Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

POB OCHR I'R HEOL. I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

POB OCHR I'R HEOL. I (I) Cafodd yr eglwys yn Queen-street, Gwrecsam, gryn loes ym marwolaeth Mr Joseph Edwards. Bu yn aelod a diacon yno am dros ddeugain mlynedd. Yr oedd yn Annibynnwr trwyadl, ac yn wr o chwaeth a diwylliant a meddylgarwch tra eithriadol. Gwyddai lawer am ei Enwad, ac nid oedd odid i ddim o bwys yn pasio heb i Joseph Edwards ddeall hynny. Pan glywid ef yn siarad, gellid casglu yn ddi- oed fod rhywbeth allan o'r cyffredin ynddo Yr oedd dyfnder cyfoethog yn ei lais- nid yn annhebyg i'r hen weinidog, Dr. David Roberts. Sicr yw fod Joseph Edwards yn edmygydd mawr o'r hen Ddoctor. Yr oedd yr un mor ffyddlon i Mr Peris Williams. Bydd bwlch lied lydan ar ei ol, er fod yn eglwys Queen-street frodyr rhagorol yn gofalu am yr achos, ac yn ei arwain gyda phwyll a goleuni a doethineb mawr. (2) Profedigaeth gyffelyb gaed tuag ardal Drwsycoed, y tuhwnt i Nantlle, ym marwolaeth yr hen frawd selog, Mr Hugh Jones, Talmignedd, yr hwn fu yn ysgrif- ennydd yr eglwys am 35 mlynedd. Yr oedd donioldeb a gwreiddioldeb yn npd- weddu'r hen frawd hoffus hwn yr un modd, a rhyfeddol oedd ei gariad yntau at yr achos. Mewn adegau lied isel a chyfyng bu Hugh Jones yn gefn i'r eglwys fechan neilltuedig yn Nrwsycoed. Edrychai pawb i fyny ato, ac amhosibl oedd meddwl am eglwys Drwsycoed heb feddwl yr un pryd am Hugh Jones. Mewn oedran mawr, tua 86, y disgynnodd i'r bedd ac efallai fod pwys blynyddoedd wedi ei analluogi i fod cyn ddiwyted ag y byddai gynt, ond cofir am dano'n hir ynglyn a'r lie, a gwelir chwithtod am dano, (3) Ychydig'wythHosau''y sydd er pan ddaeth ynewydd fod Dr Campbell Morgan yn ymddeol o'r weinidogaeth yng nghapel Westminster, lylundain a ffodus oedd ei benderfyniad i aros yno wedyn. Yn awr y City Temple sydd yn mynd yn wag a rhyfeddach, ar ryw ystyr, na'r newydd fod Mr Campbell yn ymddiswyddo, }w'r si sydd yn dodfyn^ysgil y ewbl ei fod ar fyned drosodd i Eglwys Ioegr. Nid yw hyn wedi ei gadarnhau eto, ac nid yw wedi ei wadu ychwaith hyd yn hyn, Tybed mai dyna'r cwrs a gymer Mr Campbell ? Os mai e, nid ydym yn barod i'w feio. Dywedir fod iddo ogwyddiadau felly yn gynnar. Y mae llu mawr o wyr ardderehog yn urddau'r Eglwys Anglicanaidd hefyd ac weithiau tueddir ni i feddwl fod mwyaf- rif meddylwyr cryfion y pulpud Prydeinig ym mhulpud yr Eglwys, a rhai o'r esbon- wyr medrusaf yn y deyrnas, heb son am wyr sydd yn arwain ymhob cyfeiriad. Pa fodd y derbynnid gwr o safle Mr Campbell i mewn, a pha le a roddid iddo pe y digwyddai iddo fwrw ei goelbren yn y cyfeiriad hwn, mae yn anodd gwybod. (4) Yn y byd gwleidyddol Seisnig mae pethau'n troi allan mewn ffordd sydd yn creu anesmwythyd mawr ac wrth weld eilun ein cenedl ninnau yn eu canol, ac yn cael y gair, yn ol y Manchester Guard- ian a'r Daily News (Llundain) o fod yn arwain yn y chwyldroad, y mae yn aruthrol anodd gwybod beth i'w feddwl na'i fynegi. Nid oes neb am roddi barn galed a byr- bwyll ar bethau, nac am ensynio fod Mr Lloyd George yn gwneud dim heb ei ystyr- ied yn fanwl, na'i fod ychwaith yn earn ei wlad a'r deyrnas hon yn llai nag y gwna Mr Asquith ac eraill. Eto i gyd, rhyfedd yw gennym ei weld yn cefnu ar holl ddel- frydau ei orffennol. Y mae Mr Beriah Evans yn ei lyfr newydd arno'n cyfeirio at y ffaith fod gyrfa Mr George yn dra thebyg i yrfa Joseph Chamberlain gynt. Tybed y gorffenna hi yn debyg ? Trych- ineb fyddai hynny. Hoffai neb ohonom weld y gwr ddringodd uchaf o holl Gymry y byd yn dod i lawr i ddinodedd cymharol fel Chamberlain, ac yn wrthodedig ei Blaid, ac yn rheg yng ngenau'r wlad. Y rhyfel yn Ne Affrica ddinistriodd Cham- berlain tua'r diwedd. Ai y rhyfel hwn fydd dinistr Mr Lloyd George ? Gobeithio yn wir y glyn efe wrth ftiddiaiinau uchaf y deyrnas, ac na cheir ef wedi ymwerthn i gynllunian y Daily