Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
Mrs Pankhurst yng Nghaerdydd.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mrs Pankhurst yng Nghaerdydd. Yn ol yr hysbysiad ar y tudalen cyntaf, y mae Mrs Pankhurst i anerch cyfarfod mawr yn y Park Hall, Caerdydd, Medi 22ain, am wyth o'r gloch yn yr hwyr, ar 'How to Win the War.' Amcan y cyfarfod ydyw meithrin gwlad garwch, ac i ddwyn adref i bawb fawredd yr ymgymeriad presennol. Er toriad allan y rhyfel, y mae Mrs Pankhurst wedi taflu ei holl ynni i'r gwaith. Y mae llawn mor ymdrechgar yn awr dros y rhyfel ag ydoedd amser yn ol dros gael pleidlais i'r menywod. Yn ystod yr haf trefnodd W.S.P.U. i gynnal Gorymdaith Fenywaidd yn Flundain; a Mrs Pankhurst ddygodd ger bron y priodoldeb o gael gwasan- aeth y merched i wneud defnyddiau rhyfel.
, Y GWEITHIWR A GORFODAETH.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y GWEITHIWR A GORFODAETH. At Olygydd y Tyst. Syr,-—Penderfynodd Is-bwyllgor y Weinydd- iaeth, a sefydlwyd o dan lywyddiaeth Arglwydd Crewe beth amser yn ol, i gael allan y cynllun goreu i ymrestru milwyr, gymeradwyo bod pob rhan o'r wlad i'w gosod o dan orfodaeth i restru nifer penodol i'r fyddin. Ni wyddys beth fydd llais y Senedd ar y mater aruthrol bwysig hwn ond er yr holl floeddio, dichon mai barn Arglwydd Kitchener gaiff fod yn derfynol. Try ein medd- yliau yn ol i hanes Prydain gan inlynedd yn ol, pan yr oedd rhyw fath ar orfodaeth yn gyfraith gwlad. Bryd hynny, heblaw rhestru dynion fel gwirfoddolwyr, yr oedd codi milwyr yn beth tra chyffredin. Ychydig o wyr ieuainc, a man dyddynwyr mewn ardaloedd gwledig, fyddent yn foddlon i wasanaethu yn rhengau y meiwyr dros- tynt en hunain. Gan hynny yr oedd yn rhaid i'r rhai a godid trwy y tugel, os yn anfoddlon i wasanaethu'n bersonol, gael eraill i sefyll yn eu lleoedd. Ni ellid cael hynny heb symiau go fawrion o arian i wobrwyo a boddloni'r cynrych- iolwyr. Y ffordd a gymerid fyddai clwbio, sef i bob un y byddai ei enw i lawr fel un cymwys i wasanaethu ymysg y meiwyr dalu swm pen- odol, ac i'r arian gael eu defnyddio i wobrwyo'r rhai a safent drostynt eu hunain, ac i gyflogi cynrychiolwyr. Yr oedd peth felly yn draeth drom ar y werin mewn amser pryd yr oedd cyf- logau yn fychain, ac yr oedd y wlad hon yn llawn o anfoddlonrwydd o'i herwydd. Os byddai rhywun yn gwrthod talu ei gyfran i'r clwb, nid oedd hwnnw i gael dim arian iddo'i hun nac i bwrcasu cynrychiolwr. Bob yn dipyn sylwyd nad oedd meibion pobl gyfoethog byth braidd yn cael eu codi trwy y tugel, a dechreuwyd ameu a oedd eu henwau hwy ar y llyfrau o gwbl. Cryfhaodd yr amheuaeth fwy-fwy, a phender- fynwyd chwilio i'r peth a mynnu cael gwybod a oedd eu henwau i lawr ac ymysg y rhai oeddynt i gael eu codi at y meiwyr ond ni chaniateid iddynt gael gweled y llyfrau na chwilio i'r mater. O'r braidd y byddai'r fath ystryw'n bosibl yn yr ugeinfed ganrif. Yn wir, tra parhao'r rhyfel, mae unrhyw fath ar orfodaeth yn amhosibl heb ganiatad a chydsyniad y gweithwyr, neu o leiaf yr undebau llafur. Mae hyn mor wir am orfodaeth milwrol ag ydym am orfodaeth ddiw- ydiannol. Ceir prawf eglur a tharawiadol o hyn yn araith odidog Mr Lloyd George i Gynhadledd yr Undebau ym Mryste ddydd Iau diweddaf. Nid gosod y ddeddf i lawr oedd ei waith ef yno, ond yn hytrach apelio atynt am eu cydweith- rediad i gadw'r ddeddf, yn enwedig y ddeddf honno a rydd hawl iddo ef, fel Gweinidog Arlwy Rhyfel, i