Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CREFYDD YN COLLI TIR.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

CREFYDD YN COLLI TIR. YR ydym wedi derbyn nifer o lythyrau oddiwrth frodyr caredig yn gwerthfawrogi ein sylwadau ar yr Undeb, ac yn ategu yn ddwys ein cwyn fod rhyw ddiffyg pwysig yn bodoli yn rhywle, onide buasem yn fwy byw i'r realities sydd yn gwasgu arnom o bob cyfeiriad, ac yn arbennig yn wynebu yn eofn a gonest y cancr sydd yn ddirgelaidd yn bwyta ein nerth ac yn peri i ni wanychu yn ein rhif yn gyson a rheol- aidd flwyddyn ar ol blwyddyn. Cyhoeddwr un ohonynt heddyw, nid am ei fod yn rhagori ar y lleill, ond am ei fod yn datgan barn bendant ar un peth a dybia yn factor" mawr yn y dirywiad. Pa un bynnag a gytunir an gohebydd ai peidio, ysgrif- enna mewn ysbryd teilwng a difrif, a dyga ei gyfran i'r ymgais i iawn ddeall y sefyllfa. Hawdd yw cwyno a beio a nodi allan ffeithiau trist y peth mawr s ydd eisiau ydyw rhywbeth fo'n gymorth i ni wynebu'r cwestiwn yn ei wahanol agweddau, ac i ddod o hyd i'r ateb iddo. Nid yr un peth yn nhyb pawb sy'n cyfrif am y dirywiad, ond pe ceid pawb i gyfleu ei welediad ei hun o bethau, efallai y caem weledigaeth weddol gyflawn o'n cyflwr, ac y deuid o hyd i'r feddyginiaeth ar ei gyfer. Modd bynnag, ystyriwn ni y ewest- iwn mor bwysig fel y gwahoddwn ein dar- llenwyr i'w wyntyllu yn dawel a dwys yn ein colofnau, gan ddisgwyl bendith y Meistr Ei Hun ar y drafodaeth. Ond rhaid iddi fod yn ysbryd yr Efengyl, ac heb air nac awgrym chwerw na phersonol. Ac mae hynny yn hollol bosibl, a bod yn onest a di-dderbyn-wyneb yr un pryd. Boed hysbys ar y dechreu nad ydym ni, er yn bryderus, yn wan ein gobaith. Yr ydym yn oreuafol liollol ein hysbryd ynglyn a'r holl fater, er y credwn fod yn rhaid wrth rhyw ysgytwad i'n deffroi i weled ein cyflwr a'n cylle. Credem un- waith y buasai y rhyfel erchyll presennol yn gwneud y gymwynas lion a iii ond hyd yn hyn nid yw wedi llwyddo ond yn rhannol iawn. Hepian i ormod graddau yr ydym eto, er fod argoel delfro 311 cyn- hyddu i rai cyfeiriadau. Ond er yn oreuafol, nis gallwn roi fawr pwys ar ystyriaethau tri chysurwr prysur sydd, i'n tyb ni, mor. arwynebol a diddal a chyfeillion Job gynt. (1) Un ydyw'r gwr sydd yn ail-adrodd byth a beunydd mai Duw bia'r achos, ac y gofala Ef aindano. Defnyddia ddarnau o adnodau fel estrys i guddio'i ben yn- ddynt, gan ddywedyd mai anghenraid yw dyfod rhwystrau,' ac mai pan adeil- ado'r Arglwydd Seion y gwelir Ef yn Fi ogoniant,' &c. Yn fynych iawn dywed hyn heb blygu i godi bricsen i'w rhoi yn yr adeilad, ac yn wir fel math o esgusawd dros beidio gwneud. Un peryglus yw'r crefyddwr hyawdl ar adnodau sy'n torri bylchau iddo ef i ddianc rhag gwneud