Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
YR UNDEB YN 1916. OYNHELIR Cyfarfodydd yr Undeb yn 1916 J ym Mrynaman ar y I2fed, I3eg, 14eg, a'r 15fed o Fehefin. JOHN WILLIAMS, Ysg. Hynaf. CYFUNDEB DWYREINIOL MORGANNWG QYNHELtH Cyfarfod Chwarterot nesaf y Oyfuudeb uchod yn Salem, Llwyoypix, nos Fercher a dydd lao, Hydrei 6ed a'r 7fed. Pregeth nos Fercher gan y Parch J. Hughes, Blaeogarw, ar I Ddirwest.' Am 10.30 bore dydd hou pregethir gun y Parch T. Gwilym Jones, B.A., Treoes, ar I Le y Beibl ym Mywyd Teyrnas.' Y Gynhadledd am ddau o'r gloch, pryd y disgwylir arercfaiad gan y Gadeirydd, y Parch T. Hughes, A.T.S., Oaardydd, with ymsdael o'r gadair, Rhoddir gwahodddisd cycnes i'r holl frawdolineth. T. 0. JENKYN, Gweinidog.
AT EIN GOHEBWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Mewn Llaw.-Undeb Dirwestol Dyffryn Vaf.
-I NODION.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION. Y GOIyYGYDD. Swneud Fiwt o A mcyica. CÜLLODD America ei phen yn lai-i rhyw wythnos yn ol, wedi derbyn ohoni addewid bendant, fel y tybiai hi, gan Germani na byddai iddi mwy ddinistrio llongau yn cludo teithwyr heb rybudd, neu heb ofalu yn effeithiol am eu diogel- wch. Addawai hyn ar yr amod na byddai i'r llongau geisio dianc nac ychwaith ym- osod ar y suddlong fyddai yn eu bygwth. Tybiai America, bid siwr, fod hyn yn oruchafiaeth ogoneddus i'w diplomydd- iaeth, ac mai ofn y canlyniadau barodd i Germani ddringo i lawr. Tybiai hefyd fod Germani yn hollol onest yn ei mynegiad, ac fod y term ddefnyddiai am longau, sef liners, yn cynnwys pob llestr fasnachol drafnidiai yn rheolaidd rhwng gwlad a gwlad. Ac ar y tybiau syml hyn pen- feddwodd yr Iancwvs, a chlywid swn eu gorfoledd hyd ymhell.' Erbyli hyn y mae yn dra eglur mai dan chwerthin yn eu llewis yr addawai'r Ell- myn hyn i gyd, a chaniataent i'r Ameri- caniaid floeddio'u hunain yn grug uwch- ben eu concwest wagsaw. Mae'n wir iddynt yrru Von Tirpitz, yr arch-beirat, am dipyn o seibiant, dan yr esgus ei fod yn sal, yr un pryd ag y gwnaent eu datganiad i'r America, a gadawyd i'r Arlywydd Wilson a'i bobl gredu yn eu diniweidrwydd mai i safio'i urddas wrth orfod plygu i gais America yr anfonwyd ef am holiday. Ond gwyr yn awr mai rheswm arall hollol oedd' am byn, ac mae perygl i America fynd yn gyff gwawd i'r holl genhedloedd os pery i gymryd ei thwyllo gan William a'i griw lawer yn hwy. Tynnu'r J^Gorchudd. MAE dau betli wedi dig- wydd er y gwnaed yr add- ewid sydd yn tynnu'r masc oddiar w y neb German dwyllodrus, ac a ddylai hefyd dynnu'r gorchudd oddiar lygaid yr Iancwys di- niwed. (r) Un ydyw ymgais suddlong Germani i suddo'r Hesperian nos Sadwrn, y 4ydd cyfisol, pan ar ei thaith allan o L,erpwl i Canada gyda mil o eneidiau ar ei bwrdd. Gwnaed hyn yn nhywyllwch y nos heb air o rybudd nac unrhyw ddar- pariaeth i achub un enaid. Mae'r dig- wyddiad erchyll yn rhoi'r celwydd noeth yn nannedd yr addewid cyn prin i'r inc sychu oddiar y papur yr ysgrifennwyd hi