gwtogi breintiau undebau'r crefftwyr yn ystod y rhyfel, os bydd angen. Gosodwyd Deddf Arlwy mewn grym yn Neheudir Cymru yn ystod yr helynt diweddaf, a gwelwyd yn union mai llythyren farw ydoedd yfi wyneb gwrthwynebiad pendant a diarbed y gweithwyr. Dyfynnodd Mr Lloyd George amryw englireifft- iau eraill i brofi'r un ffaith, sef nad yw deddf a chyfraith gwlad ond megis man us yn cael ei chwalu gan y gwynt pan fo corff unol o weith- wyr yn llwyr fwriadu eu gwneuthur yn ddirym. Ni wn beth fyddai polisi'r undebau llafur pe bai gorfodaeth filwrol yn dod yn gyfraith gwlad. Penderfynodd Cymanfa fawr llafur ym Mryste yr wythnos hon yn erbyn y cynllun a hwyrach y byddent yn barod i roi prawf ymarferol o'u hargyhoeddiad ar y mater pe bai galw am hynny. Modd bynnag, dyna'n hunig gobaith mai meth- iant fydd yr ymdrech sydd ar led i osod y maen hwn ar wddf y genedl. Ond y ffaith wyf am ei phwysleisio ar hyn o bryyw bod yr argyfwng wedi taflu cymaint o nerth a dylanwad i ddwylo undebau'r gweithwyr nes gwneud gorfodaeth y ddeddf yn enw disylwedd. Ymddengys hefyd nad yw ceisio darbwyllo nemor effeithiolach na cheisio gorfodi. Credasom 11a fyddai cyffro nac atal gweithio mwyach yn ein plith wedi'r cyfaddawd newydd, ac y mae'r Weinyddiaeth a lliaws o arweinwyr llafur cyf- rifol wedi gwneud eu goreu i ddarbwyllo'u praidd i weithio'n gyson. Er hynny, wele glowyr Gwaencaegurweu yn mynd ar streic yr wythnos hon eto am fod rhai na pherthynant i'w hundeb yn gweithio yn yr un pwll. Mae'r an-undebwr yn bla ar y wlad heddyw mae'r streic hefyd yn brawf na ddarbwyllir dosbarth o weithwyr i osod lies cyffredinol y wlad uwclhaw lies eu hundeb. Y cwestiwn pwysig yw, Beth fydd effaith y pethau hyn ar farn y cyhoedd wedi yr elo'r rhyfel heibio ? Ni all yr undeb cryfaf sylweddoli ei ddelfrydau uchaf yn y pen draw heb gynhorthwy'r rhan honno o'r werin sydd y tu- allan i undebau llafur ac y mae cydymdeimlad a chydweithrediad y dosbarth hwn yn werth eu hennill. Er yr oil a ddywed Glowr,' yr wyf yn werinwr i'r earn ond nid ei ffyrdd ef yw fy ffyrdd i er hynny. Yr eiddoch, &c., BURLAIS. I
r Ffli nt.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
r Ffli nt. I Ing ac Alaeth.-Mae Gwesyn wedi ei glwyfo Dyna'r gair aeth fel trydan trwy wersyll Seion, gan gyfeirio, w r t h gwrs, at Lance-Corporal Gwesyn G. Williams, mab y Parch J. D. Williams, ein parchus weinidog. Gyda'r 1/5 Bat. R.W.F. (T.F.) yr ydoedd yn y Dardanelles, ac yr oeddynt yn y glaniad diweddaf yn Anafarta-a mawr y galanas a fu yno, yn ol pob hanes. Clwyfwyd. Gwesyn ym mhen uchaf ei fraich aeth y bwled trwy y cnawd i mewn ac allan, ond ni chyff- yrddodd a'r asgwrn. Y mae ar hyn o bryd yn llawer mwy esmwyth yn un o ysbytai y wlad hon, ac yn cael triniaeth anhygoel o ofalus a charedig. Disgwylir ef adref cyn bo hir, a mawr fydd y llawenydd y diwrnod hwnnw. Mae ein pryder yn fawr ynglyn ag un arall o blant Seion ag oedd yn y glaniad gyda Gwesyn, sef Theadven Jones, mab Mr J. Sauvage Jones. Mawr hyderwn ei fod yn iach a diogel. Mae ugeiniau lawer o feibion Fflint yn y gatrawd hon, a'u perthynasau 1 heb air o gwbl yn eu cylch, a mawr yw yr ing a'r alaeth. Troi Sychau yn Gltddylatt.Dyna yn gymwys beth a wneir yma ar hyn o bryd. Gweithfaoedd ag oedd gynt yn troi allan gynhyrchion cynhal- iaeth i ddyn ydynt yn awr yn mynd trwy gwrs J o ail-eni fel ag i gynhyrchu moddion dinistr i II ddyn ac anifail--a mawr yw y prysurdeb. J. M. E.
