Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

DAFYDD CADWALADR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DAFYDD CADWALADR. Y mae yr uchod yn enw a chymeriad a nodir yn yr hen ysgrif-lyfr a gefais gan Mrs Luke, Stamford, swydd Lancaster. Y mae ei hanes yn adnabyddus iawn i'r Methodistiaid Calfinaidd. Cyfododd i sylw yn yr ail oes o'u pregethwyr hwynt, yn sir Feirionydd, a dechreuodd breg- ethu vn ei sir enedigol cyn sefydliad yr Ysgol Sabothol, a chyn bod yr un addoldy rheolaidd gan y Methodistiaid yn yr holl sir, oddieithr yn y Bala a Phenrhyndeudraeth. Daeth i fod yn un o'r pregethwyr mwyaf adnabyddus yn ei dymor, a pharhaodd felly am fwy na hanner can mlynedd. Un hynod oedd o ran ei ddull o bregethu, yn swn ei lais, ac ystumiau ei gorff, fel nad allai a'i clywodd unwaith ei anghofio mwyach. Bu yn ddefnyddiol yn ei ddydd i ddeffroi llawer o rai diofal ynghylch pethau enaid a byd arall. Ei rieni oeddynt Cadwaladr a Chathrin Dafydd, Erw Ddinmael, plwyf Llangwm. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1752. Yr oedd llawer o dywyllwch crefyddol yng Nghymru yr adeg honno, ac ycb- ydig o dir enillasai y Methodistiaid: Cyffredin eu hamgylchiadau oedd rhieni Dafydd Cadwaladr ac ni cliatocict ete lanteision dysg yn ei tebj-cl. Ni fu ddiwrnod erioed mewn ysgol ddyddiol. Br hynny dysgodd ddarllen, ac mewn ffordd na ddysgodd neb arall, o bosibl, Cynorthwyai ei frawd i fugeilio defaid a thrwy gael gwybod y pyg (tar) lythrennau ar y defaid, daeth i wybod eu henwau, ac yn raddol i fedru sillebu a dar- llen. Nid oedd ei rieni yn grefyddol, ond elent i eglwys y plwyf unwaith y mis-o ran defod. Uto gwnaed argraffiadau crefyddol yn fore ar feddwl Dafydd. Yr hyn a fu yn foddion i ddeffroi meddyliau crefyddol ynddo oedd ystorm o fellt a tharanau un noson. Daeth ei fam i'r ystafell lie cysgai, a syrthiodd ar ei gliniau, gan wylo mewn dychryn ac adrodd y pader a'r gredo, gan waeddi am drugaredd, oherwydd credai fod diw- edd y byd wedi dyfod. Arswydodd yntau, a dyna pryd y dysgodd y pader a'r gredo. Pan aeth yr ystorm heibio, distawodd ei fam ond parhaodd Dafydd am rai wythnosau wedi hynny i ymneilltuo a gweddio am drugaredd, nes y barnodd ei gymdogion ei fod wedi colli ar ei synhwyrau. Gorfodwyd ef i roddi hynny heibio trwy i'w dad fygwth ei fflangellu. Aeth allan i wasanaethu cymydog pan yn I I mlwydd oed. Buan yr hudwyd ef gan gyfoedion digrefydd i arferion ysgafn a lh-gredig, ond blinid ef ar amserau gan ddychrynfeydd ofnadwy pan wrtho ei hun ac yn y nos. Daeth Y Bardd Cwsg a Taith y Pererin i'w ddwylaw, ac effeithiasant yn ddwfn ar ei feddwl. Trysorai cynhwysiad y ddau yn ei gof, a myfyriai arnynt. Arferai teuluoedd yr ardal gyrchu i dai eu gilydd hwyrnos gaeaf i adrodd chwedlau a cherddi, ond gwnaeth Dafydd Cadwaladr adrodd iddynt gyn- hwysiad y ddau lyfr uchod. Profodd hynny yn effeithiol i newid eu chwaeth a theithi eu medd- yliau, a chafodd yntau ganiatad gan ei feistres i fyned i fannau a lleoedd eraill i adrodd cyn- hwysiad y ddau lyfr, sef helyntion Cristion yn' Nhaith y Pererin a gweledigaeth uffern yn Y Bardd Cwsg.' Bu y peth yn ddeffroad i'r ardalwyr, a bu galw parhaus am wasanaeth y llanc cofus a siaradus. Ychydig iawn oedd o foddion crefyddol yn y wlad, ac ofnid ddigio yr offeiriaid a'r Eglwyswyr. Yr oedd y Methodistiaid yn gweithio yn ddistaw a dirgelaidd, a chadwent gyfarfodydd ymddi- ddanion ysbrydol. Yr oedd Dafydd Cadwaladr tua 15 mlwydd oed pan y daeth i wybod am yr odfeuon ac y clywodd am y Seiat a'i diben. Ni buasai mewn un cwrdd crefyddol ond yn y Llan. Pan y daeth i wybod am y Seiat a'i diben, trwy