Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
11 YR UNDEB YN 1916. 1YNHELIR Cyfarfodydd yr Undeb yn 1916 -,I ym Mrynaman ar y 12fed, 13eg, 14eg, a'r 15fed o Fehefin. JOHN WILLIAMS, Ysg. Hynaf.
NODION.I NODION.I II
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
NODION. I NODION. Y GOLYGYDD, Cyhuddiadau Brawychus Mr Lloyd George. MAE araith ein cydwladwr dewr, Mr Lloyd George yng Nghynghres yr Undebau Crefftol a Llafurol ym Mryste yr wythnos ddiw- eddaf, wedi taflu pelen o dan i wersyll y gweithwyr a pheri cryn ffrwydriad. Yr oedd y Llywydd wrth agor y Cynghres wedi cyfeirio yn bur blaen at y fargen oedd wedi ei tharo rhwng meistri a gweithwyr trwy gyfryngiad y Llywodraeth ac wrth fynegi fod y gweithwyr yn barod i gyflawni eu rhan hwy o'r cytundeb, galwai ar Mr Lloyd George, fel Gweinidog y Cadnwyddau, i ofalu fod y meistri yn gwneud eu rhan hwythau, ac yn cadw i lawr y proffidiau personol anferth oedd yn ffynnu yn flaen- orol. Atebodd Mr Lloyd George trwy fryseb fod pob gweithfa oedd dan ei awdurdod ef wedi ei chymeryd o ddwylo'r meistri, ac na chaffent ddimai o broffit yn fwy na chyfartaledd y 3 blynedd cyn y rhyfel, gydag un ran o bump yn ychwaneg i gyfarfod a'r amgylchiadau gwahanol oedd y rhyfel wedi ddwyn arnynt. Y canlyniad oedd gwahodd Mr Lloyd George i lawr i egluro ei fryseb, gan y tybid fod awgrym ynddi mai'r gweithwyr oedd yn syrthio'n fyr o'u rhan hwy o'r cytundeb. Derbyn- iodd y Cadnwyddor y cynnyg yn ddiatreg, a dadlennodd yn ddiarbed y cyflwr truenus yr ydym fel gwledydd unol ynddo oher- wydd diffyg arlwy rhyfel, ac fod anaws- terau afresymol a gwallgof yn cael eu rhoi ar ffordd ein byddinoedd a'n llynges'gan ddosbarth o weithwyr na faliant fawr am ddim ond eu budd a'u poced eu hunain. Gofalodd, bid siwr, am ddywedyd" fod mwyafrif mawr y gweithwyr yn gwneud eu rhan yn ganmoladwy, ond yr oedd y lleiafrif digydwybod a digywilydd hyn yn llesteirio'r gweithfeydd a'r melinau i'r fath raddau nes peryglu ein hachos a'n llwydd- iant. Methai Rwsia ddal ei thir yn erbyn y gelyn yn unig oherwydd hyn, a methai hefyd Syr John French a Joffre wneud dim yn y gorllewin i ddatod crafanc y gelyn ar wddf ein ff-rindiau yn y Dwyrain. Mewn gair, yr oedd y rhyfel wedi ei thynnu i lawr i ornest ofnadwy rhwng gallu'r ddwy- blaid i ddarparu cadoffer, ac hyd yn hyn yr oedd Germani yn cynhyrchu swm aruthrol yn fwy na'r holl wledydd oedd yn ei herbyn gyda'u gilydd. Brwydr yw bellach rhwng gweithwyr ac undebau Prydain a gweithwyr ac undebau Germani. Hyd yn hyn crefftwyr y gelyn pia hi o ddigon, ac apel Mr Lloyd George oedd am i grefftwyr Prydain droi'r byrddau arnynt, a thrwy hynny ennill y dydd. Heb hynny, dyweder a fynner, nid oes obaith euro archelyn gwareiddiad a dynoliaetli, a bydd milwryddiaeth satanaidd Germani yn ben ylbyd. Manylion. DYMA rai o'r enghreifftiau ddygodd Mr Lloyd George ger bron y Cynghres i brofi ei gyhuddiadau (1) Gwrthodiad pendant yn Woolwich, Deheubarth Cymru, a mannau eraill, i gan- iatau crefftwyr heb brofiad i weithio dan grefftwyr profiadol a medrus. Nid oes eisiau llawer o fedr na phrofiad i ofalu am beiriannau sy'n gweithio bron ohonynt eu hunain, ond rheol Undeb y grefft yw mai peirianwyr medrus (fully-qualified) yn unig sydd i wneud hyn o orchwyl. (2) Gwrthodiad i ganiatau merched a labrwyr wneud gwaith sydd yn rhwydd o fewn eu gallu, dan arolygiaeth crefftwr hyddysg a medrus. (3) Yn Birmingham aethpwyd mor bell a gwrthwynebu i beiriannwr melinau helpu i roi ynghyd felin i wneud drylliau-peir- iannol, yn unig am "ei fod wedi arfer gweithio ar felinau gweu cotwm a gwlan. Dyma