Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
 ?l tj?HYARCHERa? ( IGOIJENRETURNS I ??   GTE-RED ??- ? W& Facsimile of One-Ounce Packet* Archer's Golden Returns TIi* Psrfactton of "pe Tobacco. Ctm.. Swn AWB FIubimb.
UNDEB YR ANNIBYNWYRI ' - CYMREIG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
UNDEB YR ANNIBYNWYR I CYMREIG. ICyfarfodydd Merthyr. B DYDD MERCHER. Cafwyd yr araith werthfawr ganlynol yn y Cyfarfod Cyhoeddus nos Fercher gan. y Parch B. Davies, D.D., Castellnewydcl Emlyn, ar— Y GELYNION 0 FEWN EIN PYRTH. Pe buasai angen am rywbeth i'n hadgofio o sefyllfa druenus llawer o deyrnasoedd heddyw, buasai geiriad y mater yr wyf yn cael yr an- xhydedd o'ch cyfarch arno yn gwneud hynny. Defnyddir y gair pyrth yn anil yn y Beibl, a gan amlf golyga y mynedfeydd i ddinasoedd a amgylchid a chaerau. Ystyrrid y pyrth yn bwysig yno yr ymgyfarfyddai trigolion y ddinas i drin materion gwladol a chymdeithasol, ac yno hefyd yr eisteddai barnwyr i wrando cwyn- ion a phenderfynu materion cyfreithiol. Pan y deuai y gelynion at y pyrth, gorfodid y ddinas i fyw ar ei hadnoddau ei hun ond pan y deuent i'r pyrth, collai y ddinas ei rhyddid. Defnyddir y gair pyrth i osod allan Eglwys Dduw a'i hordinhadau. Pwy bynnag a pha beth bynnag sydd yn wrthwynebol i ddaioni, ystyrrir ef yn elyn i'r Eglwys a phan y byddo y cyfryw yn meddu dylanwad yn Eglwys Dduw a llywodr- aeth ami, y mae wedi dyfod i'r pyrth-i le manteisiol i ddrygu yr Eglwys. Cyfrifa y lie y byddo unrhyw beth ynddo am ei efieithiolrwydd neu ei aneffeithiolrwydd i gyrraedd ei amcan. Mae peth bychan a gwan mewn lie manteisiol yn gwneud mwy o dda neu fwy o ddrwg na pheth mawr a chryf mewn lie anfanteisiol. liAr gyfnodau aflwyddiannus ar yr Eglwys ceir llawer yn gallu penderfynu beth yw yr achos. Un peth yw nodi yr afiechyd, ond peth gwa- hanol ac anhawddach yw ei symud. Y mae yn Eglwys Dduw lawer o feddygon y byddai yr Eglwys yn iachach pe hebddynt. Awgryma y mater hwn beryglon y mae yn hawddach eu henwi na'u symud. Un o'r gelynion sydd yn y pyrth yw, diffyg sylweddoliad o'r cyfrijoldeb sydd ar yr aelwydydd y megir plant arnynt. Yr ydym yn rhwym i'n gilydd-y cryf i'r gwan, y cyfoethog i'r tlawd, a'r gnvybodus i'r anwybodus. Pa le bynnag y mae cyfrifoldeb y mae rhwymedigaethau, ac y mae mwy o berygl i ni eu hanghofio nac anghofio ein hawliau. Ar yr aelwyd y ceir y berthynas agosaf, ac yno y ceir y dyledswyddau pwysicaf. Ni ellir cychwyn yn rhy gynnar na bod yn rhy fanwl wrth hyfforddi y bywyd ieuanc. Ni all yr hwn sydd yn dysgu y milwr i drin ei arfau fod yn rhy ofalus a tnanwl y mae gan y milwr ieuanc i wynebu ar elyn, Ni all yr arweinydd roddi cyfarwyddiadau rhy fanwl i'r rhai sydd yn ei ganlyn ar hyd ffyrdd culion ar lethrau serth y mvnyddoedd uchel. Ni all yr hwn sydd yn cyfarwyddo y teithiwr ei rybuddio yn rhy fanwl o'i beryglon ar y croesffyrdd sydd ar ei lwybr. Ni all rhieni gychwyn yn rhy gynnar ar hyfforddi eu plant yn llwybrau rhinwedd. Un o fendithion mwyaf cenedl yw aelwyd bur, ac