na chyfrannu na gweddio nac addysgu nac yn wir fynychu lxyd yn oed odfeuon y cysegr. Mae Duw yn rhoi arnom yr anrhydedd o fod yn gydweithwyr ag Ef, ac nid cyd-deithwyr diog ar gefn Ei addewid. (2) Mwy peryglus na hwn o lawer yw'r un a dyn ei gysur o rhyw deimlad anelwig fod crefydd yn llwyddo er i'r Eglwys fethu. Hen dric y gelyn yw hwn, ac mae yn gryn ffrind a'r wasg, a dengys ei big ynddi yn barhaus. Dilorna'r Eglwys er mwyn crefydd Wrth gwrs, gwirionedd mawr a chysurlawn yw fod ysbryd yr Efengyl yn lefeinio cymdeithas, ac yn araf effeithio ar feddylgarwch y byd. Ond y foment y palla crefydd gyfluniedig fel y ceir hi mewn Eglwys, buan y derfydd am y lefain hwn hefyd. Mae Germani yn enghraifft frawychus o hyn. Mae'r Eglwys yno wedi gwywo a marw i raddau pell, ac mae'r effaith i'w weled yn y diwylliant dieflig sy'n gwneud uffern o Flanders a pharthau o Ffrainc a Rwsia. (3) Ond efallai mai'r un rnwyaf niweid- iol a plausible o'r tri yw'r brawd ddywed byth a hefyd fod ansawdd yn well na nifer -quality yn well na quantity-ac fod yn rhaid chwynnu a theneuo'r Eglwys er mwyn llesoli a gwella'r crop. Pe mai llei- hau y buasai'r Eglwys oherwydd grym a glendid ei bywyd ysbrydol, ac am fod ei disgyblaeth a'i sancteiddrwydd yn ei gwneud yn lie rhy lan i bobl anedifeiriol ac anianol ac aflan i aros ynddi, buasai nerth a chysur yn y ddadl hon. Ond ai felly y mae mewn gwirionedd ? A ydyw disgyblaeth yn cael ei gweinyddu a'i pharchu, hyd yn oed ynglyn a'r pulpud ? Ai nid trai ydyw ar fywyd ysbrydol yr eglwysi, a'r byd a'i bethau yn cael llawer gormod o le ynddynt ? Ai nid y gwyn gyffredinol ydyw mai bas ac eiddil yw'r bywyd uchaf yn ein plith ? Na, ofer yw cau ein llygaid i'r ffaith mai'r byd a phechod sy'n chwynnu'r Eglwys ac yn gwneud hafog o'i rhif a'i nerth, ac nid gofal yr Eglwys am ansawdd a dyfnder ei duwioldeb a'i hysbrydolrwydd ei hun. Ni bu erioed yn haws i fod yn aelod ac aros yn aelod, beth bynnag fo'r bywyd, nag ydyw heddyw, ac eto lleihau ac edwino wna'r Eglwys fel sefydliad gwel- edig a dylanwadol. A chyn byth y gwel y ffordd allan o'r gors a'r malaria sy'n ei difa, ei gweddi gyntaf raid fod am wared- iad o afaelion cant o bob math. __9 -<I -11. Nid ydym neddyw am wneud dim amgen na galw sylw at y sefyllfa, gan addo dod at y mater eto, wedi derbyn ohonom farn a theimlad ein harweinwyr a'u gohebwyr arno. Ond nis gallwn adael hydyn oed y mynegiad cyntaf hwn o'r broblem heb ychwanegu dau neu dri sylw' all ein cynorthwyo i gymryd golwg res- ymol a theg ar bethau, er dued yr ym- ddanghosant ar hvn o brvd. (1) Mae'r ffeithiau yn anwadadwy. Mae rhif aelodau yr Eglwys a'r Ysgol Sul yn lleihau yn flynyddol ymho b partho Gymru. Mae'r ardaloedd gwledig, sefydlog, yn dioddef