Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

.Y RHTFELi

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y RHTFEL CWYMP WARSAW-BETH WE DYN* ? Mae'r Germaniaid wedi cymeryd meddiant o Warsaw. Sylwer ar y geiriad, canys y mae yn bwysig. Nid yw yn dweyd, nac yn golygu, fod yna frwydro mawr wedi bod nac yn y dref nac yn ei chyffiniau agos. Profa hyn mai cyntaf o'r ddau beth a nodwyd uchod oedd ym mryd yr Archdduc Nicholas i'w wneud wrth ymladd mor galed yn erbyn Mackensen wedi i hwnnw groesi rheilffordd Cholm. Ennill amser ydoedd yr Archdduc er mwyn, medru symud ei filwyr a'i gyfarpar o Warsaw a'r darn tir onglog y soniwyd am dano, i le mwy diogel. Ymddengys yn dra thebyg y bydd wedi llwyddo i wneuthur hynny cyn y delo yr ysgrif hon i law'r darllenydd. Cyfrifir y cymerai iddo byth- efnos i encilio ei filwyr a'u cyfarpar i'r man pen- odedig. Pan yn ysgrifennu hyn o lith, y mae wythnos o'r pythefnos hynny wedi pasio, a'r Germaniaid, er eu holl ymdrech, yn cael eu dal yn ol. Mae byddin Rwsia wedi encilio o Warsaw, ac ar ei ffordd i ddiogelwch. Pan aeth y Germaniaid i'r ddinas cawsant mai cregyn gwig oedd yn y sach iddynt-dim carcharorion, dim ysbail. Ond er mor foddhaol hynny, rhaid cydnabod mai ergyd trwm i Rwsia ac i ninnau oedd colli Warsaw. Golyga, fel y dywedodd Mr Lloyd George yn yr Eisteddfod, gosod mwy o faich ar ysgwyddau Prydain. Golyga hefyd barhad oes y rhyfel am rai misoedd o leiaf yn hwy nag a fuasai yn debyg o barhau onibai hynny. Ceisiaf ddychwelyd yr wythnos nesaf eto at ganlyniadau posibl cwymp Warsaw. Yn y cyf- amser anogaf y darllenydd i ystyried ac astudio yn ofalus yr hyn a geir yn y paragraff nesaf. YMHA LE Y TERY GERMANI NESAF ? Cwestiwn arall a ofynnir yn ami y dyddiau hyn yw, Ymha le y tery Germani nesaf ? Cwest- iwn sy'n blino llawer yw. Mewn dychymyg gwelsant Warsaw wedi cwympo, a byddin fawr Rwsia wedi cael ei chornelu. lien ei gun end yn ddiniwed, a channoedd o filoedd o filsyj-r Ger- mani yn rhydd i ddod yn ol i'r Gorllewin i rnthro drwy cin byddin ni yn Ffrainc, i feddiannu Calais a'r arfordir, ac oddiyno i ymosod ar longau a glannau Lloegr. Pobl rhwydd eu dyclirynnu gan fwganod o'u creadigaeth hwy eu hunain yw'r bobl hyn. Nodaf yehydig ffeithiau syrnl i symud eu hofnau a'u pryderon. Ceisiodd Germani wneud y rhuthr ym mis Hydref llynedd. Y pryd hwnnw yr oedd gan y Kaiser fwy o nerth mewn dynion a cliyflegrau mewn cymhariaeth i nerth byddinoedd Prydain a Ffrainc nag sydd ganddo yn awr. Os methodd y pryd hwnnw, pa obaith sydd ganddo y llwydda yn awr, pan mae byddinoedd Ffrainc a Phrydain mewn cymhariaeth yn gryfach na'i eiddo ef ? Dyledswydd ac amcan cyntaf pob maeslywydd yw cymeryd rhagofal am y man lie mae'r perygl yn fwyaf. Nid yn Ffrainc y mae hynny ar hyn o bryd. Mae llawer mwy o berygl i Germani o'r Eidal ar hyn o bryd nag sydd iddi yn Ffrainc. Os gweithia byddin yr Eidal ei ffordd ymlaen ychydig eto, bydd y perygl i Germani drwy Awstria yn ddifrifol. Ynfydrwydd fuasai gwas- traffu nerth i ymosod arnom yn Ffrainc, a gadael drws y cefn yn agored i fyddin yr Eidal. Ond mae perygl mwy i Germani na hyd yn oed yr Eidal. Y perygl mwyaf i Germani heddyw yw y Dardanelles. Pe syrthiai Warsaw i ddwylo'r Kaiser yfory, a phe enillem ninnau y Dardanelles trannoeth, byddai ennill Warsaw