Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

ADGOFION .I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ADGOFION I Gan T. J. I II. I Yr oedd yn Nhreharris yr adeg hono I grynodeb o ddoniau o bob math, yn feirdd, cerddorion a phregethwyr; rhai yn dechreu lledu eu hadenydd, ac eraill wedi hen ymarfer a'r uchel-leoedd mewn can a llen. Yn mhlith blaenoriaid y beirdd oedd Thomas'Drew (Y Dryw), yn overman dan ddaear, ae yn fynych deuai rhai o'i gydfrodyr heibio i'w weled, ac yn eu plith, daeth yr enwog Gurnos Jones, a chan fod y Dryw heb ddyfod i fyny o'r pwll, daeth i gwr parchedig i'r efail lle yr oeddwn yn gweithio, ac heb lawer o ragymadroddi, cydiodd yn yr ordd o'm dwylaw gan ei defnyddio mor gelfydd a'r goreu o hon- om, a rhag iddo niweidio ei ddiliad bre- gethwrol, tynais y ffedog ledr oedd gen- yf o'm blaen, gan ei rhoi am dano, ond o'r braidd y deuai'r llinynau o gylch gwr mor fawr. Digrif yn wir oedd ei weled a'i het silk wedi ei wasgu yn ddyogel am ei ben, ac yntau yn troi yr ordd fel ol- wyn, ac yn taro"r "twlyn" bob tro.. Dy- wedodd iddo, pan yn fachgen, weithio wrth yr eingion i William Gethin, y gof, yn Aberdar, os y cofiiwyf yn iawn, a hawdd oedd credu mai nid yna oedd ei berthynas cyntaf a'r ordd, a chwerthin yn iawn a wnaeth pan dywedais y gall- asai yn awr ymffrostio ei fod wedi bod yn cydweithio a mi yn efail Dreharris. Yn mhlith fy nghyfeillion cynesaf yn Nhreharris, yr oedd y diweddar Mr: Wil. liam Thomas (Ap Adolphus), oedd y pryd hwnw yn cadw shop esgidiau ar Fox Street, a llawer awr difyr a dreul- iwyd yn ei gwmni. Yr oedd yn hoff iawn o farddoniaeth, er nad wyf yn cofio iddo gyfansoddi ond ychydig. Cof- iwyf yn dda ei edmygedd o awdl Dyfed ar "Gariad," buddugol yn Eisteddfod Merthyr ychydig yn flaenorol. Pregeth- ai William hefyd yn dderbyniol iawn; clywais ef droion yn Mherthlwyd. Tipyn o orehest oedd boddloni hen bobl Berthlwyd a "supply" yn adeg gwein- idogaeth Iorwerth Ddu, ond cafodd Wil- liam le eynes yn eu calonau. Cynydd- odd yn ei fasnach ac yn ei barch fel dinasydd, a daeth yn ddyn dylanwadol iawn yn yr eglwys a'r dref. Priododd a Rachel, chwaer Prof. J. Powell Jones, Cleveland, Ohio, a chod- wyd teulu anrhydeddus. Ni chefais y pleser o'i gyfarfod yn ystod y tair gwaith y bum am dro i'r Hen Wlad, gan ei fod oddicartref, ond pleser calon oedd cael "chat" gyda Mrs. Thomas a rhai o'r plant yn eu cartref yn Ael-y- Bryn. Cynaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yn Nhreharris yn y flwyddyn 1881, ar y Llun cyntaf o Awst. Caradog oedd yn beirniadu'r canu, ond ni choflaf pwy oedd yn beirniadu ar y testynau eraill. Ednyfed oedd llywydd y dydd. Dyma y tro diweddaf i mi weled Ednyfed, a phan d'dywedais. wrtho mai mab hen weinidog Llanfrynach oeddwn, rhodQ- odd wasgfa yn iawn i'm Haw, gan ddweyd, "O! 'machgen anwyl, af i wel- ed dy dad boreu fory." Yr oedd fy nhad y pryd hwn yn y Deri, tua chwe milldir o Dreharris. Gwahoddwyd Mr. Harris, yr hwn yn nghyd ag amryw o'i gyfeillion, yn wreng a bonedd, a ddaethant o Lundain i'r Eisteddfod eyntaf iddynt fod ynddi er- ioed, i gymeryd y gadair yn nghyfar- fed y prydnawn; ac er syndod i lawer oedd yno, rhoddodd i ni anerchiad a barodd i rai o'r hen drigolion wrido gan gywilydd o'u hanwybyddiaeth yn nghylch y lie y ganwyd ac a fagwyd amryw o honynt. Dywedodd na fuasai yn cymeryd arno ei hun y gorchwyl o'u hanerch yn nglyn a hanes yr Eistedd- fod, nac ychwaith a phynciau cerddorol, am y rheswm na wyddai am y flaenaf ond yr hyn a welodd ac a glywodd yn6 y diwrnod hwnw; ac am mai o linach yr Hen Grynwyr ydoedd, ni wyddai ond ychydig am gerddoriaeth, oblegid, medd- ai, ni fu'r Crynwyr erioed yn hoff o ganu. Ond, meddai, efallai mai tyidd- iol iddynt fyddai ychydig o hanes yr ysmotyn lie yr oedd rhai o honynt