lawn cymain t a' r ardaloedd gweith- faol a'r trefi. Mae'r parthau Cymreig yn dirywio fel y rhai Seisnig. Mae pob math ar gyfarfod ac odfa grefyddol wythnosol a Sabothol yn lleihau, a'r blaenaf mewn llawer lie ar fin diddim. Mae teuluoedd crefyddol yn lleihau, a'r plant yn mynd i rywle ac i unlle, a hen gartrefi duwiol am genedlaethau yn cael eu colli i grefydd ac i'r Enwad. Mae sel enwadol a chref- yddol yn darfod yn gyflym, a phobl yn dylifo i cinemas a phob ysbwrial tebyg, hyd yn oed ar adeg o ryfel. Mae bri ar bopeth ond ar grefydd, er fod miloedd lawer o ffyddloniaid selog yn dal yn dyn wrth yr arch, ac yn dyrchafu eu dwylaw yn y cysegr yn y nos. Mae ystadegaeth a phrofiad yn dynodi'r ffeithiau tuhwnt i ddadl. (2) Mae'r cyflwr yn un cyffredinol ac nid yn un enwadol. Efallai nad yw ein Henwad ni cynddrwg a rhai o'r enwadau eraill, ond mae yn ddigon difrifol i beri i bawb o garedigion Crist yn ein mysg ni i feddwl ac ystyried gyda dwyster mawr. Tybed fod holl eglwysi'r tir wedi bod yn anffyddlon i'w cenhadaeth fawr ? A ydyw Duw am ein gwasgu a'n trallodi er mwyn i ni ddysgu'r wers sydd dan y cwbl ? Modd bynnag, y ffordd oreu i wynebu'r mater yw i bob enwad lanhau o flaen ei ddrws ei hun. Dechreu gartref pia hi efo'r mater hwn, yn sicr. (3) Mae'r broblem yn un tawr, gymhlethog ac aml-ochrog iawn. Nid problem semi, ac un achos iddi, ydyw. Ofnwn fod yr achosion yn llu, a rhaid cymryd yr oil i ystyriaeth. Gall fod Iesu arall' yn cael ei bregethu fel yr awgryma ein go- hebydd, ond nid yw hyn yn cyfrif am yr holl ddirywiad, canys mae yn fynych i'w weled lie mae Efengyl bur, gynnes, gyflawn, uniongred yn cael ei phregethu gyda nerth ac arddeliad mawr. Er hynny, buddiol fyddai i bob un ddod a'i loffyn ei hun i'r ydlan caem felly olwg weddol eang, gwmpasog, gywir ar y crop o res- ymau sy'n cyfrif am y sefyllfa oil. Yn sicr mae ein cyfrifoldeb i'r Pen Mawr, i'r amserau yr ydym yn byw ynddynt, i'r sefyllfa sy'n ein haros wedi'r elo y rhyfel heibio, i'n tadau dewr frwydr- asant drosom, i'r Achos Mawr ymddiriedir i'n gofal, ac i'r oes a ddel sy'n ein prysur wthio dros yr erchwyn—mae'r holl ystyr- iaethau rnawrion hyn yn galw yn uchel arnom i wynebu'r ddyledswydd a orffwys arnom gyda phryder, craffter, gwroldeb a gweddi—ie, a chyda pherffaith hyder a sicrwydd y bydd i'r Meistr Ei Hun ddod allan i gyflawni Ei holl addewidion, ond i ni wneud ein rhan. Yr Eisteddfod. CAFWYD Eisteddfod dda ar y cyfan-well ar lawer y sty r-nag yr of nid. Daeth lliaws ynghyd, ae yr oedd cryn lynd ar bethau, er yr ofnwn mai colled ariannol fydd. Tri pheth barodd argralf ddofn arnom ar ol bod yn yr awyr- gylch a gadael i bopeth waddodi ychydig yn ein meddwl. j

Advertising

AT EIN 60HEBWYR. I -I