Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

GYDA'R MILWYR. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GYDA'R MILWYR. I Mae llawer o weinidogion ieuainc yng Nghymru yn dyheu, mi gredaf, am gyfleusterau i wasan- aethu ein Harglwydd bendigedig mewn dull effeithiol. Erys rhai ffurfiau ar wasanaeth yn bur sefydlog yn ein mysg mae eraill yn newid ac yn diflarinu. Wedi treulio ychydig ddyddiau fy hun ymysg y milwyr yn Winchester, yr wyf wedi fy llwyr argyhoeddi mai dyma un o'r cyf- leusterau mwyaf euraidd all ddod i ran unrhyw un i gynorthwyo ei gyd-ddynion a gogoneddu ein Gwaredwr. Nis gall yr ystyriol droi yn eu mysg yn hir heb deimlo rhyw gynhyrfiadau rhyfedd-cynhyrfiadau fydd yn gwthio deigryn i'w lygaid, tanio ei galon, a'i daflu ar ei liniau ac er fod hyn yn swnio yn gymysglyd iawn i rai, eto gwyr rhywrai mor naturiol ac mor wir ydyw. Clywn yno am rai pethau osodai fy enaid ar dan clywn bethau eraill drywanai fy enaid megis a phicell. Bywyd cymysg iawn yw bywyd milwr, ond bywyd real iawn ydyw. Yn y fyddin a'r cryf yn gryfach, a'r gwan yn wan- nach. Mae llawer o- newid ochr yn y fyddin. Ildia rhai i'r temtasiynau hudol ddaw i'w llwybrau try eraill eu cefnau ar ddrwg oblegid fod llewyrch tragwyddol wedi torri ar eu bywyd ac ar bechod. Ac y mae cyfrolau o ddigwydd- iadau diddorol ac arwrol yn cael eu hysgrifennu I heddyw ym myddin Prydain Fawr. AWR Y GWEINIDOG. I Wei dyllla faes ardderchog i droi iddo am dro I ynte. A dyma awr y gweinidog. Galwaf hi'll awr y gweinidog oblegid ei dro ef yw mynd yno yn awr. Mae nifer o weinidogion eisoes I wedi gweithio yn odidog dan nawdd y Y.M.C.A. ymhlith y milwyr. Ac ar ryw wedd, dyna'r unig drws agored cyfreithlon atynt ar hyn o bryd. Mae'r caplaniaid fel swyddogion crefyddol y fyddin yn gweithio yn ddyfal ac yn dda ond y mae'r gwaith yn rhy fawr iddynt allu ei gyf- lawni heb gymorth o gyfeiriadau eraill. Ac y mae y Y.M.C.A., gyda'i drefniadau gwych, i raddau pell yn gwneud i fyny y ddiffyg hwn. Mae'r sawl sydd yn gweithio ym mhebyll y Y.M.C.A. yn gallu uno dau beth pwysig, sef gweini i reidiau corff a meddwl y milwyr, a thrwy yr oil gadw eu llygaid ar iachawdwriaeth eu heneidiau, gan fanteisio yn foneddigaidd a di- dramgwydd ar bob cyfle i ddiogelu buddiannau uchaf y bechgyn sydd yn mynychu eu pebyll i gael lluniaeth, ysgrifennu ac ymddifyrru. Ond fel y digwydd, mae prinder gweithwyr ar hyn o bryd i ddwyn y gwaith hwn ymlaen. Mae cannoedd o fyfyrwyr o'r gwahanol golegau a'r ysgolion dyddiol—elfennol ac uwchraddol- yn gystal a gweinidogion, wedi rhoddi rhan, os nad yr oil, o'u gwyliau haf i wasanaethu dan nawdcl y Y.M.C.A., a chyflawnasant eu gwaith yn ardderchog, medd yr awdurdodau. Pan oeddynt oil yn y pebyll yr oedd ganddynt lawn digon o waith i'w cadw yn ddiwyd o fore tan nos ond y mae'r gwyliau wedi dod i ben yn yr ysgolion, ac yn prysur ddirwyn i ben yn y colegau, ac y mae rhai o'r gweinidogion fu yn gwasanaethu yn troi eu hwynebau adref. Ond pwy aiff i lanw lie y rhai hyn ? Beth ddaw o'r gwaith os nad aiff ugeiniau o Gymru i ganol y milwyr Cymreig ? Dyma'r gwaith wedi ei ddechreu mae wedi profi ei hun yn fendith i filoedd o lewion ein gwlad ond beth ddaw ohono yn awr ac yn ystod y gaeaf ? Naill ai fe orweithir yr ychydig weithwyr sydd yn aros, neu fe brinheir cysuron y bechgyn sydd yn aberthu eu popeth drosom ni. A oes modd dod allan o'r dyryswch ? Oes, mi gredaf ac y mae hynny yn gorffwys ar yr eglwysi a'u gweinid- ogion. Pe trefnai yr eglwysi a'u gweinidogion yn rheolaidd trwy y Parch James Evans, B.A., 5 Partridge-road, Caerdydd, i dreulio ychydig o wythnosau yn y Y.M.C.A. Centres, gellid cyfar- fod a'r gofyn i fesur helaeth. Mis caled i wein- idog fyddai mis yn y Y.M.C.A. hut, ond byddai yn fis roddai well gweinidog yn ol i'r eglwys am ei haberth a'i hymdrech dros Deyrnas y Gwaredwr. Mae'r Y.M.C.A yn foddlon talu treuliau teithio'r gweithwyr a darparu llety a bwyd iddynt ond nid wyf yn gweled fy hun pa angen hyd yn oed am hynny fydd yn hanes y rhan fwyaf o eglwysi Cymru, oblegid ar ol gweled ardderchowgrwydd y gwaith hwn, credaf y byddant yn barod i dalu y treuliau teithio a gofalu am y pulpud yn absenoldeb y gweinidog. Ein rheswm dros nodi y pethau hyn ydyw'r ffaith ddarfod i ymholwyr ynglyn a'r pwnc hwn ofyn i ni am y telerau. Nid yw talu treuliau teithio ynghyda'r supplies yn draul drom iawn i eglwysi unigol, ond byddai yn arbediad mawr i Gyngor Cenedlaethol y Y.M.C.A., yr hwn sydd yn troi ei arian yn bapur ysgrifennu ac yn gysuron i filwyr ein gwlad. Gadawaf chwi heddyw ar hyn, a rhoddaf hanes fy ymweliad a Winchester y tro nesaf. Dyma gyfle euraidd eglwysi a gweinidogion ieuainc Cymru i ddangos fod ganddynt lygaid i weled drws agored i wasanaeth amhrisiadwy i Dduw a dyn. Hyderaf na thrown ein cefnau yn nydd y frwydr. Soar, Merthyr. GWII^YM REES.

Pulpud Cymru Ddoe a Heddyw.

Saron, Treoes.

GLOEWI'R GYMRAEG. I ti' i…