Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Trwy anffawd, methwyd rhoddi aneTchiad I Mr Evans yn ei le priodol.
i Hermon, Plasmarl. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Hermon, Plasmarl. I Galwad.-Mae'r eglwys uchod wedi roddi gal- wad i'r Parch J. P. Gough, Rhos, Rhiwabon, i ddyfod i'w bugeilio yn yr Arglwydd, ac y mae yntau wedi ei hateb yn gadarnhaol. Credwn y gwna olynydd teilwng i'r tri gweinidog rhagorol sydd wedi bod yn gwasanaethu yma, sef y diw- eddar Barch T. Dennis Jones, y Parch R. O. Hughes, a'r Parch Ben Davies (yn awr o Lan- dysul). Cwrdd Blynyddol.-—Cynhaliwyd yr uchod ar y dyddiau Sadwrn, Sul a 1,1 u 11, Medi 43rdd, 5ed a'r 6ed. Pregethwyd 37n ardderchog gan y Parchn J. Vernon Lewis, B.A., B.D., Jverpwl, a J. Griffith (B), gweinidog newydd Calfaria, Treforris. Da oedd gennym fel eglwys weled cymaint o wein- idogion yr ardal yn rhoi eu presenoldeb yn ein cyrddau pan ydym heb weinidog, sef y Parchn S. Williams, Glandwr D. M. Davies, Waunar- lwydd W. Davies (M.C), Glandwr T. J. Lewis (M.C), Plasmarl; J. Lott Hughes (B), Llundain a D. Morgan, Gloucester, aewjd. I
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Now, CROEN CNAWD ASGWRN Rhaid Gofalu am y rhai hyn. | Esgeulusdod neu unrhyw Niwed i'r rhai hyn drwy Ddamwain neu Glefyd a all achosi BLOOD POISONING A MARWOLAETH. Er mwyn ysgoi y perygl rhaid ymarfer Meddyginiaeth Effeith- iol mewn pryd. 'Does dim mor llwyddiannus a sicr a GOMERS BALM. Mae bwn yn awr yn cael ei gydnabod gan filoedd I fel y Meddyglyn mwyaf sicr a diogel a ddar- I8 ganfyddwyd erioed at iachaa Clwytau, Arch- ollion, Tardd- iantau y Cnawd, — Eczema, Grach I Nedd yn Mhlnau Pioli i.imiadme ys- ??\tf? ealdanau.8cun, U.??\V?/ Uycriadau Ban- ywed, HMt, a ? ? |f /A Babano4 y7?/ PMM,TMW«n, "T [\ ?fy?/??t Gout, cymdau ? P"nuse ? ??it?3? RhMmaMM, 9 jHL? t??" 1 ?OM Olin. L Hyood Effeithiol at G l W Y F A U Yr wyf wedi dioddef (;LWYFAU poenan dirfawr gan fy aglin | am flynyddau, &0 yn parban I • n felly hyd nee i mi ?ddef- HH nyddio 'Gomer's Balm,'yr hwn yn ebrwydd a esmwyth- G 0 ES A U *?? y ???"' & ?we!!haodd GOESAU. yctwyfauyfburfoM. i MILOEDD YN TYSTIO I'W EFFEITHIAU RHYFEDDOL. Rhoddwch Brawf arno. Gwellhad sydd Sicr. A r werth gan bob Chemist a Stores am Is l £ c. Gofyuner am I GOMFH'S BALM.' Mym.wch weled enw JAOOB HUGHES ar bob blwch. Heb byn twyll ydyw. Neu danfoner ei werth mewn Stamps neu P.O. at JACOB HUGHES, M.P.S.,L.D.S., Manufacturing Chemist, Penartli, Cardift. Gwrthodwch bob peth arall.
