Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

.0 FRYN I FRYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 FRYN I FRYN. Lliaws o Dduwia,, a dim un Eglwys, neu, 'Crefydd yn Colli Tir.' HYN a welsom, sef u 'Lliaws o dduwiau, heb yr un eglwys,' rywdro yno yn rhyw- le. A bid sicr, am Groeg oedd y beirn- iad hwn yn son. A pha wlad o hyd fel Groeg ? Gwlad awen ac eilun, gwlad celf a chwedl ydyw hon. Erys yn ir ac yn dirf yn llenyddiaeth a barddoniaeth a chelfau cain holl wledydd deallus y byd. Da gen- nym gwrdd ag enw'r Groegwr, fel yr Iddew, yn y Testament Newydd. Ac mae cam a sang y Groegwr, nid yn unig ar faes cerflunwyr a beirdd ac atlironwyr, ond gyda hynny ceir ei 61 a'i olwg yn nelfrydau a siarad pobl gyffredin, ac yn newyddiaduron poblogaidd gwlad. Ac eto darllenasom am Roeg-' Many gods, and no church.' A sut yr oedd hyn yn bosbil ? Ar un olwg, mae medr a phoblogrwydd yn y Celfau Cain yn arweiniad i grefydd ac i eglwys. A dylasai fod felly yn wir, gan y dylasai ceinder arwain i ysbrydol- rwydd. Gwelwn yr ysbrydol yn y cain ond, ysywaeth, gellir bod yn gain heb fod yn ysbrydol. Nid oes geinder uwch na cheinder crefydd, ac am hynny géill, a dylai, eglwys fod yn batrwn o ddestlus- rwydd a dillynedd ond mae'n bosibl ei gweld lie bo pobl ddi-awen a di-ras yn hagr ac yn hyll, nes ei bod yn wrthwyn- ebus i bobl o chwaeth at drefn a phurdeb. Ewyllysiwn gredu fod Groeg, er heb eglwys, yn meddu ar grefydd. The Greek imagin- ation touches the gates of truth, and mounts to the very throne of God,' meddai un o'n cydwladwyr llengar a galluog. Ceir crefydd, weithiau mewn honiadaeth ac, wrth gwrs, wedyn mewn proffes ac mae'r broffes honno, fel pren afalau yn ei irddail a'i flodau, yn cael ei ddiwreiddio yn yr ystorm-ond ceidw ei ddail yn hir ac yn ir a deilia fwy a blodeua ychwaneg eto pren diwraidd ydyw o hyn allan, a chrino yw ei ran. Yn y blaen ac ar y wyneb I mae Duw a da ambell ddyn a chenedl, tra mae arall sydd yn ei ymyl a'i Dduw a'i dda o'r golwg yn y gwraidd. Y mae irder yn ei wreiddyn ac mae rhuddyn yn ei foncyff, a chryfhant heb ei fod ef yn deall hynny yn iawn. Hynny a welwn yng Nghroeg. Nis gallwn feddwl am dani heb ei Duw, a meddiant o'i Duw a hynny oedd yr achlysur o'i haml-dduwiau a bodolaeth ei haml-dduwiau a gyfrifai am No church.' Yr oedd crefydd Groeg yn ei chwedlon- laeth ac yn ei hawen, sef crefydd yn dad- lenu ei hun i Dduw, dyn, dioddef a byd arall. Gweledigaethau o'r niwl geid felly yn hen wlad Groeg, sef o dduwdod, dyn- dod, dirprwyaeth ac anfarwoldeb. An- eglur ac amhenodol oeddynt, ac o'r an- eglurder hwn y caed liosogrwydd o dduw- iau. Buasai un eglwys yn amhosibl gyda'r fath dorf o dduwiau. Rhaid wrth un Duw os am un eglwys. Pan yn darllen y TYST yn yr wythnosau hyn, aiff ein meddwl ar ei union at Many gods, and no church' wrth sylwi ar GREFYDD YN COLLI TIR.' Ceisiwn ddal on blaen, neu yn gywirach, erys on blaen, y tri gair—' crefydd,' 'colli,' a thir.' Ein ymholiadau yn eu hwvneb yw, Beth yw crefydd ? Beth yw ei thir ? A faint yw'r gwahaniaeth rhwng y grefydd a'r tir ? A beth gyll crefydd os cyll y tir yma ? Ni ddywedir fod yr Eglwys yn colli tir, ond dywedir fod crefydd yn colli tir. Rhydd hyn olwg mwy difrifol ar y sefyllfa, oblegid mwy yw crefydd nag Eglwys, a haws gweled a deall am golled- ion Eglwys nag am golledion crefydd. A oes y fath beth yn bod a chrefydd yn colli tir ? Ac os oes, pa dir a golla ? Rhaid ei bod yn colli moddion gras,' a llenydd- iaeth grefyddol, a moesoldeb, a duwioldeb, a Christionogaeth, a Iesu Grist a Duw. Yn y wedd hon mae ei cholled yn ofnadwy iawn. Y mae'r olygfa yn frawychus, oblegid haws gennym feddwl am grefydd yn hunaii-golledig na'i bod hi yn aros ac yn colli y ffeithiau a'r sylweddau tra- gwyddol hyn. Wrth ddarllen ysgrif ein Golygydd effro a gwerthfawr yn y TYST, canfyddwn y caniata yr