Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Rhybudd Pwysig.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Rhybudd Pwysig. UNDEB MBRTHYR. Mae nifer o wlawlenni wedi eu gadael ar ol yng nghapel Soar yn ystod yr Undeb, a gellir en cael oddivvrth ceidwad y capel, Mr. Ev AN Jones, 87 Lower Thomas-street, Merthyr, neu oddiwrtli y Parch Gwii.vm REES, Lyndhurst, The Walk, ond ymofyn am y cyfryw ond os bydd gofyn am y cyfryw drwy'r post, dylid talu y cludiad. Hefyd, mae rhyw insurance agent wedi gadael llyfr gwerthfawr ar ol, a gellir ei gael oddiwrth y Parch GWII, YM REES ond dan- fon ato gyda disgrifiad o ansawdd y llyfr. Bydd yn hwylustod os enfyn perchenogion yr eiddo am danynt yn ddioed. Yr eiddoch, YR Ysgrifen yddion I^eoi,.
GLOEWI'R GYMRAEG. I ti' i…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
GLOEWI'R GYMRAEG. I t i' i p. I ? -I (Danfoner pob gofyniad a gohebiaeth ynglyn a'r golofn lion i'r Parch. Fred Jones, B.A., B.D., Rhymni.) Mi sgrifennais mor helaeth y tro o'r blaen ar ddyblu cydseiniaid fel na allaf fi ddim ateb 'Anwvbodus yn helaeth y tro hwn. Gofyn y rheswm a wna efe paham y dyblir r yn torri, a phaham na wneir yn pori. Wel, mi gynghorwn i chwi beidio a blino gormod ynglyn a'r rhesymau ar y dechreu. Ewch i'ch ystafell a dywedwch yn uchel wrthych eich hunan y geiriau i torri a pori, ac yna chwi welwch fodorr yn torri yn sain fer, ac or yn pori yn sain hir. Y mae'r glust fel rheol yn arweinydd digon diogel i'r sawl a wyr yr iaith. Mi sgrifennais yn faith yr wythnos diwetha ar darddiad y sain fer a'r sain hir. Mi ddylwn ddywedyd na ddyblir n ac r oddi- eithr yn y sillaf acennog-er enghraifft, torri. Pan symudo i sillaf ddiacen, ni ddyblir hi ddim, megis yn toradwy. Y prif eithriad i'r rheol hon ydyw'r blaen- ddodiad negyddol an, megis yn annibynnol. Fe ddyblir am fod yr an hwn mor chwan- nog i fynnu math o sillaf acennog iddo'i hun, sef aw-nibyw-ol.' Ymofynnydd Pryderus. (i) Beth a ddylai Cymreigydd cydwybodol wneuthur a'r ymadrodd, yr oil ? Wel, ar ol puro'i gydwybod yr wyf yn sicr na sgrifenna neb yr oil. Ymadrodd diweddar ydyw yn lie y cwbl, megis Swrn y cwbl a glybuwyd yw.' Yr un gair ydyw oil a holl yn yr ansoddair, yr holl. Y mae'r llythyren r yn talu am ei hir gartref mewn ymadrodd drwy greu a'i hanadl a chymryd i'w myn- wes ferch o'r enw h, megis yr hoW (=yr + olt), un ar hugain (=ar+ugain). Y gwir ydyw, nid ydyw'r r yn yr ymadrodd yr oil wedi cael amser i ffrwytho ac amlhau. Felly ymgroesed pob Cymro rhag yr oil. Ond fe ddefnyddir oil yn gywir yn yr ystyr o ragferf-hynny yw, i ddiffinio ymhellach air neu ymadrodd. Fel rheol, fe gymer ei le ar ol yr hyn a ddiffinir ganddo, megis Gwrandewch bobl oil' (Michah i. 2). Eithr fe ddaw weithiau yn gyntaf, megis Gwrandewch y ddaear ac oil y sydd ynddi (Esaiah xxxiv. r) 'Ac oil a oedd ynddo (J er. viii. 16). Yr un ystyr yn ddiau fyddai iddynt pes ysgrif- ennid 'Ac y sydd ynddi oil' 'Ac a oedd ynddo all.' Yn wir, y mae lie oil yn y brawddegau hyn o'r Beibl yn rhoddi cyfle braf i'r temtiwr. Mor ychydig o wahan- iaeth, onite, sydd rhwng 'Ac oil y sydd ynddo ag IA'r oil y sydd ynddo ? Eithr Gwybed meirw a wna i olew yr apothe- cari ddrewi.' (2) Pa un ai gwaew, gloew, ynte gwayw, gloyw a gymeradwywch ? Rhoddwch eich rhesymau.' 