wedi treulio y rhan fwyaf o'u hoes. Yna awd yn mlaen i olrhain hanes yr hen Grynwyr a arferant grynhoi yn yr hen fynwent i gynal eu cyfarfodydd chwarterol a blynyddol. Rhoddodd des- grifiad manwl o'r hen fynwent, fel y bu yn yr hen amser, y meinciau o geryg oedd wrth fon y clawdd o'i gylch tu mewn, ond erbyn hyn yn guddiedig gan dywarch a laswellt. Yn raddol, lledaenodd enwogrwydd y cyfarfodydd hyn, nes i'r amgylchiad ddyfod yn atdynfa i amryw na ddeuent i addoli, ond cyfeirient eu traed tua'r Hen Dafarn y tu arall I'r heol, ac yn nghyfer y fynwent; ac er nad oedd yr ysbryd yn cynyrfu'r Crynwyr nes peri iddynt dori allan mewn can a moliant, yr oedd y "spirits" a werthwyd yn yr Hen Dafarn yn cael effaith tra gwahanol ar y rhai oedd wedi ymgynull yno; ac o herwydd y canu a'r rhialtwch a gad- wyd yno, gorfodwyd y Crynwyr truain I roddi i fyny eu pererindodau i'r hen le gysegredig. Dywedodd Mr. Harris, hefyd, mai o'r gymydogaeth hono y daeth William Penn i'r America; "but," meddai, "we want to make this pen so pleasant for you that you will not wish to leave it." Hen amaethdy y Cefn Fforest, ger Haw, oedd cartref y Lady Fell, chwaer Wil- liam Penn. Yn olynol i anerclfiad Mr. Harris, cafwyd unawd gan un Mr. Dyfais y "Crancio" Awyriaduron. Den gys y darlua, a gymerwyd yn Hendon, ger Llundain, y ddyfais i grancie yr awyrgerbyd heb berygl i'r peir- ianydd a'r awyrlywydd —Copyright Western Newspaper Union Webster, mab un arall o aelodau'r cwm- ni Q Lundain eto. Creodd dipyn 6 ddifyrwch i rai o'r boys pan ymddangosodd ar y llwyfan, ei fenyg kid mewn un llaw a'r copi yn y llaw arall, a'i monocle (spectol un llygeidiog) yn wrthrych peth syndod. Canodd yr hen gan boblogaidd, "The Vicar of Bray" yn y fath fodd nes i ni annghofio ei olwg Llundeinaidd; ac yn wir, pe mewn cystadleuaeth a rhai o'r boys ar yr unawd bariton, buasai yn wrthwynebydd pwysig. Cynaliwyd amryw gyfarfodydd cys- tadleuol yn Nhreharris a'r cylchoedd yn adeg fy arosiad yno, ac yn un o'r rhai hyn, cefais fantais i ddeall fy safle fel unawdwr. Cynaliwyd y cwrdd hwn yn y "long room" a nodwyd, pan gynyg- iwyd gwobrwyon pwysig o swllt i fyny am ganu ac areithio. Y doniol Sien- cyn Howell, Aberdar, oedd y beirniad ar y cyfan, ac yr oedd amryw ymgeiswyr ar yr unawd bass, set yr unawd yn y "Mab Afradlon." Y fi oedd y pedwer- ydd yn y list, a rhoddodd y beirniad ddesgrifiad go ddigrif o ymdrechion pob un a gynygiodd ei wasanaeth, ond yr hyn a ddywedodd am Number 4 oedd: "Yr oedd hwn wrth geisio rhedeg y "slur" yna yn pery i mi feddwl am hen wreigen heb yr un dant yn ei phon yn ceisio cracio cnau Ffrengig." Dyna un rheswm nad ydwyf yn fwy hysbys i'r cyhoedd fel Caruso, McCormack, ac er- aill. Ond nid y basswyr yn unig gafodd ran yn nhafod ffraeth y Golygydd o 'Berdar. Yr oedd yno wr ieuanc wedi gwneyd ei oreu am y wobr ar yr unawd tenor, ond wedi methu. Yna dechreu- odd feio'r ystafell, a'r acoustics, a chant o bethau fel esgusodion am ei fethiant, a diweddwyd trwy haeru ei fod wedi canu y gan hono lawer iawn yn well yn ei gartref nag y'i canodd y noswaith hono; a chyda hyny yr oedd Rowells ar ei draed, a meddai: "'Dyw yna yn newydd yn y byd, fy nghyfaill, fe gana pob hen geiliog ar ei domen ei hun." A'r gwr ieuanc a edrychodd fel "thir- ty cents." Cafwyd llawer iawn o ddifyrwch di- niwed yn y cyfarfodydd hyn, ac mi wn am amryw tu yma i'r Llyn sydd yn cofio yn dda am danynt; ac mae'n sicr genyf fod mwy. o ddaioni wedi deill- iaw o honynt nag y sydd mewn amryw o'r atdyniadau a gynygir i bobl ieuainc yr oes bresenol.

SHELL LAKE, WIS. I

[No title]

HYN A'R LLALL 0 OSHKOSH, WIS.I

[No title]

LLUNDAIN I

CAREDIGRWYDDI

VANCOUVER, B. C. I

rRACINE, WIS. I

Y DIWEDDAR DR. WILLIAM THOMAS…

RICHWOOD, OHIO 1

[No title]

Advertising

CYNGRAIR Y CENEDLOEDD