Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Maendy, ger Pontfaen.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Maendy, ger Pontfaen. Y Parch T. T. Jones.-Blin gennym ddeall nad yw cyflwr iechyd Mr Jones, yr hwn sydd ar dalar chwarter canrif o lafur diwyd yma, yn foddhaol; ac er adennill ei nerth, mae ei eglwys wedi gorchymyn iddo gymeryd seibiant nes daw adnewyddiad llwyr i'w ran. Ac yn ol arfer ei bobl, nid eu gait yw Ewch,' ond Cymerwch,' canys y nos Sul y gollyngwyd ef, yn ddidrwst, casglwyd yn agos i again punt i dalu ei dreuliau pan yn chwi!io am adgyfaerth- iad. Dengys hyn anwyldeb yr eglwys at ei bugail. Goreu un atyna oreu arall. Hwyl dda, frawd hoff. D. W.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
You Can Rely on Clarke's Bn Pills as a You Can Rely on Safe and Sure Remedy, in either Sex, for all Acquired or Contistituonal Dis- charges from Urinary Organs, Gravel, Pains in the Back and kindred complaints. Over 50 Year's Success. Of all Cbemists, rt 1 1 ? 4/6 per box, or sent direct, post Clarke's free, for Sixty Penny Stamps by  P "II the Proprietors—The Lincoln & HZ,L, I ? rH?i I IQ Midland Counties Drug Co.,   ? *?'? Ltd., Linooln, (SBEBFBOMiraBOUBT^
TALWRN, GER GWRECSAM.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TALWRN, GER GWRECSAM. Claddedigaeth Mrs O. J. Owens.—Prydnawn dydd Mawrth, Gorffennaf 27ain, ym mynwenty Wern, Minera, claddwyd gweddillion Mrs Mary Owens, priod y Parch O. J. Owens, Talwrn, gweinidog Ebenezer, Rhos. Daeth torf fawr i hebrwng ei gweddillion i dy ei hir gartref. Anodd yw sylweddoli fod y chwaer annwyl wedi ein gadael gan mot ddisymwth y cymerwyd hi ymaith. Daeth yr alwad mor sydyn nes peri y cyffro mwyaf drwy y gymdog- aeth. Yr oedd yr ymadawedig yn un o'r cymeriadau disgleiriaf a phrydferthaf yn ein hardal, a bydd yr ardal yn dlotach o'i cholli. Bydd ei symudiad yn golled fawr i eglwys Ebenezer, lie yr ymdaflai â'i holl egni i bob adran o waith yr achos, yr hwn oedd mor agos at ei chalon. Chwith fydd gweled ei sedd yn w&g, a cholli y wen siriol ddawnsiai bob amser ar ei hwynebpryd, ac a roddai ryw ysbrydiaeth newydd ym mynwesau gweision yr Arglwydd wrth geisio pregethu. Teimlir coHed anadfer- adwy ar ei hoi ar yr aelwyd gartref fel priod ffyddlawn a chywir, ac fel mam dyner a gofalus. Diau y bydd y Talwrn yn le dieithr i lawer wedi ei hymadawiad, oherwydd gosodai arbenigrwydd mawr ar fod pawb a elent yno yn cael eu gwneud yn gysurus bob amser. Un nodwedd amlwg iawn yn ei chymeriad ydoedd ei distawrwydd a'i hysbryd dirwgnach, a byddai hi yn wastad yn barod i wrando cwyn- ion pawb, ac i leddfn angen lie y gallai. Erys dylanwad ei bywyd glin yn berarogl hyfryd yn y cartref, yr eglwys a'r gymdogaeth. Nawdd y Nef a fyddo droa y teulu yn y brofedigaeth chwerw ag sydd wedi eu goddiweddyd. Cynhaliwyd gwasanaeth yn y ty o dan arwein- iad y Parch R. Roberts, Rhostyllen, a chymer- wyd rhan ynddo gan y Parchn E. Williams, Pandy'rcapel, a T. Roberts, Wyddgrug. Wedi cyrraedd y Wern, cynhaliwyd gwasanaeth yn y capel, pryd y cymerwyd rhan gan y Parchn J. Howells, Mynydd Seion; T. E. Thomas, Coedpoeth; Dr Peter