Undeb yr Annibynwyr Cymreig.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Undeb yr Annibynwyr Cymreig. I I YR ANERCHIAD O'R GADAIR YNG I NGHWRDD Y GWEINIDOGION. GAN Y PARCH W. BJ. EVANS, TRESIMWN. ANNWYJ., FRODYR,- Yr wyf yn teimlo fod anrhydedd mawr wedi ei osod arnaf trwy ofyn i mi gymeryd y gadair yn y cwrdd hwn. Hyd y gwn i, yr unig beth sydd Y11 rhoddi cysgod o hawl i mi i'r anrhydedd yw fy mod yn mynd yn hen ac y mae talu teyrnged o barch i henaint yn beth gweddus, prydferth, ac Ysgrythyrol. Yr wyf wedi bod yn weinidog at ddwy eglwys fechan ym Mro Morgannwg am bymtheg mlyn- edd ar hugain. Nid peth hawdd yw bod mor sefydlog mewn oes sydd mor ansefydlog, ac mor arhosol mewn oes sydd mor aflonydd. Gwyr rhai ohonoch nad yw Bro Morgannwg yn un o'r meysydd hawddaf i weinidog lafurio ynddo. Yn naturiol, y mae yn wlad fras a chyfoethog. Gelwir hi yn Ardd Cymru, ac yn Baradwys ond yn ysbrydol a chrefyddol, y mae ymhell o fod felly. Mae y Brenin Mawr wedi bod yn afradus yn Ei roddion a'i fendith- ion i'r Fro, ond ychydig o return y mae wedi ei gael mewn mawl a diolch a gwasanaeth gan y mwyafrif o'r trigolion Ond y mae ganddo ychydig enwau, [ie, yn y Fro], y rhai ni halogas- ant eu dillad, a hwy a rodiant gydag Ef mewn dillad gwynion, oblegid teilwng ydynt.' Hefyd, y mae cwestiwn pwysig yr iaith wedi bod yn blino ac aflonyddu eglwysi bychain y Fro am lawer blwyddyn; ac oni buasai am amynedd a doethineb y saint, fe fuasai rhai ohonynt wedi myned yn wreck yn erbyn y graig hon. Tymor o bryder mawr i'r gweinidog yw tymor y newid o'r Gymraeg i'r Saesneg, a bydd yn wyrth bron os gellir ei wneud heb dramgwydd a cholled. Y mae enwogion lawer wedi bod yn byw yn y Fro yn yr oesau gynt. Nid oes darn yng Nghymru yn fwy cyfoethog mewn hen hanesion. Yn y plwyf lie yr wyf fi yn byw, sef plwyf Llan- carfan, y sefydlwyd yr ysgol Gristionogol gyntaf yn y wlad lion, ac hwyrach yn Ewrop, a hynny yn gynnar yn y burned ganrif. Dyfrig, esgob cyntaf IJandaf, oedd yr athraw a dilynwyd ef gan yr enwog Cattwg Ddoeth, yr hwn wrthododd orsedd a choron er mwyn dysgn crefydd Crist i'r bobl. Yn yr ysgol hon, ineddh-, yr addysg- wvel Dewi Sant a Patrig Sant. Yn lylangarfan y ganwyd Caradog, yr hanesydd enwog, yr hwn a ysgrifenodd lianes Cymru o'r 6ed ganrif hyd yr 1 ieg. Mewn bwthyn yn ymyl y ganwyd y dyn rhyfedd Edward Williams (Iolo Morgan- nwg), yr hwn gerddodd bob darn o Gymru er dod o hyd i hen lawysgrifau oedd yn taflu goleuni ar hanes ein gwlad. Yr oedd tri Williams arall yn byw yn y Fro ac yn gyd-oeswyr ag Iolo, set Thomas Williams, Bethesda'r Fro John Will- iams, St. Athan a Dafydd Williams, Croesyparc. Mae Cymru yn ddyledus i'r tri hyn am rai o'r emynau goreu yn yr iath Gymraeg, megis, Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau Nid oes neb a ddeil fy mhen,' &e. Pwy welaf o Edom yn dod, Mil harddach na thoriad y wawr,' &c. Pwy glywodd am bechadur, Mewn unrhyw oes na gwlad, Erioed a ddaeth at Iesu, Fu farw wrth Ei draed, &c. Y mae cerdded yr un Uwybrau, a rhodio yr un meysydd a'r dynion hyn wedi bod i mi yn ysbrydiaeth lawer tro, ac wedi fy ngwaredu o afaelion creulawn y pruddglwyf. Wedi rhoddi fel yna ychydig o hanes a chy- meriad y cylch yr wyf wedi llafurio ynddo am dymor mor hir, fe garwn yn awr ddweyd gair yn fyr ar Beryglon a Hawliau Gweinidog yr Eglwys Fechan yn y Wlad.' Un o'i beryglon yw rhoi pris rhy isel ar ei gylch a'i waith. Gan mai eglwys fechan ydyw, ac eglwys fechan yn y wlad, tybia nad oes eisiau llawer o lafur na myfyrdod, ac fe syrthia i ddiogi