Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

+ t Y WERS SABOTHOL. t [ I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

+ t Y WERS SABOTHOL. t [ I » ——— i t Y WER8 RYNGWLADWRIAETHOL. i Gan y Parch. D. OLIVER, D.D., t t TREFFYNNON. g I MItDI igeg.—Gorchfygiad Trwy Feddwdod.— 1 Bren. xx. 1-21. Y TESTYN EURAIDD.—' Godineb, a gwin, a gwin newydd, a ddwg y galon ymaith.—Hosea iv. 11. RHAGARWEINIOL. TRWY ddvlanwad eilunaddoliaeth Ahab a Jezebel ymlygrodd Israel yn fawr, a gwanychodd yn ei gallu a'i dylanwad. Ymosodid arni gan fren- hinoedd Syria. Yr oedd Benhadad I., yn ystod brenhiniaeth Baasa, wedi meddiannu amryw o ddinasoedd oddiar Israel. Gosododd Benhadad II. Israel dan dreth i Syria. Yn y Wers yr ydym yn cael hanes y modd y gorthrymid Israel gan Syria, ac anallu Ahab i wrthwynebu gofyn- ion gorthrymus Benhadad. Yr oedd Benhadad II. yn ddyn llygredig a glwth. Gellir cymharu byddin Benhadad i'r fasnach feddwol, a'i ofyn- ion yn debyg i ofynion y fasnach ar y genedl. ESBONIADOL. Adnod i A Benhadad brenin Syria a gaslodd ei holl lu, a deuddeg brenin ar hugain gydag ef, a meirch, a cherbydau ac efe a aeth i fyny, ac a warchaeodd ar Samaria, ac a ryfelodd i'w herbyn hi.' A Benhadad brenin Syria a gasglodd ei holl lu. Benhadad II. oedd hwn, mab Ben- hadad I. Yr oedd ganddo ddeuddeg brenin ar hugain, y rhai oedd ddarostyngedig iddo, yn ei gynorthwyo. Yr oedd ei fyddin yn gref a lliosog. Gwarchaeodd ar Samaria, prifddinas Israel. Adnod 2.—'Ac efe a anfonodd genhadau at Ahab brenin Israel, i'r ddinas.' Ac efe a anfon- odd genhadau at Ahab. Yr oedd gan y cenhadau hyn genadwri arbennig at Ahab oddiwrth Ben- hadad. Adnod 3.Ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed Benhadad, Dy arian a'th aur sydd eiddof fi dy wragedd hefyd, a'th feibion glanaf, ydynt eiddof fi.' A c a ddywedodd wrtho. Hawlia oddiwrth Ahab ei arian a'i aur, ei wragedd a'i feibion glanaf. Adnod 4.—'A brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Yn ol dy air di, fy arglwydd frenin, myfi a'r hyn oil sydd gennyf ydym eiddot ti.' A brenin Israel a atebodd. Er mor eithafol oedd ei ofynion, nid oedd gan Ahab ddigon o nerth i'w wrthod. Dywed yn wasaidd Myfi a'r hyn oil sydd gennyf ydym eiddot ti.' Adnodau 5 a 6.—' A'r cenhadau a ddychwel- asant, ac a ddywedasant, Fel hyn yr ymadrodd- odd Benhadad, gan ddywedyd, Er i mi anfon atat ti, gan ddywedyd, Dy arian a'th aur, a'th wragedd, a'th feibion, a roddi di i mi eto ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf fy ngweision atat ti, a hwy a chwiliant dy dy di, a thai dy weision a phob peth dymunol yn dy olwg a gymerant hwy yn eu dwylaw, ac a'u dygant ymaith.' A'r cenhadau a ddychwelasant ac a ddywedasant. Nid oedd Benhadad yn fodd-. Ion ar genadwri y cenhadau, a danfonodd air pellach at Ahab i'w hysbysu y danfonai ei weis- ion i chwilio tai y brenin a'i bobl, a dwyn pob peth gwerthfawr ynddynt. Adnod 7.—' Yna brenin Israel a alwodd holl jienuriaid y wlad, ac a ddywedodd, Gwybydd- wch, atolwg, a gwelwch mai ceisio drygioni y mae hwn canys efe a anfonodd ataf fi am fy ngwragedd, ac am fy ineibion, ac am fy arian, ac am fy aur ac nis gomeddais ef.' Yna brenin Israel a alwodd holl henuriaid v wlad. Er mor feddal a gwan ydoedd Ahab, yr oedd hyn yn ormod iddo. Galwodd holl henuriaid y wlad i ymgynghori a hwy, a hysbysodd iddynt yr hyn oedd Benhadad yn ei ofyn, a'r modd oedd yntau wedi ateb. Adnod 8.