Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

.Marwolaeth Dau Weinidog 0…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Marwolaeth Dau Weinidog 0 STi Gymru. ETI < £ -.1 Nid wyf yn gwybod pa mor ddiddorol ydyw cofnodiad y ddwy farwolaeth a ganlyn i ddar- llenwyr y TYST. Diau fod adnabyddiaeth neu gysylltiadau perthynasol iddynt yng Nghymru. Y cyntaf a nodaf ydyw y Parch R. R. Davies, D.D., Wauseon, Ohio. Bu farw ar y 24ain o Fai, o fewn ychydig wythnosau i fed. yn 70 oed. Ganwyd ef yn Rhymni, Deheudir Cymru, ar y i5fed o Fehefin, 1845. Ymfudodd y teulu i'r Amerig yn 1849. Dechreuodd bregethu ym Mineral Ridge, Ohio. Yr oedd yn Gymro da ac yn ysgolor gwych. Teimlai i ddarllen y gweithiau diweddaraf ym myd gwyddoniaeth, athroniaeth a diwinyddiaeth. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn y pulpud Seisnig. Y lie olaf y bu a gofal eglwys oedd Vergennes, Vermont. Ymneilltuodd o'r weinidogaeth oblegid gwaeledd iechyd. Dioddefodd gystudd blin y misoedd olaf o'i-oes, ond bu jn amyneddgar, a wynebodd y dyfodol yn gwbl hyderus, gan ymorffwys yn dawel yn y gobaith sylfaenedig ar Grist y Gwar- edwr. Y llall ydoedd y Parch T. A. Humphreys, B.D. Bu y brawd ymroddgar hwn farw dydd Gwener, Mehefin 18fed, yn ei gartref yn Oberlin, Ohio, i'r hwn le yr aeth o Taylor—lie yn ymyl dinas-Scranton. Yn Oberlin y mae un o golegau Annibynnol y wlad yma. Cafodd ef ei addysg yno a phan fethodd oblegid afiechyd a chanlyn ymlaen a'i waith fel gweinidog, aeth i'r lie hwn er mantais addysgol ei unig fab, Anthony. Gan- Mr Humphreys yn ardal Gomer, Ohio, ac i'r ardal honno y cludwyd ei weddillion i'w daearu. Pobl o ardal Llanbrynmair oedd ei rieni. Bu ef ar ymweliad a Chymru ychydig flynyddoedd yn ol. Bu trwy yr ardaloedd lie y bu ei rieni byw pan yn ieuanc. Yr oedd yn Gymro rhag- orol, er ei eni yn y wlad hon. Gwasanaethodd nifer o eglwysi Cynireig yn ystod tymor ei wein- idogaeth, yn ogystal a rhai Seisnig. Bu am rai blynyddoedd yn weinidog ar un o'r eglwysi Seis- nig yn Scranton. Pan yng Nghymru yr oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon, a chafodd ei urddo yn fardd, a rhoddwyd iddo yr enw barddol Gomer America.' Difyrrai ei hun wrth ysgrifennu rhyddiaeth a barddoniaeth. Gweithiodd yn galed ymhob cylch, er iddo fethu sylweddoli ei amcanion fel eraill. Cyhoeddodd Esboniad ar Lyfr y Datguddiad, a bu paratoi hwnnw ynghyda gwneud ei waith fel gweinidog a bugail, yn dreth rhy drom ar ei nerth ef. Ymddanghosai yn eithriadol gryf rai blynydd- oedd yn ol, ond gostyngwyd ei nerth ef yn bur effeithiol cyn cyrraedd pen yr yrfa. Gwaeth- ygodd ei olygon hefyd, fel nad oedd yn gallu darllen 11a cherdded rhyw lawer yn ystod y flwyddyu olaf o'i oes. Bu ei briod a'i fab yn bopeth fedrent iddo yn ei waeledd. Cymerwyd rhan yn ei wasauaeth angladdol gan amrai o weinidogion cylclioedd Oberlin a Gomer. Gan- wyd ef Mai 22am, 1852 bu farw Mehefin i8fed, 1915. Cysured yr Arglwydd ei weddw a'i unig fab, yr hwn sydd yn gwneud cynnydd rhagorol yn ei gwrs addysgol yn y Coleg. Scraiitoii, Pa. D. JOKES.

Advertising

Pentraeth, Mon.

Yr Eisteddfod Genedlaethol…