Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Daeth Awel Lem yr Hydref Daeth awel lem yr Hydref: Dystawodd cor y llwyn; A'r hedydd mwyn ni chwyd i'r nen O'i nyth yn mysg y brwyn. Daeth awel em yr Hydref: Bob blodyn per ei sawr, 'Rol plygu'i ben dan wyll v nos, Ni ddeffry gyda'r wawr. Daeth awel lem yr Hydref I sisial wrth y dail; Dan wrido'n deg, yn wylaidd lu Disgynant bob-yn-ail. Daeth awel lem yr Hydref Tan suo'n mysg y grug; A chanu'n iach mae swynion haf; Y gauaf ganddi ddug. NANCE EVANS. -:0:- Hedd a ThaweJwch Dil o'n hudol ne' ydyw; Neu hanfod y gwynfyd yw; A'n Duw lor, ein Hawdwr hedd Yn for o swyngyfaredd; A'i adloniedol delynau Yn ddifyr hedd i'w fawrhau. Syflyd yr hen was aflan I'w le tost, diwaelod dan; Hilyn o wynias lyn anwn Lygrodd y byd anhyfryd hwn. le'r du Kaiser adgasedd Fu o hyd yn difa hedd; Diafol oedd y dihafal hyll Ali fawr orchest yn for erchyll; Yn hafog a phob rhyw ofid, Ac annuwiol, elynol lid. Ond darniodd Duw y deyrnas, Llawn elfen gwrth gynen, gas; Deifio'r anwn etifedd Sydd for yn dygyfor hedd. Nid rhuthro a swnio sydd, Na gwylio i ladd ein gilydd; Nid briwio, na chlwyfo a chledd, Nac ail lunio celanedd Ond tawelfyd a hawddfyd hedd, Yn eyfuno'r byd cyfanedd. GLAS RHOSYDD, Chicago, 111. Byddwn Ddiolchgar I Am heddwch sy'n teyrnasu; Am Gristionogol wlad; Am gapel, teulu, cartref, Am oriau llawnion, mad; Am wlad yn rhoi trugaredd I holl genedloedd byd; Am gyfaill a chymydog, Diolchwn Dduw o hyd. Am allor wen ein tadau, Am fan yn ymyl Duw; Am obaith fod anwyliaid 0 fewn y nef yn byw; Am lewnion ysguboriau; Am iechyd, golwg, clyw; Am drugareddau fyrddiwn; Diolchwn di, O! Dduw. MORIEN MON, 'Rwy'n Ofni Angeu I Wrth rodio'r dyffryn du, A'i ddwfn gysgodion, Daw oerion ofnau lu I lethu'm calon; O! na chawn fyned trwy Yr afon heb un clwy', A chanu gyda hwy- Fv hen gyfeillion. Daw'r ofnau ataf 'nawr Wrth gofio'r marw; Fe gefna ffryndiau'r llawr Mewn drycin arw; O! na chai'm henaid gwan Un olwg ar y lan Lle'm gwelir yn y man Dros frig y llanw. Tu draw i nos y bedd Mae dydd o wynfyd, A phrofi hyfryd hedd Wnaf yn fy adfyd; Mae Gobaith yna'n byw, Yn heulwen wyneb Duw, Ac nid oes blod'yn gwyw Yn nhir y bywyd. IOAN RHYS. Llanon, Ceredigion. Hedd Wyn I Hedd Wyn dy delyn a dalodd—melus Y moliant a ganodd; Cam ddyffryn a cwm ddeffrodd I werth a bar wrth eu bodd. Daw nodau a gydneidiant—yn swynol Mewn seiniau o foliant; A difyr y dyferant Fuddus si a foddia sant. Yr wyt fyw er i ti fod-yn huno Dan haenau y beddrod; Gwynfa yw'r lie i ganfod; Rhan y dewr yw rhin dy rod. Deg yru gydag arwr-a gefaist Yn gofeb rhywelwr; Angeliaeth efengylwr Y drws i dy dros y dwr.. Hedd Wyn, wyt heddyw wynach—na'r eira'r Neu'r Aran gyfrinach; A'th hedd awel dawelach Na'r huan besg yr wyn bach. J. T. EVANS. -:0:- Efengyl y Cymylau Mae Anian yn llawn dadguddiadau 0 berffaith ogoniant ein Duw; Darlunfa yw'n llawn rhyfeddodau,— Diderfyn bortread i'r byw; Elfenau cuddiedig ddadguddiwyd; Mor gywrain Ei Allu Mawr Ef! Gogoniant ffurfafen amlygwyd Gan Awdwr mor, daear, a nef. Dnw edrych yn eiriol o'r nefoedd: Fe ivyfia yr adar i gyd 1 A 'hedant am nawdd i bellderoedd Rhag niwed yl ereulon ei fryd; Liewvrcha ei wvneb tosturiol Yn Iliwiau'r goleuni yn gain; I'r blodau rhydd dlysni sy'n nefol; Fe baentia y lili'n ddi staen. O'r cwmwl daw bendith' yn dyher, A disgyn. yn esmwyth fel gwlith; A gaPu Duw dyr o'r uchelder Mewn taran a chorwynt i'n plith; Arwvddlun yw'r cwmwl o'r Dwyfol Sy'n dadgan gwir Aberth y Groes; Dadlena fod Crist yn bresenol: Yn arwain-yn nod i bob oes. Mae'r 'cwmwl yn arwydd ddiflanol O'n pechod cyn disgyn i'r bedd; Mewn cwmwl ceir pechod tragwyddol Rydd drwydded i fro'r bythol hedd; Rhaid i ni wrth graffder ysbrydol A chwmp.3wd gwir obaith, a'i lyw, I weled trwy'r níwl eyfnewidiol. Y sylwedd tragwyddol a Duw. Myfyriwn ar bothau gweledig A grewyd gan gariad di draul, Nes peri i ddynion colledig Wel'd harddwch gogoniant yr haul: Cyfiawnder ei Natur ddysgleiria; Cyfeiriad y nod yw byd gwyn; I bawb sydd yn nghysgod Calfaria Mae gobaith er myned fr "glyn." I 1 080 SIENCYN.

I NODION 0 NEW CASTLE, PA.

[No title]

[No title]

COLUMBUS, OHIO

0 WLAD Y GYFLAFANI

Rhyctd i Bob Meddwl ei Fam…