannot exaggerate the sense of satisfaction that is felt in listening to, these wonderful Welshmen who have come three thousand miles to sing their way into the hearts of the American public, and who, with their simple, straightforward manners, free from the common eccentricities of musical de- portment in professional singers, are winning favors everywhere." -Mae y wasg ddyddiol trwy Efrog Newydd yn dwyn tystiolaethau cryfion fel yr uchod mai cyfres o fuddugoliaethau ydyw ym- daith y cor hwn yn y Talaethau Dwy- reiniol. Cofied Cymry Poultney mai y moddion sicraf i'w mwynhau ydyw gof- alu am sicrhau tocynau yn mlaen llaw, a bod ar law yn brydlon yn ein neuadd drefol nos Lun nesaf.—H. H. P.
Y DDIWEDDAR MRS. HUGH JONES,…
Y DDIWEDDAR MRS. HUGH JONES, RANDOLPH, WIS. Gyda sydynrwydd mawr, bu farw y chwaer anwyl uchod, Tachwedd 19eg. Yr oedd yn nghwmni ei merch, Mrs. R. T. Roberts, ar ei ffordd i'r dref, pan ddechreuodd gwyno gan boen yn ei phen; cymerwyd hi i dy cymydog, ac oddiyno i gartref y ferch, lie y bu farw yn mhen ychydig oriau. Merch ydoedd i John G. a Mary Rob- erts; ganed hi yn Spring Valley, N. Y., Rhagfyr 12, 1846. Pan yn bur ieuanc. symudodd ei rhleni i Wisconsin, g-an ymigartrefu ar y fferm a adwaenir fel "Ffarm Califfornia," yn ardal Blaeny- cae. Yma y treuliodd y rhan fwyaf o'i bywyd. Mehefin 4, 1878, ymbriododd a Mr. Hugh W. Jones. Bu farw Mr. Jones, Chwefror 1, 1917; ac oddiar farwolaeth Mr. Jones, gyda'i hunig ferch, yr hon a enwir uchod, yr oedd Mrs. Jones, yn byw. Yn nyddiau ieuenctyd, yr oedd Mrs. Jones yn aelod ffyddlon gyda'r Wesle- aid yn hen gapel y Llwyn, yn ardal en- wog Proscairon; bu felly, drachefn, am flynyddoedd yn Mlaenycae. Meddyllai yn uchel o'r Ysgol Sabbothol, a bu yn athrawes lwyddianus am hir amser. Credai yn gryf yn nghysegredigrwydd y Sabboth, ac ni fynai er dim lacio yn null ei igadwraeth. Yn mlynyddoedd olaf ei hoes, ni allai bresenoli ei hunan yn y moddion mor ami ag y buasai yn caru, ond mynai i'r teulu fyned, er hyny- Yr oedd yn deyrngarol iawn i'w gwein- idog; hyfryd fyddai egwyl yn ei chwm- ni, a gwrando ar ei gwerthfawrogiad diweniaith o'r weinidogaeth. Claddwyd hi yn nghanol arwyddion o alar a pharch mawr, ddydd Sadwrn, Tachwedd 22 ain. Gweinyddwyd gan ei gweinidog, y Parch. F. Tegfryn Rob- erts, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. John Hammond, Scranton, Pa. Cydymdeimlir yn ddwys a Mrs. R. T. Roberts, yn ogystal a Miss Anna Mae Davies, yr hon a fagwyd ganddi, ae a edrychai i fyny ati fel ei mam. Tad yr amddifaid a'u cysuro yn nydd y brof- edigaeth.-P. T. R.
[No title]
—Ganwyd y diweddar Mr. Brinley Richards, y cerddor enwog, yn Nghaer- fyrddin, or y 13eg o Dachwedd, 1819, a bu farw, Mai 2ail, 1885. Claddwyd ef yn mynwent Brompton, a chanwyd yr hen emyn Cymreig adnabyddus, "0, Fryniau Caersalem," ar lan y bedd gan gor arbenig, yn cael ei gynorthwyo gan Dr. Mary Davies, Mrs. Martha Harris, Mrs. Lizzie Evans, Miss Marian Price, Mr. James Sauvage, ac eraill.