un o'i melltithion mwyaf yw aelwyd aflan. Ni ellir disgwyl cenhedlaeth gref mewn rhinwedd ond oddiar aelwydydd ag y mae safon eu moes- oldeb yn uchel. Yr ydym yn diolch am ysgol- feistri yn meddu cymeriad pur yn gystal ag addysg dda ond tra y gallant wneud plant yn fwy gwybodus na'u rhieni, nis gallant eu gwneud yn burach eu harferion na hwy. Gofala y Llyw- odraeth am ddiogelu y bywyd ieuanc rhag caled- waith gormodol yn y llaw-weithfeydd, a gwa- hardda anfon plant i gyrchu diodydd meddwol o dafarnau ond rhaid cael aelwydydd pur i ddysgu moesau ac i roddi syniad i blant am werth geirwiredd, gonestrwydd a rhinweddau eraill a pha le bynnag yr esgeulusir hyn, mae gelyn cenedl, ei moesau a'i chrefydd, o fewn ei phyrth. Rhai eraill o'r gelynion sydd yn y pyrth ydynt syniadau cyfyrtg am ddaioni, barn gul am bawl; a wahaniaethonl oddiwrthym yn eu syn- iadau, ac ysbryd eidd-igeddus. Mae y tri hyn yn un yn eu dylanwad, yn anghydweddol a mawrfrydigrwydd Cristionogaeth, ac yn perthyn yn agosach i'r hen ddyn nag i'r dyn newydd yn yr hwn y mae dau ddyn ynddo. Nid yw gwybodaeth neu anwybodaeth, cyfoeth neu dlodi, yn dweyd llawer yn gymharol am ddyn. Gellir cael athrylith a gwybodaeth ar wahan. Duw sydd yn rhoddi y naill, ond dyn sydd yn casglu y llall yn ol ei fanteision a'i syniad am ei gwerth. Nid yw cyfoeth yn hanfodol i wneud gwir fonheddwr. Gall hwnnw eistedd wrth fwrdd llawn, neu ymddangos mewn diwyg wael a byw mewn ty diaddurn ond y mae syniadau cyfyng, barn gul ac ysbryd eiddigeddus yn hys- bysu y dyn, fel y mae noethni y goedwig yn hysbysu mai y gaeaf yw hi, ac fel y mae symud- iadau y nodwyddau ar wyneb y deial yn hys- bysu y tywydd. Natur unrhyw beth sydd yn rhoddi iddo hawl ar dderbyniad, ac nid ei gy- sylltiadau. Mae y drwgdeimlad a ddanghosir yn ami sydd rhwng yr Eglwys Wladol a'r enwadau, a rhwng yr enwadau a'u gilydd, yn annheilwng o'r Efengyl. Sonnir am undeb rhyngddynt. Rhaid bod wrth benelin ambell un sydd yn ysgrifennu, ac oeri tafod ambell uli. arall cyn y siarada, cyn y ceir undeb gwirion- eddol. Y mae un dyn yn Rhufain a gydnabyddir gan filiynau yn anffaeledig; ond mae llawer un garai gael ei gydnabod felly. Ond y mae cym- deithas yn gwybod gormod am danynt i wneud hynny. Gosodir mwy o bwys ar pwy sydd yn gwneud daioni nag ar y daioni ei hun. Yr oedd y disgyblion gynt yn gwahardd bwrw cythreul- iaid allan am nad oedd yr hwn oedd yn gwneud hynny yn canlyn gyda hwy. Un arall o'r gelynion sydd yn y pyrth yw antJyddlondeb y t?tM sydd yn arddel Cristi'w proffes. Cyfaddefir fod Cristionogaeth yn seil- iedig ar hunanaberth. Y broffes fwyaf a all dyn wneud yw honni ei fod yn cymeryd Crist yn esiampl mewn ysbryd a bywyd. Ffyddlon- deb i'r broffes honno yw y prawf cryfaf o deyrn- garwch dyn i hawliau Crist, ac anffyddlondeb i'r broffes honno yw y prawf cryfaf o ddiffyg cydymdeimlad dyn a'i rwymedigaethau i Grist, i'r Eglwys ac i'r byd. Dadleua yr anffyddlon- iaid mai gwirfoddolrwydd yw egwyddor crefydd Crist ond onid o'i gwirfoddolrwydd y