mewn corff a meddwl, a pheidia a bod yn fyfyr- iwr. Termau y ddaear yw eglwys feehan; a chylch bychan.' Yng nghyfrif Duw y mae pob eglwys a phob cylch yn fawr. Y mae pobl diw- ylliedig iawn yn eglwysi y wlad, ac nid oes neb yn mwynhan ac yn gwerthfawrogi pregeth dda yn well. Mae llawer o wir yng nghyngor yr athraw i'w fyfyrwyr-' Pan yn myned i'r dref i bregethu,' meddai, ewch a'ch cot oreu ond pan yn mynd i'r wlad, ewch a'ch pregeth oreu.' Perygl arall y mae gweinidog yr eglwys fach yn agored iddo yw rhoddi pris rhy isel arno ei hun a'i wasanaeth. Mesur ei hunan wrth ei gylch. Dyna fel y mae y byd yn gwneud ond y mae Duw yn mesur y cylch wrth y dyn. Nid yw fod dyn yn weinidog ar eglwys fach yn profi ei fod yn ddyn bach ac yn bregethwr bach. Mae ambell i ddyn bach yn weinidog ar eglwys fawr, ac ambell i ddyn mawr yn weinidog ar eglwys fach. Perygl arall gweinidog yr eglwys fach yw llaesu dwylaw, ymollwng yn ei ysbryd, a thorri ei galon. Mae yn byw gymaint mewn unigrwydd —unigrwydd sydd weithiau yn llethol. Nid oes neb o'i gwmpas yn medru fynd i fewn i'w fyd a chydymdeimlo ag ef. Mae y plant a ddysgodd yn y Gobeithlu a'r Ysgol Sul wedi tyfu i fyny,, yn ei adael am y ddinas a'r dref. Nid rhyfedd ei fod yn wylo mewn lleoedd dirgel, ac yn gwlychu ei obennydd a dagrau. Dyna rai o'i beryglon. Beth am ei hawliau ? Rhaid bod yn ofalus iawn wrth son am hawliau y gweinidog. Mae gan weinidog yr eglwys wan hawl i ddau beth o leiaf-mae ganddo hawl i sylw a chydymdeimlad ei Enwad, ac y mae ganddo hawl i living wage; a dyma'r pwynt oedd yn fy meddwl o'r cychwyn, ac at hwn yr oeddwn yn cyrchu, ond fod fy llwybr wedi bod dipyn yn gwmpasog. Mae y gweinidogion hyn yn gwasanaethu nid yn unig yr eglwysi by chain, ond yr Enwad ac y mae'n gywilydd i'r Enwad fod eu byd mor galed. Mae'r enwadau eraill yn noddi ac yn helpu yr eglwys wan. Mae gan y Methodistiaid eu Cym- deithas Genhadol Gartrefol er 1826. Yr oedd gan y Wesleaid un cyn hynny ac y mae gan y Bedyddwyr un er's llawer blwyddyn. Y mae dau weinidog i'r Methodistiaid, un i'r Bedydd- wyr, ac un i'r Wesleaid yn gwasanaethu yn yr un cylch a mi, ac y mae y pedwar yn derbyn help sylweddol oddiwrth eu Cyfundebau. Ond y mae yr hwn sydd yn cynrychioli Annibynia fawr a chyfoethog yn gorfod mynd ar draws cyngor yr apostol Paul, ac ymrwystro gyda neges- euau y bywyd hwn er cadw newyn allan o'i gartref. Ni ddylai y pethau hyn fod felly.1* i Y mae nerth yn perthyn i'r Enwad ac oni cheisir yn y dyddiau hyn wneud y Drysorfa Gynorthwyol yn gyfrwng i ddod a nerth yr Enwad i helpu gwendid yr Enwad ?—troi nerth yr Enwad yn nodded i'r eglwys wan ac yn llon- iant i'r gweinidog anghenus ? Nid yw nerth o fudd yn y byd os na ellir ei droi i ryw fantais. Mae y peiriant yn gwneud mwy na dangos nerth yr ager-y mae yn gyfrwng i droi y nerth hwnnw i wasanaeth cymdeithas. Y mae Efengyl Mab Duw yn gwneud mwy nag amlygu nerth dwyfol-y mae yn gyfrwng i droi y nerth hwnnw yn waredigaeth ac yn iachawd- wriaeth i'r byd. Ac mi garwn i'r Undeb fod nid yn unig yn amlygiad o nerth yr Enwad, ond yn gyfrwng i droi y nerth hwnnw yn gysgod ac yn nodded i'r gwan. Ai ni ellir yn y cyfarfodydd hyn roddi tipyn o ysbrydiaeth a bywyd yn y Drysorfa Gynorth- wyol. Y mae yn symudiad bendigedig, ond araf a llesg yw ei gamrau. 0 na ellid anadlu iddo anadl einioes, a'i wneud yn symudiad byw. Os llwyddir i wneud hynny yn yr Undeb eleni, fe fydd yr Undeb wedi cyflawni gwasanaeth amhrisiadwy i'r Enwad ac i grefydd.. Rhodder i ni yn amlwg arweiniad a phresenoldeb Ysbryd Duw.