arno. Credai'r Americanwr druan n a chlywiff mwy am wae babanod.a'u mamau yn cael eu hyrddio i ddyfrllyd fedd gan lofruddion Germani ond cyn i adsain ei lawenydd ddistewi, wele Tirpitz, neu rhywun o'i ffrindiau, yn anfon torpedo i ystlys yr Hesperian, fel y gwnaeth a'r Arabic wythnos yn gynt, ac a'r Lusitania a'r Falaba y misoedd blaenorol. Tybed na wel America bellach mai gwneud gwawd ohoni y mae'r Caiser, ac nad yw yn bwr- iadu c a d w ei air i'r lane mwy nag y gwnaeth i'r Belgiad ? Diau yr ymesgusoda trwy haeru nad oedd yr awdurdodau wedi cael digon o amser i hysbysu'r sudd- longau oedd allan o'r polisi newydd, eithr mae'r addewid ei hun yn gwneud hynny yn anwireddus, gan y mynegir yn bendant fod y polisi wedi ei derbyn a'i mabwysiadu cyn i'r Arabic gael ei suddo. Felly rhaid ei bod mewn grym ar air a phapur cyn diwedd Gorffennaf neu ddechreu Awst, ac ofer yw dywedyd na wyddai holl gaptein- iaid y suddlongau hynny ar y 4ydd o Fedi. Un o driciau yr Huniaid yw hwn, ond ni thycia ddim. Dadleniad J.1r. Balfour. (2) OND yr hyn sy'n rhoi taw effeithiol ar ragrith Germani ydyw dadleniad plaen a didrugaredd Mr. Balfour o wir sefyllfa pethau ynglyn a suddlongau Germani. Dengys ef yn eglur fod polisi Tirpitz i ddinistrio masnach forawl Prydain wedi troi allan yn feth- iant truenus, a'i fod yn colli ei suddlongau yn gynt nag y lluniai hwynt, diolch i fedr a menter llynges a morwyr Prydain. Ond yr oedd yr hen beirat cynddeiriog yn rhy ystyfnig i gydnabod ei fod wedi methu, ac felly rhoddwyd holiday iddo i ddod ato ei hun. Nid parch i America, na mymryn o'i hofn ychwaith, barodd i Germani hys- bysu ei bod yn rhoi i fyny ymosod ar longau teithwyr na masnachol, ond gor- fodaeth noeth ei methiant truenus. Tra gall niweidio, fe bery i wneud, fel y prawf ei hymosodiad barbaraidd ar yr Hesperian ar ol addo peidio ond ceisia wneud y goreu o'r gwaethaf yr un pryd, a chymryd arni mai ei pharch i America barai iddi ymatal rhag ei difrod dieflig ar y raddfa eang yr amcanai ato. Y gwir yw, mai methiant ofnadwy yr holl bolisi sy dan yr addewid i'r America a than holiday Tirpitz. Gallasai America a dynoliaeth chwibianu i'r gwynt am unrhyw ystyr- iaeth na thrugaredd oddiar law Germani pe llwyddasai Tirpitz yn ei ymgais uffernol, ond mae yn ddigon cyfrwys a rhagrithiol i wneud y methiant yn fwgwd i ddallu'r byd, ac yn enwedig America. A phrawf dinistr yr Hesperian yr a'r polisi ymlaen yn ddamweiniol (?) ac ysbeidiol, pan ga'r cyfle, er gwaetha'r addewid i'r Arlywydd Wilson. A bydd yn ddigon mean i fwrw'r bai am hynny oil ar swyddogion hydwyth na feiddiant ddweyd y gwir. Cynhilo. MAE lie i ofni nad yw cais y Llywodraeth ar i'r bobl gynhilo yn cael fawr sylw gan y mwyafnf mawr ohonom. MeWllUll I cyfeiriad yn unig yr ydym ni, hyd yn hyn, wedi canfod ei fod yn cael ei lawn syl- weddoli. Defnyddir ef yn gyffredinol iawn fel esgusawd i beidio cyfrannu at amcan- ion crefyddol. Mae hyd yn oed cyfarfod- ydd chwarterol yn gweled ei lawn werth