Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

I FOB OCHR I'R HEOL.\

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

FOB OCHR I'R HEOL. (1) Y mae argraffiad arall o IDe 1 y n Sankey yn cael ei ddwyn allan gan Mr W. J. Parry, Bethesda, 'a bydd yn yr argraffiad hwn lawer o donau newyddion, ynghydag emynau wedi eu cyfansoddi'n ddiweddar. Ceir cynifer a chwech o donau ynddo o waith un o 'Arglwyddi' Cymru —peth newydd iawn. Gwyr Mr Parry pa fodd i gyfaddasu'r gwaith at anghenion ieuenctyd ein cenedl yn burion. Yn wir, gwr rhyfeddol o aml-ochrog ei alluoedd yw efe. Pan fendithir enwad a lleygwyr cryf- ion fel hyn, y mae'n lied anodd gwneud cyflawn chware teg a hwy. Ofnwn i raddau pell mai felly y mae gyda Mr W. J. Parry. Nis gwn yn bersonol am un lleygwr yn y wlad sydd yn gwybod mwy am bethau, ac yn teimlo diddordeb mewn mwy o bynciau na'r bonheddwr croesawgar hwn o Lys Coetmor. Y mae yn ddarllenwr mawr ar bob math o weithiau, a swyn iddo mewn cerddoriaeth a barddoniaeth a thraddodiadau gwlad a chofiannau hen weinidogion. Cyhoeddodd lawer o gyf- rolau ei hun. Mae ei lyfrgell yn un eang iawn, a chasgliad rhagorol o wahanol weithiau ynddi ond ei thrysor mwyaf yw note-books Mr Parry ei hun. Y llyth- yrau lliosog sydd ganddo oddiwrth ein gweinidogion gynt, a'r cofnodion o'u preg- ethau a'u dywediadau, a'u penderfyniadau yma ac acw. Gallai gyhoeddi pethau hynod yn hanes yr Enwad. Nid oes odid ddim nad yw'n gyfarwydd ag ef yng ngweith- rediadau yr Enwad am rai ugeiniau o flynyddoedd tuag yn ol. (2) Gwasanaethodd yr achosion Anni- bynnol ym Methesda hefyd gyda dyfalwch mawr, fel cynghorwr ac arweinydd a phreg- ethwr a chyfrannwr a diacon ac ysgrifen- nydd a phopeth. Gweithiodd gyda'r chwar- elwyr yn ffyddlon hyd nes yr aeth teulu'r Penrhyn i'w ameu a'i erlid, a hynny pryd nad oedd y sail lleiaf dros lawero'r pethau a dybient. Ond pan welodd efe'r chwarel- wyr yn mynd, fel y tybiai, ar gyfeiliorn, nid oedd yn petruso dweyd hynny ych- -waith. Gwr ag iddo ewyllys gref a Haw gadarn yw efe. Rhoes hyn ef ar adegau mewn goleuni anffafriol i farn deg, yn ddiau ond sicr ydyw y byddai dirfawr fwlch ar ei ol mewn llu o gylchoedd. Y mae ar gyngor a phwyllgor, mewn busnes ac mewn llenyddiaeth, gyda'i Enwad a chyda'r genedl yn ddidor. Y mae wedi tramwy i wledydd pell, ac wedi derbyn yr ymddiriedaethau rhyfeddaf yn fynych. Nid yw'n hawdd rhoi ei briod le i wr o'i fath ond un o'r pethau mwyaf taraw- iadol i mi, wrth ei gyfarfod ymaa thraw, yw ei weld bob amser a rhosyn coch neu flodeuyn braf yn ei got, a gwen ar ei wyneb, a gair siriol ganddo wrth basio, (3) Y mae'r son am symudiadau brodyr yn y weinidogaeth i gylchoedd newyddion yn fwy ymron nag a allesid ei ddisgwyl ar adeg fel hon. Dyna Mr Emrys James, Pontypridd, yn myned i I/undain i gylch pwysig iawn Mr R. T. Williams, Great Mersey-street, Lerpwl, yn dod i Banteg, gerllaw Caerfyrddin a Mr J. J. Roberts yn symud o Gwmogwy i Clifton-road, Bir- kenhead Mr Eurof Walters yn aros fel y clywsom, yn Henrietta-street, Abertawe a Mr Rhys Griffiths yn ymyl cael ei or- deinio yn eglwys y Pare, Llanelli Mr Morgan, Biwmaris, fel y crybwyllais o'r blaen, yn mynd i Heywood, heb fod ymhell o Fanchester, y n g h y d a Mr Glandwr Morgan wed i gadael eglwys Seisnig y Bermo am un arall ym Mirmingham. Dyma godi'r gwersyll o ddifrif, onite ? Dymunwn iddynt oil lwyddiant trwyadl. (4) D r w g fydd gan bawb sydd yn adnabod Mr Davies, Cadle, glywecl iddo gyfarfod a damwain lied ddifrifol yr wyth- nos ddiweddaf, a thorri ei glun yn lied agos i'r forddwyd drwy i gerbyd ei daflu pan groesawai efe ryw gyfeillion neu ym- welwyr a'r ardal. Clywsom iddo gael amser lied galed ar ol y ddamwain, a bod gofal meddygol eithriadol wedi bod yn angen- rheidiol. Ar wahan i hyn, nid yw iechyd Mr Davies