Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Y CAM NESAF I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y CAM NESAF I Gan T. J. Roberts, Yorkville, N. Y. I Nis gwyddom beth fydd y cam nesaf yn ei berthynas a'r telerau heddwch, yn nghyd a'r cynllun i uno cenedloedd a'u gilydd. Mae y ffaith fod y Gydgyngorfa yn Washington yn edrych ar y pethau a nodwyd o safle bpliticaidd yn pery fod cwmwl du yn hofran uwch ben y pre- senol a'r dyfodol yn hanes ein gwlad. Pe buasai gweision ein gwladwriaeth wedi aros uwch ben y pethau pwysfawr hyn, ac edrych arnynt o safbwynt brawdgarwch, cenedlgarwch, cyfiawn- der, rhyddid a gwareiddiad ben baladr y byd, buasai agwedd wahanol ar beth- au y dydd heddyw. Mae rhyw ofn wedi meddianu ein Seneddwyr, nid ofn eu cyd-Seneddwyr, nid ofn talu gwarogaeth i gyfansoddiad eu gwlad, ac nid ofn talu teyrnged o barch i'w deiliaid, ond ofn y cam nesaf. Gwelwn yn hanes y brodyr hyny wrth- odasant gadarnhau y telerau heddwch a'r undeb rhwng-genedlaethol, eu bod yn ofnus ac yn anmharod. Nid oedd- ynt wedi rhoddi yr ystyriaeth briodol i bwysigrwydd y materion hyn; rhodd- asant eu holl alluoedd ar waith i fygu y cwbl, i'w dileu am byth, os yn bosibl. Nid adgasedd at Brydain Fawr, neu wleidyddiaeth bwdr, neu ymgais am bleidlais y Gwyddel a'r Ellmyn, er mor gryf a dylanwadol i rywrai all y pethau hyn fod, nid y pethau hyn sydd yn creu ofn, ond yn hytrach ofn y cam nesaf. Mae hyawdledd dynion fel Borah a Reed ar Iwyfan y Senedd-dy, ac anerch- iadau dynion dysgedig fel Root a George Wharton Pepper, y tu allan i'r Senedd, yn profi tu hwnt i ameuaeth ei bod yn gyfyng arnynt o'r ddeutu, a bod chwant arnynt i ymddatod o herwydd ofn y cam nesaf. Un o ganlyniadau y rhyfel fawr aeth heibio yw dod a chenedloedd y byd yn nes at eu gilydd trwy ryw atdyniad an- weledig, ond sicr, er hyny; yr oedd i raddau wedi gwneyd ei ymddangosiad cyn y rhyfel, ond gwnaeth y rhyfel iddo gyflymu ei gerddediad nes cyraedd i diroedd sylweddoliad. Gwelodd rhai o'r Seneddwyr proffwydol y symudiad yn dod o bell, a thaflasant eu hunain i lawn gwaith o geisio parotoi y bobl ar gyfer ei ddyfodiad, ac i ddysgu iddynt yn hel- aeth am ei ganlyniadau, ac hyny, chwi gofiwch, cyn i'r rhyfel orphen. Yr oedd dosbarth arall o Seneddwyr heb fod yn agos mor gryf a phenderfyn- ol yn gweled y blaidd yn dod, yn eu tyb hwy, ac y buasai yn ysglyfio y cwbl o'i flaen. Dychrynasant hyd farw o'r bron, a dechreuasant lefaru a thafodau gwahanedig, megys o dan, a chawn fod rhai o honynt ddydd a nos yn ceisio pregethu tangnefedd yn wyneb yr ar- gyfwng, ac yn fedrus neillduol yn dal o flaen wynebau y bobl ddinas noddfa rhag dialydd y gwaed. Llygaid oedd iddynt, ond nis gwelsant; yn deall, ond ni ddeallasant; yr oedd arnynt ofn y cam nesaf. Mae yn ameuaeth 1 raddau fod gan ddynion ofn rhyfel; yn wir, mae y byd yn tueddu i hoffi y syniad, llama cenedloedd i ryfel ar fyr rybudd. A" vchvdig yn ol "nad ces dim ag y mae dynion yn ei hoffi yn fwy na lladd eu gilydd." Arall a ddy- wed: "Yr ofn mwyaf yw newyn, ac y mae newyn yn beth i'w ofni yn fwy na. rhyfel; eto i gyd, yr ydym mor ddi ofn o newyn fel nad oes darpariad ar ei gyfer, fel ag a ddarperir ar gyfer rhy-' fel. Pe byddem wedi ein goddiweddyd a newyn du yn ein gwlad, ond odid na fyddai trefniadau a chynlluniau afrifed yn cael eu tynu allan gogyfer a'r am- gylchiadau? Dilys genym y byddai moddion i atal newyn byth mwy yn canlyn y sefyllfa ddifrifol. Bu afiechydon a heintiau yn bethau i'w hofni yn ein gwlad, a gwledydd er- aill yn ogystal, ond erbyn heddyw mae y byd wedi myned rhagddo mewn gwy- bodaeth nes mae y pethau hyn o dan lywodraeth y meddygon penaf. Hedd- yw, mae llawer yn ofni ac yn crynu o herwydd lledaeniad Bolsheficiaeth, ac y mae yn beth i'w ofni, a'i ymlid ddylem allan o'n gwlad ar bob cyfrif, ond nid dyma yr ofn mwyaf. Yr ofn mwyaf yw cymeryd y cam nesaf. Bu ar ddyn- ion gymaint ofn y cam nesaf nes bron rhoddi i farwolaeth ar fyr rybudd un- rhyw un awgrymai y cam. Pwy glyw- odd erioed am ddyn, gafodd ei roddi i farwolaeth am gychwyn rhyfel? Nid oes hanes am unrhyw wlad wedi rhoddi i farwolaeth y rhai a wnaeth- ant ryfel. Cafodd Crist ei roddi i far- wolaeth gan ddynion ag oeddynt wedi dychryn gan swyn athrawiaeth y cam nesaf; y cam o Judasiaeth ac annghred- iniaeth i deyrnas Dduw. Gellir yn hawdd gymwyso yr hyn a gyfeiriwyd ato at y rhai sydd yn wrth- wynebol i'r telerau heddwch a'r undeb rhwng-genedlaethol, eu bod eto ag ofn y cam nesaf. Fe ddylem oil fel Crist- ionogion, fel crefyddwyr, fel deiliaid o'r wlad fawr hon, os y daw y cwestiynau i'w hateb a'u cadarnhau yn derfynol gan y cyhoedd ddydd yr etholiad, ddangos nad oes arnom ofn y cam nesaf, am ein bod yn cydwybodol gredu y byddai i hyny ddod a ni a'r byd yn gyffredinol o afaelion Judasiaeth, gormes a thrais, i ryddid pur dynolryw. Rhyddid, hedd- wch, cyfiawnder a brawdgarwch di- ragrith fyddo yn nodweddiadol o bob cenedl o dan haul.

ABRAHAM LINCOLN A'I ARAETHI…

Y DIWEDDAR THOMAS J. PRITCHARD,…

Advertising

[No title]

Y BARNWR WILLIAM H. THOMAS,…

CASGLIAD Y CAN MIL I

Y DDIWEDDAR MRS. WILLIAM G.…

GAIR 0 CARROLL, NEBR. -1

Y DDIWEDDAR MRS. DANIEL HUGHES,…

EWYLLYSIAD A CHYFRIFOLDEB