pan sonnir am y Drysorfa Gynorthwyol, ac yn ei ddefnyddio yn dduwiol iawn i gyfeiriadau ''cyffelyb. A chlywsom "yn anuniongyrchol fod aelodau unigol yn mynd yn ofnadwy o gynnil pan grybwyllir am y Genhadaeth a'r seti a threuliau'r achos. Nid ydym yn bersonol wedi cwrdd a'r dosbarth diweddaf, ond mae brodyr geirwir a gonest yn ein sicrhau eu bod i'w cael, a'u cael yn lied liosog hefyd. Ond nid oes fawr arwydd o gynhildeb mewn unrhyw gyfeiriad arall. Mae trefi'r glannau yn llawn o ymwelwyr; mae'r trens yn llawn o deithwyr mae'r cinemas yn llawn o blantos o bob oed mae'r tafarn- dai yn gwneud busnes prysur mae stryd- oedd y trefi mawr yn y De ar brynhawn a nos Sadwrn ac half-holiday y cymoedd cyfagos yn orlawn o bobl, ac nid oes un- rhyw arwydd o brinder arian. Ofnwn fod bwyta syml a gwisgo'n rhad a byw yn gynnil rywbeth yn debyg i'r hyn ydoedd flwyddyn a mwy yn ol. Nid oes fawr gwa- haniaeth, nac ond ychydig iawn o wasgu ac arbed a chynhilo eithriadol. Diau fod llawer na fedrant fyw yn fwy cynnil nag yr arferant wneud, heb beryglu iechyd ac alltudio pob cysur ond mae'r mwyafrif mawr heb sylweddoli o gwbl fod unrhyw angen am hynny. Yn wir, clywsom gyfaill fu'n treulio'i wyliau mewn ardal wledig yn mynegi yn bendant na welodd fawr argoel fod neb o'r trigolion yn meddwl am y rhyfel o gwbl, llawer llai pryderu yn ei chylch. Mae hyn bron yn anhygoel, ond mae yn wir. A dyma berygl mawr Pryd- ain. Yr ydym fel teyrnas yn bwyta'r mel o'r eweh, ac mae gaeaf y rhyfel i barhau am gyfnod hir eto. Daw moddion ein cynhaliaeth 0 wledydd tramor, ond nis gallwn dalu am danynt mewn nwyddau masnachol. Felly rhaid mynd i'r drysorfa a thalu mewn aur, neu fynd i ddyled. Ac nid oes genedl ro ddim ar goel yn hir i wlad sy'n bwyta'i chyfalaf ac yn ennill dim. Ac i wneud pethau yn waeth, by- gythia'r gweithwyr mewn llawer cyfeiriad os na chant well cyflog, a chribddeilia'r meistri gan bluo'u nythod ar gyfyngder y wlad. Ac mae y rhelyw mawr ohonom yn rhoi ein pen yn y tywod, ac yn tybio fel estrys fod popeth yn iawn am na welwn y drwg sydd ar ein gwarthaf. Os collir y dydd yn y rhyfel ofnadwy presennol, fe'i collir am nad yw gwreng na bonedd Prydain, gweithwyr na meistri, tadau a mamau, corff gwerin a phendefigion y tir, yn sylweddoli beth sydd i'w feddwl wrth aberthu a gweithio a chynhilo ac ymroi o ddifrif i'r. ddyledswydd a orffwys amom gartref. Mae'r fyddin yn ddigonol, mae'r llynges yn effeithiol, mae'r Llywodraeth yn effro nid oes angen gorfodaeth na gyrru i'r cyfeiriadau hyn, ac mae yn hen bryd cau genau Arglwydd Northcliffe a'i griw. Ond mae'n bryd hefyd i'r bobl gartref gael eu gorfodi i feddwl am ac arfer cynhildeb, i'r cyfoethogion gael eu tolli ar eu henillion anferth, ac i'r gweith- wyr roi i fyny siarad am streics a hollti blew ar reolau Trades Unions. Yr ydyA yn byw mewn amseroedd enbyd, a meddwl a gweithredu yn enbyd o ddifrifol a gweddï- gar ac ymostyngol yn unig-gyda bendith y Goruchaf—a'n dyga ni allan i ehangder.