ysgrif, ffordd bynnag am ei hawdwr, i ni gymeryd y gair eglwys am y gair crefydd,' oblegid sonia (i) am y rhai a edrydd mai Duw bia'r achos, ac y gofala Ef am dano (2) fod crefydd yn llwyddo er i'r Eglwys fethu (3) fod ansawdd yn well na nifer, ac fod yn rhaid teneuo'r Eglwys i wella'r c?o?. Y mae'r tri gosodiad hyn yn wir, ac arweimant ni i'r goleuni. Yr un wedd gymerir yn y Sunday School Chronicle mewn tabl ystadegol am fynych- wyr yr Ysgol Sul yn Lloegr a Chymru. Rhoddir yr ychwanegiad mewn blwyddyn i lawr yn 9,641, a'r lleihad yn 67,847. Y mae'r lleihad yn saith waith cymaint a'r mwyhad, a chynddrwg a hynny yw dar- llen fod bron y cwbl o'r lliosogiad yn cael ei wneud i fyny gan ddau ddosbarth, sef Byddin yr Iachawdwriaeth a Chenhadaeth Dinas Elundain. Rhydd yr ystadegydd hwn ei reswm dros y gwaethygiadau hyn o ddau gyfeiriad, sef oddiwrth y rhyfel, yr Eglwys, yr Ysgol Sul ei hun, a'r car- tref ac yn ail, oddiwrth bleserdeithiau diwedd wythnos, y cinema, llacrwydd cyn- hyddol at hen sefydliadau crefyddol, cyf- arfodydd eraill nad ydynt yn uniongyrchol nac yn fwriadol wedi eu trefnu er mwyn crefydd, yn cael eu cynnal ar y Sabothau, ac amheurwydd ac aflerwch yr Ysgol Sul yn ei haddysgwaith. J'r cyfeiriadau hyn y rhed llawer o'r siarad yn y dyddiau hyn. Arhosir gyda'r Ysgol Sul, a cherddir yn wvnebdrist o gylch yr EgIwys. ac ysgydwir pen mewn emyn a mawl ac mewn llith a siarad. Credwn yn llwyr eiriau ein cyfaill Mr Gol. pan ddywed Boed hysbys ar y dechreu nad ydym ni, er yn bryderus, yn wan ein gobaith. Yr ydym yn oreuafol hollol ein hysbryd.' Gwyddom fod hyn yn reit wir am dano, a gwyddom mai o ryw fath o besimistiaeth ykeeir y math uchaf o oreu- afiaeth. (Ar bob cyfrif dealled y darllen- ydd y gair hwn yn oreuafol ac nid yn or-euafol.') Yr argraff sydd ar ein meddwl yw fod gwahaniaeth mawr rhwng y ddau air hyn. A gawn ni feddwl a dweyd taw o braidd mae yn ddoeth ac yn deg, ar hyn o bryd, i son am ennill a cholli mewn crefydd eglwysig ? A phe buasai yr adeg bresennol yn adeg i wneud hynny, nid mor hawdd ag y meddylid fuasai yr ym-- gymeriad. Dyweder a fynner, nis gellir esgyn yn rhyw uchel iawn mewn crefydd ar adeg fel hon. A dweyd y lleiaf, nis gellir codi yn uwch na chrefydd rhyfel. Y mae y fath beth yn bod a chrefydd rhyfel-ac efallai ein bod yn gweld hynny yn awr ac os yn ei weld, ni a gredwn y gosodiad hwn. Gwelwn y rhyfel, a gwelwn grefydd yn y rhyfel, a gwelwn fod mwy o'r rhyfel yn y grefydd nag sydd o grefydd yn y rhyfel. Nid yw y rhyfel yn llai cref- yddol am hyn. Ei chrefydd aeth a Phryd- ain i ryfel, a'i chrefydd sydd yn ei chadw yn y rhyfel, a'i chrefydd ddaw a hi o'r rhyfel. Eto boddlonwn i'r dywediad fod mwy o'r rhyfel yn y golwg nag sydd o'n crefydd. Pa ryfedd ? Y mae ein dynion ieuainc a rhai hyn wrth yr ugeiniau o filoedd yn y rhyfel. Pobl ieuainc oedd y rhai hyn safent yn anrhydeddus a gwan- wynol yn yr Ysgol Sul a'r Eglwys. Gyda y rhai hyn mae cannoedd o filoedd o dadau a mamau, a brodyr a chwiorydd, a phlant by chain, a chyfeillion a chyfeillesau, bob dydd yn y rhyfel. Felly mae pob gweddi yn rhyfel-weddi. Egyr y Beibl i'r preg- ethwyr lie bo hen feysycld rhyfel. Rhyfel sydd yn yr emyn a'r profiad. Gan mai adeg fel hyn ydyw yn awr, a chan fod ein teyrnas yn y glorian heb gyd-ymegniad ofnadwy, onid ychydig yn fyrbwyll ac annheg yw son am grefydd yn colli tir,' sef yn colli tir yn yr EgIwys a'r Ysgol Sul ? Mentrwn ddweyd mai nid yn yr Ysgol Sul a'r Eglwys, yn rhif eu haelodau ac yn eu ffyddlondeb i'r moddion,' mae edrych allan am Iwyddiant crefydd yn y dyddiau hyn, ond i'r rhyfel. Beth am grefydd y rhyfel ? Beth am yr Eglwys yn y rhyfel ? Wele adeg a chyf- rwng eithriadol o bwysig i roi barn am safle a nerth crefydd yn y wlad ond wrth ei chyfyngu i Ysgol Sul ac Eglwys collir y cyfle a chamweddir y llwyddiant. Yn sicr, nis gellir cwyno ar grefydd yn y