Dyffryn Taf.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Dyffryn Taf. Hebro,ii.-Stil Cymundeb Awst cafodd yr eglwys hon 14 o ychwanegiad at nifer ei haelod- aeth. Derbyniwyd naw o fysg ieuenctyd yr eglwys, a phump drwy lythyrau. Y mae cael nifer fel hyn yn amheuthun, ac yn galonogiad pan y mae mwy o swn cwyno na seinio can yng ngwersyll Seion. Cawsom hefyd yn ystod y mis fwynhau gweinidogaeth rhai o'r plant sydd o gartref. Pregethwyd gan y Parchn D. Adams, B.A., B.D., Dowlais, a T. Tudor, Ebbw Vale. LIon gan y frawdoliaeth oedd eu gweled a chlywed am eu llwyddiant. Ni phregethasaut yma erioed yn well nag eleni, a dymuniad y fam-eglwys ydyw ar iddynt lwyddo o hyd yn fwy-fwy. Tysteb Mr Rhys Evans, Llanfallteg.—Y mae y gwr da ac adnabyddus uchod, oherwydd sef- yllfa anfoddhaol ei iechyd, wedi gorfod rhoddi yr ysgol i fyny. Y mae Mr Evans wedi gwneud ei hun yn ddefnyddiol a gwasanaethgar iawn yn y cylchoedd hyn. Y mae wedi gwasanaethu am lawer blwyddyn fel diacon ac ysgrifennydd yr eglwys ieuanc yn Llanfallteg, ac yn adnabyddus i gylch eang fel gwr medrus a pharod i bob gweithred dda. Bydd yn llonder i feddwl Mr Evans a'r teulu gael prawf sylweddol o gyd- ymdeimlad y gymdogaeth a'r wlad a hwy. Diau y bydd yn dda gan rai o hen gyfeillion Mr Evans gael atnlygu eu parch tuag ato a'u dymuniadau da iddo. Derbynnir unrhyw swm yn ddiolchgar gan yr ysgrifennydd, Mr J ames Davies, Ffynnon- wen, Login, S.O., neu gan y gweinidog, y Parch, D. E. Williams, Henllan.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GLANDWR, TAF.—Cawsom ein gwasan- aethu yn ein cyfarfodydd blynyddol eleni, y rhai a gynhaliwyd ar y Sul a'r Llun, Medi i2fed a'r 13eg, gan y Parchn J. Oldfield Davies, B.A., Ton, a J. Elias Thomas, Flangadog. Cyfarfod- ydd a gofir yn hir; cafwyd gwenau Nef a daear.