Mail. Ofnadwy oedd awgyrm Mr J. H. Thomas yn y Senedd. Ai cael gwared o'r Prifweinidog yw'r nod, ynte beth ? Mae unrhyw rai a chwareuont eu game eu hunain yn awr, pan y mae Prydain yn nhraflwnc y rhyfel yma, yn euog o anfadwch anfaddeuol. (5) Da gennyf weld Mr Llewelyn Will- iams yn dal i siarad mor gryf a diamwys o blaid y gyfundrefn wirfoddol ynglyn a chodi milwyr. Troes Mr Ellis Jones Griffiths ei gefn arni er's rhai wythnosau, ac yr oedd darllen am dano ar ei ben ei hun ymron yn annerch cyfarfod yn Llun- dain i hyrwyddo gorfodaeth yn beth trist iawn. Bu adeg, pan oedd streicio dibris tua'r Clyde a lleoedd eraill, ag y teimlai llawer ohonom fod eisiau cael rhyw gyn- llun gorfodol i roi terfyn ar aflerweh gweith- faol o'r fath yn ystod tymor y rhyfel. Sicr yw ein bod mewn perygl o ryw fath o hyd ac hyd yn oed pe na baem o gyf- eiriad ein gelynion, y mae anghydfod gweithfaol yn berygl mawr ynddo ei hun. Y mae fel mesur o ryfel cartrefol, a hynny pan y mae gennym i wynebu'r fath wrth- wynebwyr mewn lleoedd eraill. Eto i gyd y mae son am Orfodaeth Filwrol heddyw* pan ddyfyd y rhai wyddant y cwbl am ein sefyllfa a'n hamgylchiadau—fel Kitchener ac Asquith a Balfour a Grey- fod hynny yn ddianghenraid y mae son am y peth yn ffolineb ac y mae arwain y wlad i benbleth wleidyddol er ei fwyn yn annealladwy. Hyderwn weled y Sen- eddwyr Cymreig, ag eithrio y rhai sydd eisoes wedi ymdaflu i'r llanw gorffwyll, yn dal eu tir ac yn sefyll fel callestr dros ryddid y wlad hon. Pe y gwelai gwyr y deyrnas hon fod eu hangen mewn gwir- ionedd i ddwyn arfau, nid wyf yn meddwl fod ynddi unrhyw ddyn cryf, iach, rhwng deunaw a deugain oed, 11a ddanghosai bob parodrwydd i amddiffyn ei wlad, ac i farw yn ddirwgnach er ei mwyn. (6) Da gan bawb ohonom fel Annibyn- wyr ddeall fod pwyllgorau ein colegau'n teimlo'n foddhaol ar y sefyllfa yn wyneb yr amgylchiadau, ac nad ydynt wedi cael siomiantau mawrion o'r cyfeiriad ariannol. Clywais rai o'r myfyrwyr yn dweyd fod y casgliadau hyd yn oed wedi codi mewn amryw fannau. Cafodd ein brodyr ieu- ainc oedd yn gadael yr athrofeydd eleni alwadau yn rhwydd hefyd. Melys yw deall hynny. Y mae eto liaws o eglwysi heb weinidogion allai wneud trefniadau i gael rhai gyda rhwyddineb mawr, ac nid yw amgylchiadau'r wlad oherwydd y rhyfel yn lleihau dim ar yr angen sydd am y cyfryw drefniadau. Tybed y bydd lleihad yn nifer y pregethwyr godir y blyn- yddau nesaf, oherwydd y rhyfel ? Mae'n bosibl yr egyr llawer cylch deniadol arall ei ddrysau i'r gwyr ieuainc yn y dyfodol agos. Ni ddisgwylir llawer o fyfyrwyr i'r Colegau Cenedlaethol y gaeaf hwn, ag eithrio merched ieuainc. Ofnir y bydd nifer y bechgyn yn fach iawn. Gall y gwelir rhywbeth yn debyg ynglyn an hathrofeydd diwinyddol hefyd ond go- beithiwn nas gwelir, ac y clyw ami i wr ieuanc eto alwad Duw am iddo ymgysegru i gyhoeddi'r broffwydoliaeth' sydd a bvwyd ynddi. « (7) Nid adeg anffafriol yehwaitli i brofi haelioni a gweithgarwch a sel yr eglwysi yw hon. Gelwir arnynt i gyfrannu llawer at amcanion ewbl y tuallan iddynt, megis at gynhaliaeth ffoaduriaid Belgium ac at ddarparu. cysuron i'r fyddin. Ni rwgnach- 1 ant ac ni warafunant mewn modd yn y byd. Ond efallai fod llawer o welliantau 1 pur angenrheidiol yn gorfod cael eu go- hirio ar hyn o bryd. Nid yw eglwys y Tabernacl, Llanelli, wedi dychrynu fawr rhag wynebu cost yn y cyfeiriad hwn. Y mae wedi gwneud ei rhan tuag at y mud- iadau allanol yn dda, ac wedi bod bob amser yn barod i gyfrannu at hyn ac arall ond eleni, pan y mae'r eglwys yn ddeugain oed, y mae wrthi yn glanhau a phaentio ac addurno'r capel,, ynghyda'i oleuo a thrydan, a gwneud lliaws o well- iantau buddiol. Rhed y gost hon yn bur uchel cyn y gorffennir a hi eithr y mae gan y bobl galon i weithio, a gwnant orch- estion pan elwir arnynt. Nid oes gapel harddach na'r Tabernacl yn yr holl Dy- wysogaeth, fel y gwyr pawb a'i gwelodd j a

0 FRYN I FRYN.