Price, Rhos; T. P. Davies, Liscard; E Mitchell, Ponciau; D. R. Williams, Fflint; a J. P. Gough, Rhos. Ar lan y bedd gwasanaethwyd gan y Parchn H. Parry, Rhosymedre, a W. B. Jones, Penycae. Wedi hynny canodd y dorf 'Bydd myrdd o ryfedd- odau.' Y prif alarwyr oeddynt—Parch O. J. Owens (priod); Mri B. J. Owens, O. J. Owens a W. D. Owens (meibion); Misses E. S. Owens a S. M. Owens (merched); Mr a Mrs Henry Davies, Pa ntyrhebog Farm, Hibriad; Mr Ben Davies, Sychbant; Mr David Davies, Tir Fforest; Mr Jeremy Davies, Gilfforest; Mr B. H. Davies, Sychbant (chwiorydd a brodyr-yng- nghyfraith o Ddeheudir Cymru); Parch J. G. Owen, Soar, a Mr W. Owen, Plasybont, Caer- narfon (brodyr-yng-nghyfraith); Mr a Mrs R. Williams, Glan'rafon, Caernarfon (brawd yng- nghyfraith a chwaer). Anfonwyd blodeudyrch hardd gan aelodau eglwys Ebenezer, ac eraill. Yr oedd holl drefniadau yr angladd yng ngofal swyddogion yr eglwys a Mr Pritchard, under- taker, Rhos. Derbyniodd y teulu galarns nifer fawr o lythyrau oddiwrth bersonau ymhell ag agos, ac oddiwrth eglwys Ebenezer, Rhos, eglwysi y cylch, ac eglwys Soar, Penboyr, Caerfyrddin, hen eglwys yr ymadawedig. W. W.
SEION, CAERAU, MAESTEG. !
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
SEION, CAERAU, MAESTEG. CYFARFODYDD JIWBILI. Dycldiau o orfoleddu yn hanes yr eglwys uchod oedd Gorffennaf 25ain a'r 26ain. Dathlodd trwy wyl bregethu daliad Hwyr ei dyled. Yr oedd ym mryd yr eglwys i glirio ei dyled yn 1912, ond gorfodwyd hi gan streic y glowyr i ohirio yr ymdrech. Wynebodd y flwyddyn 1915 gyda phenderfyniad i'w gwneud yn hynod yn ei hanes. Yr oedd yn aros o'r ddyled y swm o £ 225 Mae Gorffennaf 25ain a'r 26ain yn tystio fod y penderfyniad wedi ei gario allan. Gwahoddwyd i bregethu i'r wyl ddau frawd oeddynt yn agoriad y capel, sef y Parchn J. Towyn Jones, A S., a W. R. Bowen, Carmel, Maes teg. Gwasanaethwyd bore Sal gan y Parch Towyn Jones. Ei destyn oedd 2 Crorl. xxix. 35, 36, a phregethodd yn rhagoroi ar 'Ddeffroad Ysbrydol. Pregothwyd yn odfa y prydnawn gan y Parch W. R. Bowen. Dewis- odd yn destyn 2 Bren. it 14, a'i fafcer oedd Neilltuolion Duw Elias.' Dechreuwyd odfa yr hwyr gan Mr Stephen Jones. Mr Towyn Jones oedd y pregethwr. Ei destyn oedd Let. vi. 13, a thraethodd ar Dan anniffodd yr a)lor.' Yr oedd yr odfa nesaf am 4 o'r gloch dydd Llun, yn yr hon y rhwygwyd arwyddion caoth- iwed ac y canwyd clychau rhyddid. Llywydd- wyd gan y gweinidog, y Parch D. Bryniog Thomas. Awd trwy y rhannau arweiniol gan Mr John Edmunds, un o ddiaconiaid y Dyffryn y fam-eglwys. Wedi canu emyn a chael ychydig eiriau gan y eadeirydd, galwyd. ar Ysgrifennydd yr eglwys, Mr S. R. Maddock, ysgolfeistr y Caerau, i roi hanes yr eglwys. Yr oedd yn amlwg fod yr ysgrifennydd wedi llafurio yn galed. Dilynodd yn fanwl hanes yr eglwys o'r cychwyn cyntaf i lawr hyd adeg y Jiwbili. Nis gallwn obeithio am le i'r papur rhagorol i gyd, ond nodwn rai o'r prif bwynt- iau. Cangen o eglwys y Dyffryn, Spelters, yw Seion. Wedi suddo pyllau glo y Caerau cynyddodd poblogaeth than uchaf y cwm mor gyflytn fel y teimlodd brodyr da y Dyffryn y dylid trefau ar gyfer y cynnydd. Sicrhawyd darn o dir ar ystad Goytrahen, a dechreuwyd adeiladu ysgoldy yn Ebrill, 1893 Agorwyd yr ysgoldy Awst 13eg, 1893. