Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

NEWYDDION CYMRU *

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

NEWYDDION CYMRU —Mae Ardalydd Bath yn bwriadu gwerthu pedair mil o aceri ar ei ystad yn Sir Amwythig. I —Gadawodd y diweddar Farwnes Cederstrom (Madam Patti). y gantores fydenwog, eiddo gwerth £ 116,337, (net personalty) £ 90,837. —Yn Pwllheli, bu arwerthiant ar ran- au o ystad Arglwydd Penrhyn. Pryn- wyd dwy fferm f-awr gan Gyngor Sirol Caernarfon ar gyfer man-ddaliadau. —Mae'r Parch. Dr. Campbell Morgan yn cartrefu yn awr yn Winon-a Lake, Indiana, a bwriada gynal cynadleddau Beiblaidd yn mhrif ddinasoedd yr Unol Dalaethau yn ystod y gauaf. -Yn ol y papyrau Cymreig, yr oedd elw Eisteddfod Corwen yn ddwy fl.1 o bunau, ond wed'yn, rhaid cofio fod Cor- wen, er mai tref fechan ydyw, yn llawn tan a sel Gymreig-heb hyny, nis gellir Eisteddfod a graen arni yn unlle. —Yn llys ynadon y Wyddgrug, cy- huddwyd Robert Jones, 28 mlwydd o(Al, Pentre Helygain, o saethu ei frawd, Da- vid Jones, Ty Canol, Melin Wynt, Hely- gain, gyda'r bwriad o'i ladd. Traddod- wyd ef i sefyll ei brawf yn y frawdlys. —Bob dydd Iau daw y Prifweinidog i Dy'r Cyffredin i ateb cwestiynau, a cheir nifer lluosog o honynt yn ei aros bob tro. Y mae lluaws o aelodau yn cadw eu cwestiynau hyd y diwrnod hwnw, er mwyn cael atebiad Mr. Lloyd George ei hun arnynt. -Mae'r Athraw W. Rhys Roberts, Ll. D., Prifysgol Leeds, gynt athraw mewn Groeg yn Mhrifysgol Gogledd Cymru, Bangor, wedi ei benodi gan y Prifweinidog ar bwyllgor i chwilio i mewn i'r lie a roddir i "classics" yn nghyfundrefn addysg y wlad. -Da fyddai i b-awb sydd yn meddwl am ymbarotoi ar gyfer arholiad yr Or- sedd am y flwyddyn nesaf, a'r un wed'yn, gychwyn arni ar unwaith. Beallwn fod ami un yn methu a llwyddo o achos oedi cyn cychwyn. Anfoner am bob cyfarwyddiadau at Eifionvdd, Cof- iadur yr Orsedd, Caernarfon. —Mae Beriah Evans, Caernarfon, wedi parotoi Crynodeb Cymraeg rha- gorol o araeth Mr. Lloyd George ar y Cytundeb Heddwch. Gellir cael copiau rhad ond anfon cais i'r "National Publi- cations," 50 Parliament St., London, S. W., —Mae Mr. J. S. Wilkes, boneddwr o Loegr, sydd yn ymwelydd cyson a'r Bermo, wedi cyflwyno ei dy ger y porth- ladd yn y Bermo fel "home of rest" i chwiorydd sydd yn ngwasanaeth y "National Children's Home and Orphan- age," Llundain. —Wrth basio dedfryd ysgafn ar eneth ieuanc oedd yn euog o lofruddio ei phlentyn annghyfreithlawn, yn Mrawd- lys Caerdydd, dywedodd y Barnwr Bail- hache: "Nid oes ond dylanwad Crist ei Hun all eich troi o fod yr eneth ydych wedi bod i fod y ddynes wyt yn obeith- io y byddwch." —Gwelwn fod y llywodraeth wedi an- fon chwech o gyflegrau Germanaidd i Ffestiniog, ac y maent i'w gosod i fyny yn y pare yno. Gobeithio na fydd i'r Ffestiniogiaid eu tanio i gyd ar unwaith, gan y dywedir fod gwlaw mawr a thrwm yn dueddol i ddygwydd ar amgylchiadau felly. —Yn ddiweddar, yn ° y Grand Hotel, Birmingham, bu y "licensed victuallers" yn cael eu cinio a'u cyfarfod blynydd- ol. Yn mysg y gwahoddedigion, yr oedd y Parch. Dr. Russell Wakefield, Esgob Birmingham, ac yn siarad ar v "toast" —"The Licensed Trade." Beth fuasai Dr. Gore yn ei ddweyd, tybed? —Yn Maesteg, cafodd gwraig briod o'r enw Harriet Williams ei saethu i farwolaeth. a honir