yn hollol ddifudd iddo. Mae ennill y Dardan- elles yn golygu cwymp Caercystenyn. Pan syrthia Caercystenyn, rhaid i Rwmania a Bwl- garia ymuno a ni. En rhwystro i wneud hynny yw un amcan mawr yr ymosodiad presennol ar Warsaw. Heblaw hynny, bydd ennill y Dar- danelles yn golygu arfogi miliynau eraill milwyr Rwsia yn erbyn Germani. Os ca'r Kaiser fil- wyr yn rhydd i ymosod yn rhvwle heblaw ar Rwsia, tua'r Dardanelles y try ei wyneb gyntaf, ac yna tna'r Eidal, cyn troi at Ffraillc; CVMRY YN Y RHYFEL- Trwy garedigrwydd Golygydd y Darian, papur gweithwyr y De, yn yr hwn yr ymddengys yr ysgrifau hyn ar Gwrs y Rhyfel,' galluogir fi i ddyfynnu a ganlyn o lythyr a dderbyniodd efe oddiwrth filwr Cymreig o faes y gad yn Ffrainc. Mr D. D. Jones yw y milwr hwn mae yn lienor gwych, a chafodd yr anrhydedd o gael ei enwi yn despatch diweddaf Syr John French am y gwaith rhagorol a wnaeth efe yn y rhyfel. Llawenydd mawr i mi yw deall fod yr ysgrifau hyn yn cael eu darllen gyda bias a budd gan filwyr Cymru yn y ffosydd ar y Cyfan- dir, a'u bod yn adlewyrchu teimlad y fyddin yn fwy cywir nag a wna'r papurau dyddiol. Dywed Mr D. D. Jones :—' Mae y fyddin Bryd- einig wedi bod yn ddiwyd yn casglu nerth fel y bo yn barod pan ddaw y dydd Nid gwaith cysurlawn yw darllen papurau Llundain yn ddiweddar. Mae bron yr oil ohonynt yn canu yn y lleddf. Os bydd yna nodyn lion, o faes y gad y daeth fel rheol. Llonder sydd yma heb eithriad, oblegid ni fu ysbryd y fyddin erioed yn uwch. Mae pob milwr ar ei oreu, ac yn teimlo ei fod yn gwneud rhywbeth. Y bobl fwyaf lleddf heddyw yw y rhai hynny gar- tref nad ydynt eto wedi dysgu trin ond un arf —y tafod. Lie bynnag y trown ein llygaid ni welwn ond arwyddion difrod a than, fel pe bai corwynt o'r pydew diwaelod wedi chwythu dinistr dros y lIe Trwy gy- morth y periscope gallwn edrych yn ddiberygl dros ymyl y trench i gyfeiriad y gelyn. Mae miloedd wedi gwneud bywyd y trenches yn fywyd hapus. Clywn ambell fwled yn chwibanu uwch ein pennau, ac ambell i belen ffrwydrol yn rhuo drwy yr awyr. Gwaith unrhywiog a blinedig yw bod ar wyliadwriaeth yn y trenches awr ar ol awr, ddydd a nos. Daw drosom awydd gwybod rhywbeth o helynt y byd mawr agored. Felly mynnwn afael yn y newyddiadur diweddaf a ddaeth i law, a thrown i ogof ddiogel yn ochr y trench i ddarllen Cwrs y Rhyfel gan ———. I Dichon fod eraill heblaw D. D. Jones yn qael cysur a mwynhad yn y ffosydd draw wrth ddar- Ilen yr ysgrifau hyn. Duw a'u hamddiffynno YN Y DARDANELLES. Er mai araf y symudir ymlaen yn y Dardan- elles, dengys y llythyrau preifat a geir oddiyno, yn ogystal a'r adroddiadau swyddogol, fod ein milwyr yno yn cyflawni gorchestion o dan an- fanteision ac anawsterau digymar. Ceir lie i feddwl fod gallu'r gelyn i wrthsefyll cydymos- odiad Ffrainc a Phrydain yno yn gwanhau, a hynny am ddau reswm, sef-- i. Mae ein suddlongau ni ym Mor MarTora, a llynges Rwsia yn y Mor Du, yn ei gwneud yn fwy-fwy anawdd o'r naill ddydd i'r llall i gludo cyfarpar ac adgyfnerthion i fyddin y Twrc sydd yn ein gwrthsefyll. Llwyddodd suddlongau Prydain eto yr wythnos ddiweddaf i ddifetha llawer o gyfarpar Tyrcaidd ar dir a mor. Yr oedd clud-longau Tyrcaidd yn dwyn gynnau mawrion a'u cyfarpar drosodd i Gallipoli o Asia Leiaf: ac er nad oedd ganddynt ond ychydig filltiroedd