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch IW. Jones, Tynewydd, Cwmogwy. Costiodd tua P,330 Yn faan wedi yr agoriad penderfynwyd sefydlu eglwys yno, a chorfforwyd hi Hydref 15fed, 1893. Gollyng- wyd pymtheg o'r Dyffryn trwy lythyrau, ac nid oes yn aros yn Seion heddyw ond chwech o'r pymtheg: Ann Hopkin a William Hopkin, Blaencaerau (gweddw a mab y diweddar Barch W. Hopkin, Cymer); Mary Thomas, Bryn- hyfryd; Naomi Davies; William Morris a Gwenllian Morris, Caerau-road. Gweinyddwyd ar achlysur y corfforiad gan y Parch John Morris. Gwelir fod y llwyddyu 1893 yn un a mynd eithriadol yn hanes Seion Codi ysgoldy, ei agor a chorffori eglwys-yr oil o fewn chwe mis. Mae mynd wedi nodweddu yr eglwys oddiar hynny. Aeth yr ysgoldy yn rhy fychan yn fuan. Teimlwyd angen addoidy eangach, ac yn 1897 gosodwyd meini syifaen capel Seion i lawr, ac agorwyd ef Ebrili 24ain a'r 25ain a'r pump noson dilynol, 1898. Gwasanaethwyd gan y Parchn Dr Lewis Probert, Pentro; D. Rees, Rock; J A. Roberts, Nantymoet; J. Hughes, Blaengarw; J. Towyn Jones, Cwm- aman; W. Morgans, Resolven; L. Davies, Trewilliam; T. G. Jenkyn Llwynypia; E. Davies, Abercynffig; Oscar Owen, Penybont; Evans, Caerau; E. Davies, Cymer J E. Edmunds, Hirwaun a Gfawys Jones, Aberdar. Cafwyd agoriad ardderchog yn ol tystiolaeth y rhai oedd yno Costiodd y capel tua £ 1,860. Cynllunwyr y capel oedd Mri Griffith a Jones, Tonypandy, a'r adeiladwyv oedd Mri Ratray a Jenkius, Pontycymer. Bu y Parch John Morris yn gofalu am y Dyffryn a Seion hyd Medi 4ydd, 1898 Rhoddodd ofal y Dyffryn i fyny, a chyf yngodd ei wasanaeth i Seion. Cyfeiriodd yr ysgrifennydd at y Diwygiad yn Seion yn 1904-05, a'r arsser hyfryd gafwyd. Blwyddlyn drist i'r eglwys oedd 1906 Yn honno y coUodd ei hannwyl weinidog, y Parch John Morris. Wedi dychwelyd o Resolven, He y bu yn claddu un o'r aoiosi tU) bu farw yn ddlsytitwfch yn y gadair nos Sadwrn, Rhagfyr laf. Mawr oedd galar yr eglwys ar ei of. Efe oedd ei gwein- idog cyntaf, a bu yn weinidog da a ffyddlawa i lesu Grist. Ei goffadwriaeth sydd fendigedig. Yn niwedd 1908 rhoddodd yr eglwys alwad i'r Parch D. Bryniog Thomas, Abercynon, i ddyfod i'w bugeilio yn yr Arglwydd Dechreuodd ar ei weiniiogaeth y Sul cyntaf yn 1909, a sef- ydlwyd ef Chwefror 8fed y flwyddyn honno, Gwasanaethwyd gan y Parchn T Bryn Thomas, Ferndale; D. Morris, Llangynwyd; a J Evans, Bryn Llanelli. Mae Mr Thomas erbvn hyn wedi treulio chwo biynedd a banner yn Seion, a bu gwenau yr Arglwydd yn amlwg iawn ar hyd yr amser. Yn 1910 dechreuwyd Ysgol Sabothol ym Mlaencaerau, a chodwyd ysgoldy Gosen yno. Agorwyd Gosen Chwefror 12fed, 1911, a gwasanaethwyd gan y Parch T. Thomas, Taibach. Cynheiir ya Gosen Ysgol Sabothol, Gobeithlu, a chyfarfodydd yn y gaeaf ar nos Sul. nhifl; aelodau yr Ysgol Sul yn Gosen 169. Yr ydys eisoes wedi rhoddi deheulaw cym- deithas yr eglwys i rai ohonynt. Cerrir y gwaith ymlaen yno gan wirfoddolwyr o Seion. Costiodd yr ysgoldy £ 105 1513. Yn 1910 rnab- wysiadodd yr eglwys y Liestri Cymundeb Unigol, a thystia pawb fod y cyfnewidiad yn welliant mawr. Oodwyd pedwar pregethwr gan yr eglwys, sef y Parch J Caerau Rees, D.D Brynberian, dan weinidogaeth Mr Morris y Parch D Hughson Jones, Berea a Rehoboth, Ponfro; JJieut Rhys Hupkin Morris, B.A., R. W. Fus. (mab y Parch John Morris); a Mr Stephen Jones, Caeran-y tri hyn dan weinidog- aeth Mr Thomas. Mae gan yr eglwys feddwl uchel o'r padwar. FF BIT HI AD FMGYRGL AM YK EGLWYS. Rhif yr aclodau ar gychwyuiadyr achos. 