mai lletywr oedd yr ymosodydd. Dywedir fod y dyn a'i frawd wedi lletya yn y ty er's ugain mlynedd; ac o herwydd gwaeledd iech- yd, yr oedd Mrs: Williams wedi eu rhy- buddio i ymadael. Cafodd y dyn ei an- afu yn ystod ymdrechfa am wn oedd yn ei feddiant, a pha un geisiai ei droi arno ei hun. —Mae Lady Mond, priod Syr Alfred Mond, A. S. dros Fwrdeisdrefi Aber- tawe, wedi rhoi ei bryd ar ddysgu Cym- raeg, a dywedodd mewn cyfarfod cy- hoeddus yn ddiweddar y gobeithiai yn fuan y byddai yn alluog i anerch cyf- arfod yn Gymraeg. Gresyn na buasai mwy o Seison sydd yn byw yn Nghymru yn dylyn esiampl y foneddiges hon. —Mae Mr. W. E. Johnson ("Pussy- foot"), arweinydd yr ymgyrch dros Iwyr ataliad y fasnach feddwol, ychyd- ig yn well. Cofir i efrydwyr yn ddi- weddar ei gamdrin, a niweidio un llygad iddo. Dywedodd wrth ohebydd y dydd o'r blaen fod digon o bobl yn y byd gyda dau lygad, ac na byddai i neb weled colled o herwydd colli ei lygad ef. —Mewn cyfarfod o gigyddion Meirion ac Arfon, penderfynwyd gofyn i Wein- yddiaeth y Bwyd fod y moch yn cael eu graddoli yr un modd a'r gwartheg a'r defaid. Pris y moch ydyw Is. 1hc. y pwys ar eu traed, ond y mae yn wy- byddus erbyn hyn fod llawer mwy yn cael ei dalu er mwyn sicrhau cyflenwad o'%genfaint, ac i osgoi y perygl i'r pryn- wr cefnog i ddisodli yr un cyffredin ei amgylchiadau y gofynir am i'r mochyn gael ei raddio! —Mae'r terfynau yn cael eu graddol symud, a gwawr y mil blynyddoedd yn dechreu tori-o leiaf ar blwyf Llansam- let-oblegid gyda'r Annibynwyr yno y Sul o'r blaen, pregethai y Parch. T. C. Williams, a chyda'r MethQdistiaid ar yr un Sul, y Parch. Tecwyn Evans. —Mae Mr. Vaughan Davies, yr aelod dros Geredigion, wedi gwella digon i fyned i fyny i Dy y Cyffredin. Mae dysgwyliad mawr y gwneir rhywbeth effeithiol yn lied fuan er rhyddhau y sedd hon ag y mae cynifer yn awyddus am gael ei llenwi. Ond rhyfedd fel y mae rhagluniaeth yn siomi dynion. —Yn Ngholeg yr Eglwys yn Llanbedr y mae 110 o efrydwyr, y mwyafrif mawr o honynt yn parotoi ar gyfer y weinidog- aeth, ac yn derbyn cynorthwy gan y llywodraeth. Dywed y Prif-athraw nad oedd wedi cael dim amhawsder i gael gan y gwyr ieuainc aros yn y Coleg am dair blynedd, o Berwydd fod y lly- wodraeth yn estyn cynorthwy iddynt. Profa hyny fod digonedd o rai yn barod i fyned i'r weinidogaeth. Yr anhaws- der yw cael cynorthwy arianol. —Yn mhlith y pethau a arddangosid yn amgueddfa Eisteddfod Corwen yr oedd delw o offeiriad gerfiwyd mewn mynor agos i ddwy fil o flynyddoedd yn ol. Darganfyddwyd y ddelw gan un John Williams wrth chwalu sylfeini hen adeilad yn Nghorwen ugain mlynedd yn ol. Hefyd, dangosid yno fathodyn arian ddyfarnwyd i Edward Jones, "Bardd y Brenin," yn Eisteddfod y Bala yn 1789-gan mlwydd i'r wythnos y cynelid "Gwyl Heddwch" Corwen. Cymro o'r enw Mr. Lloyd John, o Lun- dain. ddaeth ar draws y bathodyn yn un o siopau hen geinion (curiosity shop) y pentref mawr hwnw. —Dywedai un gweinidog yn ddiwedd- ar mai camsyniad yw i weinidogion aros yn rhy hir yn fugeiliaid ar eglwysi, ac fel prawf o'i osodiad, dywedodd mai yr eglwysi oedd wedi cael y gwasan- aeth hwyaf oedd y rhai arafa i godi yn nghydnabyddiaeth y rhai a ofalai am danynt. Nododd amryw engreifftiau, ac nid oes gwadu ar y ffeithiau. Yn sicr, ni ddylai y pethau hyn