—' Yr holl henuriaid hefyd, a'r holl bobl, a ddywedasant wrtho ef, Na wrando, ac na chytuna ag ef.' Yr holl henuriaid a'r holl bobl. Cyngor yr henuriaid a'r bobl ydoedd :— Na wrando, ac na chytuna.' Adnod 9. Am hynny y dywedodd efe wrth genhadau Benhadad, Dywedwch i'm harglwydd y brenin, Am yr hyn oil yr anfonaist ti at dy was ar y cyntaf, mi a'i gwnaf ond ni allaf wneuthur y peth hyn. A'r cenhadau a aethant, ac a ddygasant air iddo drachefn.' Am hynny y dywedodd ele wrth genhadau Benhadad. Dywed wrth y cenhadau am hysbysu Benhadad ei fod yn foddlon i'r gofynion cyntaf, ond nad oedd yn foddlon plygu i'r gofynion eraill. Adnod 10.—' A Benhadad a anfonodd ato ef; ac a ddywedodd, Fel hyn y gwnelo y duwiau i mi, ac fel hyn y chwanegont, os bydd pridd Samaria ddigon o ddyrneidiau i'r holl bobl sydd i'm canlyn i.' Fel hyn y gwnelo y duwiau i mi. Ffurf o lw ydoedd hwn. Yr oedd Benhadad wedi ei gynhyrfu gan atebiad Ahab, ac y mae yn gwneud llw i'w ddarostwng. Os bydd pridd Samaria. Y mae yn ymffrostio yn lliosogrwydd ei filwyr. Pe buasai un o'i filwyr yn cymeryd dyrnaid o bridd Samaria, yr oeddynt mor lliosog fel y buasai yr holl ddinas yn cael ei chymeryd. Y mae ei ymadroddiou yn profi ei falchter a'i draha. Adnod 11. A brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Dywedwch wrtho, Nac ymffrostied yr hwn a wregyso ei arfau fel yr hwn sydd yn eu diosg.' Nac ymffrostied yr hwn a wregyso. Y mae atebiad Ahab yn un doeth a rhesymol yn wyneb honiadau balch Benhadad. Adnod 12.—' A phan glywodd efe y peth hyn' (ac efe yn yfed, efe a'r brenhinoedd, yn y pebyll)' efe a ddywedodd wrth ei weision, Ymosodwch' A hwy a ymosodasant yn erbyn y ddinas.' A phan glywodd ele y peth hyn. Sef atebiad Ahab yn yr adnod flaenorol yr oedd yn awgrymu nad oedd y frwydr eto wedi ei hymladd, ac y gallasai troi allan yn wahanol i'w ddisgwyliadau. Sing not the triumphal song before the victory.' Ac ele yn yfed, ele a'r brenhinoedd, yn y pebyll. Nid oedd yn ofni unrhyw berygl, ond y mae yn gloddesta gyda'i gyfeillion. Gwyddai fod gwrth- odiad Ahab yn ei rwymo i ymosod arno, ond yr oedd mor sicr yn ei feddwl ei hun o orchfygu fel y mae yn gallu yn dawel borthi ei flys. Dywedodd wrth ei weision am ymosod ar y ddinas. Adnod 13.—'Ac wele, rhyw broffwyd a nes- haodd ac Ahab brenin Israel, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Oni welaist ti yr holl dyrfa fawr hon ? wele, Mi a'i rhoddaf yn dy law di heddyw, fel y gwypech mai Myfi yw yr Arglwydd.' Ac wele, rhyw broffwyd a nes- haodd at Ahab. Ni roddir enw y proffwyd, ac ni wyddom o ba le y daeth. ani welaist ti yr holl dyrla fawr hon ? Diau fod Ahab wedi gweld llu y Syriaid, ac mai dyna. sydd yn cyfrif am ei fod wedi addaw rhoddi i frenin Syria yr hyn oil oedd eiddo iddo er mwyn arbed ei fywyd. Wele, Mi a'i rhoddaf yn dy law di. Rhoddir addewid iddo am fuddugoliaeth ar lu.mawr y Syriaid, a hynny yn fuan, ac felly ni chawsai y ddinas ddioddef llawer oddiwrth y gwarchae bygythiedig. Fel y gwypech mai Myfi yw yr Arglwydd. Rhoddir iddo enghraifft unwaith eto o'i ffolineb yn ymddiried mewn duwiau dieitlir ac nid yn Jehofah. Adnod 14. Ac Ahab a ddywedodd, Trwy bwy ? Dywedodd yntau, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Trwy wyr ieuainc tywysogion y taleithiau. Ac efe a ddywedodd, Pwy a drefna y fyddin ? Dywedodd yntau, Tydi.' Ac Ahab a ddywedodd, Trwy bwy ? Ymddanghosai y fath fuddugoliaeth i Ahab yn amhosibl. Nid oedd ei fyddin ef ond bychan a gwan mewn cymhariaeth i lu y Syr- iaid, ac nid oedd ganddo obaith am neb i'w gynorthwyo. Trwy wyr ieuainc tywysogion y taleithiau. Gweision prif swyddogion taleithiau Israel. Oherwydd ymosodiad Benhadad yr oeddynt oil wedi dyfod i Samaria. Pwy a drelna y fyddin ? Yr oedd Ahab y pryd hwn yn fodd- lawn derbyn cyfarwyddyd a chynhorthwy gan Jehofah. Teimlai fod yn angenrheidiol cael arweinydd medrus iawn i ennill. buddugoliaeth o dan y fath amgylchiadau. Dywedodd yntau, Tydi. Y mae Jehofah am ddangos i Ahab, ac hefyd i Benhadad, nad yw y rhyfel bob amser yn eiddo y cryf, ac y gallai dau cant a deuddeg ar hugain o wyr ieuainc orchfygu llu mawr o Syriaid. Adnod 15.