o fordaith, ymosodwyd arnynt gan suddlongau Prydeinig, a suddwyd hwynt a'u llwythi. Mae llynges Rwsia yn y M6r Du hithau wedi suddo o fewn y pythefnos diweddaf dros gant o glud-longau y Tyrciaid oeddent yn cario cyfarpar i'r fyddin. Dyna un rheswm dros fod Germani yn ymosod mor ffyrnig yn Poland, gan obeithio y geill yn fuan, ar ol rhoi dyrnod i Rwsia, ruthro ar Serbia, a chael llwybr rhydd i gludo milwyr a chyfarpar i gynorthwyo Twrci i'n gwrthsefyll. Rhedegfa yw hi rhyngom ni yn y Dardanelles a'r Germaniaid yn Poland. 2. Gwyddis fod milwyr Twrci wedi blino ar y rhyfel, ac yn awyddus i ildio. Ond rhagwelodd y Kaiser y perygl. Mynnodd osod swyddogion German aidd ar fyddin Twrci, a rhoddwyd gorch- ymyn caeth allan i saethu unrhyw filwr a geisia ddianc o'r frwydr, ac i droi cyflegrau Twrci i danio ar unrhyw adran o unrhyw gatrawd welir am daflu eu harfau i lawr. Enver Pasha yw'r Twrc sydd yn gwneuthur ewyllys y Kaiser yn Llywodareth Twrci a dywedir fod y Kaiser am ei wenud yn Swltan (neu frenin) Twrci yn lie yr etifedd, mab v Swltan, yr hwn sydd am wneud heddwch a Phrydain. YR EIDAI, ETC. Pan ysgrifennir hanes y rhyfel yn llawn ceir gweled fod yr Eidal wedi dangos gwrhydri'hafal i'r goreu o neb a fu'n brwydro. Anawdd yw rhoddi disgrifiad clir o'r hyn sydd wedi ac yn cymeryd lie yno. Cyn dechreu y rhyfel yr oedd y cyffindir rhwng teyrnas yr Eidal ac ymerodr- aeth Awstria gan mwyaf yn wastadedd. Gynt yr oedd y cyffindir yn y mynydd-dir tuhwnt i'r gwastadedd ond meddiannwyd y myuydd- dir hwnnw a rhan o'r gwastadedd flwyddi lawer yn ol adeg rhyfel rhwng y ddwy wlad gan Awstria, fel y meddiannodd Germani Alsace a Lorraine oddiar Ffrianc yn 1870. Wedi medd- iannu'r mynydd-dir hwnnw gwnaeth Awstria nifer o gaerfeydd a chadarnfeydd ynddynt i wrthsefyll unrhyw ymosodiad. Gwelir felly, pan dorrodd y rhyfel hwn, allan mai ar ochr Awstria yn unig y gellid cau a bolltio'r drws. Caffai Awstria ddrws agored i'w byddin hi i ymosod ar yr Eidal, ond drws caeedig wedi ei gloi a'i folltio oedd yn wynebu byddin yr Eidal pan yn ymosod ar Awstria. Ceisio agor y drws hwnnw y mae Cadorno, Maeslywydd yr Eidal, wedi bod yn wneud hyd yn hyn. Ac os ineddylir, nid am un drws, ond am ddwsin ohonynt, ac yn ami ddau neu dri drws ar yr un ffordd fawr, ceir gwell syniad fyth o anawsterau yr Eidal. Gwaith cyntaf Cadorno ar ol gwthio un drws yn agored yw gosod y clo a'r byllt ar ochr yr Eidal yn lie ar ochr Awstria i'r dnvs, fel pan geisia'r Awstriaid a'r Germaniaid yffl- osod ar yr Eidal, y cant hwythau ddrysaii caeedig ac wedi eu bolltio, yn lie drysau agored i'w byddinoedd. Brwydrau i ennill y drysau yn unig a fu brwydrau yr Eidal hyd yn hyn. Brwydrau ofnadwy a fuont. Enillwyd drws ar ol drws. a symudwyd y cloion a'r byllt i'r ochr arall- Pan enillir y drws olaf y bydd byddin yr Eidal yn ei chyfangorff yn rhydd i weithredu lie y mynno. Mae'r dydd yn agoshau. PUM MILIWN WEDI EU LLADD Cyfrifir fod dros bum miliwn wedi cael en lladd yn y rhyfel eisoes—mwy na'u banner y Germaniaid. Awstria a Rwsia yw'r ddau ddi- oddefydd mawr nesaf at Germani. Yna dall Ffrainc a Belgium yna y Twrc wedi liytllly Prydain a'r Eidal. Cyfanrif colledion Prydain yn unig yytua 332,000. O'r rhai hyn lladdwyd tua 58,000 clwyfwyd tua 190,000 ac mae ar goll '—hyiw

0 FRYN I FRYN.I - j