'Rwy'n teimlo fel petwn i mewn arholiad. Wel, i ddechreu, nid oes dim dadl nad ydyw gwayw, gloyw, yn nes i'r sain fel y lleferir hi. Eithr y mae hynny'n wir am dayar, cynhayaf, hefyd. Eto ni wn i ddim am neb a ysgrifennai felly. Nid oes chwaith reol, mor bell ag y gwn i, mewn Cymraeg Canol i wahan- iaethu, canys fe sgrifennir gwaew, gwayw, &c., drifflith drafflith. Fel y gwyddoch, y rheol gyffredin heddyw ydyw ysgrifennu y diptonau cynhennid ay, oy, yn ae, oe ac ni welaf fi ddim digon o reswm dros wneuthur eithriad, a'u cadw'n ay, oy o flaen w yn unig. Y mae eraill o ddisgybl- ion yr Athro Morris Jones yn ysgrifennu gloew, gwaew, &c., ac fe ddywedodd fy nghyfaill Mr Ifor Williams, M.A. (darlith- iwr cynorthwyol yr Athro), wrthyf yn ddiweddar ei fod yntau hyd yn hyn heb gael lie i edifeirwch. Yn onest i chwi, gwaew, gloew, &c., a ysgrifennwn i ar hyd y blynyddoedd ac y mae ynnof duedd gref i ddal atynt er mwyn bod yn unffurf. Ond os a'r gair allan i wneuthur eithriad, ac ysgrifennu ay, oy o flaen w, parod wyf i hynny hefyd. (3) 'A yw canfyddodd a darfyddodd yn oddefol ? A yw darfu'r ymborth a darfyddodd yr ymborth yr un fath ? Berfau cyfansawdd o'r ferf bod ydyw canfod a darfod, ac fe'u treiglir yn gywir fel bod. Bu ydyw'r gorffennol o bod, ac y mae darfyddodd a canfyddodd felly mor anghywir a phed ysgrifennid byddodd am bu. Wrth gwrs, y mae dau ystyr i darfu, sef (r) It happened-er enghraifft, Darfu, a mi'n gweddio (It happened when I was praying). (2) It wasted, it finished. Yr wy yn lied dybied mai'r hyn sydd ar eich meddwl chwi ydyw fod darfyddodd a darfu y naill yn golygu it wasted, a'r llall it finished. Yn wir, ni wn i ddim am wahan- iaeth o'r fath. Yr wyf yn ateb yn bendant yn ol fy meddwl i nad ydyw darfyddodd a canfyddodd yn oddefol o gwbl. (4) Paham y myn rhai roddi ystyrrir ? Pa fodd y ceir ystyrrir o'r Iyladin Historia ?' Pel hyn Y mae'r geiriau a ddaw o'r Lladin yn cadw'r i gydseiniol yn ei treigliadau, megis ystyriaf,' syniaf.' Felly y mae'r sillaf acennog yn fer. I fod yn fanwl, y gwreiddiol o ystyr-rir' ydyw ystyr-iir.' Wedi tynnu'r i gydseiniol i ffwrdd y mae gennym wedyn ystyr-ir.' Hynny yw, y mae'r sillaf yn aros yn un fer. Yn ol y rheol yn Gymraeg, fe sgrifennir wedyn ddwy r i ddynodi'r sain fer. Yn yr un ffordd y ceir sonnir o soniaf.' Eto, ystyron ydyw'r lluosog o'r enw ystyr,' am fod yr i ar goll o'r terfyniad lluosog. O'r enw ystyr y ffurfiwyd y ferf ddiw- eddar diystyru, a dreiglir drwyddo ag un r. Y mae'n ddiddorol sylwi felly a chym- haru ystyrrir o ystyried,' a diystyrir o diystyru.' (5) 0 ba le y daeth y gair cydmaru ? Ni wn i ddim. Ni welais i chwaith neb a all ddangos enghraifft gynnar ohono. O'r gwraidd compar y daw. Fe dry mp yn mmh yn Gymraeg. Felly dyna cymmhar. 