daw ei hapeliadau cryfaf hi am ffyddlondeb ? Onid pa fwyaf caeth y byddo ewyllys dyn i ufudd-dod Crist mai mwyaf rhydd ydyw ? Mae y dyn sydd yn dewis ymfudo i wlad, ar yr un pryd yn dewis rhwymo ei hun i ufuddhau i'w deddfau, talu ei threthoedd, a'i hamddiffyn os bydd galw, ar faes y gwaed. Fe gymerodd y Gwaredwr ofal mawr ï hysbysu y rhai a gynygiasant eu hunain yn ddisgyblion iddo yr amodau yr oeddynt yn myned o danynt wrth ddyfod. Nid yw crefydd dyn i'w barnu wrth rif y cyfar- fodydd y byddo ynddynt, ac nid i'w barnu ar wahan i hynny, os gall fod ynddynt. Rhaid i'r bywyd ysbrydol wrth gynhaliaeth, fel y mae yn rhaid i'r bywyd naturiol wrth hynny ond tra y mae rhai yn difetha yr olaf trwy lythineb, y maent yn difetha y blaenaf trwy newyn. Rhaid cael daear gref os am goed mawrion, a hinsawdd gynnes i addfedu ffrwythau. Gelyn dinistriol i Eglwys Dduw yw diofalwch ei hael- odau am eu rhwymedigaeth i Grist a'r Eglwys. Mae ffyrdd Seion yn galaru, ei phroffwydi yn wylo mewn lleoedd dirgel, ei morwynion yn ofidus, a hithau yn flin arni. Gweddiwn, Dych- wel ni, 0 Arglwydd, a ni a ddycliwelir adnew- ydda ein dyddiau megis cvnt.' Gelyn arall sydd yn y pyrth yw amharod- rwydd aelodau i roddi heibio yr hyn a allant hwy ci havolio. Gosodir ni yn fynych ar brawf gan apeliadau cryfion oddiwrth sefyllfa foesol y byd, megis y gosodir teyrngarwch, gwroldeb a medr y milwr ar brawf gan gyfyngderau presennol ein gwlad. Y dyn annhebycaf i Grist yw yr hwn sydd yn gwneud ei hun yn amcan i'w fywyd ei hun, gan anghofio pawb a phob peth ond ei hawliau a'i fuddiannau ei hun. Yn y dyn hwnnw y ceir y corffoliad cyilawnaf o'r meddwl gwrthgyferbyniol i'r meddwl yma yr hwn oedd hefyd yng Nghrist Iesu.' Nid wrth yr orsedd y mae adnabod dyn, ond wrth yr allor nid wrth ei allu i dderbyn, ond wrth ei barodrwydd i roi. Ceir llawer yn barod i gon- demnio pechod, ond yn amharod i'w wrth- wynebu. Delir ni gan y byd yn gyfrifol am gysondeb rhwng proffes a bywyd. Clywais ddyn yn areithio yn erbyn masnach yr opium, a dyniunai ar y gytiulleidfa i arwyddo deiseb at y Llywodraeth i arfer ei dylanwad yn ei herbyn ond wrth alw yn y ty lie y lletyai yr areithiwr, gwelais ei fod yntau yng ngafael dylanwad arferiad a gynhaliai fasnach a gyf- addefir sydd yn niweidiol i iechyd llawer ac i amgylchiadau pawb. Cofiais y geiriau am y brycheuyn a'r trawst. Dywedir bod 85 y cant o wrywod y deyrnas hon (plant o bob oed) yn ysmygu, ac fe gyfaddefa 80 ohonynt nad oes ei angen arnynt. Apelir atom yn bresennol i roddi heibio yfed diodydd meddwol tra y parhao y rhyfel, ac ategir yr apel gan esiampl y Brenin a'i Lys ond mor anawdd yw gan lawer gyd- ymffurfio a'r cais Pa agosaf i ddyn y byddo ei bechod, diogelaf oil yw ei loches. Gwneir yr apel hwn oherwydd effeithiau y ddiod feddwol ar gysondeb a ffyddlondeb gweithwyr i gyf- lawni eu galwedigaethau. Esgeulusa gweithwyr eu gwaith, ac felly peryglant effeithiolrwydd y llynges a'r fyddin, y rhai sydd yn diogelu y wlad fel nad oes modfedd o'n daear wedi ei