wedi bod yn dda er's tro byd, a gwnai hynny bethau yn waeth. Dyma un o golofnau ein Piwritaniaeth Annibyn- 110I. Gwr grymus ac anhyblyg ymhlaid daioni. Gwr y gallesid ei gamddeall gyda'r rhwyddineb mwyaf, ond a'i lond o unplyg- rwydd a difrifoldeb ac ar y llaw arall, y mae mor llawn o garedigrwydd ag yw'r haf o heulwen. Ei aelwyd, fel aelwyd ei frawd yn IJandeilo, yn ddihareb am ei chroesaw a'i derbyniad i bawb o'r saint. Anwylir Mr Davies, Cadle, gan ei frodyr am y gwyddant y gellir dibynnu arno, a'i fod yn ddiffuant. Nid yn gwasanaethu ei hun, ond yn w a s t a d yn cynnal ac yn cefnogi a chynorthwyo eraill. Y dystiol- aeth hod sydd wir Gedy ddylanwad an- orchfygol ar ei ol, a bydd enw'r Parch John Davies, Cadle, yn aros yng ngororau Abertawe am genedlaethau i ddod fel un o'r gwyr mwyaf di-dderbyn-wyneb, mwyaf plaen, mwyaf uniawn a disorod fu yn y weinidogaeth. Deisyfwn ei wellhad yn fuan. (5) Helynt ofnadwy yw eiddo'r Dardan- elles, onite ? Mae tref Llanelli'n clywed newyddion drwg oddiyno. Yn y catrodau Cymreig fu'n cymeryd rhan yno'n ddiw- eddar yr oedd llu mawr o'r milwyr o'r dref hon, a syrthiodd llawer ohonynt—yn eu plith rai o fechgyn tirionaf ein cylch ac y mae llythyr ar ol llythyr yn cyrraedd y dref sydd yn tynnu dagrau. Yr oedd tin o'r swyddogion yn ddiacon yn eglwys Ebenezer yma. Cyfreithiwr wrth ei swydd, ac Anilibynnwr o'r iawn ryw—Colonel Bramwell Jones. Arweiniodd ei filwyr gyda dewrder anhygoel, a da gennym ei fod yn fyw, er iddo fod ar goll am rai dyddiau. Bu efe, yn ol ei natur bybyr, yn gryn ddisgyblwr yn ei gatrawd cyn gadael y wlad hon, meddir ac nid oeddym yn disgwyl clywed dim yn amgen am dano. Teimlasai rhai o'i filwyr ei fod yn rhy lym gyda hwy, ac anodd oedd ganddynt ddy- gymod a hynny eithr erbyn hyn y maent yn ei hanner addoli. Efe yw eilun y gat- rawd,' meddant yn eu llythyrau. Syrth- iodd un dyn ieuanc fuasai yng ngholeg Eglwysig Llanbedr yn paratoi ar gyfer nrddau, a hynny pan oedd yn cyrchu dwfr i rhyw druan archolledig i'w yfed. Yr oedd y gwr ieuanc hwnnw yn wr gradd- edig, ac yn fonheddwr ymhob ystyr-a chysylltiadau Annibynnol iddo yntau. Y mae un arall, mab i bostfeistr y dref hon, Mr Cecil Phillips, wedi gwneud rhyw wr- hydri anghyffredin a dywedir iddo gael ei ddyrchafu' ar y maes, a'i ddodi i ofalu am gatrawd a gollasai ei swyddogion. Eithr i ba beth y manylir ? Onid arwyr yw ein milwyr ieuainc oil ? Ni welwyd yn holl hanes y byd y fath wroniaeth a dibrisdod o ddiogelwch personol er mwyn achub y maes, yn ddiau. (6) Dywedir fod gan y Parch William Pearce lyfr arall yn cael ei baratoi ar John Penry fydd yn ychwanegiad mawr at y lenyddiaeth sydd yn delio ag hanes y merthyr. Cyhoeddodd Mr Pearce gyfrol drwchus yn ymwneud ag helynt y traeth- odau trychinebus fu yn fagl i Penry y Marprelate Tracts. Danghosodd y gyfrol honno fod Mr Pearce wedi gwneud astud- iaeth ddofn a llwyr yn y cyfeiriad hwn, ac efallai nad oes neb lieddvw'n gymaint o awdurdod ag efe yn y maes diddorol ac eang sy'n delio ag hanes John Penry. Eithr cyn y gellir dodi llafur Penry yn y goleuni pricdol, rhaid bod yn gyfarwydd a llenyddiaeth Cymru yn y cyfnod oedd yn rhagflaenu gwaith y merthyr. Y mae cywvdd ar ol cywydd i'w cael sy'n dweyd beth oedd cyflwr ein gwlad ar y pryd, ac yn profi nad oedd pethau'n hollol cyn dywylled ag y mynnir eu bod. Wrthi yn y maes hwn y bydd Mr Pearce am ysbaid bellach, ac yna cawn olwg unwaith eto ar y gwron Ymneilltuol o Gefnbrith. ° (7) Yn nhref fechan Comvy y mae un o'r sefydliadau mwyaf rhamantus y gwn am danynt yn holl ardaloedd ein gwlad a rhyfedd fydd gan ein darllenwyr ddeall mai ffair yw'r sefydliad hwnnw. Ni thelais fawr o sylw i ffeiriau fy ngwlad erioed, ac ni byddaf yn teimlo nemawr diddordeb yn y darn rhyfeddol hwnnw o'r Biwyddiadur sy'n rhoddi dyddiadau'r