gyfrwng merch ieuanc grefyddol, bu y peth ar ei feddwl. Pan 311 19 mlwydd oed aeth i fwynhau modclion gras gyda'r Methodistiaid yn y Bala. Ymaelododd yn eu mysg, a glynodd wrth yr enwad trwy ei oes. Pan yn 28 mlwydd oed y gwnaeth cynnyg ar bregethu, a bu ddwy flynedd cyn gwneud ail gynnyg. Pregethodd efe a chyfaill iddo yn Llan- gwm a Cherryg-y-Drtiidion ar Saboth wedi hynny —ond siomedig iawn ei brofiad y teimlai Dafydd am yr odfa, a chollodd ffydd yn ei alluoedd ei hun. Cafwyd ganddo wneud ail gynnyg wedi hynny yn Llandrillo a Llanarmon, pryd y cafodd fwy o rwyddineb, a tnagodd wroldeb i fyned ylaen. Ymhen dau fis wedyn aeth i gym- deithasfa yn y Deheudir, a phenodwyd ef i breg- ethu yno eithr teimlai mor ofnus fel na ddaeth i'r golwg hyd onid oedd yn bryd myned i gysgu. Treuliodd yr holl nos mewn ymdrech gyda Duw am y fendith, ac wedi hynny cafodd ei nerthu fel Jacob gynt, ac aeth iriiilaeli mwyach yn ddi" bryder a diofn. Trannoeth gosodwyd ef i breg- I ethu yn y Gymdeithasfa, a nerthwyd ef oddi- uchod, a choronwyd ei weinidogaeth ag ardderch- owgrwydd anarferol. Disgynnodd y genadwri ar y gwrandawyr gyda nerth anorchfygol, nes yr oedd y cwrdd yn debyg i'r Pentecost yn Jeru- salem, a'r lliaws gwrandawyr mewn dwysbigiadau yn gwaeddi—' Beth a wnawn ni ? Torrodd Dafydd Cadwaladr allan yn fath o Boanerges. Trysorasai fwy o'r Ysgrythyrau yn ei gof nag odid neb wyddis am dano. Cyfrifid am hyn gan y rhai wyddent fwyaf am dano trwy y ffaith i sjaiiad ddyfod i feddyliau pobl fod y Pabyddion yn debyg o oruchafiaeth ym Mhryd- ain, ac yr ameldifedid y bobl o'r Ysgrythyrau a phenderfynodd Dafydd eu trysori yn ei gof fel y byddent yn ddiogel gydag ef. Arweiniodd fywyd diwyd a Uafurus gyda phregethu hyd y diwedd ar hyd De a Gogledd y wlad, ymhob tywydd, ac heb arbed ei hun. Dywedir am dano ei fod un noson, wedi pregethu, yn lletya yn 11b y amaethwr mwy eyfrifol lia-r cyffredin, ar dymor cynhaeaf. Elai y bobl i wrando Dafydd Cad- waladr y bore, canol dydd, neu hwyr, gan adael maes y cynhaeaf. Teimlai yr amaethwyr fod. hynny yn rhwystro gwaith y cvnhaeaf. a rlvna oedd silniad y bonheddwr y lletyai Dafydd 3m ei dy y noson honno. Rhywbryc1 yn ystod y nos deffrowyd Dafydd gan swn rhywun yn galw arno wrth ei enw—' Dafydd Cadwaladr Yr oedd y llais yn ddieithr iddo, a dywedodd yn ei feddwl, Os Duw sydd yn galw, mi a ddis- gwyliaf iddo alw yr ail waith, fel y gwnaeth Samuel.' Felly nid atebodd. Clywodd yr un llais yn galw drachefn—' Dafydd Cadwaladr Yna efe a atebodd Llefara, Arglwydd, canys y mae Dy was yn clywed.' Atebodd y llais Dos i'r Deheudir y mae yno eneidiau lawer eisiau eu hachub.' Mi a wnaf, Arglwydd,' ateb- odd. Bu ar ddihun hyd y bore yn trefnu ei daith. Cododd yn gynnar/ ac aeth i lawr i fod yn barod at foreufwvd. I ba beth y codweh mor fore ? gofynnodd gwr y ty. Atebodd Dafydd Mi a gefais archiad yn y nos i fyned i'r Deheudir, am fod yno eneidiau eisiau en hachub.' Os felly,' ebe gwr y ty, ni ddywedaf fi ddim i'ch rhwystro i ufuddhau i'r gorchymyn. Dymunaf i chwi lwydcliant niawr.' Felly, wedi boreufwyd, bu Dafydd yn ddiwyd yn trefnu ei dai.th i'r Deheudir hycl lies myned i'w le nesaf ac ymhen ychydig ddyddiau yr oedd yn y Deheu- dir, ac wrth y gwaith apostolaidd o draddodi cenadwri y cadw ymysg yr hwntws. A digon tebyg iddynt hwy fanteisio trwy ei weinidog- aeth. Gellid llanw cyfrol a hanes diddorol Dafydd Cadwaladr. Bu farw Gorffennaf gfed, 1834, yn 82 mlwydd oed, o ba rai y treuliodd tua 52 yn y gwaith o bregethu. Dylai yr enwadau wybod hanes eu gilydd. CWYDWENFRO.

Ebenezer, Rhosllanerchrugog.…

Llandudoch, Penfro.

Advertising