wrthod gweithiwr medrus a disgvbl- edig, yn unig am nad oedd o'r un sect a'r grwgnachwyr. (4) Yn Enfield gwarafunwyd i weithiwr ennill mwy na swllt yr awr gan ei gyd- weithwyr, pan y gallasent oil yn rhwydd wneud llawer mwy trwy weithio yn gal- etach. (5) Yn Coventry cwynwyd yn erbyn crefftwr orffennodd orchwyl mewn 8- o oriau, pan yn ol arfer a rheol y weithfa, neu yn hytrach y gweithwyr arbennig hynny, y dylesid cymryd 31t o oriau i'w chyflawni. Yn y cwbl o'r cyhuddiadau mae'n amlwg fod y gweithwyr sy'n euog o ymddygiad mor anfad yn benderfynol o gadw i fyny drefn a chwstwm eyffredin dyddiau hedd- wch ar adeg o ryfel enbyd, pan mae pob defod ac arfer i'w taflu i'r-gwynt os yn helpu yn y mesur lleiaf i ladd a llofruddio ein beehgyn dewr ar dir a mor ac i ddin- istrio'r Ymerodraeth yr un pryd. Yr oedd effaith yr araith yn ysgubol, ac yr oedd yn amlwg na wyddai'r alwein- wyr na'r aelodau fawr ddim am y sefyllfa. Derbyniad digon oeraidd gafodd Mr Lloyd G e o r g e ar y cyntaf, ond lloriwydy Cynghres yn Ian gan gynnwys a hyawdledd yr araith. Yr oedd y ffeithiau mor fraw- ychus fel a cariwyd argyhoeddiad i galon y gwrandawyr, a diweddodd yr areithydd mewn banllef o gymeradwyaeth. Mae Mr G. S. Barnes, y Sadwrn diweddaf, wedi ategu bron yr oil o'r cyhuddiadau—ac efe yw Ysgrifennydd Cymdeithas y Peirian- wyr. Yr hyn wnaeth y Cynghres oedd pasio penderfyniad i wneud ymchwil i'r cwynion yn ddioed, a dwyn adroddiad arnynt. Dylasai yr un pryd anfon allan gais pendant at y gweithwyr oil i roi eu goreu yn eu gwaith, ac i osgoi hyd yn oed arlliw o amheuaeth gwaradwyddus fel hyn ynglyn a'u hymddygiad a'u cyflawniadau. Diau y gwneir hynny hefyd pan welir gwir gyflwr pethau. Ond ni ddylid ymdroi munud. Gorfodaeth Filwrol. RHODDODD y Cynghres ergyd drom i orfodaeth filwrol trwy basio yn un- frydol benderfyniad cryf 1 w wrthwynebu ymhob iiuri arno. Ac ni chafodd dim a fynegwyd arno gymaint cymeradwyaeth a'r ymradodd ei bod yn ddyledswydd ar feibion llafur i'w wneud yn amhosibl. Gobeithiem y buasai hyn yn ddigon i roi taw ar y cynhyrfwyr oil. Ond fel arall y mae. Dywedir yn awr fod y Llywodraeth yn rhanedig ar y mater, ac fod mwyafrif y Pwyllgor benodwyd i edrych i mewn i'r Cofrestriad Cyff redinol yn ei gymeradwyo. Mae Northcliffe a'i bapurau yn clochdar yn lied uchel un- waith eto, ar ol cael amhenthull fel hyn i'w cyfnerthu yn eu gwendid gresynus. Ac mae rhai gwrthwynebwyr pendant yn barod i gyfaddawdu arno os dywed y Llywodraeth ei fod yn angenrheidiol. Ond dyna'r pwynt mewn dadl. Yn wyneb safle pethau heddyw gartref ac ar y maes, a all unrhyw beth ei wneud yn angenrheidiol ? Yn wir, ai nid yw yI\. dod yn gliriach i olwg pawb diragfarn bob dydd y bydd y frwydr wedi ei cholli i Brydain a'i chyfeillion y foment y mab- wysiedir gorfodaeth ? (1) Yn gyntaf oil, ai nid baich mawr araith Lloyd George ym Mryste, a'i fyneg- iadau yn y wasg wedi hynny, ydyw mai gornest mewn arlwy a nwyddau rhyfel ydyw erbyn hyn ? Ai nid oes miloedd o filwyr wedi ymrestru er's misoedd sydd heb danio ergyd na handlo dryll eto ? Ai nid yr achos am encil y Rwsiaid a 110n- yddwch French a Joffre yw annigonol- rwydd cadarlwy a chadoffer ? Ymhle y ceir y rhai hyn os parheir i wthio ein bechgyn i'r fyddin sy'n ymladd ? Cwrs o hunanladdiad hollol ydyw. (2) Prydain yn unig sydd i dalu cost y rhyfel ar hyn o bryd. Mae Rwsia a Ffrainc ac Itali ymhen eu tennyn yn y mater hwn. Mae canolfannau llaw-weithfaol y ddwy wlad gyntaf yn llaw'r gelyn, ac mae mas- nach mewn nwyddau a gwledydd eraill yn amhosibl iddynt. Prydain yn unig sy'n abl i gario ymlaen ei diwydiannau yn