Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

NODION.I NODION.I II

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

effeithiol, er nad yn agos i'r hyn arferai fod. Ond trwy ei chynnyrch masnachol hi yn unig y gellir trafnidio a gwledydd eraill, a thalu mewn nwyddau ac nid mewn aur. Y foment yr erys ein diwydiannau aiff yr Unolwyr oil yn fethdalwyr, a dyna'r diwedd wedi dechreu. Os am oroesi Ger- mani mewn cyfoeth a nwyddau a nerth rhaid cadw'r melinau a phopeth i fynd hyd y gellir, ar wahan yn hollol i ddarparu offer a nwyddau rhyfel. Rhaid cadw'r siop a'r gweithdy a'r mwnglawdd yn agored, ac i fynd mor brysur ag y gellir, onide ofer fydd byddin a llynges a phopeth. Y ffordd i'w cadw hwy mewn arfau yw cael arian dros y counter gan gwsmeriaid tramor mor brysur ag y gellir eu casglu. (3) Un o amodau llwyddiant heddyw yw cadw'r genedl yn unol, a'i chael i roi ei hysgwydd i gyd o blaid yr achos. Mae undeb ysbryd a meddwl a gwaith yn han- fodol i ennill y dydd. Y foment yr awn i ymrannu a chweryla, dyna'r ddarpariaeth ar gyfer y rhyfel i lawr i'r hanner a'r un- waith, a chyn hir i gyd. Oblegid mae pen- derfyniad Bryste, a'r fiasco o gynnyg gor- fodi glowyr y De pan fygythid streic gyffredinol fis yn ol, yn profi yn eglur lie byddai gweithwyr y deyrnas pe ceisid eu gorfodi i fynd i rengoedd y milwyr. Mwy na hnyny, byddai y Weinyddiaeth ei hun yn gandryll. Ac mae miloedd o bobl oreu'r wlad safent yn ddigryn yn erbyn pob bygythiad i'w gyrru. (4) At hyn oil ychwaneger yr ystyriaeth bwysig fod y genedl eisoes wedi ymrestru mor dda fel mai ychydig o gannoedd o filoedd-prin 200,000—geid, o fewn yr oed a'r cymhwyster, i'w gorfodi o gwbl. A beth yw hyn o'i gymharu a'r llanastr a'r chaos a'r difrod wneid ar holl fywyd y genedl er ei fwyn ? Dywedwn eto na byddai hyn ond achos chwerwedd a chweryl, ac ar yr un pryd ni cheid digon o wyr drwyddo i'n harbed rhag cael ein gorchfygu. (5) Pan fo eisiau milwyr, nid oes eisiau i Kitchener wneud dim ond galw am danynt na ddeuant yn wirfoddol a digonol. Os na enillir y dydd trwy wirfoddolwyr, ni enillir ef byth. Ac o'n rhan ein hunain dywedwn, os ydyw ennill yn golygu Prws- aneiddio Prydain, bydd yr ennill bron yn gyfystyr a chael ein concro, oblegid nid Prydain rydd, werinol, heddychlon fydd yr un fydd ar ol. Hoced yr Huniaid. MAE baerllugrwydd a hoced y gelyn tuhwnt i bob dirnad- aeth. Tra'r oedd Bernstorff yn sicrhau America fod y difrod gwaradwyddus wneid gan sudd- longau Germani i derfynu, yr oedd y giw- aid yr un pryd yn saethu'r Hesperian. A thaerant yn awr fod yr Arabic un ai yn anelu am redeg eu suddlong i lawr, neu fod ei chapten yn tybio hynny Ac os oedd dadl i fod ar y pwnc, y dylid apelio at Lys yr Hague ond hyd yn oed pe dyfarnai hwnnw yn eu herbyn nad oeddynt yn bwriadu talu dimai o iawn na dioddef blaen pin o gosb. Ac i brofi ymhellach nad oeddynt yn hidio blewyn beth oedd barn America am danynt, suddasant yr Hesperian heb roi na rhybudd na help i achub un o'r teithwyr. A diau yr haerant eto fod ym mryd yr Hesperian i wneud rhyw ddrwg i'w suddlong, er na welodd mohoni, ac felly ei bod yn llygad ei le wrth ei suddo. Oni ddywedodd Bernstorff mai ar yr amod i'r ysglyfaeth diniwed beidio ymosod na dianc yr arbedid y byw- ydau ar ei bwrdd, a phwy sydd a hawl i farnu hynny ond y German ? Ac os tybia ef y gall llywydd y Hong Brydeinig feddwl neu ddychmygu am ymosod neu ddianc, hyd yn oed pan heb weled ei sudd- long o gwbl, dyna ddigon o esgusawd i'r German dros ei suddo Nid yw o wahan- iaeth yn y byd felly beth a feddylia nac a wna neb a rail; yr unig bwnc o bwys yw beth a feddylia neu a ddyfeisia yr Huniad sy'n llywio'r suddlong. Mae'n syn meddwl fod America wedi ei thwyllo am foment gan faldordd o'r fath, a da gennym ganfod arwyddion ei bod yn dechreu agor ei