fod. Y Cyfan yn Dwyll. Yr wythnos o'r blaen, ymddangosodd paragraff yn un o bapyrau wythnosol Aberystwyth yn rhoddi hanes priodas dyn a dynes ieu, ainc o'r cylchoedd hyn. Nid oedd y cyfan ond celwydd noeth, a bron yn ddigon noeth i ddyn i'w adnabod fel celwydd, heb gymorth gwydrau. Ym- ddangosodd gair yr wythnos ddylynol yn yr un papyr yn dadgan gofid am fod y cyhoeddwyr wedi cael eu camarwain, ac yn hysbysu fod yr achos wedi e- roddi mewn dwylaw cymwys, i'w drin yn mhellach. Hydera pob cyfaill i wir- ionedd, ac i urddas y wasg, y gellir dwyn y troseddwr i oleuni, fel y gallo pawb weled pwy yw yr un sydd wedi gwerthu ei hun i wasanaeih mor isel- wael a dirmygedig. Yn sicr, nid oes le i un mor isel, na gronyn o barch iddo, tu yma i ffiniau gwlad y parddu. o MARWOLAETHAU CYMRU Gogledd Abererch-Tachwedd 25, Mrs." Kate Gough, Tyddyn Saethau. Blaenau Ffestiniog—Tachwedd 28, Ed- ward Williams, clochydd, King's Head, Glanypwll. Bala-Tachwedd 27. John Evans, Teg- faen, yn 64 oed.—Tachwedd 26, David Jones, Tegid St., yn 81 oed.—Tach- wedd 21, E. Rowlands, Llanfor, yn 50 oed.—Tachwedd 23, Mrs. Margaret Roberts, Penybont, yn 85 oed. Cae Athraw-Tachwedd 25. Glas Glan- 'rafon, Henry Parry, gynt Waenfawr, yn 73 oed. Caer—Tachwedd 24, yn. 40 oed, R. Wil- liams, unig fab Mrs. Williams, Pen- sarn, Abergele. Caernarfon—Tachwedd 20, Mrs. Appo lonia Jones, Well St., yn 80 oed. Gwytherin-Tachwedd 22, yn 34 oed, Mrs. Winifred O. Jones, Bronhaul. Lianbedrog-Rhagfyr 1, yn 65 oed, Wil- liam Thomas Williams, am 42 mlyn- ell yn ysgolfeistr Penmorfa. Llanberis-Tachwedd 27, John Tre- for Williams, Blaenyddol, yn 56 oed. Llanrwst-Tachwedd 24, E. Hughes, cariwr, yn 60 oed. Pwllheli-Tachwedd 30, Henry Evana, Penmownt, yn 55 oed. Porthmadog-Tachwedd 19, Capt. Lly- welyn Griffith ,Wenallt, Garth, yn 64 oed. Rhosgoch-Tachwedd 26, Pen Patrig, Mrs. John Jones, yn 43 oed. Rhyd-ddu-Tachwedd 19, Hugh Evans, Drwsycoed. Deheudir Aberafon-Tachwedd 18, Cwmafon Rd.. John Jenkins. Caerdydd—Tachwedd 17, yn Ysbyty y Brenin Edward, John Lewis, peirian- vdd.—Tachwedd 22, Coveny St., Ann, priod Wm. Phillips.—Tachwedd 17, Victoria Sq., Elizabeth, gweddw James Richards. Ceinewydd—Tachwedd 16, yn 29 bed, Ryda, merch Capt. a Mrs. David Rees, Park Hill. Glyn-nedd-Tachwedd 23, Ruth, priod J. Stanley Thomas, Stanley House, yn 65 oed. Llanfyrnach—Tachwedd 20, John Owen, Tycoed. Llanilar-Tachwedd 23, yn 71 oed, Mrs. Margaret Parry, Dyffryn Mill. Mardy—Tachwedd 22, Tabitha, priod y Parch. J. Dewi Jones. Merthyr Vale—Tachwedd 17, Cardiff Rd., David Hughes, mab y diweddar David Hughes, Cefn Coed. Penygraig-Jane Thomas, Cross Row, diweddar Ty y-Ferch-Grono, Bargoed. Talybont, Ceredigion—Tachwedd 20, Mrs. Margaret Morgan, Penbonc. Tongwnlais-Ethel,. priod Samuel Tho- mas. Tonypandy-Ann, priod John Davies (Co-op.), Holborn Terrace. Tregaron—Miss Anne Davies, New Lamb, yn 82 oed. Treherbert—Tachwedd 21, Brook St., Sarah, priod Wm. Davies. Tylorstown-Gorphcnaf 25, 1918, Lieut. R. Francis Lewis, mab Mrs. K. M. Lewis, ysgolfeistres. Wiston, Penfro-Tachwedd 15, yn y Cottage, Elizabeth, gweddw y Parch. J. Rees Owen. Ynyslyn Hawthorn-Tachwedd 18, ger Pontypridd, Catherine, gweddw Wm. Williams.

Advertising

IHUMBOLDT PARK, CHICAGO, ILL.

Advertising

I "THE DRYCH" GOES TO$3

Advertising