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
GENf, PRIODI, A MARW. PRI0DA5AU. RAKE-DAVIES.-Dydd Mawrth, Medi 7fed, yn y Taberuacl, Aberdar, Mr Peroy T. Rake, Dental Chambers, Trecycon, mab ieueogaf Mrs Rake a'r diweddar Mr G. Harwood Rake, Trecycon House, â Miss Gertrude Elizabeth (Ge! tie), unig ferch y Parch a Mrs J. Stilgwyn DRvies (Siloh), 58 Bron- iestyn-terraoe, Aberdar. Rhoddwyd y briodasferch i ffwrdd gan ei hewythr, Mr Thomas Edwards, grocer, Trecynou. Y llawforwyn oedd Miss Nancy Kdwards, Llythyrdy, Cwmdar; a'r gwas priodas oedd Mr T. LI. Phillips. Pharmacist, Ulifton. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch J. Sui- gwyn Davies, yn osel ei gynorthwyo gan y Parch J. D. Rees, Salem, Aberdar. Chwareuwyd y 9 Wedding March (Mendelssohn) ar yr organ gan Mr G. R. Protheroe, Boxted. Yr oedd yr anrhegion ptiodasol yn lliosog a drudfawr. Ar ol y seremoni ymadawodd y p&r dedwydd am Torquay.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Gwendid Mawr. Cylla Drwg laohad Rhyfeddol iawn gan Dr. Cassell's Tablets. 9 Prin y credwyf y buaswn byw yn awr oni bai am Dr Cassell's Tablets,' meddai Mrs Smith, 168 Oastle-st., Great Grimsby. Yr oeddwn mewn sefyllfa ddifrifol o iselder gieuol, gyda'r diffyg treuliad mor ddrwg fel yr oedd arnaf ofn bwyta o gwbl. Yr oedd fy mrest yn boecus hefyd, a blinid fi yn ddyddiol gan y ddatmodd. yna tyfodd lwmp yn fy ngwddf. Dywedwyd ) Mrl .Sm/t?.. j: wrthyf yr achosid hyn gan y giau, a'm bod yn dioddef oddiwtth wendid gieuol o'r math waethaf. I ychwan- egu at ty ngofid, nis gallwn gysgu byddwn yn aml yn goiwedd yn effro hyd bedwar o'r gloch y bore. 6 Troiais bopeth posibl, a chefais gyngor meddygol da, ond Did oedd dim a gyffyrddai a'm hachos. Yr oeddwn yn y fath sefyllfa ofnus ac isel erbyn hyn fel yr arswydwn fod wrthyf fy hun. Pa fodd bynnag, darfu i gymydog caredig fy nghynghori i gymeryd Dr Cassell's Tablets. vefais hwynt, ac o'r adeg honno yr oeddwu yn gwella bob dydd. Yn awr yr wyf mor iach a siriol ag erioed.' Dr. Cassell's Tablets. Mae Dr Cassell's Tablets yn feddyginiaeth ddidwyll a phrofedig at yr holl ffurfiau o wendid gieuol a chorfl- orol yn yr hen a'r ieuinc. Gan eu bod yn gyfansodd- edig o faeth gieuol a moddion cryfhaol tuhwot i ddadl, cydnabyddir hwyt-t fel y driniaeth gartrefol d liwedd- araf at GIAU DRYLLIEDIG AFIECHYD YR ARENNAU GIAU PARLYSEDIG ANNHREULIAD PARLYSIAD ASGWRN Y CEFN ANHWYLDER Y CYLLA PARLYSIAD MABANAIDD CAMFEITHRINIAD CLEFYD Y GIAU AFIECHYDON NYCHLYD GWENDID GIEUOL DYCHLAMIAD Y GALON DIFFYG CWSG DIHYSBYDDIAD YNNI GWENDID Y GWAED DADFEILIAD CYNHAROL Maent 0 werth arbennig i Famau sydd yn Magu ac yn ystod Uyfnodau Peryglus Bywyd. Gwerthir Dr Cassell's Tablets gan Fferyllwyr ac mewn ystordai drwy yr holl Iyd. Prisoedd: lOJc, Illi, a 2/9— mae'r botel 2/9 yn rhatach. Anfonir i chwi brawf- sypyn rhad ar dderbyniad eioh enw a'ch cyfeiriad a dau stamp ceiniog at dalu'r treuliau. Oyfeiriad Dr Oftssell's Co., Ltd., 418, Chester-road, Manchester.
I CAIS MRS. LLOYD GEORGE.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
representative District Councils of Wales to join the Committee in order to ensure the success of this and future efforts that will beyond doubt be necessary in order to cope with the needs of the very large number of Welsh Troops now serving their King and Country. The Committee is anxious that the Fund should be in every way National.' As soon as the necessary arrangements are completed I shall furnish you with particulars, when I trust we may be favoured with your sympathetic co-operation. Yours faithfully, M. LLOYD GEORGE, I Chairman of Committee. I