llygaid. Gwnaeth yn dda i yrru Dumba ysgymun ynghylch ei fusnes, ond disgwylia'r byd rywbeth pellach eto ynglyn a Bernstorff gelwyddog a'i weision cyfrwys-ddrwg. Mae America wedi goddef mwy na digon o wawd a dichell y gethern yma. Cw?o C ynilo E??o. YNGLYN a'r mater hwn tyn- nwyd ein sylw at dri pheth yr wythnos ddiweddaf. (1) Un o e d d eglurhad LlefarYdd y Ty na fynnai efe o gwbl dynnu dimai i lawr ar gyflog neb o'r ael- odau seneddol oddigerth y rhai sy'n gallu byw yn fras ar eu hincwm eu hunain. Ac mae rhywbeth hefyd yn yr hyn ddywed yn erbyn lleihau cyflog aelod sy'n gweithio yn galed am dano. Lliniara hyn lawer ar yr ymadrodd briodolid iddo, sef atal cyf- logau'r aelodau ac yntau ei hun yn derbyn miloedd o bwrs y wlad. (2) Cadw'r geiniog ond colli'r bunt yw ymgais y Trysorlys a'r Swyddfa Addysg ac awdurdodau lleol i dlodi colegau ac ysgolion y wlad. Mewn un ystyr, addysg i Germani sydd wrth wraidd ei holl nerth a'i llwyddiant, ac wele ni am dolli ar y tipyn wariwn ar y peth hanfodol hwn. (3) Ond y peth digrifaf o bopeth oedd gwaith papur Bglwysig yn edliw dyledion y Methodistiaid fel gwastraff, ac yn rhyb- uddio pawb a ymunai a hwynt fel aelodau eu bod yn cyfranogi mewn gwastraff an- esgusodol wrth wneud. Ac ymostynga i edliw fod un gweinidog yn cadw motor ar adeg fel hon I Ond nid yw yn yngan gair am ugeiniau o glerigiaid bach digon gwledig sy'n cadw cerbydau a motors ar draul y wlad, ac nid oes ganddo gymaint ag awgrym i'r esgobion i droi dimai yn ol o'r miloedd dderbyniant am eu gwasanaeth gwerthfawr! Ni welsom well enghraifft erioed o ddameg y trawst a'r brycheuyn. Daw ymgyrch gynilo yn fuan o amgylch, a diddorol fydd gwylio abertli y clerig- iaid, yn enwedig y rhai mawr ohonynt. Crybwyllion. (I) MAE gan Mr John Williams, Waunwen, Hanes Annibyniaeth Abertawe a'r Cylch ar fin dod o'r wasg. Gwelsom rai o'r proflenni, a beiddiwn broffwydo gwledd flasus i'r neb gar draddodiadau a gwrhydri ei Bnwad. Mae yn ddiddorol dros ben. (2) Cyfrol drwchus, ddestlus yw un y Parch James Charles, Cadeirydd yr Undeb, ar Ddiwinyddiaeth y Testament Newydd. Bydd gennym adolygiad arni cyn hir, ond gallwn heddyw ddywedyd oddiwrth yr hyn ydym eisoes wedi ddarllen ohoni ei bod yn gyfrol gref, ffres, a meddylgar dros ben. (3) Mae gan Beriah lyfr newydd hefyd ar gael ei gyhoeddi-The Life Romance of Lloyd George. Y cyhoeddwyr fydd y Meistri Dent, a'r pris 2/- a 3/6. yn ol y rhwymiad. Dywedir mai dyma'r peth goreu wnaeth Beriah eto, ac mai dyma yr hanes byr goreu o fywyd ein cydwladwr enwog. Disgwyliwn arlwy fras. (4) Cynhelir Cynhadledd yn Llundain y mis nesaf o holl gaplaniaid yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, &c. Cynhwysa'r caplan- iaid hyn nid yn unig y rhai sydd gyda'r fyddin adref ac oddicartref, ond hefyd yr officiating ministers swyddogol yn nhrefi'r gwersylloedd, a'r gweinidogion sy'n swydd- ogol yn gweini ar y milwyr clwyfedig yn yr ysbytai. Bydd amryw o Gymry ynddi. Gyda Haw, byddai yn dda i berthynasau milwyr anfon gair at y swyddogion hyn. Yng Nghaerdydd nyni sy'n gofalu am y milwyr Annibynnol Cymreig yn y gwer- sylloedd, a'r Parchn W. C. Parry a D. R. Jones, M.A., sy'n gofalu am yr Annibyn- wyr clwyfedig yn yr ysbytai. (5) Mae tri o Annibynwyr ieuainc ymysg y meddygon milwrol yng Nghaerdydd, sef Capten Dr Ivor Davies, mab y diweddar MrE. H. Davies, Pentre Lieut. Dr Joseph Lloyd, mab Mr David Lloyd, Abertawe a Iieut. Dr Rufus Bowen, mab y Parch W. Bowen, Penygroes. (6) Mae amryw yn gofyn paham y gos- odir cyrddau Undeb Brynaman i ddechreu nos y Llnngwyn, pan y bydd yn anghyf- leus i deithio, ac yn amhosibl i lawer fod yno olierwydd gwyliau'r Sulgwyn, a chyf- arfodydd, a treats Ysgolion Sul, &c. Hin j hateb ni yw nas gallwn ddyfalu. Efallai J yr etyb rhai o frodyr da y lie, neu swydd- ogion y Pwyllgor.