15 Rhif yr aelodau pan agorwyd y capel. 91 Rhif yr aelodau pan fa farw Mr Morris. 325 Rhif yr aelodau pan sefydlwyd Mr Thomas 307 Rhif yr aeloclau yn bresennol 372 £ s. c. Gwerth yr ysgoldy cyntaf 333 0 0 Dyled yn aros ar yr ysgoldy pan agorwyd y capel 95 0 0 Cyianwerth y capel 1763 0 0 Swm y ddyled pan agorwyd y capel 1858 5 7 Cyfanwerth Gosen 105 15 0 Adgyweiriadau, dodrefn newydd a diweddar i'r nwy a liestri Cymun- deb 121 7 4 Gwerth yr eiddo yn bresennol 2085 7 11 Cyfanswm casgiiadau yr eglwys o'r agoriad yn 1898 hyd Mehefin, 1915 7557 16 113. Casglwyd y flwyddyn hon o Ionawr hyd ddiwedd Mehefin 375 10 2 Cyfartaledd bob mis 62 0 0 Cyfeiriodd yr ysgrifenuydd wrth derfynu at agwedd lewyrchus yr eglwys yn bresennol. Mwynhaodd y gynulleidfa gref y papur rhagoroi. Haedda yr ysgrifennydd ddiolch pawb, Cafwyd gair ymhellach gan y brodyr William Hopkin, Blaencaerau, a William MorrIs--dau o'r pymtheg cyntaf—a Jenkin Thomas, diacou hynaf yr eglwys Siaradodd y brodyr hyn eu calon pan ddywedent mor dda ganddynt fod y ddyled y buont hwy yn help i fyned iddi wedi ei llwyr dalu. Cododd y Cadeirydd yn awr Ar bonds olaf yn ei law; a tbra yn caumol y swyddogion am eu cyriiiorthwy dibrin a'r holl eglwys am ei diwyd- rwydd a'i charedigrwydd dibail, torrodd bapurau gleision y ddeddf yn ddarnau mân, a chyhoeddodd yr' eglwys yn Seion am y tro cyntat yn ei hanes yn rhydd o ddyled. Yna siaradodd Mr Lewis Davies, Cymer Parchn J. Towyn Jones T J Hughes (B) ac R. S. Hughes (W), Caerau; J. T. Parry, W. R. Bowen, a Ben Davies (S), Maesteg. Gorffennwyd y cyfsufod diddorai hWil trwy weddi gan y Parch D D-tvies. Llangynwyd, Deuv/v d ynghyd etc am7o'r gloch. Dechreu- wyd gan y Parch J. Burog Jooes (U.M.), Caerau. Pregethodd y Parch Towyn Jones ar Dystysgrifau yr Eglwys (Act iv. 13). Er fod y ddyled ariannol wedi ei thalu, nid bwrhtd So ion yw ymfoddloni a.r ei gorffennol. Na; mae ganddi raglon yn barod i'r dyfodol, a phau ddistawa y raagrtelau bydd hithau yn wynebu anturiaeth bwysig eto. Hir y c> tie yr odfeuon hyn. Credwn y caiff yr Iesu ogoniant newydd yn yr ardal drwydd- ynt mewn achablaeth rhai o'r newydd i fywyd tragwyddoi
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
SARZINE' BLOOD MIXTURE. CBOEiS TACH A GWAEn PTTB.—T)yi»» yr hyn y mae iarzine Blood Mixture yn ei sierhau, a dim arall. Kid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee patent a ond os blmir chwi gan groen aliach, ysia, pimpies. toriad allan Scurvy, doluriau, pend dynod, &c-, yn tarddu o waed drwg ac anmhur, mynwch, botelaid o I SarzinE. Blood Mixture gan y Druggist neaaf atoch, Is lie a 2s 6c y botel, nen gyda 3c at y cludiad yn ychwanegol, oddiwrth y erchenog, HUGH DAVIES, CHEMIST, MA OHYNLLKTH