—' Yna efe a gyfrifodd wyr ieuainc tywysogion y taleithiau, ac yr oeddynt yn ddau cant a deuddeg ar hugain ac ar eu hoi hwynt efe a gyfrifodd yr holl bobi, cwbl o feibion Israel, yn saith mil.' Yn saith mil. Rhaid fod y nifer yma yn cynrnv}\s yr holl wyr oedd yn Samaria yn alluog i ymladd yn y rhyfel. Adnod 16.—' A hwy a aethant allan ganol dydd. A Benhadad oedd yn yfed yn feddw yn y pebyll, efe a'r brenhinoedd, y deuddeg brenin ar hugain oedd yn ei gynorthwyo ef.' A hwy a aethant allan ganol dydd. Sef gwyr ieuainc ty- wysogion y taleithiau. Rhaid eu bod wedi eu meddiannu a rhyw cidewrder eithriadol-nifer mor fychan i gyfarfod y fath lu. A Benhadad oedd yn yfed yn feddw. Os oedd y swyddogion wedi ymroddi i yfed hyd at feddwi, gellir tybied fod y milwyr cyffredin yn yr un camwedd. Yr oeddynt eisoes wedi eu gorchfygu gan alcohol. Nid oeddynt mewn cyflwr i allu gwrthsefyll ymosodiad y gwyr ieuainc. Er ei bod yn fyddin lliosog, eto byddin feddw ydoedd-ac, mewn canlyniad, byddin wan. Adnod 17.—'A gwyr ieuainc tywysogion y taleithiau a aethant allan yn gyntaf a Ben- hadad a anfonodd allan, a hwy a fynegasant iddo gan ddywedyd,Daeth gwyr allan o Samaria.' A gwyy ieuainc tywysogion y taleithiau. Aethant allan o Samaria at wersyll y Syriaid. Hwy oedd yn arwain, a'r saith mil yn canlyn. A Benhadad a anfonodd allan. Ar ol clywed trwst eu dyfod- iad. Nid oedd wedi dychmygu y buasai gwyr yn dyfod allan o Samaria. Adnod 18.—'Ac efe a ddywedodd, Os am heddwch y daethant allan, deliwch hwynt yn fyw ac os i tyfel y daethant allan, deliwch hwynt yn fyw.' Deliwch hwynt yn fyw. Yn ei feddwdod yr oedd yn berffaith hyderus o fudd- ugoliaeth, ac nid oedd wedi dychmygu fod yna allu arall cryfach nag ef. Adnod 19.—' Felly yr aethant hwy allan o'r ddinas, sef gwyr ieuainc tywysogion y taleithiau, a'r llu yr hwn oedd ar eu hoi hwynt.' Felly yr aethant hwy allan o'y ddinas. Y gwyr ieuainc oedd i fod yn offerynnau i yrru byddin y Syr- iaid ar ff o, a'r saith mil i ymlid ar eu hoi. Adnod 20.—' A hwy a laddasant bawb ei wr a'r Syriaid a ffoisant, ac Israel a'u herlidiodd hwynt a Benhadad brenin Syria a ddihangodd ar farch, gyda'r gwyr meirch.' A hwy a ladd- asant bawb ei wr. Nid oedd byddid Benhadad yn barod i'r ymosodiad, ac yr oedd eu swydd- ogion yn feddw. Ffoisant mewn dychryn. Braidd y gallodd Benhadad ei hun ddianc ar farch. Adnod 21. A brenin Israel a aeth allan, ac a darawodd y meirch a'r cerbydau, ac a laddodd y Syriaid a lladdfa fawr/ A brenin Israel a aeth allan, ac a darawodd. Wrth weled y fuddugol- iaeth, meddiannwyd Ahab gan ysbryd gwrol, ac aeth allan i ymlid, a lladdodd y Syriaid a lladdfa fawr. Cyfiawnwyd gair y proffwyd; a dylasai yr hyn a ddigwyddasai argyhoeddi Ahab o allu Jehofah—ond nid ydyw yn Ei gydnabod. GOFYNIADAU AR Y WERS. i. Pwy oedd brenin Israel yr adeg yma ? 2. Pwy oedd brenin Syria ? 3. Beth oedd perthynas Syria ag Israel ? 4. Beth oedd yr hyn a hawliai brenin Syria oddiwrth frenin Israel ? 5. Pa atebiad a roddodd brenin Israel i frenin Syria ? 6. Pwy ymddanghosodd i galonogi Ahab ? Pa gyfarwyddiadau a roddodd iddo ? 7. Beth oedd nifer byddin Israel mewn cyfer- byniad i fyddin Syria ? Betli oedd yr achos o wendid byddin Syria ? 8. Rhoddwch ddisgrifiad o'r frwydr a'r cau- lyniadau. 9. Beth ydyw y wers lieilltuol a ddysgir gan yr hanes ?

Advertising