hysbeilio, na'n dinasoedd wedi eu hanrheithio, na neb ohonom wedi gorfod. ffoi am nodded eithr yn hytrach wedi gallu rhoi cysgod i'r diamddiffyn. Ond onid oes llawer nad ydynt wedi rhoi ystyriaeth i'r apel hwn ? Diystyr ganddynt les eu teyrnas os cant hwy ddiod feddwol, a dibris ganddynt fywydau meibion a thadau. Mynnant hwy ddiod feddwol pe ym- ddatodai y ddaear a phe syrthiai y nefoedd. Eto honnant eu bod yn ganlynwyr i'r Hwn a adawodd nefoedd am ddaear, newidiodd orsedd am groesbren, a mawl bodau pur am gableddau dynion. Mae y gelyn o fewn ein pyrth. Bu agos i'r bwystfil hwn ddinistrio ein cydwladwr yn ddiweddar pan yn ceisio rhoi bach yn ei ffroen. Plygodd y gwladweinydd, plygodd y Llywodraeth, a phlygodd y deyrnas i'r fasnach feddwol. Mae y gelyn hwn wedi sicrhau iddo ei hun le cadarn yn y pyrth. Mae yr hwn sydd yn ei borthi yn porthi gelyn sydd yn yfed gwaed y deyrnas ac yn torri bedd i'w gorsedd, i'w rhyddid ac i'w hanrhydedd yn naear estron- iaid. Gelyn arall sydd yn y pyrth yw gogwyddiad yr oes at fydolrwydd antClteroliaeth. Gair eang yw y gair byd.' Golyga weithiau fater, bryd arall ysbryd weithiau gyfoeth, bryd arall dlodi weithiau hawddfyd a mwyniant, bryd arall adfyd a dioddefaint weithiau safle o anrhydedd, bryd arall sefyllfa o ddinodedd a gwaradwydd. Ondf er mor fawr yw y byd, y mae yn rhy fach i ddyn er hynny y mae dyn yn ceisio byw arno fel y mae yn byw ynddo. Nid gwir werth pethau sydd yn penderfynu mesur yr ymdrech a wlleir i'w meddu. Cyll rhai eu golwg ar y gwahaniaeth sydd rhwng gwneud peth yn amcan bywyd a'i wneud yn gyfrwng i wasanaethu ar fywyd. Mae gogwydd cryf at fwyniant yn yr oes hon. Am yr hyn a rydd fwynhad y gwaeddir ac y telir yn fwyaf dirwgnach. Mae safleoedd amlwg mewn cymdeithas yn fanteisiol i wneud daioni, a dylai ein cenedl ddiolch i'r dynion da sydd yn ei gwasanaethu. Ond y mae bywyd felly yn gofyn cymeriad cryf. Diogelwch ambell bren yw nad yw yn tyfu yn uchel, a diogelwch ambell long yw nad yw yn myned i'r moroedd pell. Rhaid cael y dynion goreu ar y cynghorau, ond nid yw safle dyn ar gyngor i fod yn bwys- icach yn ei farn na'i berthynas ag Eglwys Dduw. Mae y rhyfel presennol wedi egluro egwyddor- ion llywodraethol ami i un. Manteisir i "gasglu cyfoeth y gellir dweyd am dano mai gwerth gwaed ydyw, ac anwybyddir cyfiawnder. Dat- guddydd ofnadwy yw amser, a thry dyn gyfyng- derau cenedl yn fendithion neu yn felltithion. Mae gogwydd yr oes at fydolrwydd yn un o'r gelynion sydd ym mhyrth y ddinas. Ond er fod y gelynion a nodwyd yn y pyrth, nid ydynt wedi meddiannu y ddinas. Pa fodd y gellir meddiannu dinas a amgylchir a mur o dan, a'r Hollalluog yn ei chanol' ? Mae Eglwys Dduw yn anorchfygadwy—Eglwys brynwyd a gwerth- fawr waed Crist. Mae gwirioneddau hon yn concro cyfeiliornadau pob oes mae tystion hon yn cael eu credu yn llys cydwybod pob cenhedl- aeth ac er llwon gwadwyr a chusanau brad- ychwyr, nijlwydda un offeryn a lunir i'w herbj ii. Coded Duw feibion a fedrant ymddiddan a'r gelynion yn y porth.'