0 golli h mewn sillaf ddiacen ni gawn cymmar-cymar yn ein horgraff ni. Y mae'n debyg gennyf mai cyd, yn yr ystyr o gydymaith, a barodd saernio'r gair, am y gellid gydag ychydig ddychymyg ei darddu cydmaru o cydymaith Mari' Cymharu, wrth reswm, ydyw'r gair cywir. Un am Wybod.' Y mae'n rhaid i an- soddair y ffurfir ei luosog drwy newid llaf- ariad o'i fewn gytuno mewn rhif a'i enw, megis mamau ieuainc,' Cymry ieuainc (nid ie-uanc), dynion buain (nid buan). Eithr os ffurfir eu lluosog drwy ychwanegu sillaf, megis gwan—gweiniaid,' fe ellir yn ami gysylltu ansoddair unigol ag enw lluosog, megis dynion gwan. Y mae llawer i ansoddair hefyd nad oes ffurf luosog iddynt, megis da, drwg, &c. (2) Trengi ydyw'r ffurf gywir, nid trengu. Ni allai u ar ddiwedd gair newid a yn tranc i e yn trengi, eithr fe gaiff i yr effaith
I FOB OCHR I'R HEOL.\
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
ffeiriau. Diau mai dyna brif werth y llaw- lyfr Bnwadol i ryw ddosbarth o'i ddarllen- wyr, ac y mae'n fuddiol mewn ardaloedd amaethyddol. Ond yng Nghonwy y mae y ffair fwyaf swynol o'r oil, a'r unig tin o'i bath y digwydd i mi fod yn gwybod am dani, os nad oes tlll yng Ngwrecsam— Ffair y Mel.' Cynhaliwyd hi ddydd I-Aun diweddaf, Medi i3eg. Yn hon gwelir ar hyd yr heolydd bobl yn gwerthu mel. Byddai poteidiau ohono'n arfer bod ar ymylon yr heolydd y blynyddau diweddaf, a delai gwerin y cwmpasoedd i Gonwyy dwthwn hwnnw i brynu mel. Yno prisid ef yn y bore gan wyr cyfarwydd ac wedi penderfynu ar bris y mel, yr oedd cryn farchnad yn mynd ymlaen yn y cyfeiriad hwn. Ni ddychwelai ond odid neb adref o'r ffair heb rhyw gymaint o fel ganddo —digon ar gyfer anghenion teuluaidd am y flwyddyn fel rheol. Onid oes modd lliosogi ffeiriau o'r fath yn hytrach na bod sefydliadau mor naturiol a phwrpasol yn lleihau yn eu rhif o hyd ? Yr oedd Ffair y Mel' yn gwbl nodweddiadol ohonom fel cenedl, a gresyn fyddai gweld hon yn mynd i lawr. Wrth gwrs, ceir mel ymhob siop fferyllydd erbyn hyn, ac yn fynych mewn siopau eraill ond ei gael o Ffair y Mel' —Ah dyna'r gwerth. (8) Ni chaed gwell tywydd yn ystod yr holl haf eleni nag a gaed yn nechreu Medi. Daeth yn heulog a sych a theg dros ben —tywydd ffafriol odiaeth i'r cynhaeaf-a mawr oedd prysurdeb y ffermwyr. Gwnaeth i fyny i radclau pell am y gwlybaniaeth fu yn ddinistr i ambell gaeaid o wair wyth- nosau yn ol. Swn peiriannau a glywid yn dod o bob maes, ac ar wahan i'r rhyfel buasai yn adeg lawen yn hanes gwlad. Eithr amhosibl llawenhau gyda nemawr ystyr eleni. Y mae'r cof o hyd yn crwydro i gyfeiriad cynhaeaf afrad arall, pan y mae ein meibion tecaf a graenusaf yn cael eu medi gyda chynddaredd annuwiol, a hynny yn anterth eu dyddiau, ar ol i ddis- gyblaeth filwrol galed rymuso eu cyrff a rhoddi lliw iach ar eu gruddiau. Ow y gwahaniaeth sydd rhwng y ddau gynhaeaf —cynhaeaf naturiol Duw, a'i ysgubau eur- aidd a'i feysydd per a chynhaeaf annat- uriol y fall, lie y cwymp miliynau o'r gwyr y mae mwyaf o'u hangen ar y byd Swn crymanau a pheiriannau yn fiwsig yn un maes swn megnyl a gynnau yn y llall, yn malurio gewynnau a giau, yn andwyo cyrff, yn lluchio dynion yn ddarnau i fyd arall 0 oes i oes y mae'r cynhaeaf blaenaf yn dod yn ei dymor, a melys ddisgwyl am dano. Unwaith am byth sydd ddigon i'r gwallgofrwydd uffernol a nodwedda'r ail gynhaeaf ddod i gythryblu'r byd. GWYIvFA.